Ail-wynebu ac ail-drefnu meysydd parcio y Glyn
gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag arwyneb tarmac a gosod wyneb
system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones
Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar dderbyn
sylwadau cadarnhaol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Goed ynghylch
gwybodaeth bellach a gyflwynwyd mewn ymateb i'w sylwadau cychwynnol:
1. Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3. Amodau priffyrdd
4. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad o
Effeithiau Ecolegol
5. Rhaid gweithredu’n unol ag
argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth
6. Unrhyw amodau Bioamrywiaeth
/ Coedyddiaeth eraill angenrheidiol
Nodiadau
1.
Dŵr
Cymru
2.
Cyfoeth
Naturiol Cymru
3.
Uned
Draenio Tir
Cofnod:
Maes
Parcio, Y Glyn, Llanberis, LL55 4EL
Ail-wynebu ac
ail-drefnu meysydd parcio Y Glyn gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag
arwyneb tarmac a gosod wyneb system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ail-drefnu'r tri maes parcio presennol sydd
wedi eu lleoli yn ardal Y Glyn ar lan
Llyn Padarn, Llanberis. Bydd yr aildrefnu yn gwelliannau i'r meysydd parcio yn
unig – nid oes bwriad newid defnydd y tir a bydd y meysydd parcio yn parhau o
dan reolaeth y Cyngor Sir. Bydd y gwaith yn cynnwys:
·
Ardal maes Parcio Rhif 1: 52 x bae parcio car, 3 x bae parcio
anabl & 9 x bae parcio ‘camper van’. Bydd yr ardal hon hefyd yn cynnwys ardal ar gyfer
glanhau canŵ/offer gyda waliau uchel o'i amgylch, ffynnon ddŵr yfed,
cysgodfa ar gyfer cadw hyd at 10 o feics gyda tho gwyrdd a chladin coed a thri
phwynt gwefru EV ar gyfer ceir trydanol.
·
Ardal maes Parcio Rhif 2: 57 x bae parcio car, 1 x bae parcio
trelar & 13 x bae parcio ‘camper van’.
·
Ardal maes Parcio Rhif 3: 20 x bae parcio car, 2 x bae parcio
anabl & 4 x bae parcio ‘camper van’.
Ategwyd y
bydd y llwybr troed yn cael ei orffen gyda tharmac a bydd y lon a'r baeau
parcio newydd i gyd yn cael eu gorffen gyda gridiau
cellog wedi eu llenwi gyda cherrig mân gyda cherrig lliw llwyd golau yn cael eu
defnyddio yn y baeau parcio a charreg lliw llwyd tywyll yn ardal y lon er mwyn
creu cyferbynnedd gweledol.
Nodwyd bod
Polisi Strategol PS 5 : Datblygu Cynaliadwy’n ymrwymo’r Awdurdod Cynllunio i
gefnogi datblygiadau ble gellid dangos eu bod yn gyson ag egwyddorion
datblygiad cynaliadwy. Mae'r polisi hwnnw'n rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir
a ddefnyddiwyd o'r blaen ac i hyrwyddo safonau dylunio o ansawdd uchel sy'n
gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal leol; Bydd y cynllun hwn yn cynnig cyfle
i wella ansawdd yr adnodd parcio sydd ar gael yn y lleoliad hwn ac yn sicrhau
bod y tair ardal yn cael eu tacluso a'u gosod yn fwy trefnus er budd defnyddwyr
a rheolaeth hir dymor y safle.
Yng
nghyd-destun materion priffyrdd nodwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i'r cynlluniau o safbwynt diogelwch y briffordd ac fe ystyriwyd
bod y trefniant parcio'n dderbyniol. Byddai'r gysgodfa’n beics yn annog y
defnydd o ddull trafnidiaeth gynaliadwy tra byddai gosod llwybr llawr caled yn
hwyluso mynediad ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau symudedd.
Yng nghyd
-destun bioamrywiaeth a choed nodwyd bod y safle o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig ac fe gyflwynwyd Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol a daeth hwnnw i'r
casgliad ei bod yn annhebygol y byddai'r cynllun arfaethedig yn arwain at
effeithiau gweddilliol sylweddol ar nodweddion ecolegol pwysig yn y tymor hir
pe bai'r holl fesurau lliniaru a digolledu a gynigiwyd
yn cael eu dilyn. Yn ogystal cadarnhaodd yr Uned Goed fod yr Asesiad Effaith
Coedyddiaeth (AIA) o safon dderbyniol ac awgryment ddilyn yr holl fesurau
diogelu coed a choetiroedd a nodwyd yn yr Asesiad. Roedd yr Uned Goed hefyd yn
awyddus i gael rhagor o fanylion ynghylch y cynllun ail blannu ac fe
dderbyniwyd hynny gan yr ymgeisydd
Ni
ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd
yn briodol ar gyfer y safle fydd hefyd yn cyfrannu at wireddu amcan o
bwysigrwydd strategol i’r Cyngor Sir. Yn ogystal, ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw
na’r gymuned yn gyffredinol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Ei bod yn gefnogol i’r cais
·
Bod yr ardal yn barc gwledig sydd bellach mewn sefyllfa fregus a
phwysau ar y Cyngor i ymateb i’r pryderon
·
Y meysydd parcio presennol yn flêr, gyda thyllau ac yn creu risg i
ddefnyddwyr - dim ardal storio beics, dim digon o finiau sbwriel a dim incwm
i’w gynnal a’i gadw
·
Y prosiect i’w groesawu - bydd yn gwella diogelwch, baeau parcio
wedi eu marcio a system unffordd - bydd adnodd ar gyfer teithio gwyrdd,
llochesi beics, biniau mawr a phwynt trydan
·
Bydd cyfle i gasglu incwm i ariannu gwelliannau pellach yn y parc
a chyflogi wardeniaid
·
Croesawu gwell rheolaeth
·
Y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y
cais
ch)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:
·
Bod y cynlluniau yn effeithiol
·
Bydd y gwaith yn gwella gwelededd y
Parc
·
Angen cynlluniau tebyg ar draws y Sir
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar dderbyn sylwadau cadarnhaol oddi
wrth Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Goed ynghylch gwybodaeth bellach a
gyflwynwyd mewn ymateb i'w sylwadau cychwynnol:
1. Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3.
Amodau priffyrdd
4. Rhaid gweithredu’n
unol ag argymhellion yr Asesiad o Effeithiau Ecolegol
5. Rhaid
gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth
6. Unrhyw
amodau Bioamrywiaeth / Coedyddiaeth eraill angenrheidiol
Nodiadau
1. Dŵr Cymru
2. Cyfoeth Naturiol Cymru
3. Uned Draenio Tir
Dogfennau ategol: