·
Network
Rail
·
Trafnidiaeth Cymru
·
Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
Cofnod:
NETWORK RAIL
Croesawyd Richard Griffiths (Pennaeth Cyfathrebu Network
Rail ar gyfer Cymru a'r Gorllewin) a Sara Crombie
(Rheolwr Cyfathrebu Network Rail)
i’r cyfarfod
Diweddariad ar uwchraddio
traphont Abermaw
Cyflwynwyd lluniau a ffeithiau allweddol ar waith a gwblhawyd ar y
draphont hyd yma. Nodwyd bod y gwaith wedi bod yn heriol ac yn ffisegol anodd
i’r gweithwyr oherwydd amodau gwaith yn ymwneud a’r tywydd a bod y bont hefyd
mewn cyflwr llawer gwaeth nag a ystyriwyd ar y dechrau. Adroddwyd mai’r bwriad
gwreiddiol oedd cau'r draphont am un cyfnod rhwng Medi a Rhagfyr 2022, ond i
leihau'r effaith ar wasanaethau rheilffyrdd, y gymuned a'r economi leol
penderfynwyd cau’r lein am ddau gyfnod byrrach fel bod modd ailagor y
rheilffordd ar gyfer hanner tymor yr ysgol a chyfnod y Nadolig.
Caewyd y rheilffordd rhwng Machynlleth a Pwllheli am bum wythnos o nos
Sul, 11 Medi tan ddydd Sadwrn, 15 Hydref gan ailagor am bedair wythnos i gynnwys hanner tymor. Yr ail gyfnod cau oedd
o nos Sul, 13 Tachwedd gyda bwriad o ailagor dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr ar gyfer
cyfnod y Nadolig. Ategwyd nad oedd dyddiau gweithio ar y draphont yn ystod 2023
wedi eu cadarnhau.
Diweddariad ar draphont
Aberdyfi, Y Bwthyn a Leri
Yn ogystal â'r gwaith yn Abermaw, adroddwyd bod gwaith atgyweirio hefyd
yn cael ei wneud i Draphontydd Dyfi, Leri a’r Bwthyn. Adroddwyd bod cyflwr
gwael i draphont Aberdyfi – angen adnewyddu’r strwythur yn llawn. Cyflwynwyd
lluniau i arddangos cyflwr y pren a’r gwaith dur.
Ategwyd bod gwaith adnewyddu trac yn cael ei gwblhau yn Nhywyn, a bod Network Rail yn cymryd pob
mantais posib o wneud gwaith cynnal a chadw tra bod y rheilffordd wedi cau.
Nodwyd bod gwaith ar gyfer 2023 yn cael ei drefnu ar y cyd gyda Trafnidiaeth Cymru a’r Gwasanaeth Cludo
Nwyddau.
Diolchwyd am y diweddariad. Nododd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn
gwerthfawrogi’r buddsoddiad.
Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth:
·
Bod y gwaith adnewyddu traciau yn
Nhywyn yn dod yn ei flaen yn dda
·
Bod problemau gyda thrafnidiaeth
i’r ysgolion yn ystod y cyfnod cau wedi ei datrys
·
Diolch i gydweithio da rhwng
asiantaethau ar gael gosod pont newydd dros y rheilffordd yn Aberdyfi
·
Da gweld arian yn cael ei
fuddsoddi a gwaith yn cael ei gwblhau ar hyd y rheilffordd.
·
Diolch i’r swyddogion lleol am eu
gwaith o godi ymwybyddiaeth at ddiogelwch y rheilffordd
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chroesfan rheilffordd Harlech ac a
fu unrhyw ostyngiad mewn tresmasu ers yr ymgyrch a gynhaliwyd yn gynharach yn y
flwyddyn, nodwyd nad oedd asesiadau risg wedi ei wneud ar groesfannau penodol
ond bod ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi ei wneud gyda’r cyhoedd ac mewn
ysgolion. Nodwyd y byddai modd cyfeirio gwybodaeth am ddiogelwch Croesfan
Harlech yn uniongyrchol at y Cynghorydd Owen.
TRAFNIDIAETH CYMRU
Croesawyd Gail Jones, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno
diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru.
Amlygwyd bod y gwaith o osod diffibrilwyr
achub bywyd yng ngorsafoedd rheilffordd Trafnidiaeth Cymru wedi ei gwblhau a
bod rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gydag ysgolion wedi ei
drefnu.
Sylwadau a materion eraill a godwyd yn ystod y drafodaeth:
·
Gyda’r rheilffordd wedi cau, y
bysus cludo plant i’r coleg ym Mhwllheli yn cyrraedd
yn hwyr
·
Siomedig nad yw llythyrau / e-byst
yn cael eu cydnabod gan swyddogion Trafnidiaeth Cymru – hyn yn gwneud gwaith
ymateb i gwynion / sylwadau etholwyr yn anodd
·
Cwynion bod gyrwyr y bysus sydd
wedi cymryd lle'r trenau yn anghwrtais gyda theithwyr
·
Cwynion bod y bysus yn pasio
teithwyr heb stopio
·
Amseroedd y bws T2 wedi eu haddasu
ac nid ydynt bellach yn cyd-fynd gydag amseroedd y trenau. Nid yw’r Bws T2
bellach yn stopio yng ngorsaf Rheilffordd Porthmadog.
·
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
a gweld ymateb Network Rail
a Trafnidiaeth Cymru i ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru ar Lifogydd a Newid
yr Hinsawdd (gan ystyried ardal Pwllheli yn benodol oherwydd bod rhannau o’r
arfordir yn fregus ac ystyriaeth pryderon tymor hir), nododd y swyddogion y
byddent yn holi eu sefydliadau ac yn ymateb yn uniongyrchol i’r Cynghorodd
Richard Glyn Roberts
HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG
Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn bresennol i
gyflwyno adroddiad. Amlygwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan Yr Arolygydd
Karl Anderson ac er bod swyddog arall wedi ei apwyntio, gadawodd ar ôl 4
wythnos. Maent bellach yn y broses o hyfforddi swyddog arall. Amlygwyd siom nad
oedd cynrychiolydd o’r Heddlu yn bresennol.
Diolchwyd am y diweddariadau