Adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau)
Penderfyniad:
1. Nodi
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i
diweddaru.
2.
Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad
Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â
phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
Cofnod:
Cyflwynodd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) drosolwg o uchafbwyntiau’r adroddiad, a
manylodd y Rheolwyr Rhaglen ar y diweddariadau rhaglen, fel a ganlyn:-
·
Ynni
Carbon Isel - Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni);
·
Digidol
– Stuart Whitfield (Rheolwr Rhaglen Digidol);
·
Tir
ac Eiddo - David Matthews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo);
·
Bwyd-Amaeth
a Thwristiaeth ac Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel – Robyn Lovelock
(Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).
Yna cyflwynodd
Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) dabl yn tracio’r gwaith o gyflawni
prosiectau a chyflwynodd Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) drosolwg o’r prif
risgiau.
PENDERFYNIAD
1.
Nodi
Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i
diweddaru.
2.
Cymeradwyo
cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae
adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion
Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn
dilyn ystyriaeth gan y BUEGC, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth
Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
TRAFODAETH
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Gan gyfeirio at
Gytundeb Menter ar y Cyd Parc Bryn Cegin, Bangor (Rhaglen Tir ac Eiddo),
gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod y trafodaethau
wedi cyrraedd y cam lle’r mae’r risgiau ariannol i’r Bwrdd wedi’u capio. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen, er na
ellid cadarnhau nad oes cynnydd mewn costau, na fyddai’r Bwrdd yn gwario
uwchlaw’r swm yr oedd wedi’i ddynodi ar gyfer y cynllun, a phetai’r gost yn
llai na’r swm a ddynodwyd, yna byddai gan y Bwrdd yr hawl i ail-ddefnyddio’r
arian ar gyfer prosiect gwahanol o fewn y Cynllun Twf.
Gan gyfeirio at y
Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter (Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu
Gwerth Uchel), gofynnwyd am eglurhad o’r sylw a wnaed yn ystod y cyflwyniad bod
amcangyfrif 30-40% o gynnydd yng nghostau sefydlu’r ganolfan. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Rhaglen fod yna
ddau fwlch ariannu, un o fewn y Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth a’r llall o
fewn y Rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel. O ran bwlch ariannu costau prosiect
Canolbwynt Economi Gwledig Glynllifon, nodwyd bod y tîm yng Ngrŵp
Llandrillo Menai yn edrych ar dri opsiwn ar hyn o bryd, sef:-
·
Lleihau
sgôp y prosiect
·
Ceisio
sicrhau arian ychwanegol ar gyfer y prosiect
·
Tynnu’r
prosiect yn ôl.
O ran bwlch
ariannu costau sefydlu’r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, nodwyd bod y tîm
ym Mhrifysgol Glyndŵr yn datblygu opsiynau hefyd. Nid oedd yn glir eto beth yn union fyddai’r
opsiynau hynny, ond gofynnwyd iddynt gyflawni ymarferiad tebyg i un Grŵp
Llandrillo Menai, gan edrych ar newid sgôp y prosiect ac ystyried unrhyw gamau
lliniaru eraill posib’ ar gyfer rheoli’r bwlch.
Nodwyd eu bod hefyd yn edrych ar newidiadau i amseriad y prosiect.
Nododd
cynrychiolydd Prifysgol Glyndŵr ei bod yn anorfod y byddai yna oedi
sylweddol gyda phrosiect y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter, ond y dymunai
gadw meddwl agored o ran y posibilrwydd o gyflwyno’r achos busnes llawn i’r
Bwrdd i’w ystyried rywle rhwng y dyddiad a ragwelwyd yn wreiddiol, sef Mawrth
2023, a’r dyddiad sy’n cael ei nodi ar hyn o bryd, sef Medi 2023.
Nododd y Cadeirydd
y byddai hynny’n newydd i’w groesawu.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag amseru prosiectau yn gyffredinol, nododd y Cyfarwyddwr
Portffolio y croesawid pob cyfle i ddod â phenderfyniadau i sylw’r Bwrdd yn
gynt, sy’n golygu osgoi cynnydd di-angen mewn costau yn yr hinsawdd sydd
ohoni. O ran y prosiect penodol dan
sylw, credid ei bod o fewn rheolaeth Prifysgol Glyndŵr i ddod â’r achos
busnes ymlaen, a chadarnhawyd y byddai Swyddfa Rheoli’r Portffolio, y Rheolwr
Rhaglen Cynllun Twf a’r tîm yn gwneud popeth i hwyluso hynny petai’r achos
busnes yn barod i’w gymeradwyo.
Nododd
cynrychiolydd Grŵp Llandrillo Menai, tra’n derbyn bod posib’ parhau i roi’r
cynlluniau busnes at ei gilydd, ei bod yn anodd cyfiawnhau'r egni a’r gost o
wneud hynny os nad yw’r pecyn cyllidol yn ei le. Ychwanegodd ei fod yn falch o’r gwaith oedd
wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf, yn benodol gyda’r Rheolwr Rhaglen Cynllun
Twf a’r tîm yn nhermau ceisio dod at opsiynau, ond yr hoffai feddwl y gellid
dod â phapur yn fuan i’r Bwrdd, gan y byddai hynny yn ei dro yn arwain at godi
egni mawr i symud ymlaen i’r camau nesaf.
Gan gyfeirio at y
gofrestr risg, nodwyd:-
·
Y
deellid pam bod dwy o’r risgiau, sef Adfer yr Economi a Chytundeb Gweithredu a
Masnach yr UE / y DU wedi cau. Roedd
risgiau yn anorfod, ond gellid bod yn ffyddiog bod gan y Bwrdd y gallu a’r set
sgiliau i reoli’r risgiau hynny a symud y cynlluniau yn eu blaenau.
·
Nad
oedd y risgiau yn cael eu dileu mewn gwirionedd, ond yn hytrach yn cael eu
disodli gan risgiau mwy yn anffodus.
Dogfennau ategol: