I ystyried
a) adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
b) adroddiad yr Harbwrfeistr
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr
adroddiad.
COFNODION:
Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd
yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau.
Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno
i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth
2023.
·
Atgoffwyd yr aelodau fod cylch gorchwyl pwyllgorau’r harbwr wedi cael ei
greu o dan Adran 102 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod Cabinet y Cyngor yn
cadarnhau’r aelodaeth.
·
Cadarnhawyd bod angen i aelodau’r pwyllgor nodi’n
ffurfiol os nad ydynt yn gallu parhau i fynychu’r pwyllgor er mwyn gallu newid
yr aelodaeth yn ffurfiol ac ethol cynrychiolydd newydd.
·
Eglurwyd fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn
cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfodydd er mwyn trafod materion pwysig gyda’r
aelodau, cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet ble fydd angen.
·
Datganwyd fod lleihad yn y nifer o gychod ar
angorfeydd yr harbwr. Cadarnhawyd bod y niferoedd wedi gostwng yn harbyrau eraill y sir hefyd. Er hyn, mae niferoedd y cychod
sydd wedi eu hangori yn yr harbwr dal yn uchel ac mae nifer ymwelwyr i’r dref
wedi cynyddu. Pwysleisiwyd bod nifer y cychod sydd wedi eu cofrestru i’w cadw
yno wedi aros yn gyson.
·
Mynegwyd bod cyflwr yr angorfeydd yn dda iawn ac
mae llai o doriadau wedi digwydd eleni.
·
Esboniwyd bod y swyddogion yn o broses o greu holiadur boddhad cwsmer ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn holiadur digidol a gobeithir i’r ffigyrau
cychwynnol gael eu rhannu â’r pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Côd
Diogelwch Morol Phorthladdoedd
·
Manylwyd fod yr harbwr wedi cael archwiliad trylwyr gan Wylwyr y Glannau
ac wedi derbyn adborth cadarnhaol. Mae’r harbwr wedi derbyn archwiliad gan
Berson Dynodedig allanol, sef Capten Mark Forbes o
Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Cyngor wedi rhyddhau Datganiad o Gydymffurfiad
gyda’r Cod Diogelwch i Asiantaeth Gwylwyr y Glannau fel rhan o’r broses
angenrheidiol.
·
Soniwyd bod digwyddiad wedi codi yn ddiweddar ble roedd cwch wedi suddo.
Mae’r cwch bellach wedi cael ei roi ar y traeth ac mae’r swyddogion wedi
cysylltu gydag asiant y cwch. Mae gan y perchennog 21 diwrnod i symud y cwch
neu bydd rhaid i’r swyddogion ei dynnu oddi ar y safle. Mynegwyd bod
digwyddiadau o’r fath yn anodd ei datrys yn gyflym gan fod anawsterau yn codi
gyda phwy sydd yn berchen ar y tir. Nid oes modd i’r swyddogion symud unrhyw gychod oddi ar y tir os yw’n dir preifat neu’n dir rheilffordd.
o Holiwyd pwy fyddai’n gorfod talu i dalu am
symud y cwch hwn a chadarnhaodd y Rheolwr Harbyrau
mai’r Awdurdod Harbyrau sydd yn gorfod talu’r gost.
Gellir derbyn ad-daliad o’r costau hyn gan y perchennog os oes prawf mai nhw
sy’n berchen y cwch.
o Eglurwyd bod gan
Gyfoeth Naturiol Cymru fas-data o gychod sydd wedi
cael eu gadael ar ôl os byddai hynny’n ddefnyddiol i swyddogion yn y dyfodol.
·
Mynegwyd pryder am y defnydd o Fadau Dŵr
Personol (jet ski) yn yr ardal, gan eu bod yn gallu
bod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y môr.
o Cadarnhawyd yn dilyn ymholiad diweddar nad
ydi’r heddlu yn gallu ymyrryd gyda’r sefyllfa ar hyn o bryd. Os byddai
digwyddiad ble fydd unigolion wedi cael eu hanafu, byddai’r heddlu yn gallu
ymchwilio.
o Cydnabuwyd bod badau dŵr yn haws i’w
rheoli pan yn fadau masnachol ond mae rhai personol yn anodd iawn i’w rheoli
gan na fod yna unrhyw anghenion yswiriant neu gymhwyster ei angen i yrru’r
cwch.
o Nodwyd bod y
gyfraith angen ei ddiwygio er mwyn sicrhau diogelwch unigolion. Soniwyd y
byddai’n ddefnyddiol i ysgrifennu i’r llywodraeth.
o Ychwanegwyd bod
camerâu cylch cyfyng newydd wedi cael eu rhoi yn yr ardal yn ddiweddar ac
efallai bydd heini yn gymorth i ganfod perchnogion y Badau Dŵr Personol.
o Eglurwyd bod
teimladau aelodau’r pwyllgor yn ategu pryderon y swyddogion. Er hyn,
pwysleisiwyd bod Cynghorau Môn, Conwy a
harbwr Caernarfon eisoes wedi mabwysiadu’r system cofrestru sydd wedi cael ei
ddefnyddio gan Wynedd ers blynyddoedd a gobeithir bydd mwy o ardaloedd a
siroedd eraill yn ei ddefnyddio’n fuan.
·
Tynnwyd sylw at y pontŵn sydd wedi ei osod ar yr harbwr yn dilyn
grant a dderbyniwyd gan glwb hwylio Meirionnydd. Mae’r pontŵn wedi bod yn
adnodd gwych ond yn anffodus mae costau ei gynnal wedi cynyddu yn ddiweddar ac
nid ydynt yn gallu edrych ar ei ôl yn ddigonol. Mae’r pontŵn yn fater
diogelwch erbyn hyn a rhaid atgoffa pobl ei fod at ddefnydd cychod ysgafn yn
fyr dymor neu i gychod eraill os bydd argyfwng.
Diolchwyd i’r Clwb Hwylio am eu camera wê er mwyn
gallu cadw llygad ar y pontŵn o bell.
·
Trafodwyd y syniad o gyflwyno parth nofio yn yr
harbwr. Mae pyrth tebyg wedi bod yn llwyddiannus mewn harbyrau
eraill. Byddai hyn yn galluogi pobl i nofio’n saff o fewn yr harbwr. Er hyn mae
diogelwch yn broblem fawr ac mae angen meddwl yn ofalus sut byddai’n gweithio
cyn cyflwyno’r parth i’r harbwr.
·
Clodforwyd swyddogion RNLI am gynnal hyfforddiant
gyda staff traethau yn ddiweddar.
·
Mynegwyd pryder am dywod sydd yn cael ei gario oddi ar y morglawdd.
Materion
Staffio
·
Diolchwyd i’r holl staff am ei ymrwymiad at waith yr harbwr a thraethau
cyfagos dros y cyfnod diwethaf a chadarnhawyd na ragwelir bydd lleihad yn nifer
o aelodau staff yn y dyfodol agos.
·
Datganwyd fod y traeth wedi cael cyfnod prysur iawn
dros yr haf ac mae’r wardeniaid wedi bod yn cwblhau eu gwaith yn effeithiol
iawn. Pe bydd yn bosib, bydd ystyriaeth yn cael ei roi i ymestyn eu tymor
cyflogaeth y tymor nesaf ac edrych ar y cyfleusterau er mwyn sicrhau nad oes
rhaid i unrhyw un weithio ar eu pen eu hunain.
·
Mynegwyd bod y wardeniaid traeth angen caban gwell
na’r un sydd ar y safle yn bresennol, gan nad yw’n addas.
o Cadarnhawyd fod y broblem yma yn cael ei
ddelio gydag o dan gynlluniau gwelliannau traethau os bydd digon o gyllideb.
Mae datblygiadau eraill hefyd yn cael ei wneud ar y traeth megis gwella’r
toiledau cyhoeddus.
·
Trafodwyd y broblem barhaus o gronni tywod sy’n digwydd ar y traeth.
Byddai’n syniad i gael datrysiad o sut i atal y tywod rhag cael ei chwythu i’r
pentref ac ar draws llithrfa’r bad achub. Pryderwyd bydd y tywod yn mynd allan
o’r traeth ac yn gorchuddio’r maes parcio, gan greu costau ychwanegol i’r
Cyngor yn y blynyddoedd nesaf os na fydd datrysiad.
o Cydnabuwyd bod ardal Conwy wedi cael
llwyddiant yn ddiweddar wrth fewnosod pwmp yn yr ardal i helpu atal y broblem
hon.
o Pwysleisiwyd bod
difrifoldeb y broblem yn wybyddus i bawb ac mae sawl opsiwn yn cael ei drafod
er mwyn ceisio datrys y broblem yma yn effeithiol ac yn barhaol.
o Cytunwyd bydd cyfarfod rhwng defnyddwyr yr
harbwr yn fuan er mwyn trafod y mater hwn ymhellach ac i rannu syniadau.
·
Croesawyd Daniel Cartwright fel Harbwr Feistr
newydd Harbwr Abermaw a Kane Triggs fel cynorthwyydd harbwr.
·
Trefnwyd i yrru diolchiadau i’r cyn Harbwr Feistr sef Ms Bergitte Evans am ei gwaith ac i Jordan Hewlett
yn ei swydd fel Cymhorthydd Harbwr.
·
Canmolwyd y cydweithio da sy’n parhau i ddigwydd
rhwng swyddogion yr harbwr a swyddogion y traeth. Mae hyn wedi bod yn werthfawr
iawn yn ystod y cyfnod diweddar o ddiffyg recriwtio. Gobeithir bydd 5 aelod o
staff yn cael ei penodi i oruchwylio’r traeth yn 2023.
o Nodwyd wrth
recriwtio swyddogion i weithio ar y traeth, eu bod nhw angen hyfforddiant
cymorth cyntaf digonol
o Cytunwyd bod yr hyfforddiant hwn yn
angenrheidiol ar gyfer y swydd ond mae’n anodd sicrhau fod pawb wedi ei dderbyn
pan fod staff yn cael eu recriwtio ar adegau gwahanol o’r tymor. Mae’n anodd
cyllido nifer o ddyddiau hyfforddiant gwahanol a methu sicrhau fod pawb yn mynd
ar yr un diwrnod. Mae trafodaethau yn mynd ymlaen er mwyn cael opsiynau er mwyn
ceisio datrys y broblem hon.
Materion
Ariannol
·
Adroddwyd bod gorwariant wedi bod o fewn maes staffio eleni. Mae hyn gan
fod diffygion recriwtio yn golygu fod y swyddogion wedi gorfod gweithio oriau
ychwanegol.
·
Ymhelaethwyd bod tanwariant wedi bod yn feysydd eiddo, trafnidiaeth,
offer a chelfi ac bod diffyg mewn cwrdd a tharged incwm. Wedi dweud hyn, mae
buddsoddiad o £12,000.00 yn cael ei wneud ar gwch yr harbwr yn ogystal â
chadwyni a cymhorthyddion mordwyo o fewn y flwyddyn
ariannol hon.
·
Cadarnhawyd y rhagwelir tanwariant o £15,293.00 yn
y flwyddyn ariannol hon.
·
Ystyriwyd cyfraddau ffioedd am y flwyddyn ariannol nesaf. Nid ydi'r
rhain wedi cael eu cyflwyno i’r pwyllgor ar hyn o bryd gan fod chwyddiant yn
cynyddu yn dilyn y wasgfa ariannol bresennol. Gobeithir canfod dull o beidio
codi ffioedd i ddefnyddwyr yr harbwr yn ormodol gan fuasai’r cynnydd hwn yn
effaith mawr ar ddefnyddwyr a chynyddu’r risg o leihau’r nifer o ddefnyddwyr yn
y dyfodol.
o Ymhelaethwyd mai
ffigwr chwyddiant ar yr harbyrau am y flwyddyn nesaf
ydi 8.5%.
Adroddiad
yr Harbwr Feistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a
brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth a Hydref 2022, gan gynnwys materion cynnal
a chadw.
·
Mynegwyd bod y buddsoddiad yn y cymorthyddion
mordwyo wedi bod yn effeithiol. Nid oes llawer o broblemau wedi bod gyda nhw
ond nodir nad ydi un ohonyn nhw yn y man priodol ar hyn o bryd. Mae Hysbysiad
Lleol i Forwyr allan ar hyn o bryd ar gyfer y bwi
perthnasol sef bwi Tramwyo.
·
Cadarnhawyd bod asesiad wedi cael ei gynnal gan Tŷ Drindod ar y
cynorthwyon mordwyo a bod yr asesiad hwnnw wedi bod yn llwyddiannus.
·
Nodwyd bod gwaith y rheilffordd agos yn parhau i mewn i bedwaredd flwyddyn
er mwyn gwella cyflwr llwybr troed sy’n cydredeg a’r traciau.
PENDERFYNWYD
Nodi
a derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: