Newid defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd
Dosbarth C2) sy'n cynnig cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a
gwaith adeiladu cysylltiedig.
AELODAU
LLEOL: Cynghorydd Richard Medwyn Hughes a’r Cynghorydd Huw Wyn Jones
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
Nodyn - Dŵr
Cymru
Cofnod:
Ysgol Hillgrove, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Gwynedd, LL57 2TW
Newid
defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd Dosbarth C2) cynnig
cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a gwaith adeiladu
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a) Amlygodd yr
Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd
safle o ddefnydd fel cyn-ysgol yn hostel/uned byw â chymorth i'w defnyddio gan
sefydliad elusennol. Bwriedir ymgymryd ag ad-drefnu mewnol i'r adeiladau sydd
ar y safle er mwyn darparu cyfleuster sy'n addas i'r pwrpas a bwriedir codi
estyniad unllawr, to fflat, er mwyn cysylltu tair
prif adeilad yr eiddo presennol at ei gilydd. Byddai'r sefydliad yn darparu 18
ystafell wely gyda chyfleusterau en-suite wedi eu
gwasgaru ar draws dau lawr o'r adeilad ynghyd a chyfleusterau cymunedol.
Cyfeiriodd y Swyddog
at yr adroddiadau gan amlygu nad oedd y fersiwn Saesneg yn cynnwys addasiadau a
sylwadau ychwanegol gan y gwrthwynebwyr. Aethpwyd drwy’r adroddiad gan fanylu
ar y gwahaniaethau yn adran 5.3, 5.4, 5.15 a 6.1
Wrth gyfeirio at gefndir y cais, nodwyd bod
gweithgareddau presennol yr elusen yn digwydd yn safle Tŷ Penrhyn ym Mangor - eiddo mewn cyflwr gwael ac angen
buddsoddiad sylweddol. Ategwyd bod prydles yr ymgeisydd ar Dŷ Penrhyn yn
dod i ben ymhen tua 18 mis ac er bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda
pherchennog Tŷ Penrhyn i brynu'r safle, ymddengys nad yw’n ariannol hyfyw
i'w brynu. Caeodd Ysgol Hillgrove yn 2017 ac mae’r
safle wedi ei adnabod gan yr ymgeisydd
fel un addas ar gyfer adleoli'r gwasanaeth, gan alluogi’r elusen aros ym
Mangor. Nodwyd nad oedd unrhyw reswm i’r Awdurdod Cynllunio Lleol amau’r
esboniadau hyn.
Tynnwyd sylw at ddefnydd cyfreithlon y safle,
megis ysgol (canolfan addysg ddibreswyl), sy’n disgyn dan Ddosbarth Defnydd D1
yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y'i
diwygiwyd) gan olygu na fyddai angen caniatâd cynllunio i newid yr adeilad i
fod yn glinig neu ganolfan iechyd. O ganlyniad, ni fyddai angen caniatâd
cynllunio i weithredu'r cyfleuster hwn fel canolfan driniaeth dydd ar gyfer
pobl gyda phroblemau alcohol a chyffuriau. Yr elfen breswyl ynghyd a’r estyniad
arfaethedig yn unig sydd ag angen caniatâd cynllunio.
Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a
phreswyl amlygwyd bod llawer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn i'r cais ond bod
sail y pryderon hyn, i raddau helaeth, yn ymwneud a materion sydd y tu allan
i'r ystyriaethau cynllunio materol arferol ar geisiadau cynllunio. Er yn cydnabod
y pryderon, nodwyd eu bod yn seiliedig ar faterion rheolaethol y cyfleuster a
pholisïau cyfraith a threfn ac nad oeddynt dan reolaeth uniongyrchol y system
gynllunio.
O safbwynt
effeithiau sŵn ac ymyrraeth gyffredinol,
ystyriwyd natur defnydd cyfreithlon presennol y safle, megis ysgol, ac
felly ni fyddai tebygolrwydd i'r defnydd bwriedig
achosi niwed arwyddocaol gwaeth i fwynderau cymdogion. Derbyniwyd bod defnydd
ysgol yn cael ei grynhoi i oriau byrrach yn ystod y dydd, fodd bynnag, nifer cyfyngedig o oedolion yn gweithredu o
fewn system reolaethol gadarn fydd yn defnyddio'r cyfleuster ac felly ni fydd
niwed arwyddocaol oherwydd hyn.
Er gwaetha'r
pryderon a nodwyd gan wrthwynebwyr i'r cynllun, fe ystyriwyd y byddai
datblygiad o hostel ar gyfer cynnig cefnogaeth i rheiny sydd â dibyniaeth ar
alcohol neu gyffuriau yn dderbyniol o safbwynt y polisïau cynllunio perthnasol
ac ni ystyriwyd y byddai’n cael effaith niweidiol andwyol arwyddocaol
ychwanegol ar fwynderau’r ardal na’r trigolion cyfagos. Yn ogystal, yn unol â
gofynion polisi PCYFF 1, ystyriwyd bod lleoliad, natur a ffurf y datblygiad yn
dderbyniol ac yn cydweddu â chyd-destun dinesig ei leoliad o fewn ffin
ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y'i diffinnir gan y CDLl.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y
sylwadau canlynol:
·
Derbyn bod yr elusen yn gwneud gwaith
da
·
Pryder bod y safle yn anaddas oherwydd
ei agosatrwydd at ysgolion
·
Pryder am blant o’r ysgolion, yn ystod gwersi
rhydd a chinio yn crwydro yng nghyffiniau’r safle
·
Nid yw’n gwneud synnwyr bod hostel i
bobl fregus yn cael ei lleoli ger ysgolion
·
Nad oedd sylw nag argymhelliad wedi ei
wneud i ddiogelu plant rhwng 3 a 18 oed
·
Nad oedd cynlluniau rheolaeth manwl
wedi ei cyflwyno ynglŷn ag ymdrin a phroblemau all godi
·
Angen cyfnod ymgynghori i drafod sut i osgoi sefyllfa ddifrifol
·
Y goblygiadau posib yn achos o bryder
·
Angen cynnal asesiad risg / ymgynghori
ac ymgysylltu i drafod a datrys pwy fydd yn ymatebol os aiff rhywbeth o’i le
c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn gymwys i wneud sylwadau fel
ymgynghorydd adeiladu / datblygu gwasanaethau preswyl
·
Bod rhan fwyaf (85%) o ddatblygiadau
tebyg yn cael eu gosod mewn ardaloedd preswyl
·
Nad oes tystiolaeth i gefnogi ‘teimlad’
y byddai pethau drwg yn digwydd
·
Na fydd newid yng nghymeriad y safle – yr adeiladau yn addas
·
Nad oes sail i honiadau y bydd y safle
yn denu drwg weithwyr – safle Penrhyn House gydag enw
da
·
Bod campws myfyrwyr Ffriddoedd yn fwy
tebygol o ddenu problemau cyffuriau
·
Nad oes tystiolaeth i gefnogi'r
honiad y byddai’r safle yn creu risg i blant
·
Bydd staff ar ddyletswydd 24 awr y dydd
·
Bydd yr adnodd o fudd cymunedol
·
Bydd yr adnodd yn cynnig a gweithredu
gwasanaethau cymunedol
ch) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Nad oes sail i
honiadau y bydd yr adnodd yn denu drwg weithredwyr
·
Nad oedd yr Heddlu yn cofio achlysur o
gael eu galw allan i Penrhyn House
·
Bod safle myfyrwyr Ffriddoedd gerllaw - pryderon cyffuriau /
alcohol tebygol
·
Dim sail i’r honiadau y bydd y safle yn
creu problemau
·
Cydnabod pryderon, ond dim rheswm
cynllunio i wrthod
·
Bod y cais yn gwarchod hen adeilad
nodedig yn y Ddinas
·
Hoffi gweld yr adeilad yn cael ei
warchod
·
Cymeradwyo’r cais
d) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y
cais
dd) Mewn ymateb
i sylw bod nifer o bryderon ynglŷn â’r datblygiad wedi eu derbyn gan
drigolion lleol ac nad oedd y bwriad yn eistedd yn gyfforddus gyda rhai
polisïau e.e., diogelwch cymunedol ac mai’r lleoliad oedd yn codi pryder ac nid
yr eiddo, nododd y Pennaeth Cynorthwyol bod y defnydd eisoes yn bodoli ym
Maesgeirchen a bod tystiolaeth yn nodi bod yr adnodd wedi gweithredu yn
llwyddiannus yno. Ategodd nad oedd sail i’r pryderon ac nad oedd sail cynllunio
dros wrthod y cais. Nododd bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau a bod y
defnydd yn addas i’r lleoliad. Cyfeiriodd at ddisgrifiadau manwl o addasrwydd y
defnydd i’r safle yn yr adroddiad ac atgoffodd yr Aelodau y byddai modd gwneud
defnydd tebyg o'r safle heb ganiatâd cynllunio.
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r
amodau canlynol:
1. Cychwyn
o fewn 5 mlynedd.
2. Unol
â'r cynlluniau a gyflwynwyd.
3. Yr
holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r
iaith Gymraeg.
4. Rhaid
dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
5. Amod
Dŵr Cymru
6. Arolwg
ffotograffig er cofnodi nodweddion archeolegol
Nodyn - Dŵr Cymru
Dogfennau ategol: