Cais o dan Adran
73 i amrywio amod 1 a 3 ar ganiatâd cynllunio C16/1164/16/MW (Cais o dan Ddeddf
yr Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol) er mwyn
ymestyn yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 2035, ymestyn amser
ar gyfer adfer y safle hyd at 2037 a diwygio cynlluniau er mwyn cynnwys
estyniad i'r ardal cloddio
AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag
amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:
Cofnod:
Breedon, Chwarel Penrhyn,
Bethesda, Bangor, Gwynedd, LL57 4YG
Cais o dan Adran 73
i amrywio amod 1 a 3 ar ganiatâd cynllunio C16/1164/16/MW (Cais o dan Ddeddf yr
Amgylchedd 1995 i benderfynu ar amodau dan adolygiad cyfnodol) er mwyn ymestyn
yr amser ar gyfer cloddio a gweithio deunydd hyd at 2035, ymestyn amser ar gyfer
adfer y safle hyd at 2037 a diwygio cynlluniau er mwyn cynnwys estyniad i'r
ardal cloddio
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau mai cais
ydoedd dan Adran 73 Deddf Cynllunio 1990 i amrywio amodau 1 a 3 ar gais
cynllunio C16/1164/16/MW (Adolygu Hen Hawliau Cynllunio Mwynau dan Ddeddf yr
Amgylchedd 1995 (ROMP)) i ymestyn cyfnod y gwaith cloddio llechi a
gweithrediadau cysylltiol am dair blynedd, caniatáu mwy o amser i adfer y safle
a diwygio cynlluniau i wneud lle i estyniad arfaethedig i'r ardal sy'n cael ei
gweithio ar hyn o bryd.
Eglurwyd bod safle'r cais yn cynnwys y chwarel yn ei chyfanrwydd a'i
gweithrediadau; cloddio am fwynau (yn cynnwys ardal yr estyniad arfaethedig), tomenni gwastraff mwynau, prosesu, pentyrru, tynnu tomenni gwastraff mwynau hanesyddol, swyddfa'r
safle/cyfleusterau lles, pont bwyso ac ardaloedd sydd wedi'u hadfer. Dan y
caniatâd cynllunio cyfredol hwn (ROMP), dywed amod 1 y caiff yr holl
weithrediadau hyn barhau hyd at 31/12/2032 gyda'r adferiad terfynol i gael ei
gwblhau erbyn 31/12/2034. Byddai'r newid arfaethedig i'r amod yn newid dyddiad
rhoi'r gorau i'r gwaith i 31/12/2035 a'r gwaith adfer i'w gwblhau erbyn
31/12/2037.
Nodwyd bod egwyddor ymestyn cyfnod gwaith y chwarel ar y safle yn seiliedig ar Bolisi Mwynau Strategol PS 22
a Pholisi MWYN 3 CDLl lle nodi’r y bydd y Cyngor yn cyfrannu at y galw parhaol
yn lleol a rhanbarthol am gyflenwad o fwynau trwy gynnal gwerth o leiaf saith
mlynedd o fanc tir o Dywod a Graean a banc tir deg mlynedd wrth gefn o agregau
cerrig mâl yn unol ag arweiniad cenedlaethol.
Yng nghyd destun materion traffig, hawliau tramwy cyhoeddus a thir
comin, adroddwyd nad oedd y cynnig yn cynnwys bwriad i gynyddu symudiadau HGV
o’r safle. Derbyniwyd sylwadau gan Uned Drafnidiaeth y Cyngor yn nodi dim gwrthwynebiad
i’r cynnig gan ei fod yn annhebygol o gael unrhyw effaith ar y rhwydwaith
priffyrdd.
Yn ogystal, nodwyd bod yr Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi cadarnhau
fod llwybr caniataol wedi'i sefydlu a'i fod yn dilyn y llwybr a ddefnyddiwyd i
gludo cwsmeriaid i'r wifren uchaf yn Zip World. Cytunwyd ar y llwybr hwn gyda'r Cyngor ac mae ar hyn
o bryd yn destun peth gwaith er mwyn medru agor y llwybr i'r cyhoedd. Felly,
ystyriwyd er bod yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus gwreiddiol oedd yn croesi'r
chwarel wedi cael eu heffeithio am gyfnod sylweddol, mae'r llwybr caniataol a
gytunwyd iddo yn darparu mynediad diogel rhwng Llandygai a'r llethrau sy'n
esgyn uwchben y chwarel. Ategwyd y bydd camau i sicrhau'r cyfnod cau a'r cytundeb
ar gyfer llwybr caniataol i gyd-fynd â dyddiad gorffen gwaith y chwarel yn cael
eu cynnwys fel amodau ar y caniatâd hwn. Ystyriwyd y byddai'r camau hyn yn
ddull derbyniol i sicrhau llwybr i'r cyhoedd ac i sicrhau nad yw'r cynnig yn
achosi niwed annerbyniol i Hawliau Tramwy Cyhoeddus er mwyn cydymffurfio â
pholisi TRA y CDLl
Wrth drafod
materion hydroleg a hydroddaeareg, tynnwyd sylw at y dulliau rheoli dŵr
sy'n cael eu gweithredu'n bresennol ar y safle sy’n cynnwys; draenio a sianeli agored,
draenio drwy bwmpio, teneuo dŵr wyneb, lagŵns
setlo ynghyd â ffrwd rwystro a gafodd ei gweithredu fel rhan o'r estyniad yn
2012. Nodwyd bod y ffrwd yn rhedeg ar hyd ffin gwagle'r chwarel a ffin yr
estyniad arfaethedig, gan ddal dŵr wyneb a'i ailgyfeirio i wlypdir a thir
mawnog Gwaun Gynfi. Ategwyd, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud eu bod yn derbyn y mwyafrif o'r
canfyddiadau, fodd bynnag, roeddynt yn amheus ynghylch effeithiolrwydd y ffrwd
ac felly wedi datgan y dylid gosod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio i sicrhau
cynllun monitro hirdymor.
Yng
nghyd-destun yr economi, nodwyd bod y cynnig y mae'r cais yn ymwneud ag o yn
hollol hanfodol i gyfraniad economaidd y cwmni i’r dyfodol. Nodwyd bod y cwmni’n gwneud cyfraniad
uniongyrchol a sylweddol i’r economi leol a chyflogaeth
uniongyrchol/anuniongyrchol o ganlyniad i weithrediadau'r chwarel. Yn ychwanegol, bydd cadw gweithwyr lleol yn
cael effeithiau positif ar ddiwylliant, ac yn fwy penodol, ar statws y Gymraeg
yn yr ardal. Ystyriwyd felly y bydd y bwriad yn gwneud cyfraniad positif i
economi’r ardal yn unol â Pholisi Strategol PS 13 y CDLl
a NCT 23.
Ystyriwyd fod y datblygiad arfaethedig yn cydymffurfio â'r holl bolisïau
ac ystyriaethau cynllunio perthnasol ac argymhellwyd y dylid cymeradwyo'r cais
cynllunio gydag amodau priodol.
b) Nododd y Cadeirydd fod y Cyng Beca Roberts (Aelod Lleol) wedi nodi mewn e-bost
ei bod o blaid y cynnig
ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad
PENDERFYNWYD:
Dirprwyo'r hawl i Bennaeth yr Adran Amgylchedd gymeradwyo'r cais, gydag
amodau'n ymwneud â'r hyn a ganlyn:
1. Hyd y cyfnod gweithio 31/12/2035 a'r
cyfnod adfer hyd at 31/12/2037.
2. Gweithgareddau a ganiateir a
chydymffurfiaeth â’r manylion/cynlluniau a gyflwynwyd (yn cynnwys ardal yr
estyniad).
3. Marcio ffin y safle ac ardaloedd
cloddio am fwynau.
4. Oriau Gweithio.
5. Cyflwyno cais i ymestyn cyfnod cau a
gwyro Hawliau Tramwy Cyhoeddus rhifau 46 a 50.
6. Oriau Gweithio ar wyneb y gwaith
7. Dull gweithio a chyfyngiadau ffrwydro
8. Adferiad a chynllun creu ac adfer
cynefinoedd manwl yn unol â manylion y cais
9. Cynllun adfer ar gyfer safle'r
peiriannau erbyn 31 Rhagfyr 2035.
10. Adolygiad bob pum mlynedd o’r
gweithrediadau
11. Rheoli goleuo allanol
12. Rheoli cyfyngiadau sŵn ar gyfer y
dydd a’r nos
13. Rheoli llwch a ryddheir a darparu/cynnal
a chadw gorsaf dywydd
14. Priddoedd a storio cyfryngau adfer
15. Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a
ganiateir
16. Cyfyngu ar glirio llystyfiant ar adegau
penodol o’r flwyddyn oni bai y gellir profi yn ysgrifenedig na fydd y gwaith yn
amharu ar adar ac ymlusgiaid;
17. Gwaith monitro cen wedi'i ddiweddaru
18. Cynllun rheoli cynefin gweundir ar gyfer
yr ardal ddigolledu amgylcheddol yn unol â'r manylion a ddarparwyd
19. Cynllun monitro hirdymor ar gyfer y
ffrwd.
20. Monitro cynefinoedd Gwaen
Gynfi
21. Cofnodi a lliniaru archeolegol
22. Gwarchod adar sy'n nythu.
23. Cynllun rheoli cen.
24. Mesurau diogelu ymlusgiaid.
25. Atal da byw rhag cael mynediad i
ardaloedd sydd wedi'u hadfer.
26. Monitro rhywogaethau ymledol.
Dogfennau ategol: