Cais ar gyfer estyniad i weithfeydd cloddio llechi
AELOD LLEOL:
Cynghorydd Beca Roberts
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag
amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:
Cofnod:
Cais ar gyfer estyniad i weithfeydd cloddio llechi
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais ydoedd am
estyniad ochrol i ardal weithio Chwarel y Penrhyn. Eglurwyd bod y chwarel
wedi'i lleoli i'r de o dref Bethesda gyda mynediad i geir ar hyd lôn breifat
sy'n arwain o'r B4409, ffordd gyhoeddus Dosbarth 2, ym Mhont y Tŵr; bod
safle'r cais wedi'i leoli yn union gerllaw cornel dde-orllewinol wyneb y graig
bresennol ac oddi mewn i ffin caniatâd cynllunio presennol am estyniad ochrol
(cyfeirnod C12/0874/16/MW) ac Adolygiad o Hen Ganiatadau
Mwynau dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (ROMP) (caniatâd rhif C16/1164/16/MW) ar
gyfer y chwarel gyfan a gymeradwywyd yn 2017.
Nodwyd y
byddai'r estyniad arfaethedig yn cynnwys tua 1.6ha o dir, gyda safle'r cais yn
cynnwys cyfanswm o 2.26ha (fyddai hefyd yn cynnwys cadw'r ffiniau a'r ffrwd yn
y de-ddwyrain). Bwriedir gweithio'r ardal gloddio estynedig yn yr un dull â'r
gweithfeydd presennol a gytunwyd o dan ROMP 2017 a chais C12/0874/16/MW gan
gynnwys tipio gwastraff, pentyrru, cynhyrchu llechi to ac ati.
Daw'r angen
am yr estyniad o ganlyniad i ddeic ddolerit fertigol sy'n croesi wyneb
de-orllewin y graig bresennol. Mae llechi sydd o fewn 25m i'r deic hwn wedi
torri'n ddifrifol fel nad oes modd cael unrhyw ddeunydd i'w weithio ohonynt,
sy'n golygu colli tua 1.11 miliwn tunnell o'r llechen orau. Byddai'r
estyniad arfaethedig yn rhyddhau tua 250,000 o dunelli o lechi toi piws ac 1.9
miliwn tunnell o lechi coch/glas addurniadol, gan felly sicrhau nad oes unrhyw
ddiffyg yn y mwyn wrth gefn presennol, a chan hefyd gynnal y banc tir yn unol â
gofynion Polisi Strategol 22: Mwynau a MWYN 3 o'r CDLl
ar y Cyd.
Yng
nghyd-destun mwynderau gweledol a’r dirwedd, nodwyd bod yr ardal sy'n union o
amgylch y safle yn cynnwys nifer o ddynodiadau tir sensitif, megis: Parc
Cenedlaethol Eryri, Safle Treftadaeth y Byd Ardal y Llechi, Tirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Ogwen (LOHI), Ardal Tirwedd Arbennig
(ATA) Ymylon Gogledd-orllewin Eryri. Ymhellach draw mae Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn, Parciau a Gerddi Hanesyddol Y Faenol a
Chastell Penrhyn, ATA Menai a Mynydd Bangor a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol
Eithriadol Dinorwig - mae'r rhain oll wedi'u hadnabod o fewn yr Asesiad o'r
Effaith ar y Dirwedd a'r Effaith Weledol.
O ystyried
graddfa'r datblygiad, mae'n debygol y byddai'n anodd gwahaniaethu safle'r
estyniad oddi wrth yr ardal gloddio a gweithio presennol yn y chwarel o fannau
ymhellach draw. Mae'r LVIA yn casglu y bydd unrhyw effeithiau amlwg ar y
dirwedd wedi'u cyfyngu i ardaloedd sy'n union gerllaw'r safle, yn benodol Gwaun
Gynfi ac Elidir Fach.
Mae strategaeth adfer bresennol ar gyfer y safle cyfan yn amod yn y ROMP
(C16/1164/16/MW) a bwriedir ymgorffori'r gwaith adfer ar gyfer yr estyniad
arfaethedig yn y cynllun ehangach. Er
bod cynllun adfer yn bodoli ar gyfer y safle, roedd CNC wedi nodi y byddent yn
argymell cyflwyno cynllun adfer manwl cyn diwedd y gwaith chwarela. Mae'r ACM yn ystyried bod hwn yn ychwanegiad rhesymol i'r cais (ynghyd â
chais C22/0327/16/AC), ac y byddai'n sicrhau bod y safle cyfan yn cael ei adfer
yn y modd mwyaf effeithiol. Gan hynny, ni
ystyriwyd y byddai'r bwriad yn effeithio’n sylweddol ar gymeriad tirwedd yr
ardal o ystyried pa mor agos yw’r bwriad at y gweithfeydd chwarel presennol a
hanesyddol a’r dirwedd y mae wedi'i leoli ynddi. Y bwriad felly yn cydymffurfio
â gofynion polisïau cynllunio PCYFF 3, PCYFF 4 a MWYN 9 y CDLl
ar y Cyd.
Yng nghyd-destun sŵn a tirgryniad
mesurwyd y sŵn posib o’r gwaith arfaethedig yn erbyn amodau sŵn y caniatâd
cynllunio presennol. Ystyriwyd bod modd rheoli’r sefyllfa yn effeithiol drwy
fesurau lliniaru ac amodau priodol. Ategwyd y bydd amod yn mynnu bod y
datblygwr yn parhau â'r drefn gyfredol o fonitro llwch a chyflwr yr atmosffer,
gweithredu camau lliniaru i gadw llwch i lawr, a chadw log o gwynion am lwch.
Gyda'r amod hwn ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio â'r polisïau perthnasol
- MWYN 3 a PCYFF 2 y CDLl.
Yng nghyd destun materion traffig, hawliau tramwy cyhoeddus a thir
comin, adroddwyd nad oedd y cynnig yn cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV
o’r safle ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan Uned Drafnidiaeth y Cyngor (er
bod sylwadau ar chwaer gais C22/0327/16/AC wedi eu cyflwyno yn nodi dim gwrthwynebiad
gan na fydd unrhyw gynnydd arfaethedig mewn symudiadau traffig o’r safle).
Wrth drafod
materion hydroleg a hydroddaeareg, tynnwyd sylw at y ffrwd rwystro a gafodd ei
gweithredu fel rhan o’r estyniad cyfredol. Eglurwyd bod y ffrwd yn rhedeg ar
hyd ffin gwagle'r chwarel a ffin yr estyniad arfaethedig, gan ddal dŵr
wyneb a'i ailgyfeirio i wlypdir a mawnog Gwaun Gynfi.
Mae hyn yn gwneud yn iawn am y golled flaenorol o ddalgylch hydroddaeareg o
geisiadau cynt am estyniad, ac yn cynnal ffynhonnell o ddŵr i'r gwlypdir.
Daethpwyd i'r casgliad nad oedd unrhyw effaith uwch ar nodweddion hydroddaeareg
o'r estyniad arfaethedig law yn llaw â'r gwaith chwarela presennol, cyn belled
ag y gweithredir mesurau lliniaru a monitro fel yr argymhellwyd.
Ymgynghorwyd ag Uned Bioamrywiaeth yr Awdurdod Lleol a chadarnhawyd
ganddynt nad oes unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad a'u bod yn cytuno gyda'r
mesurau lliniaru a argymhellwyd a chynnwys amodau priodol.
Yng nghyd destun materion archaeoleg a threftadaeth diwylliannol
cyfeiriwyd at gorlan ddefaid gellog ôl-ganoloesol o fewn ardal yr estyniad
arfaethedig a bod rhaglen o gofnodi a dymchwel dan reolaeth yn cael ei chynnal
cyn datblygu'r estyniad. Yn ychwanegol nodwyd bod CADW a Gwasanaeth Cynllunio
Archaeoleg Gwynedd wedi cadarnhau nad oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i'r
gwaith arfaethedig a’u bod yn cydsynio â chrynodeb y bennod ar Dreftadaeth
Ddiwylliannol yn y Datganiad Amgylcheddol. Daw'r bennod i gasgliad na fyddai'r
cynigion yn cael unrhyw effaith ar ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd nac ar ei
Werth Cyffredinol Eithriadol a bydd yn cael effaith weledol anuniongyrchol
bychan neu fychan iawn ar yr Ardal Dirwedd Hanesyddol.
Adroddwyd bod Adran 1 (a) polisi strategol PS 1 'Yr Iaith Gymraeg a'r
Diwylliant Cymreig' yn nodi y bydd angen darparu Datganiad Iaith Gymraeg gyda
chynnig am 'Ddatblygiad manwerthu, diwydiannol neu fasnachol sy’n cyflogi mwy
na 50 o weithwyr a/ neu gydag arwynebedd o 1,000 m.sg. neu fwy. Mewn ymateb i'r
angen hwn, darparwyd datganiad iaith gan yr ymgeisydd a ddaeth i'r casgliad fod
gan y chwarel weithlu sydd wedi'i hen sefydlu gyda nifer sylweddol yn gallu
siarad neu'n meddu ar sgiliau Iaith Gymraeg. Gan mai bwriad yr estyniad
arfaethedig yw helpu i gynnal gweithrediadau'r chwarel, mae'n annhebygol y bydd
y cwmni angen cyflogi mwy o weithwyr a bydd yn cynnal y gweithlu presennol.
Ystyriwyd fod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau
ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac argymhellwyd y dylid cymeradwyo'r cais
cynllunio gydag amodau priodol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y sylwadau
canlynol:
·
Ei fod yn diolch am y cyfle i egluro’r angen am estyniad
·
Bod yr estyniad yn ymateb i effaith anomali daearegol fyddai’n caniatáu i’r cwmni gyrraedd at
gynnyrch addas
·
Bod llechi Cymru yn unigryw
·
Byddai caniatáu estyniad yn arwain at ostyngiad yn y rhestr aros am
ddeunydd
·
Bod y cwmni wedi hen sefydlu
·
Byddai’r estyniad yn sicrhau gwaith i
115 hyd 2035
c) Nododd y Cadeirydd fod y Cyng Beca Roberts (Aelod Lleol) wedi nodi mewn e-bost
ei bod o blaid y cynnig
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod y chwarel yn bwysig i’r economi leol
·
Yn gwarchod swyddi yn yr ardal
PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran
Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:
1. Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2035 a'r
cyfnod adfer hyd at 31/12/2037 i gyd-fynd â thelerau'r prif ganiatâd cynllunio.
2. Gweithgareddau a ganiateir a
chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd.
3. Marcio ffin y safle ac ardaloedd cloddio
am fwynau.
4. Tynnu yn ôl hawliau Rhannau 19 a 21 y
Gorchymyn Hawliau a Ganiateir ar gyfer offer neu beiriannau sefydlog, adeiladau
a strwythurau a gwastraff mwynau.
5. Oriau Gweithio.
6. Dull gweithio a chyfyngiadau ffrwydro;
7. Cynllun Adfer Manwl
8. Rheoli goleuo allanol.
9. Rheoli cyfyngiadau sŵn ar gyfer y
dydd a’r nos.
10. Rheoli llwch a ryddheir.
11. Adolygiad bob pum mlynedd o’r
gweithrediadau.
12. Rheoli priddoedd a storio cyfryngau
adfer.
13. Rheoli stripio pridd a chlirio
llystyfiant.
14. Diweddaru cynllun tipio a gwastraff
(llechi, priddoedd ac ati).
15. Cynllun monitro hirdymor ar gyfer y
ffrwd.
16. Gwarchod adar sy'n nythu.
17. Cynllun rheoli cen.
18. Mesurau diogelu ymlusgiaid.
19. Atal da byw rhag cael mynediad i ardaloedd
sydd wedi'u hadfer.
20. Monitro rhywogaethau ymledol.
21. Cynllun adfer manwl o leiaf 12 mis cyn
i'r gweithrediadau ddirwyn i ben.
22. Cofnodi a lliniaru archeolegol
Dogfennau ategol: