Adroddiad gan Dewi A.Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) a Sian Pugh (Cyfrifydd Grwp).
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r:
·
Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar
gyfer y BUEGC
·
Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl
archwiliad) am 2021/22
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dewi Morgan (Swyddog Cyllid Statudol) ac Yvonne Thomas (Archwilio
Cymru).
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r:
·
Adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer y
BUEGC.
·
Datganiad o Gyfrifon Terfynol y BUEGC (ôl
archwiliad) am 2021/22.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Cyflwynwyd y fersiwn derfynol (ôl-archwiliad)
o’r Datganiad o’r Cyfrifon am 2021/22.
Roedd y prif newidiadau ers y fersiwn cyn archwiliad wedi’u hamlinellu
yn rhan 16 o’r adroddiad ac Atodiad 3 ‘ISA260’ Archwilio Cymru.
Gofynnid i Gadeirydd y Bwrdd, ynghyd â’r
Pennaeth Cyllid, ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth, yn electronig (Atodiad 1 i
adroddiad Archwilio Cymru) wedi i’r BUEGC gymeradwyo’r uchod.
Wedi iddo dderbyn y Llythyr Cynrychiolaeth wedi’i ardystio gan y
Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid, byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru (Adrian
Crompton) yn cyhoeddi’r dystysgrif ar y cyfrifon.
TRAFODAETH
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Nododd y Swyddog Cyllid Statudol:-
·
Bod
paragraff 10 o adroddiad Archwilio Cymru yn nodi eu bod yn bwriadu cyhoeddi
barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni unwaith y byddai’r Bwrdd Uchelgais wedi
rhoi Llythyr Sylwadau i Archwilio Cymru yn seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn
Atodiad 1 i’r adroddiad.
·
Bod
Atodiad 3 i adroddiad yr archwilwyr yn tynnu sylw at un cywiriad a wnaed i’r
cyfrifon yn ystod yr archwiliad, a bod hynny’n fater technegol yn unig yn
ymwneud â phensiynau.
Nododd y Swyddog Cyllid Statudol ymhellach y
dymunai ddiolch i Yvonne Thomas a’r tîm yn Archwilio Cymru am eu gwaith ar yr
archwiliad, ac i Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau)
a’r tîm yn Adran Gyllid Cyngor Gwynedd am eu gwaith yn paratoi’r Datganiad o
Gyfrifon.
Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru),
i’r cyfarfod, ac fe’i gwahoddwyd i ddweud gair:-
Nododd Yvonne Thomas ei bod yn falch o ddweud
bod Archwilio Cymru o’r farn bod y cyfrifon yn ddarlun gwir a theg o sefyllfa
ariannol y Bwrdd Uchelgais ar gyfer y flwyddyn ariannol. Tynnodd sylw at ambell bwynt yn yr adroddiad,
sef:-
·
Nad
oedd archwilwyr byth yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan
yn gywir. Yn lle hynny, pennid lefel o
berthnasedd i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a allai, fel arall, beri
i’r sawl sy’n defnyddio’r cyfrifon gael ei gamarwain, ac ar gyfer archwiliad
eleni, pennwyd lefel perthnasedd o £57,000.
·
Nad
oedd yr archwiliad wedi’i gwblhau ar adeg drafftio’r adroddiad, ond y gellid
cadarnhau erbyn hyn bod yr archwiliad wedi’i gwblhau ac nad oedd yna unrhyw
faterion ychwanegol wedi eu codi.
·
Bod
yr adroddiad yn sôn am effaith Covid ar archwiliad eleni o ran yr amserlen a’r
dull archwilio, ac o ystyried gweithio o bell parhaus, bwriedid defnyddio
llofnodion electronig ar gyfer cymeradwyo ac ardystio cyfrifon eleni.
·
O
ran materion arwyddocaol sy’n codi o’r Archwiliad, ei bod yn bleser adrodd mai
man wallau naratif a chyflwyniadol yn unig oedd yn codi o’r archwiliad, ac roedd
y ffaith bod cyn lleied o faterion wedi codi yn neges bositif ac yn
adlewyrchu’n dda ar y trefniadaeth sydd mewn lle ar gyfer paratoi’r cyfrifon.
·
Y
dymunai ddiolch i Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp - Corfforaethol a Phrosiectau)
a’r tîm am eu cymorth i gwblhau’r archwiliad.
·
Bod
yr un cywiriad a wnaed i’r cyfrifon yn welliant cyflwyniadol yn unig, ac na
chafodd unrhyw effaith arall ar y datganiadau ariannol.
Nododd y Cadeirydd fod yr adroddiad yn un
positif oedd yn cadarnhau bod gennym dîm effeithiol o fewn Adran Gyllid Cyngor
Gwynedd.
Dogfennau ategol: