I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau sy’n
deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu’r
penderfyniadau i’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i
adrannau
Penderfyniad:
·
Balansau Ysgolion i
gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion
·
£4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig
sy'n wynebu'r Cyngor
·
Bod y gweddill i'w gyllido
o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid y Cynghorydd
Ioan Thomas yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng
nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, a chyflwyno sylwadau i’r Cabinet ar
gyfer cymeradwyaeth 25ain Hydref, 2022.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy
nodi:-
·
Bod yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn gorwario sydd yn
gyfuniad o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu arbedion.
·
Bod yr Adran Economi a Chymuned yn gweld effaith mewn cynnydd
costau ynni
·
Bod Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol yn amlygu diffyg gwireddu arbedion ym maes gwastraff
·
Bod Adran Tai Ac Eiddo yn gweld
effaith ym maes digartrefedd yn sgil addasiad i drefniadau deddfwriaethol
covid-19
·
Bod bwriad edrych i falansau
ysgolion i gyllido y gorwariant a ragwelir ar gostau trydan eleni gan fod yr
Ysgolion wedi arbed ynni dros y cyfnod covid
Cyfeiriodd
yr Uwch Reolwr Cyllid at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan
amlygu’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Tynnwyd sylw ar effaith y
cynnydd mewn chwyddiant, yn arbennig felly costau trydan sydd uwchlaw’r
gyllideb ac i’w weld amlycaf yn yr Adrannau Addysg, Priffyrdd a Bwrdeistrefol
ac Economi a Chymuned – sef ar ganolfannau hamdden Cwmni Byw’n Iach.
·
Yng nghyd-destun covid, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn
2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, mae costau ychwanegol,
colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn sgil Covid yn parhau mewn
rhai meysydd.
·
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagweld gorwariant o
dros £1.9 miliwn eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys
methiant i wireddu gwerth £930k o arbedion. Yn amlwg iawn eleni gwelwyd pwysau
ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol ynghyd a chostau staff a
diffyg incwm yn y maes Gofal Cymunedol.
·
Adran Addysg - rhagweld gorwariant o £1.3m o ganlyniad i
effaith prisiau trydan uwch am gyfnod o chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn yr
ysgolion. O ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o
arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig, ystyriwyd yn
briodol felly i ddefnyddio balansau
ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni.
·
Byw’n Iach - o ganlyniad i sgil effaith Covid, bu i’r
cwmni dderbyn cymorth ariannol o gronfa
caledi Llywodraeth Cymru (gwerth £1.4 miliwn yn 2021/22 a £2.7 miliwn yn
2020/21). Nid yw cymorth o'r fath ar gael gan y Llywodraeth eleni ond sgil
effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar y gallu i gynhyrchu incwm. O
ganlyniad, bu i'r Cyngor gadarnhau cefnogaeth ariannol angenrheidiol i gynnal
gwasanaethau Byw'n Iach drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd i'r Cwmni
hyd at ddiwedd 2022/23, sydd yn £842k eleni.
·
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol - tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes
bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac
ailgylchu. Yr adran hefyd yn cael
trafferthion gwireddu arbedion gwerth £533k.
·
Tai ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â
Digartrefedd yn golygu pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o
gronfa trefniadau yn sgil covid y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa,
rhagwelir gorwariant net o £3.2 miliwn eleni.
·
Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb
2022/23 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol a hefyd yn cyfrannu at y
tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor – gostyngiad yn y niferoedd sydd yn
hawlio. Y cynnydd diweddar mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon
derbyniad llog £1.1 miliwn yn fwy ffafriol.
Adroddwyd y bydd yn rhaid gwneud defnydd o gronfeydd
wrth gefn y Cyngor a balansau’r Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o £7.1
miliwn a ragwelir am 2022/23. Rhoddwyd eglurhad ar ddwy ffynhonnell arian wrth
gefn y Cyngor sef ‘Balansau’ (arian wrth gefn heb ei glustnodi) a ‘Cronfeydd’
(arian mewn cronfeydd penodol i wahanol bwrpasau penodol all warchod a
chynorthwyo gyda heriau'r dyfodol).
O
ystyried y gorwariant sylweddol a ragwelir gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol, nodwyd bwriad y Prif Weithredwr i
alw cyfarfod gyda’r swyddogion perthnasol er mwyn mynd i wraidd y gorwariant. Y
bwriad yw sicrhau bod camau pendant yn cael eu cymryd i geisio dod a'r sefyllfa
o fewn rheolaeth cyn diwedd y flwyddyn ariannol, gan adrodd i'r Cabinet ar y
cynllun ymateb.
Diolchwyd am yr adroddiad
oedd yn fanwl ei gynnwys ac wedi ei
gyflwyno mewn modd deallus.
b)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Mai chwyddiant yw'r gelyn mawr -
yr argymhellion yn ddoeth i ddelio gyda sefyllfa anodd
·
Bod sefyllfa digartrefedd yn
gyffredinol ar draws y wlad - galw felly i lobio ar y llywodraeth i ariannu
costau addasiadau i’r ddeddfwriaeth
·
Mai unwaith yn unig fydd modd
defnyddio balansau - angen ystyried hyn wrth osod cyllideb 2022/23
·
Bod y sefyllfa economaidd
bresennol yn rhoi pwysau ychwaegol ar y Cyngor -bydd rhaid chwilio am
ddatrysiadau wrth osod cyllideb
·
Y dylid peidio rhoi ysgolion dan bwysau i gyrraedd hicyn
mympwyol wrth gynllunio ymlaen
·
I dderbyn diweddariad ar enillion
llog yn y cyfarfod nesaf
·
Y dylid craffu rhesymau gorwariant
parhaus yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
·
Bod angen cyflwyno adroddiad
cynnydd / cynllun gweithredu i’r Pwyllgor mewn ymateb i’r trafodaethau rhwng
Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Prif Weithredwr ynghyd ac ymateb i’r argymhellion
a dderbyniwyd gan WRAP Cymru
·
Awgrym i lunio amserlen / rhaglen
waith o gynllun gwireddu arbedion y Cyngor - byddai hyn yn fodd o gyflwyno’r
wybodaeth sydd ei angen i ddeall y sefyllfa yn well
c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â defnyddio premiwm ail gartrefi i fynd i’r afael a chynnydd mewn costau yn y
maes digartrefedd, nodwyd y bydd rhaid rhoi ystyriaeth i hyn wrth gyllido ar
gyfer 2022/23.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â herio’r Gwasanaeth
Byw’n Iach i ystyried arbedion a chynnal trafodaethau i leihau costau,
adroddwyd bod gan y cwmni gynllun arbedion ar gyfer 2022/23 a bod cais am fid
wedi ei gyflwyno.
Mewn ymateb i’r bwriad o ddefnyddio balansau ysgolion i
gyllido’r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion, nodwyd bod balansau’r
ysgolion wedi codi yn aruthrol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a hynny oherwydd cynnydd mewn grantiau ac elw
o arbedion ynni - priodol felly fyddai defnyddio’r balansau eleni i gynorthwyo
gyda chyllido costau ynni.
PENDERFYNIAD:
1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r
risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau
2. Cytuno gyda’r argymhelliad i’r Cabinet
ddefnyddio:
·
Balansau Ysgolion i gyllido'r cynnydd mewn prisiau trydan yn yr ysgolion
·
£4.5 miliwn o'r gronfa
trefniadau adfer yn sgil Covid sefydlwyd i gyllido
heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor
·
Bod y gweddill i'w
gyllido o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.
3. Bod adroddiad cynnydd o’r camau gweithredu yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor wedi
trafodaethau rhwng y Prif Weithredwr a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
ynglŷn â gorwariant yr Adran (yr adroddiad i gynnwys ymateb i argymhellion
a gyflwynwyd i’r Adran gan WRAP Cymru).
Dogfennau ategol: