Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif feddygol, datganiad personol yr ymgeisydd, geirdaon a thystlythyrau. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Mewn ymateb i gyflwyniad y Rheolwr Trwyddedu, gofynnodd cynrychiolydd yr ymgeisydd i’r Rheolwr Trwyddedu gadarnhau nad oedd y teithiwr yn achos 2019 wedi dioddef unrhyw  niwed nac wedi gwneud cwyn ffurfiol i’r Heddlu am ymddygiad y gyrrwr. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod y dystiolaeth wedi cael ei herio yn Llys yr Ynadon ac er nad oedd collfarn roedd y Barnwr wedi penderfynu bod y dystiolaeth yn gredadwy.

 

Awgrymodd cynrychiolydd yr ymgeisydd bod argraffiadau’r teithiwr yn gwahanol iawn i argraffiadau’r gyrrwr yn nigwyddiad 2019. Mewn ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu, er yn cadarnhau nad oedd gweithrediad pellach gan yr Heddlu, bod recordiad o’r sefyllfa wedi ei gyflwyno o’r noson fel tystiolaeth a bodymddygiad cyffredinolyn ystyriaeth er nad oedd collfarn.

 

Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd nad oedd rhybudd gan yr Heddlu yn gollfarn, ond mewn ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu bod tystiolaeth o rybudd yn ddigon cryf yn yr achos yma.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais gan roi gwybodaeth am gefndir y rhybudd ar ei drwydded a’i amgylchiadau personol. Cyflwynwyd 37 o dystlythyrau yn gymysg gan ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion a defnyddwyr gwasanaeth. Nododd bod digwyddiad 2018 a 2019 yn rai yr oedd yn edifar a'i fod yn cydnabod ei fod wedi ymddwyn yn ddifrifol. Ar y pryd roedd o dan straen er yn derbyn nad oedd hyn yn esgus am ei ymddygiad. Roedd yn gwerthfawrogi bod rhaid i yrwyr fod yn ddibynadwy a bod yr is-bwyllgor yn chwarae rhan bwysig yn sicrhau hyn.

 

Rhannodd enghreifftiau o’r gwaith a'r cyfrifoldebau cymunedol roedd wedi ymgymryd â hwy ers y digwyddiadau, oedd yn cynnwys mynychu cwrs ar sicrhau diogelwch i’r cyhoedd. Nododd ei ddymuniad i roi'r gorffennol tu cefn iddo a chanolbwyntio ar symud ymlaen drwy roi blaenoriaeth i’w fusnes a’i deulu. Diolchodd i’w staff am eu cefnogaeth o gario’r busnes drwy gyfnod anodd. Cyfeiriodd at ei waith fel goruchwyliwr teithio trwyddedig i Adran Addysg y Sir. Nododd bod yr adran wedi caniatáu rhoi trwydded goruchwyliwr teithio iddo ac nad oedd cwynion wedi eu derbyn am ei waith. Cyfeiriodd at achos penodol fel enghraifft o’r cyfrifoldebau sydd eu hangen i fod yn oruchwyliwr teithio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y byddai yn gosod esiampl i’w yrwyr fel cyflogwr a rheoli ei ymddygiad, nododd ei fod wedi gwneud pob ymdrech i wella ei hun ers digwyddiadau 2018 a 2019 a chyda pobl yn talu am ei wasanaeth eu bod yn disgwyl gwell.

 

Wedi crynhoi ei gais, cynigodd cynrychiolydd yr ymgeisydd i’r is-bwyllgor ystyried, os caniatáu’r cais, i ganiatau trwydded 12 mis fel bod yr ymgeisydd yn cael cyfle i brofi ei hun ac i adeiladu perthynas gyda’r Uned Trwyddedu.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Trwyddedu petae’r ymgeisydd yn derbyn trwydded yna, yr un yw’r safon o ddisgwyliad ymhob achos. Ategodd bod hyblygrwydd yn y Ddeddf i ystyrued cyfnod llai na 3 mlynedd.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·      GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·      ffurflen gais yr ymgeisydd

·      adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·      sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd

·      Ffurflen feddygol yr ymgeisydd

·      Datganiad Personol gan yr ymgeisydd

·      Geirdaon / tystlythyrau gan yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Mai 2018, diddymwyd trwydded gyrrwr tacsi deuol hacni/hurio preifat yr ymgeisydd, yn ddi-oed er mwyn diogelu’r cyhoedd; yn unol â darpariaeth adran 61(1) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol ( Darpariaethau Amrywiol) 1976, yn dilyn digwyddiad treisiol. Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd gan yr Heddlu am yr ymosodiad cyffredinol oedd yn groes i adran 39 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988

 

Yn Medi 2018, derbyniwyd cais o’r newydd am drwydded ddeuol gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gan yr ymgeisydd. Cyfeiriwyd y cais at Is Bwyllgor am benderfyniad gydag argymhelliad i wrthod yn unol â pholisi Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr y Cyngor. Penderfynodd yr Is Bwyllgor i ganiatáu’r cais.

 

Yn Mawrth 2019, diddymwyd trwydded gyrrwr tacsi'r ymgeisydd er mwyn diogelu’r cyhoedd; yn unol â darpariaeth adran 61(1) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol ( Darpariaethau Amrywiol) 1976, yn dilyn ymosodiad corfforol honedig ar  gwsmer, Ni dderbyniodd  gollfarn am y digwyddiad.

 

Yng Ngorffennaf 2019, daeth yr ymgeisydd ag apêl o dan adran 52 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn erbyn penderfyniad Swyddog y Gwasanaeth Trwyddedu i ddiddymu ei drwydded ym Mawrth 2019. Yn Llys Ynadon Caernarfon, methodd yn ei achos apêl a cadarnhaodd y barnwr fod y dystiolaeth a ddefnyddiwyd gan y Cyngor i ddod i benderfyniad i ddiddymu’r drwydded gyrru tacsi yn benderfyniad cywir.

 

Yn Ionawr 2020 derbyniwyd cais arall am drwydded ddeuol gyrrwr hacni/hurio preifat gan yr ymgeisydd. Cyfeiriwyd y cais at Is Bwyllgor yn Chwefror 2020 a phenderfynwyd gwrthod y cais. Yn dilyn y penderfyniad daeth apêl gan yr ymgeisydd, o dan adran 52 o’r Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, yn erbyn y penderfyniad. Mewn gwrandawiad interim yn Medi 2020, penderfynodd y Llys Ynadon bod casgliadau’r apêl gyntaf yn parhau i sefyll fel tystiolaeth ac na fyddai’r ymgeisydd yn cael ail-herio’r materion ffeithiol o gwmpas yr ymosodiadau, gan y byddai hynny’n gyfystyr â chamddefnydd o broses y llys. Yn Rhagfyr 2020 cyflwynodd yr ymgeisydd gais i dynnu ei apêl yn ôl a derbyniodd y Barnwr ei gais.

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny, ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.2 yn nodi, bod unrhyw un sydd wedi'i gael yn euog o droseddau'n ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes iddo fod yn rhydd rhag collfarn(au) o'r fath am 3 blynedd o leiaf. Fodd bynnag, o ystyried ystod y troseddau sy'n ymwneud â thrais, rhaid rhoi ystyriaeth i natur y drosedd.

 

Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais.

 

Mae paragraff 6.6 o’r Polisi yn nodi y bydd cais, fel arfer yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd a hynny o fewn y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

CASGLIADAU

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad, yn unol a darpariaethau’r polisi, bod y 3 blynedd gofynnol wedi mynd heibio ers collfarn 2018 a digwyddiad 2019. Wrth ystyried y mater o aildroseddu a chanfod bod y ddau ddigwyddiad o’r un natur, roedd darpariaethau para.6.6 o‘r polisi yn berthnasol. Roedd rhaid felly ystyried caniatau y drwydded er nad oedd 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn ddwieddaraf / mater perthnasol.

 

Derbyniwyd esboniad yr ymgeisydd a’i resymau dros ei ymddygiad. Roedd yr Is-bwyllgor yn falch o glywed ei fod yn disgyn ar ei fai ac yn cydnabod bod ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol, er beth bynnag fo'r amgylchiadau personol, nid oeddynt yn esgus dros ymosodiad 2018. Yn yr un modd, roedd yr Isbwyllgor yn falch bod yr ymgeisydd yn derbyn y dylai fod wedi ymateb yn wahanol i sefyllfa 2019.

 

Ystyriwyd gwaith yr ymgeisydd fel goruchwyliwr teithwyr trwyddedig sydd â chyfrifoldeb o gynorthwyo gyrwyr tacsi sy'n cludo teithwyr/plant bregus ar gytundebau ysgol Cyngor Gwynedd. Ystyriwyd hefyd ei fod wedi derbyn Trwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ac i gwrdd â gofynion y drwydded ei fod wedi ymgymryd ag wythnos lawn o gyrsiau oedd yn cynnwys rheoli pobl, cymorth cyntaf, sut i wasgaru sefyllfaoedd a allai fod yn ymosodol ac amddiffyn y cyhoedd.

 

Ystyriwyd enghreifftiau o sefyllfaoedd anodd yr oedd yr ymgeisydd wedi delio â hwy ac na dderbyniwyd cwynion pellach ynghylch a’i ymddygiad. Ystyriwyd hefyd y cynnig y gellid rhoi trwydded am gyfnod cychwynnol o flwyddyn yn hytrach na'r tri arferol.

 

Argymhelliad Pennaeth Adran yr Amgylchedd oedd i wrthod y cais. Er na fu unrhyw ddigwyddiadau treisgar pellach ers 2019, nid oedd swyddogion yr Uned Drwyddedu yn argyhoeddedig fod yr ymgeisydd wedi dysgu o’r digwyddiadau. Nodwyd mai dim ond 5 mis oedd wedi mynd heibio ers caniatáu trwydded ym mis Hydref 2018 yn dilyn diddymiad o’i drwydded gan yr awdurdod yn gynharach y flwyddyn honno - roedd y ffeithiau hyn yn cefnogi barn y swyddogion ac yn awgrymu tueddiad i aildroseddu.

 

Wedi pwyso a mesur yr holl gyflwyniadau a thystiolaeth yn ofalus iawn, penderfynodd yr Is-bwyllgor eu bod yn derbyn bod yr ymgeisydd yn cydnabod bod ei ymddygiad wedi bod yn gwbl annerbyniol a'i fod yn wirioneddol edifarhau. Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd o’r camau cadarnhaol yr oedd yr ymgeisydd wedi eu cymryd, megis cwrs y Diwydiant Diogelwch, o blaid ei gais.

 

O dderbyn pleidlais fwyafrifol, penderfynodd yr Is-bwyllgor ganiatáu y cais a bod yr ymgeisydd felly yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat. Fodd bynnag, derbyniwyd y cynnig i ganiatáu’r drwydded am flwyddyn yn unig gan bwysleisio bod safon yr ymddygiad a ddisgwylir yn union yr un fath â thrwydded tair blynedd.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.