Agenda item

Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine', a cysylltiad i'r adeilad presennol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau -

 

  1. 5 Mlynedd
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Deunyddiau
  4. Mesurau lliniaru iaith (arwyddion, gohebiaeth ayyb)

 

Cofnod:

Lock Up, Self Storage, Penygroes, LL54 6DB

Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine' a chysylltiad i'r adeilad presennol.

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu sied storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr mezzanine, gyda estyniad ochr i gysylltu’r adeilad bwriadedig i’r adeilad cyfochrog presennol. Byddai’r adeilad bwriadedig yn cael ei rhannu i 2 rhan - prif adeilad 3 llawr ar gyfer storio a’r ail ran yn sylweddol llai ar gyfer cegin fach, ystafell ymweld a swyddfa ar y llawr cyntaf. Byddai'r adeilad yn mesur 34 medr mewn hyd, 15.5 medr mewn lled a 11 medr mewn uchder.

 

Adroddwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y bydd  cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol.

 

Amlygwyd fod y bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint ac uchder ar gyrion gorllewinol ystâd ddiwydiannol ar safle rhwng dau adeilad ac ar bwys clawdd terfyn gyda chefnffordd gyfochrog. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos y byddai’r adeilad yn sylweddol uwch na’r adeiladau gerllaw a’r clawdd terfyn ac felly yn creu nodwedd uchel, amlwg ac anghydnaws o’r gefnffordd a niwed i fwynderau gweledol yr ardal.

 

Derbyniwyd bod elfennau o’r adeiladau  presennol gerllaw yn weladwy o ffordd osgoi Penygroes, ond byddai uchder a graddfa'r adeilad bwriadedig yn sefyll allan fel nodwedd anghyson yn y patrwm datblygu ac yn tynnu sylw, ac yn ychwanegu yn sylweddol at nodweddion dynol sy’n weladwy o’r ffordd honno. Er bod y safle yn ffurfio rhan o ystâd ddiwydiannol amlygwyd bod y safle yn ffinio gyda chefn gwlad agored lle mae’r dirwedd yn llawer mwy sensitif i newid. 

 

Nodwyd bod yr adeiladau presennol oherwydd eu maint, uchder a graddfa yn cael eu cysgodi i raddau gan glawdd a llystyfiant presennol, er hynny, y llystyfiant yn bennaf yn blanhigion collddail a’r adeilad felly yn llawer mwy amlwg yn y gaeaf.

 

Yng nghyd-destun materion yn ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd na ofynnwyd i'r ymgeisydd baratoi a chyflwyno datganiad o'r fath oherwydd na fyddai’n newid barn y Gwasanaeth Cynllunio o ran yr effaith gweledol. Er hynny, heb asesiad priodol nid oedd yn bosib asesu effaith y bwriad ar yr iaith.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol, ni ystyriwyd ei fod yn dderbyniol i’w ganiatáu. Ystyriwyd y byddai'r adeilad oherwydd ei raddfa a maint  yn ychwanegiad anghydnaws ac y byddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal  (yn groes i Bolisi PCYFF2, PCYFF3, PCYFF4 a PS 19). Y bwriad hefyd yn groes i bolisi PS 1 o fewn Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) gan nad yw’n bosib asesu effaith y datblygiad ar yr iaith. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:

·         Ei fod yn gefnogol i’r cais

·         Bod y cais yn cyfarch materion economaidd (creu swyddi yn lleol), yn amgylcheddol (yn bwriadu gwella’r adeilad a defnyddio ethos carbon niwtral) ac yn gymdeithasol (yn cefnogi mentrau lleol)

·         Dim datganiad iaith oherwydd bod y cwmni eisoes mewn bodolaeth ac yn cyflogi Cymry

·         Bod y bwriad wedi ei leoli mewn stad ddiwydiannol

·         Bod y cwmni yn rhan o fenter leol yn taclo sbwriel i geisio stad ddiwydiannol daclus

·         Y cais yn ymateb i ofynion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Mater o farn sydd yma – y bwriad i’w weld o’r ffordd osgoi yn unig

·         Ni fyddai’n gwaethyga’r olygfa - posib plannu coed yn y gofod rhwng y ffordd a’r adeilad

·         Bod y cais yn cyd-fynd a pholisïau

·         Bod adeilad cyfagos yn uwch

·         Y ‘safle’ sy’n ffinio gyda chefn gwlad ac nid yr adeilad yma yn unig

·         Annog y pwyllgor i ganiatáu

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Aelod Lleol nododd y Rheolwr Cynllunio ei bod yn cytuno bod rhai o elfennau’r cais yn ‘fater o farn’, ond, er hynny ategodd mai dwy swydd lawn amser ychwanegol fyddai’n cael eu creu ac felly nid oed modd rhoi pwysau ar y ddadl economaidd. Yn ychwanegol, defnyddiwyd ‘strret view’ fel bod modd i’r aelodau weld lleoliad y bwriad a’i agosatrwydd at y ffordd osgoi.

 

c)    Cynigiwyd  ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes i’r argymhelliad oherwydd bod y bwriad wedi ei leoli mewn ystâd ddiwydiannol ac felly ni ystyriwyd ardrawiad gweledol ar fwynderau’r ardal leol. Awgrymwyd gosod amod i dirlunio / plannu coed.

 

Mewn ymateb i’r cynnig, nododd y Swyddog Monitro ei fod yn derbyn y rheswm na fydd ardrawiad gweledol fel un ystyried caniatáu’r cais, ond o osod amod tirlunio, byddai angen ystyried ffiniau perchnogaeth a sut i ymdrin â hyn. Ategodd y Rheolwr Cynllunio na fyddai plannu coed a thirlunio yn gwneud llawer o wahaniaeth os caniateir y cais ac y byddai cytuno ar liw gorffenedig a dyluniad yn bwysicach.

 

Mewn ymateb cytunodd y cynigydd a’r eilydd i gynnig caniatáu y cais am y rheswm na fydd ardrawiad gweledol ar fwynderau’r ardal leol.

 

            PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau -

 

1.    5 Mlynedd

2.    Yn unol â’r cynlluniau

3.    Deunyddiau

4.    Mesurau lliniaru iaith (arwyddion, gohebiaeth ayyb)

 

Dogfennau ategol: