I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd
Cofnod:
Cyngor Tref Abermaw
Cwestiwn:
“Bydd y trenau newydd yn lleihau capasiti a
nifer y toiledau. Dywedodd Trafnidiaeth Cymru wrthym i ddechrau y byddem yn
cael trenau 3 cherbyd a fyddai’n cynyddu capasiti.
Ymddengys erbyn hyn mai dim ond 2 gerbyd fydd ar y trenau newydd gyda chapasiti llai ar lein sydd eisoes yn brysur iawn ac yn
orlawn yn y prif dymor. A all Trafnidiaeth Cymru gadarnhau mai 3 cherbyd fydd
ar y trenau newydd?”
Ateb:
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio 3 cherbyd yn ôl yr angen. Nododd GJ
nad oedd wedi cael gwybod am unrhyw beth gwahanol, ond wedi anfon e-bost i
wirio hyn.
Cwestiwn:
Nid yw'r drysau mynediad o'r swyddfa docynnau a'r lle aros i'r platfform
yn agor yn awtomatig mwyach. Adroddwyd am hyn 3 blynedd yn ôl a sawl gwaith ers
hynny ac nid oes dim wedi'i wneud i'w drwsio. Mae hyn yn gwneud mynediad i'r
platfform yn anodd oherwydd yn y gaeaf nid yw'n bosibl gadael y drysau ar agor.
Mae'n gwneud i aros yn yr ardal dan do yn amhosibl - gwell gan lawer o
ddefnyddwyr hŷn y rheilffordd eistedd dan do wrth aros i'r trên gyrraedd.
Os yw'r drysau ar agor yn barhaol mae'r man aros a'r swyddfa docynnau yn mynd
yn oer iawn, ac ar ddiwrnodau gwyntog mae'r holl wybodaeth yn chwythu o gwmpas
Allwch chi roi gwybod i ni pryd fydd y drysau'n cael eu trwsio?
Ateb:
Cais wedi ei wneud am archwiliad cynnal a chadw i atgyweirio’r drws ond
os na ellid ei drwsio bydd rhaid cael drws newydd.
A fydd biniau newydd ar y platfform (tua'r Gogledd) yn cael eu newid?
Mae'r biniau ar y platfform tua'r De yn fach ac mae'r un ger y brif fynedfa
wedi'i symud. Oes modd edrych ar fwy o finiau?
Sylw wedi ei dderbyn
Cyngor
Cymuned Llanbedr
Cwestiwn:
Deallwn bydd Gorsaf Talwrn Bach yn cael ei
uwchraddio yn y gwanwyn, be yn union fydd y gwelliannau yma.?
Cais am fanylion / syniadau o’r hyn
sydd ei angen
mewn perthynas ag uwchraddio'r orsaf
Cwestiwn
Pryd fydd y trenau newydd ar
waith?
Ateb
Bydd y trenau newydd ar waith yn 2023
Cwestiwn
A oes yna unrhyw adborth
am waith y gwirfoddolwyr sydd wedi mabwysiadu'r
orsaf yma yn Llanbedr? Mae sawl archwiliad wedi ei gynnal hyd
yma.
Ateb:
Derbyniwyd diweddariad gan Rheilffyrdd Cymunedol
Bod mabwysiadwyr yr orsaf yn ymwybodol bod
cyllid ar gael i osod cyfarwyddiadau o waith celf yn yr orsaf. Ar hyn o bryd mae cyllideb i
argraffu unrhyw ddyluniad ac os gellid darparu'r gwaith celf ynghyd â manylion
y cyflenwr, gall yr anfoneb gael ei thalu. Ategwyd bod rheolwr yr orsaf wedi
cytuno i adfywio’r lloches bresennol gyda chefnogaeth ei dîm yn y gwanwyn.
Bydd cynhadledd gwirfoddolwyr y Cambrian yn
cael ei gynnal ym mis Chwefror 2023 (dyddiad a lleoliad i’w cadarnhau).
Cyswllt: Sian.jones@tfw.rail ar
gael i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau ynghylch mabwysiadu gorsaf.
Cynghorydd (Tref) Trevor
Roberts
Cwestiwn:
Pam na
chafodd amserlenni gwasanaeth y rheilffordd eu postio ar
y gorsafoedd yn ystod cyfnod cau
Traphont Abermaw ac a fydd hyn yn cael
ei gywiro pan fydd y draphont ar gau eto
ymhen wythnos?
Ateb:
Adroddwyd bod y posteri i fyny yn
ystod y cyfnod cau diwethaf. Wedi
trafod gyda’r rheolwr llinell, Dave Crunkhorn, dywed bod y posteri sydd ar y gorsafoedd
ar hyn o bryd yn cael
eu newid ar y 19eg o Dachwedd i adlewyrchu'r newidiadau ac amseroedd newydd y trenau.
Cwestiwn:
A all Network Rail hysbysu’r cyfarfod pan fydd y math newydd o oleuadau rhybuddio bach yn cael
eu gosod ar lwybr troed
a elwir yn
lleol fel ‘Waynes Footpath’ sydd i’r gogledd o’r
Abermaw. Nodwyd bod y golau
croesi wedi’i osod ar 2 groesfan
1 filltir ymhellach i’r gogledd, ond
bod croesfan Wayne yn cludo mwy o gerddwyr
na’r ddwy groesfan arall gan mai dyma’r
unig groesfan sydd yn croesi
o’r brif stad o dai (ardal
Heol y Llan) i ganol y dref
ac i’r feddygfa. Mae trigolion hŷn sy'n byw mewn
tai gwarchod ar ochr ddwyreiniol y groesfan, angen defnyddio'r groesfan i'r promenâd a'r
traeth.
Ateb:
Cynhaliwyd yr asesiad risg diwethaf ym
mis Mai 2021 ac yn seiliedig
ar y sgôr risg gyfredol, bydd yr un nesaf yn cael ei
gynnal ym mis Awst 2023. Nodwyd bod pob croesffordd yn risg, ond
ategwyd y gellid cyfeirio’r pryder i’r swyddogion perthnasol a cheisio cynnal asesiad risg cyn Awst
2023 gan wahodd y Cynghorodd Trevor Roberts i’r ymweliad safle.
Cwestiwn:
Mae trigolion
yn pryderu am gyflwr yr arglawdd rheilffordd i'r gogledd o dwnnel rheilffordd yn Abermaw lle mae'n ymddangos
bod coed a llwyni yn tyfu'n wyllt ar
ddwy ochr y trac. A yw Network Rail yn gwneud gwaith
cynnal a chadw rheolaidd yn y maes hwn?
Ateb:
Gyda’r rheilffordd wedi cau, bydd
modd ymweld â’r safle yn
yr wythnosau nesaf.
Diolchwyd am y cwestiynau
Tynnwyd sylw at Ymgynghoriad Rheilffordd Gorllewin Canolbarth Lloegr. Er bod llawer o fuddsoddiadau
arfaethedig cadarnhaol yn cael eu cynnig yn yr ymgynghoriad, ymddengys bod
bwriad, o 2040, i beidio â
chaniatáu i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru i fynd tu hwnt i Birmingham New Street (gorsaf reilffordd ganolog Birmingham). Nid yw hyn
yn ystyriaeth dderbyniol oherwydd ar hyn o bryd mae gan Canolbarth Cymru a
Gogledd Cymru wasanaeth i ‘Birmingham International’ lle mae'r Ganolfan
Arddangos Genedlaethol; y Maes Awyr, a chyswllt gyda Llundain (yr HS2). Mae'r
cysylltiadau hyn yn bwysig i dwristiaeth a busnesau, ac ni fydd unrhyw newidiadau
i'r gwasanaeth presennol yn cael eu cefnogi. Anogwyd Aelodau i ymateb i’r
ymgynghoriad
Dogfennau ategol: