Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

amlinellu beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Mynegwyd balchder fod yna gynnydd wedi ei wneud er gwaethaf yr heriau oedd yn wynebu’r adran a’r mwyafrif o’r rhain o ganlyniad i anawsterau capasiti o fewn yr adran. Diolchwyd I'r adran am eu hymroddiad i'r maes a’r unigolion maent yn ei gefnogi, ac ar y cyfan ei fod yn fodlon a pherfformiad yr adran.  

 

Nodwyd fod nifer o’r materion sydd wedi eu codi yn yr adroddiad perfformiad hefyd wedi eu hamlygu fel rhan o’r archwiliad diweddar a gafwyd gan Arolygaeth Gofal Cymru. Eglurwyd y bydd adroddiad pellach am yr archwiliad yn dod i'r Pwyllgor Craffu Gofal cyn hir.  

 

Tywyswyd drwy brosiectau Cynllun y Cyngor a oedd yn cynnwys safle Penrhos sydd yn gynllun ar y cyd gyda’r Adran Dai ac Eiddo ynghyd â’r cynnydd mewn gwlâu dementia yn y sir a’r pryder am unedau gwag o ganlyniad i ddiffyg staffio. Amlygwyd mai un o brif anawsterau yr adran yw recriwtio a chadw staff ac esboniwyd fod hyn yn fater sydd yn cael ei drafod yn gorfforaethol o fewn y Cyngor ynghyd ac yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  

 

O ran perfformiad yr adran nodwyd fod camau breision wedi eu gwneud i sicrhau mesurau cywir. Tynnwyd sylw at nifer ar y rhestrau am ofal cartref gan nodi fod yn nifer yn parhau i gynyddu ac fod hyn o ganlyniad i ddiffyg capasiti o ran staffio. Esboniwyd fod yr adroddiad diwethaf yn amlygu rhwystredigaeth gyda mesurydd yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl gan fod staff y timau integredig yn parhau i ddefnyddio ffeiliau papur. Mynegwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddod o hyd i fesurydd dros dro i'r gwasanaeth hwn.  

 

O ran y sefyllfa ariannol, nodwyd fod rhagolygon ariannol fel rhan o adolygiad diwedd Awst yn rhagamcanu gorwariant o £1.9miliwn gan yr Adran erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Eglurwyd fod yr adran yn cyflwyno bidiau er mwyn gallu parhau gyda gwasanaethau statudol neu newidiadau deddfwriaethol. Mynegwyd fod yr adran ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd i gyflawni rhai gwasanaethau mewn ffordd wahanol a drwy hyn cyflawni arbedion.  

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Nodwyd fod heriau staffio i'w gweld ar draws y Cyngor a hynny oherwydd methu recriwtio ac nid oherwydd diffyg ariannol. Pwysleisiwyd nad oes ateb hawdd i'r broblem ac fod hyn o ganlyniad i benderfyniadau ar lefel Brydeinig. Eglurwyd fod yr adran yn edrych ar beth mae siroedd eraill yn ei wneud er mwyn sicrhau gwasanaethau a gwneud defnydd gorau o’r gefnogaeth sydd ar gael.  

·                Eglurwyd fod £1.9miliwn o orwariant yn cael ei ragweld ac fod £1m arall o arbedion nad ydynt wedi eu cwblhau yn ogystal â hynny, heb edrych ar arbedion y flwyddyn nesaf. Nodwyd fod cyfarfod gyda’r adran yn cael ei gynnal yn fuan i edrych ar y sefyllfa hynod heriol yma.  

·                Nodwyd fod pryder am allu’r adran i fesur perfformiad ond fod mesurau bellach yn cael eu datblygu. Eglurwyd fod peth ffordd i fynd eto ond fod camau breision wedi eu gwneud.   

 

 

Awdur:Aled Davies

Dogfennau ategol: