Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Mabwysiadwyd y Cynllun Costau Byw Dewisol.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad hwn yw i dderbyn cymeradwyaeth i
Gynllun Dewisol y Cyngor i gynorthwyo gyda costau byw. Eglurwyd fod hwn yn
gynllun a ddatblygwyd ar y cyd rhwng y Gwasanaeth Trethi a’r Tîm Cefnogi
Teuluoedd.
Mynegwyd fod y
Cynllun Dewisol yn ddilyniant i’r Cynllun Craidd, ble mae’r Cyngor eisoes wedi
dosbarthu £150 yr un i oddeutu 40,000 o aelwydydd o fewn Gwynedd. Nodwyd fod
angen i’r aelwydydd fod yn byw mewn eiddo Bando Treth Cyngor A i D er mwyn
derbyn y cymorth drwy’r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor. Pwysleisiwyd fod y
cynllun wedi bod yn llwyddiannus ac mai’r Cyngor oedd yr Awdurdod cyflymaf drwy
Gymru i gyflawni’r gwaith yma.
Esboniwyd fod Llywodraeth Cymru wedi
clustnodi £25m i ddarparu cymorth dewisol at ddibenion eraill sy’n ymwneud â
chostau byw, ac eglurwyd fod y cynllun hwn yn amlygu bwriad y Cyngor ar sut i
ddefnyddio cyfran Cyngor Gwynedd o’r arian. Yn gyntaf, nodwyd y bydd taliad o
£150 i aelwydydd nad oedd yn gymwys i dderbyn taliad dan y cynllun gwreiddiol
a’i bod yn derbyn eithriad Treth Cyngor. Amlygwyd nad oedd eiddo a oedd yn
derbyn eithriad o’u Treth Cyngor ar 15 Chwefror yn gymwys i dderbyn taliad, ac
ar ben hynny bydd y cynnig yn rhoi taliad i aelwydydd lle mae incwm yr aelwyd
wedi ei gyfyngu gan mai un person sydd yn byw yno.
Pwysleisiwyd fod ail ran y cymorth
arfaethedig yn rhoi cyfraniad ariannol tuag at y Rhwydwaith Hybiau Cefnogi
Pobl. Credir fod rhoi cyfraniad i’r rhwydwaith yn ffordd effeithiol iawn o
sicrhau cefnogaeth i aelwydydd y mae cangen cymorth arnynt gyda’u costau byw.
Mynegwyd fod yr aelod cabinet yn credu fod y cynllun hwn yn ffordd effeithiol
ac effeithlon o wneud defnydd o’r grant ychwanegol hwn, gan dargedu’r arian
tuag at aelwydydd mwyaf anghenus y sir. Nodwyd er fod yr arian hwn i’w groesawu
ei fod ymhell o fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion teuluoedd mwyaf bregus y
sir.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾ Diolchwyd am yr
adroddiad a’r gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn y maes. Holwyd fod cynlluniau
ar gyfer cefnogi pobl mewn dalgylchoedd penodol ond er enghraifft ym Mangor mae
Maesgeirchen yn cael ei nodi ond dim gweddill Bangor. Holwyd os bydd gwaith yn
cael ei wneud tu hwnt i’r ardaloedd. Mynegwyd y bydd hybiau yn cael ei sefydlu
mewn lleoliadau difreintiedig ond y bydd lleoliadau lloeren yn cael eu hagor tu
hwnt i’r prif hybiau. Eglurwyd y bydd rhwydwaith cefnogi a digwyddiadau i’w
gweld tu hwnt i’r prif hybiau yn ogystal.
¾ O ran y gefnogaeth
i Gynlluniau Bwyd gofynnwyd am fwy o fanylion. Eglurwyd fod sawl cefnogaeth ar
gyfer cynlluniau bwyd, nodwyd fod grantiau ar gael i Banciau Bwyd, Grwpiau
Rhannu Bwyd ynghyd â grwpiau sy’n creu Pryd ar Glyd neu Glybiau Cinio
Cymunedol.
¾ Mynegwyd ei bod yn
wych fod y Cyngor yn gallu cynorthwyo i drefnu arian er mwyn delio ar broblem,
ond nodwyd ei bod yn ofnadwy fod trafodaethau a cynlluniau fel hyn yn cael ei
gynnal o fewn y chweched gwlad gyfoethocaf yn y byd.
¾ Nodwyd mai cynllun
argyfwng yw hwn, ac mae’r gofyn i weithredu yn gyflym. Diolchwyd i’r adran
gyllid am allu sicrhau fod yr arian yn cael ei rannu yn gyflym i unigolion mewn
angen. Amlygwyd mai dim ond un cam ymhlith nifer o gamau o fewn y Cynllun
Cefnogi Pobl yw’r cynllun yma.
Awdur:Bleddyn Jones a Catrin Thomas
Dogfennau ategol: