Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad a nodi
y gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith sy'n cael
eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNIAD
Derbyn yr
adroddiad a nodi'r gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith
sy'n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gogledd Cymru.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod hon yn adroddiad Blynyddol
ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Esboniwyd fod yr
adroddiad yn amlygu gwaith y bwrdd ar gyfer 2021/22 ac wedi ei lunio
a’i ysgrifennu i fodloni canllawiau’r Llywodraeth. Eglurwyd fod y bwrdd wedi ei
sefydlu yn ôl yn 2014, er mwyn cydymffurfio a rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015.
Tynnodd y
Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol sylw at y prif bwyntiau a’r gwaith allweddol
sydd yn cael ei wneud yn y rhanbarth. Eglurwyd mai rôl y Bwrdd yw i ddod a phartneriaid
at ei gilydd er mwyn integreiddio gwasanaethau pan yn bosib. Mynegwyd fod y
system lywodraethu yn un gymhleth ond mai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r
prif fwrdd ac mae’n gyfrifol am rhoi cyfeiriad clir i weithio mewn partneriaeth
ar draws y rhanbarth ynghyd a sicrhau fod gwaith yn cael ei gyflawni. Esboniwyd
fod y bwrdd yn adrodd i Fwrdd Arweinwyr y Gogledd.
Amlygwyd fod 2
brif raglen i’w gweld yn gan y Bwrdd yn 2021/22 sef Cronfa Gofal Integredig a
Rhaglen Trawsnewid. Eglurwyd fod y gronfa Gofal Integredig wedi ei sefydlu yn
ôl yn 2014, ac wedi galluogi’r rhanbarth i weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo
pobl hyn ag anghenion cymhleth, plant ag anghenion cymhleth, gofalwyr a phlant
mewn gofal neu mewn peryg o fynd i ofal. Nodwyd fod y rhaglen Trawsnewid wedi
ei sefydlu yn Ebrill 2018 gyda’r pwrpas o wella gwasanaethau a oedd i gychwyn
yn gynllun 3 blynedd, ond y bu iddo ymestyn o ganlyniad i’r pandemig.
Esboniwyd fod
y ddwy raglen wedi dod i ben yn 2021/22 ac fod rhaglen newydd bellach ers
Ebrill 2022, sef Cronfa Integreiddio
Rhanbarthol. O ganlyniad mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o waith y ddwy brif raglen
ynghyd a prif bwyntiau a godwyd o’r gwerthusiad a oedd yn
cynnwys y cyfleoedd i ddatblygu cynlluniau a gwella perthynas rhwng partneriaid.
Mynegwyd fod arian wedi bod yn broblem gan fod y gyllideb wedi bod am flwyddyn
unig ac felly yn ei gwneud yn anodd i gynllunio ymhellach.
Mynegwyd fod y
tîm wedi bod yn gweithio yn ogystal ar greu Asesiad Anghenion Poblogaeth a oedd
yn cynorthwyo’r rhanbarth i ddatblygu blaenoriaethau ac i awdurdodau lleol allu
cynllunio yn lleol. Nodwyd i’r dyfodol fod y Pwyllgor yn awyddus i adeiladu ar waith
eleni ac i gynllunio ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf.
Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad hwn yn
edrych yn benodol ar ddiwedd cyfnod Morwena Edwards yn ei swydd. Nodwyd fod yr
adroddiad yn amlygu ei fod yn faes llawer ehangach na gofal yn unig gydag
elfennau i’w gweld yn y maes Tai ac
Addysg. Amlygwyd fod dylanwad y Bwrdd yn holl bwysig wrth symud ymlaen.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd balchder o wedi buddsoddiad am
gyfnod mwy ‘na blwyddyn fel bod modd i’r Bwrdd gynllunio i amserlen realistig i
drawsnewid gwasanaethau.
Awdur:Dylan Owen
Dogfennau ategol: