(a)
Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd
y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 y Cyfansoddiad.
Cwestiwn gan Mr Paul D.Gill (cyfeiriad
wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)
“Pam bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor mewn ardal sy’n
ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth a gwariant lleol gan dwristiaid heb
ymchwil annibynnol ac adroddiad ar hynny i’r Cyngor ar effaith polisi o’r fath
ar yr economi leol o gofio y bydd gorfodi’r cynnydd
yn arwain at lai o wario’n lleol gan dwristiaid gan roi swyddi a busnesau lleol
mewn perygl yn arbennig mewn cyfnod
o chwyddiant a biliau ynni uchel?
(b) Ystyried unrhyw gwestiynau
gan aelodau etholedig y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.
Cofnod:
(Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)
(A) Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd
Cwestiwn gan Mr Paul D.Gill (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y
Cyfansoddiad)
Pam bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor
mewn ardal sy’n ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth a gwariant lleol gan
dwristiaid, heb ymchwil annibynnol ac adroddiad ar hynny i’r Cyngor ar effaith
polisi o’r fath ar yr economi leol, o gofio y bydd gorfodi’r cynnydd yn arwain
at lai o wario’n lleol gan dwristiaid gan roi swyddi a busnesau lleol mewn
perygl, yn arbennig mewn cyfnod o chwyddiant a biliau ynni uchel?
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Ioan Thomas
Wrth roi’r grym i gynghorau i godi Premiwm ar
Dreth Cyngor ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor, mae Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer gweinyddu’r Premiwm, sef Canllawiau Gweithredu Premiymau’r Dreth
Gyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Nghymru.
Mae’r Canllawiau Statudol yn amlinellu’r math
o ffactorau all fod o gymorth i awdurdodau lleol eu hystyried pan yn fwriad
cyflwyno Premiwm. Pob tro mae’r Cabinet
a’r Cyngor llawn yn ystyried y Premiwm, mae’n ystyried y canllawiau hyn.
Mae’r Canllawiau Statudol yn gyfrwng i
gynorthwyo awdurdodau lleol i adfer defnydd cartrefi gwag hirdymor er mwyn
darparu cartrefi saff, diogel a fforddiadwy, a hefyd i gynorthwyo awdurdodau
lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau
lleol.
Nod y Premiwm yw cynorthwyo’r maes tai, ac
mae ymrwymiad gwariant y Cynllun Gweithredu Tai yn dystiolaeth o hyn.
Mae’r Premiwm yn ffordd ddiffuant o geisio
taro balans rhwng effaith ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau a chynnal
yr economi ymwelwyr. Mae’r Cabinet yn
ymwybodol iawn o bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth. Rhaid i ni gael twristiaeth gynaliadwy a bydd
hynny yn destun astudiaeth ar wahân maes o law.
Credwn mai sail economi gadarn yw economi lle mae gan bobl Gwynedd
gartrefi, ac yn cyfrannu i’r economi leol. Allwn ni ddim anwybyddu sefyllfa lle
amcangyfrifir y bydd 1,400 o unigolion wedi cyflwyno eu hunain yn ddigartref
erbyn diwedd eleni – sef dwbl y nifer oedd yn cyflwyno cyn Covid-19. Byddwn fel Cyngor yn lletya dros 600 o bobl
mewn llety dros dro eleni, lle’r oedd y ffigwr oddeutu 200 cyn cyfnod Covid. Nid dyma yw
sylfaen economi gadarn, gynaliadwy.
Nid yw codi a
chynyddu’r premiwm yn fater hawdd ac nid yw Cyngor Gwynedd erioed wedi honni ei
fod yn ddewis syml. Mae gofyn i aelodau
bwyso a mesur nifer o ffactorau cyn dod i benderfyniad heddiw, gan gynnwys
effaith y premiwm ar yr economi ymwelwyr.
Mae hyn yn un o’r negeseuon sy’n dod o ganlyniad yr ymgynghoriad
cyhoeddus ac yn cael sylw yn yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad
cynhwysfawr y bydd yr aelodau yn ystyried heddiw.
Cwestiwn Atodol gan Mr
Paul D.Gill
Beth ydych chi’n ddweud wrth bobl leol sydd â busnesau lleol, fel rhai
o’r bobl sydd yma heddiw, y bydd busnesau llawer ohonynt yn wynebu niwed
sylweddol, gan gynnwys rhai fel Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, rhan o Safle
Treftadaeth Byd UNESCO? Os byddwch yn
gosod unrhyw bremiwm pellach, rhaid mai chwi fydd yr unig gyngor yn unman
fyddai’n peryglu bodolaeth rhan o Safle Treftadaeth Byd. Bydd rhai busnesau’n mynd yn fethdalwyr hyd
yn oed o ganlyniad uniongyrchol i osod premiwm pellach. A pheidiwch â dweud wrthyf na fyddai’n gwneud
hynny, oherwydd mi fydd yn gwneud hynny, fel y byddai’r Cyngor yn gwybod petai
wedi cyflawni asesiad economaidd priodol.
Ateb gan yr Aelod
Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas
Fel aelod o’r
Cyngor sy’n cynrychioli ward yng Nghaernarfon, sy’n Safle Treftadaeth Byd,
rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd sicrhau a diogelu'r statws yma. Rydw i’n derbyn ei bod yn bosib’ y bydd rhai
busnesau yn cael eu heffeithio, ond rwy’n meddwl eich bod chi wedi mynd yn
llawer iawn rhy eithafol yn son am gwmnïau yn
fethdalwyr, ayb, ond rwy’n meddwl bod y codiad yma yn un rhesymol iawn.
(B) Cwestiynau gan Aelodau Etholedig
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Delyth
Lloyd Griffiths
Pa ganran yn union
o’r bwyd sydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor mewn ysgolion, lleoliadau
gofal a chanolfannau eraill, sydd wedi ei dyfu neu ei brosesu yng
Ngwynedd? Gan fod angen diogelu'r gadwyn
fwyd leol oherwydd costau a phroblemau rhyngwladol ar hyn o bryd, gofynnaf i’r
Aelod Cabinet sicrhau fod yr holl fwyd sydd yn cael ei bwrcasu yn tarddu yn
lleol neu wedi ei brosesu yn lleol. O
dderbyn bod y Cyngor yn prynu canran uchel o fwyd gan ddosbarthwyr lleol, a
allaf gael gwarant fod y bwyd yn tarddu o fewn Gwynedd neu siroedd cyfagos?
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna
Jones
1.
Mae’r Cyngor wedi cynnal proses dendro yn Hydref
2019 i sefydlu cytundebau i gyflenwi
a dosbarthu bwyd i Ysgolion a Chartrefi
Preswyl Cyngor Gwynedd.
2.
Fel rhan o’r gwaith i
hybu darparwyr bychan i gystadlu,
rhannwyd y cytundeb i gategorïau bwyd
ac ardaloedd daearyddol o fewn Gwynedd. Yn ogystal â hyn cynhaliwyd
ymgysylltiad cynnar gyda’r farchnad (18 mis cyn i’r tendr
gael ei gyhoeddi)
ynghyd â chefnogaeth tendro un i
un trwy Fusnes Cymru.
3.
Yn dilyn hynny, gwelwn
fod 71% o’r cynnyrch rydym yn ei brynu yn cael ei ddosbarthu gan gwmnïau sydd
wedi eu lleoli yng Ngwynedd. Yn dilyn ymdrechion gan ein cyfanwerthwyr i
dderbyn cynnyrch lleol a Chymreig ble’n bosib, gwelwn
fod y 100% o'r caws rydym yn ei brynu yn cael ei gynhyrchu yng Ngwynedd ac
rydym yn derbyn 40% o’r tatws sydd ei angen o Wynedd. Mae 100% o Gig Eidion, 80% o’r Cig Oen a 100%
o’r Llefrith yn tarddu o Gymru.
4.
O safbwynt tarddiad yr
holl fwyd sy’n cael ei gyflenwi gan ein cyfanwerthwyr, nid yw’n bosib darparu’r
wybodaeth i’r lefel o fanylder mae’r Aelod yn dymuno ei dderbyn ar hyn o
bryd. Hynny oherwydd yr ystod sylweddol
o gynhwysion a bwydydd sy’n cael ei gyflenwi a hefyd natur y gadwyn gyflenwi.
5.
Mae’n rhaid cydnabod
hefyd bod prynu cynnyrch o Wynedd yn anodd gyda’r prif rwystrau yn cynnwys:
·
Nid yw’r cynnyrch ar
gael yn lleol h.y. mae hinsawdd a thirwedd Gwynedd a Chymru yn cyfyngu'r hyn
all gael ei gynhyrchu.
·
Nid yw cynhyrchwyr lleol
yn gallu darparu'r hyn sy’n ofynnol yn y meintiau sydd eu hangen, neu nid yw’r
pris yn un cystadleuol.
·
O safbwynt cig yn
benodol, i’r lladd-dai gytuno i roi'r adnodd i sicrhau bod y cig yn tarddu o
Wynedd, byddai yn ofynnol i ni brynu symiau a thalu premiwm sylweddol am y cig.
·
Mae rhan helaeth o
lefrith o ffermydd Gwynedd yn mynd i Hufenfa De Arfon i wneud caws a
chynhyrchion llaeth eraill, nid ydynt yn gwerthu llefrith.
·
Mae’r gadwyn gyflenwi ar
gyfer nifer o’r cynnyrch sy’n ofynnol yn un rhyngwladol ac nid lleol.
·
Mae’n rhaid hefyd
cydnabod nad yw’n bosib i ni fynnu bod cynnyrch yn tarddu o Wynedd gan fod hyn
yn groes i reoliadau cyfreithiol cenedlaethol.
6.
I
geisio cynyddu’r gyfradd o gynnyrch o Wynedd a Chymru, mae’r Cyngor yn:
·
cydweithio gyda’r
cyfanwerthwyr a thrwy hynny mudiadau megis Undeb Ffermwyr Cenedlaethol (NFU),
Ffermwyr Ifanc, Larder Cymru ac eraill i godi
ymwybyddiaeth o gyfleoedd sy’n berthnasol i’r sector gyhoeddus.
·
adolygu’r fwydlen mewn
ysgolion er mwyn gweld os all addasiadau gael eu gwneud fydd yn hybu mwy o gynnyrch
Cymreig.
·
Adolygu ein trefniadau
prynu yn barhaus er mwyn rhoi’r cyfle gorau i gyflenwyr lleol gystadlu yn y
farchnad.
7.
Bydd y Cyngor yn
ail-dendro’r Cytundeb Bwyd yn yr Hydref, 2023 a byddwn yn parhau i gefnogi’r
farchnad leol er mwyn annog i gyflenwyr lleol gystadlu ac ennill cytundebau.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Delyth Lloyd
Griffiths
Gofynnaf i’r Aelod Cabinet edrych i mewn i’r
cymal ‘Mae’n rhaid hefyd cydnabod nad yw’n bosib i
ni fynnu bod cynnyrch yn tarddu o Wynedd gan fod hyn yn groes i reoliadau
cyfreithiol cenedlaethol’ a gweld ydi’r rhwystr yna yn rhywbeth y gallwn ni ei oresgyn yn y
dyfodol er mwyn prynu mwy yn lleol.
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna
Jones
Mae rheolau
caffael yn eu lle i sicrhau cystadleuaeth deg a rhydd i bob ymgeisydd. Mae hyn yn golygu na allwn ofyn am gynnyrch o
leoliad penodol na gofyn am frand penodol oherwydd bydd hyn yn cyfyngu cystadleuaeth,
ac o bosib’ yn rhoi mantais annheg i ddarparwyr penodol. Er na allwn fynnu bod cynnyrch yn tarddu o
Wynedd, rydym yn y broses o dreialu trefn gaffael fydd yn gwobrwyo ymdrechion
darparwyr i uchafu’r buddion lleol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
ynghlwm â’r cytundeb i’r ardal leol, ac mi fyddaf yn edrych i mewn mwy iddo.
(2)
Cwestiwn gan y Cynghorydd
Richard Glyn Roberts
Pa drefniadau a wnaed
i baratoi asesiad trylwyr o effaith ieithyddol cynyddu’r Premiwm Treth Gyngor, yn unol â pharagraff 10.5 Polisi
Iaith Gwynedd, ac yn neilltuol yr
effaith ar niferoedd neu ganran siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau?
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y
Cynghorydd Ioan Thomas
Bydd fy nghyd-aelodau’n ymwybodol fod angen
iddynt ystyried yr adroddiad ar y Premiwm Treth Gyngor yn nes ymlaen prynhawn
yma, yn eitem 8 ar raglen y cyfarfod.
Mae’r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i
chi yn ymestyn at 30 o dudalennau, mae’n cynnwys tri atodiad, ac mae dolenni i
nifer o astudiaethau, rhai wedi cael eu cyflawni gan gyrff allanol, a rhai yn
fewnol gan y Cyngor. Mae’r astudiaethau
hyn yn ystyried effaith y Premiwm ar gymunedau lleol, yn ogystal ag effaith ail
gartrefi ac eiddo gwag ar y cymunedau hyn.
Mae yna dystiolaeth glir yn yr adroddiad sydd gerbron fod effaith y
Premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag ar yr iaith wedi cael sylw ar bob cam.
Rydw i’n nodi nad
yw pob un o’r astudiaethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn dod i’r un
casgliad ynglŷn ag effaith gwahanol bolisïau ar yr iaith Gymraeg, ond
rydym yn cymryd sylw o’r risgiau sy’n cael eu hamlygu ynddynt i gyd, yn
arbennig y rhai sy’n ymwneud â’r Iaith Gymraeg.
Nid oes astudiaeth academaidd ar wahân wedi cael ei gomisiynu wrth
baratoi’r adroddiad.
Rwyf yn pwysleisio
fod ystyriaeth o negeseuon yr astudiaethau hyn, a’r risgiau a amlygwyd ynddynt
i'r Gymraeg ac i'n cymunedau, yn rhan allweddol o ystyriaeth y Cabinet i beidio
argymell Premiwm uwch na 150% ar ail gartrefi ar hyn o bryd, er bod y ddeddf yn
caniatáu codi Premiwm uwch.
O’r ymgynghoriad cyhoeddus, barn yr ymatebwyr
oedd na fyddai codi’r Premiwm yn cael effaith ar yr iaith.
Mae gan y Cyngor Gynllun Gweithredu Tai yn ei
le, a bwriad penodol hwn yw cyflwyno mesurau i gryfhau cymunedau Gwynedd a
gwireddu’r Strategaeth Tai. Bydd
cymunedau sefydlog, cynaliadwy law yn llaw â mesurau eraill yn gam yn ein gweledigaeth
i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau.
Mae’r Asesiad
Effaith Cydraddoldeb sy’n cael ei gyflwyno gyda’r adroddiad heddiw yn ein
hatgoffa fod nifer o nodweddion ac agweddau yn ogystal ag effaith
economaidd-gymdeithasol angen eu hystyried wrth ddod at benderfyniad polisi, yn
ogystal â’r effaith ar yr Iaith.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Richard Glyn
Roberts
Ydi’r Aelod Cabinet wir yn credu bod 3
brawddeg mewn adroddiad effaith cydraddoldeb o 15 tudalen yn gyfystyr ag
asesiad effaith ieithyddol?
Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas
Fel rydw i wedi crybwyll o’r blaen, mae yna
nifer o astudiaethau, yn cynnwys yr effaith ar yr iaith.
Dogfennau ategol: