Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Argymell i’r Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol
yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi
ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24:
·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar
ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992 (h.y. dim newid).
·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac
yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%).
·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Argymell i’r
Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt
lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2023/24:
·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).
·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran
12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%).
·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O
100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid).
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi
fod
yr adroddiad yn gam yn y drefn llywodraethu
wrth i’r Cyngor symud ymlaen i wneud penderfyniad ar sut i ymateb i newidiadau deddfwriaethol
diweddar o safbwynt y Premiwm Treth Cyngor.
Pwysleisiwyd
nad oedd unrhyw benderfyniad ar raddfa’r Premiwm ar ben ei hun yn datrys y
broblem y sefyllfa ddifrifol a niferoedd ail gartrefi o fewn ardaloedd yng
Ngwynedd. Eglurwyd fod y defnydd o’r broses gynllunio a sicrhau trwyddedu ail
gartrefi yn llawer mwy perthnasol. Croesawyd ymateb diwedd Llywodraeth Cymru
gan amlygu mai dyfalbarhad wrth lobio a chyflwyno tystiolaeth y Cyngor sydd
wedi sicrhau gweithredu.
Esboniwyd fod
Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ychwanegu adrannau
newydd i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mynegwyd
fod y cymalau
newydd yn caniatáu i awdurdodau bilio Cymru i godi
Treth Cyngor ychwanegol ar ddosbarthiadau penodol
o eiddo. Eglurwyd mai’r sefyllfa diofyn yn Neddf 1992 yw rhoi disgownt o 50%
i’r eiddo os nad yw’r Cyngor yn gwneud
penderfyniad
pob blwyddyn i’w ariannu o goffrau’r Cyngor. Mynegwyd fod gan y Cyngor hawl dewisol
ers sawl blwyddyn i beidio rhoi disgownt
i’r eiddo yma, ac ers 2017 yr hawl i godi
premiwm.
Amlygwyd fod y
Cyngor wedi codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor rhwng
Ebrill 2018 a Mawrth 2021, ac yna 100% ers 1 Ebrill 2021. Esboniwyd ar yr
achlysuron ble cyflwynwyd y Premiwm a’i gynyddu fod gwaith sylweddol wedi ei
wneud i asesu’r sefyllfa ynghyd a chynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ac
Asesiad Effaith Cydraddoldeb. Mynegwyd fod Adrannau 12A a 12B o Ddeddf
1992 wedi eu newid eto yn
ddiweddar a bydd y newidiadau yn weithredol o 1af Ebrill 2023. Nodwyd fod y
newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ei wneud yw cynyddu lefel y Premiwm gall
awdurdodau lleol ei godi. Eglurwyd y bydd modd codi hyd at 300%.
Bu i’r
Pennaeth Adran dywysu drwy ganlyniadau’r Ymgynghoriad Cyhoeddus. Eglurwyd fod y
Cabinet wedi cytuno ddiwedd Medi i gomisiynu Ymgynghoriad Cyhoeddus i
dderbyn barn y cyhoedd ar sut dylai’r Cyngor ymateb i’r ddeddf. Lansiwyd yr
ymgynghoriad cyhoeddus ar y 30 Medi ac roedd yn agored tan 28 Hydref. Eglurwyd
ei bod yn hanfodol i weithredu yn unol â’r gyfraith i ymgysylltu gyda rhan
ddeiliad allweddol ac o ganlyniad bu i lythyrau uniongyrchol gael eu hanfon at
y perchnogion.
Derbyniwyd
7,330 o ymatebion i’r holiadur ac mae hyn ymhell tu hwnt i niferoedd arferol
sy’n ymateb i ymgynghoriadau
cyhoeddus arferol a dros fil o ymatebion yn fwy na’r
ymgynghoriad tebyg a gynhaliwyd
ddwy flynedd yn ôl. Mynegwyd fod dros hanner o’r ymatebwyr yn
nodi nad oeddent yn berchen ar ail gartref nac
annedd gwag hir dymor. Nodwyd fod 47% yn berchen ar ail gartref a llai na 3% yn
dweud eu bod yn berchen ar annedd gwag hir
dymor.
Ategwyd fod y
canlyniadau yn nodi fod
58.7% o‘r
ymatebion o’r farn fod ail gartrefi yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau
sydd yn gynnydd o’r ffigwr cyfatebol o 55.1% pan gynhaliwyd ymgynghoriad tebyg
lai na dwy flynedd yn ôl. Amlygwyd fod 27.7% yn meddwl fod ail gartrefi yn cael
effaith negyddol gyda 8.2% yn credu nad ydynt yn
cael effaith ar y cyfan. Eglurwyd fod gwahaniaethau amlwg rhwng barn yr ymatebwyr
oedd yn berchen ail gartrefi a’r rhai nad ydynt. Nodwyd fod
80% o’r ymatebwyr sydd yn berchen ail gartrefi yn
credu
fod ail gartrefi yn rhoi effaith gadarnhaol, tra fod 39%
o’r rhai sydd dim berchen ail gartref nac annedd
gwag hir dymor o’r un farn.
Amlygwyd fod hyn eto yn gynnydd arwyddocaol o’r ffigwr cyfatebol o 27% llai na
dwy flynedd yn ôl. Mynegwyd
fod 48%
o’r ymatebwyr sydd ddim yn berchen ar ail gartref nac annedd gwag hirdymor yn
meddwl bod ail gartrefi yn cael effaith negyddol ar gymunedau lleol ar hyn o
bryd, tra mai dim ond 5% o’r ymatebwyr sy’n berchen ar ail gartref sydd o’r
farn yma.
Nodwyd fod
gwahaniaeth barn clir am gynyddu’r premiwm rhwng y rhai sydd berchen ail
gartrefi a rhai nad ydynt. Amlygwyd fod y rhai sydd eisoes
yn talu’r premiwm ddim yn awyddus talu mwy, gyda llai na hanner o’r rhai nad ydynt
yn talu’r premiwm yn cefnogi cynyddu’r premiwm.
O ran
ymatebion am safbwynt eiddo gwag hirdymor nodwyd fod oddeutu tri chwarter o’r
rhai a ymatebodd o’r farn fod eiddo gwag hir dymor yn cael effaith negyddol ar
gymunedau lleol. Amlygwyd fod 82% o’r rhai sy’n berchen eiddo gwag yn
gwrthwynebu cynyddu’r premiwm ond amlygwyd fod niferoedd a ymatebodd i’r
ymgynghoriad a oedd yn datgan eu bod yn berchnogion eiddo gwag hirdymor yn isel.
Pwysleisiwyd mai ymgynghoriad oedd hwn yn chwilio am farn a sylwadau er mwyn
cynorthwyo’r Cabinet a’r Cyngor i wneud penderfyniad.
Cyflwynwyd y
mater yma i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ogystal er mwyn cael ei
graffu. Pwysleisiwyd nad eu rôl oedd awgrymu lefel y Premiwm ond i fodloni ei
hun fod y dystiolaeth oedd wedi ei gasglu yn ddigonol er mwyn dod i
benderfyniad rhesymol ar sail y wybodaeth. Eglurodd y
Pennaeth Cyllid y pwyntiau a godwyd yn ystod
y drafodaeth yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Ymysg y sylwadau
hyn oedd anfodlonrwydd un
aelod o’r Pwyllgor am y sylw a roddwyd i’r effaith ar y
Gymraeg o fewn yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb. Ym
marn yr aelod yma nid oedd ystyriaeth ddigonol
wedi ei
roi i effaith y premiwm ar y garfan frodorol sy’n siarad Cymraeg. Pwysleisiwyd
yn ogystal nad oes tystiolaeth am yr angen am 2000 o dai newydd yn ardal Dwyfor
ac fod angen i asesiad effaith ieithyddol cynhwysfawr gael ei gwblhau. Amlygwyd
fod angen nodi pa mor llwyddiannus mae’r premiwm wedi bod ac yn nodi sut mae’r
niferoedd o ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor wedi newid dros amser ers
cyflwyno’r Premiwm. Amlygwyd fod un aelod o’r Pwyllgor wedi cwestiynu moesoldeb
codi arian gan bobl o un rhan o’r sir i ddiwallu effaith digartrefedd mewn llefydd
eraill a'i fod yn awyddus i’r adroddiad ddangos rhestrau aros am dai ymhob
ward.
I orffen bu
i’r Aelod Cabinet nodi wrth wneud unrhyw newid arwyddocaol sy’n effeithiol ar
bobl, fod yn rhaid i’r Cyngor ystyried os oes digon o gyfiawnhad wedi ei gasglu
i wneud hyn gan ystyried gwir effaith ar bobl Gwynedd. Eglurwyd fod angen i’r
Cyngor weithredu’n rhesymol ar sail y dystiolaeth. Nodwyd fod dewis
damcaniaethol i ostwng neu ddiddymu’r premiwm ond eglurwyd fod yr arian sydd yn
cael ei gasglu yn cael ei glustnodi i bwrpas penodol, sef cefnogi Cynllun
Gweithredu Tai. Mynegwyd ar yr un modd byddai angen cyfiawnhad cadarn iawn dros
gynyddu’r Premiwm i 300%, ac eglurwyd nad yw’r adran o’r farn fod hyn yn bodoli
ar hyn o bryd. Felly ar ôl ystyried yr ymgynghoriad a’r sefyllfa bresennol yn y
sector tai dwi’n argymell cadw’r Premiwm ar eiddo gwag hirdymor yn 100% a
chynyddu’r Premiwm ar ail gartrefi i 150%.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Diolchwyd am yr adroddiad ac amlygwyd y
pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Amlygwyd y cwestiwn
cyson sydd wedi ei godi gan nifer o’r ymatebion os oes eithriadau i'w cael os
oes gan unigolion gysylltiadau lleol, gan fod pryder gan unigolion sydd wedi
trosi adeiladau yn llety gwyliau yn dilyn cais cynllunio y bydd angen talu
treth am y tro cyntaf. Eglurwyd fod eithriad statudol yn eithrio tai tymhorol
yn unig a'r trefniadau cynllunio sydd yn methu cael ei meddiannu am flwyddyn
gyfan. Eglurwyd fod cynnig ger bron ar hyn o bryd i addasu’r geiriad i fod yn
gallu ei feddiannu am flwyddyn gyfan ond nad os modd ei ddefnyddio fel prif
gartref. Amlygwyd fod modd defnyddio eithriadau dewisol yn unol ag Adran 13A
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol i roi’r hawl i’r Cyngor addasu bil treth
Cyngor unrhyw annedd yn y sir os yn gallu bodloni fod lles cymdeithasol ac
ehangach i drethdalwyr o’i wneud. Ond pwysleisiwyd er bod yr eithriadau ar gael
fod angen rhoi gwir ystyriaeth i gydraddoldeb pan yn eithrio unrhyw annedd gan
ddefnyddio’r ddeddfwriaeth benodol yma.
·
Nodwyd fod canlyniad yr ymgynghoriad
wedi amlygu nad yw’r sefyllfa yn ddu a gwyn. Eglurwyd fod disgwyliad i’r
ymgynghoriad amlygu fod unigolion ag ail gartrefi am bwysleisio peidio codi
premiwm, ac unigolion heb ail gartref yn dweud i godi’r premiwm i 300% ond nid
dyma’r canlyniad. Nodwyd fod hanner o’r unigolion heb ail gartrefi yn cytuno â
pheidio cynyddu’r premiwm, a hyn o ganlyniad i gyflogaeth a bywoliaeth nifer o
bobl yn ddibynnol ar ail gartrefi a phryderon am deuluoedd yn etifeddu ail
gartrefi.
·
Mynegwyd fod yr adroddiad hwn yn
gynhwysfawr ond eglurwyd yr angen hefyd i ddadansoddi gwybodaeth hanesyddol yn
ogystal, megis yr
ymchwil i ail gartrefi. Nodwyd y prif gwestiwn sydd angen ei ateb yw
sut i ddatrys
problemau sy’n bodoli mewn cymunedau o ganlyniad i ail gartrefi.
Amlygwyd fod dros 5000 o dai o fewn y sir yn wag nifer helaeth o’r flwyddyn tra
fod niferoedd digartref ac eisiau prynu tai yn uchel tu hwnt. Er hyn amlygwyd
er fod gan y Cyngor hawl i godi’r premiwm i 300% ni ddylid gwneud hyn heb
gyfiawnhad. Eglurwyd fod ei godi i 150% yn mynd i godi £3m a hynny mewn
blwyddyn ble mae’r Cyngor wedi gorwario £3m ar y maes digartrefedd ac ei bod yn
edrych yn debygol y bydd yn codi eto y flwyddyn nesaf, amlygwyd
felly fod y cynnydd o 150% yn rhesymol ar hyn o bryd.
·
Holwyd er fod unigolion ag ail gartrefi
wedi derbyn llythyr yn amlygu’r ymgynghoriad holwyd os oedd angen gwneud hyn ar
gyfer y digartref, y rhai ar restrau aros neu'r rhai sydd methu fforddio tai yn
eu cymunedau ac amlygwyd efallai y buasai’r ymatebion wedi bod yn wahanol.
Mynegwyd fod cynnydd i 300% eleni i’w weld braidd yn uchel ac fod ei gynyddu i
150% yn deg ac yn ymateb i’r problemau sydd i’w gweld yn y maes tai.
·
Cadarnhawyd fod bwriad newid yr
eithriadau statudol fydd yn golygu bydd unrhyw fusnes lleol sydd â thai gwyliau
ble mae amodau cynllunio yn eu cyfyngu i ddefnydd gwyliau wedi eu heithrio o
dalu’r Premiwm, ond nodwyd nad oes angen caniatâd er mwyn cael tai AirBnB.
Nodwyd fod nifer o’r rhain yn plethu i fusnesau ac o ganlyniad yn talu treth
busnes. Eglurwyd fod newid ar droed gyda treth busnes yn nodi'r angen i osod yr
eiddo 182 o ddyddiau'r flwyddyn ac os na fydd hyn bosib y bydd angen mynd yn ôl
i dalu treth Cyngor. Amlygwyd mai cyfrifoldeb y Swyddfa Prisiwr fydd i gadw
golwg ar hyn.
·
Pwysleisiwyd
fod digartrefedd cudd yn bodoli ar draws y sir gyda unigolion yn aros ar soffa
neu yn methu symud o’i cartref. Croesawyd
fod yr arian ychwanegol yn sgil y premiwm yn mynd i gynorthwyo y maes digartrefedd
a nodwyd y bydd angen adolygu yn gyson er mwyn cadw golwg ar
y sefyllfa.
·
Amlygwyd nad oes bai ar yr unigolion
sydd yn berchen ail gartrefi ac mai argyfwng tai sydd i’w weld ar draws y sir.
Pwysleisiwyd fod angen atgoffa mai bai Llywodraeth San Steffan yw’r sefyllfa
yma, ac er fod Senedd Caerdydd yn ceisio gwella’r sefyllfa nid yw’n ddigonol ac
nid yw’n ymateb ddigon cyflym. Eglurwyd yn ogystal fod hon yn broblem gynyddol
sydd i’w gweld ar draws Prydain.
·
Eglurwyd fod y mater yn un cymhleth ac
nad yw’n sefyllfa du a gwyn, ond fod angen ystyried yr holl ddogfennau ynghyd a
sefyllfa ein cymunedau ac fod argymhelliad presennol i’w godi i 150% yn un call
ar hyn o bryd.
Awdur:Dewi A Morgan
Dogfennau ategol: