Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst
2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. 
Nodwyd bod effaith ariannol Covid
ar rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn
2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau
ychwanegol, colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion. 
Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned,
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y
rhesymau penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae
effaith y cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor
amlwg. 
O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd
bwriad y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd
i wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio
dod a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd
i'r Cabinet ar y cynllun ymateb. 
Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o
gronfeydd nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn,
argymhellir mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol
bryd hynny fydd defnyddio: 
¾   
yn gyntaf, Balansau
Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion 
¾   
yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido
heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor 
¾   
yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa Strategaeth
Ariannol. 
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas  
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2022 o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth.  
 
Nodwyd bod effaith ariannol Covid ar
rai meysydd yn parhau yn 2022/23, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23
o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol,
colled incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion.  
 
Nodwyd bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Addysg, Adran Economi a Chymuned, Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Tai ac Eiddo eleni. Manylir ar y rhesymau
penodol sydd yn effeithio’r adrannau yn rhan 5 o’r adroddiad, ond mae effaith y
cynnydd mewn chwyddiant a phrisiau trydan yn benodol yn ffactor
amlwg.  
 
O ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad
y Prif Weithredwr i alw cyfarfod o'r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i
wraidd y gorwariant, i sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod
a'r sefyllfa o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r
Cabinet ar y cynllun ymateb.  
 
Er ei bod hi'n gynamserol i drosglwyddo arian o gronfeydd
nes bydd y sefyllfa ariannol yn derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, argymhellir
mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol bryd hynny
fydd defnyddio:  
·        
yn gyntaf, Balansau
Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion  
·        
yn ail, defnyddio £4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido
heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor  
·        
yn olaf, y gweddill i'w gyllido o’r Gronfa
Strategaeth Ariannol.  
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi  fod yr adroddiad yn manylu ar
yr adolygiad diweddaraf o’r gyllideb refeniw’r Cyngor ar gyfer 2022/23, ynghyd
a’r rhagolygon tuag at diwedd y flwyddyn ariannol. Mynegwyd fod yr adroddiad
eisoes wedi ei gyflwnyo i’r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio a oedd yn gefnogol iawn i’r argymhelliad. 
Nodwyd fod
rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant,
Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Tai
ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Manylwyd mai effaith
cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw ‘r
gyllideb sydd i’w weld amlycaf yn yr adran Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac
Economi a Chymuned. Nodwyd fod gweddill adrannau’r Cyngor yn gweithredu o fewn
eu cyllideb. 
Mynegwyd nad yw
effaith Covid i’w gweld mor sylweddol a beth a welwyd
dros y ddwy flynedd diwethaf, ond fod costau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Amlygwyd fod oedi
mewn gwireddu arbedion i’w gweld yn amlwg gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant gyda cynlluniau gwerth £930k, tra bod £553k gan yr Adran Briffyrdd a
Bwrdeistrefol. 
Amlygwyd y prif
faterion oedd yn wynebu yr adrannau a oedd yn gorwario yn unigol fel a ganlyn:
Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant 
Mynegwyd fod
gorwariant o £1.9m yn cael ei ragweld ar gyfer eleni, ac fod hyn o ganlyniad i
gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu arbedion. Amlygwyd fod
pwysau cynyddol ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol i’w gweld
yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn, ynghyd â chostau staff a diffyg incwm yn
broblem yng Ngofal Cymunedol. 
Adran Addysg
Nodwyd fod gorwariant o £1.3m i’w ragweld
gan yr Adran Addysg o ganlyniad i effaith prisiau trydan uwch am gyfnod o chwe
mis o Hydref 2022 ymlaen i’r ysgolion. Esboniwyd gan fod yr ysgolion eisoes
wedi elwa o bron o filiwn o arbedion ynni yn deillio o’r pandemig a cyfnodau
clo, ystyrir felly yn briodol i ddefnyddio balansau
ysgolion i gyllido’r pwysau ychwanegol am eleni. 
Byw’n Iach 
O ganlyniad i’r pandemig bu i Gwmni Byw’n
Iach dderbyn cymorth ariannol o gronfa caledi Llywodraeth Cymru oedd werth
£1.4m yn 2021/22 a £2.7m yn 2020/21. Esboniwyd nad yw cymorth o’r fath ar gael
am eleni, ond fod effaith y pandemig yn 
parhau i amharu ar allu’r cwmni i gynhyrchu incwm. Nodwyd fod y Cyngor
wedi cadarnhau cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal gwasanaethau drwy
ymestyn y cyfnod sicrwydd hyd ddiwedd 2022/23, sydd oddeutu £842k eleni.
Amlygwyd mai costau trydan uwch sydd yn gyfrifol am weddill y gorwariant. 
Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol
Mynegwyd fod
tueddiad blynyddol o orwario yn y maes bwrdeistrefol yn parhau gyda’r problemau
amlycaf i’w gweld yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu. Esboniwyd yn ogystal
fod yr adran yn cael trafferthion gwireddu arbedion gwerth £533k mewn nifer o
feysydd. 
Adran Tai ac Eiddo
Amlygwyd fod newid i ddeddfwriaeth yn
ymwneud a Digartrefedd wedi golygu pwysau ariannol sylweddol eleni. Ychwanegwyd
er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil covid
y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa, rhagwelir gorwariant net o £3.2m
eleni. 
Corfforaethol
Nodwyd fod
rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 yn gyfrifol am gynnyrch
treth ychwanegol a hefyd yn cyfrannu at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth
Cyngor, gyda gostyngiad yn y niferoedd sydd yn ei hawlio. Mynegwyd fod cynnydd
diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon derbyniad llog £1.1m yn
fwy ffafriol. 
Rhagwelir y bydd
angen gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau
Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o £7.1m sydd i’w ragweld ar gyfer 2022/23.
Eglurwyd drwy ddefnyddio y cronfeydd penodol, bydd balansau
cyffredinol wedi eu gwarchod ac ar gael i helpu i wynebu heriau y dyfodol. 
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾   
Mynegwyd fod yr adroddiad hwn yn un difrifol ac yn
codi llen ar adroddiadau gwaeth fydd i ddod. Amlygwyd y bydd hi yn her aruthrol
i greu cyllideb ar gyfer flwyddyn nesaf. Amlygwyd fod hanner gorwariant y
Cyngor yn deillio o’r maes digartrefedd ac ei fod yn pwysleisio yr argyfwng
sydd i’w gweld yn y maes. Nodwyd ei bod yn anghyfrifol bellach i beidio
ystyried arian o’r premiwm treth Cyngor i ariannu’r gorwariant yn y maes
digartrefedd. 
¾   
Nodwyd fod y sefyllfa sydd ohoni yn argyfyngus a na
fydd unrhyw gymorth yn dod gan Lywodraeth San Steffan. Pwysleisiwyd mai
anghyfartaledd sydd wrth wraidd y broblem digartrefedd. Eglurwyd mewn sir ble
mae cynnydd enfawr mewn di-gartrefedd mae niferoedd
ail gartrefi yn ei miloedd. 
¾   
Mynegwyd fod y cynnydd mewn digartrefedd wedi
arwain at orwario yn yr adran, ond gorwario er mwyn sicrhau fod gan unigolion a
teuluoedd do dros eu pennau ac ymateb i’r sefyllfa. 
¾   
Holwyd fod effaith chwyddiant i’w gweld yn fwy
amlwg mewn rhai adrannau megis Economi a Chymuned ac Addysg, a gofynnwyd pam?
Nodwyd fod cynnydd mewn costau trydan i’w gweld yr adrannau yma gyda lleoliadau
megis ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a canolfannau hamdden. 
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: