I dderbyn
cyflwyniad gan Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac
Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu.
Cofnod:
Croesawyd Jason Killens,
Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac Estelle
Hitchon,
Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu i’r cyfarfod. Darparwyd cyflwyniad i’r
Aelodau oedd yn adrodd ar berfformiad Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Manylwyd
ar ystadegau
megis yr
amseroedd ymateb i alwadau coch (galwadau
bywyd mewn perygl) Betsi Cadwaladr gan nodi bod canran
ymateb i’r galwadau brys hyn o fewn 8
munud wedi lleihau ers
Hydref 2020 o 62% i 47% erbyn Hydref 2021 ac wedi sefydlogi i fod o gwmpas 45%
erbyn Medi 2022. Cydnabuwyd bod hyn yn golygu bod rhai
cleifion yn aros yn llawer rhy hir am ambiwlans.
Nodwyd
mai’r prif reswm dros y gostyngiad mewn amser ymateb yw’r cynnydd sylweddol
mewn oriau coll wrth drosglwyddo i’r ysbyty sy’n effeithio ar y gallu i fedru
ymateb i alwadau brys yn amserol. Nodwyd bod yr oedi yma wrth drosglwyddo wedi
cynyddu dros amser ac ar ei waethaf ym mis Medi 2022. Manylwyd hefyd ar heriau
eraill megis salwch ac absenoldebau staff yn cynyddu sydd wedi arwain at
broblemau capasiti
â’r heriau yn ymwneud a denu staff a llenwi swyddi.
Soniwyd
am ddiogelwch cleifion a digwyddiadau adroddadwy
gwladol oedd yn manylu ar y marwolaethau â’r niwed difrifol y gellir bod wedi
eu hosgoi gan gymharu sefyllfa Betsi Cadwaladr efo gweddill Cymru. Roedd y
niferoedd yn is i gymharu efo Cymru gyfan ond ar gyfartaledd roedd 2 o faterion
diogelwch cleifion yn cael eu cofnodi pob mis a’r rhain oherwydd oediadau hir
iawn, gwallau clinigol a chleifion yn aros mewn ambiwlans tu allan i’r ysbytai.
Cafwyd
gwybodaeth am adolygu’r galw a’r capasiti
sy’n digwydd ar hyn o bryd o fewn y gwasanaeth a
manylwyd
ar yr hyn sy’n cael ei wneud i geisio gwella’r
sefyllfa megis recriwtio a hyfforddi mwy o
staff,
adolygu rhestr dyletswyddau a newidiadau i drefniadau megis
cerbydau ymateb cyflym e.e. eu staffio gan uwch barafeddygon.
Credwyd y byddai’r mesuryddion hyn yn helpu’r problemau amser ymateb.
I
gloi rhedwyd drwy fodel ymateb y dyfodol oedd yn canolbwyntio ar weddnewid y
gwasanaethau meddygol brys drwy rhoi mwy o bwyslais ar ymgynghori, trin ac atgyfeirio
yn hytrach na chludo cleifion i’r ysbytai.
Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am y
cyflwyniad gan wneud sylw ei fod yn cyfleu darlun
llwm o’r gwasanaeth ambiwlans ac i bobl sy’n byw yn Ngogledd Cymru yn enwedig
yn yr ardaloedd gwledig.
·
Gofynnwyd am eglurhad o
rôl yr ymatebwyr cyntaf gan nodi bod eu gwasanaeth yn hanfodol i ardaloedd
gwledig y Sir fel Tywyn, yn enwedig o gysidro sefyllfa a thrafodaethau presennol
am y gwasanaeth ambiwlans awyr.
·
Cyfeiriwyd at ddiffyg
staff cyflenwi a gofynnwyd os oedd modd cynyddu niferoedd y staff yn ardal
Tywyn. Mynegwyd edmygedd dros y staff presennol sy’n gweithio dan straen.
Cyfeiriwyd at staff oedd wedi ymuno a Thywyn yn ddiweddar ond y tueddiad iddynt
gael eu trosglwyddo i leoliadau eraill gan adael Tywyn heb staff digonol. Ychwanegwyd
fod y gwasanaeth ambiwlans yn bwysig iawn i’r ardal o ystyried nad oes llawer o
ddoctoriaid yn yr ardal a dim uned mân anafiadau yn Ysbyty Tywyn. Credwyd nod
nifer o ymatebwyr cyntaf oedd yn gwirfoddoli wedi stopio oherwydd eu bod yn aml
yn aros efo cleifion am 4-6 awr cyn i
ambiwlans gyrraedd a nifer ohonynt efo swyddi eraill i’w mynychu.
·
Cyfeiriwyd at
enghreifftiau o bobl hŷn yn disgyn a thorri esgyrn yn y gymuned a dim
ymatebwyr cyntaf ar gael i’w cynorthwyo felly yn wynebu oriau o amser aros am
ambiwlans. Credwyd bod y perygl i gleifion yn
cynyddu oherwydd yr amser aros annerbyniol am ambiwlans.
·
Mynegwyd pryder am y
gwasanaeth ambiwlans yn cludo cleifion i Ysbytai ym Mangor, Wrecsam a Glan
Clwyd ac yna yn cael eu dal yn ôl yn y lleoliadau hyn neu yn
cael eu hanfon ar alwad i leoliadau cyfagos felly dim cyflenwad i ymateb i
alwadau yn y gymuned leol. Nodwyd hefyd mai 15 munud ddylai’r amser trosglwyddo
fod ond bellach ei fod ar gyfartaledd yn fwy na 2 awr ac mewn rhai achosion
gall cleifion fod yn aros yng nghefn yr ambiwlans am 12 awr sy’n sefyllfa
bryderus ac yn golygu nad yw’r fflyd ar gael
mewn gorsafoedd lleol. Ychwanegwyd nad yw bellach yn
anghyffredin i weld dros 10 o ambiwlansys yn aros tu allan i Ysbyty Gwynedd.
·
Holwyd faint o fywydau
sy’n cael eu colli o ganlyniad i ambiwlansys ddim yn cyrraedd neu oedi hir pan
mae eu hangen a pryderwyd bod y gwasanaeth iechyd cenedlaethol yn edrych yn
doredig.
·
Cytunwyd a
phwysleisiwyd bod angen cydweithrediad ar draws y sector Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a bod y sefyllfa bresennol o gleifion a gweithwyr ambiwlans yn
aros tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys am hyd at 12 awr, weithiau
mwy, yn annerbyniol.
·
Holiwyd faint o bwysau
sy’n cael ei roi ar y Llywodraeth i geisio gwella’r amseroedd aros tu allan i
ysbytai. Nodwyd hefyd bod 100 yn llai o wlâu yn Ysbyty Gwynedd erbyn heddiw o
gymharu â phan gafodd yr Ysbyty ei hadeiladu.
·
Canmolwyd y gwasanaeth
sy’n cael ei dderbyn yn uniongyrchol gan y parafeddygon.
·
Mynegwyd siomedigaeth
yn y sylwadau blaenorol gafodd eu derbyn gan Brif Weithredwr Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru ynglŷn â’r ambiwlans awyr a’i gefnogaeth i’r
cynigion diweddar am symud lleoliad yr ambiwlans awyr yng Ngwynedd. Credwyd nad
oedd ystyriaeth ddigonol yn cael ei roi i anghenion gwledig.
·
Cytunwyd bod angen
gwell cydweithio rhwng y Llywodraeth, y Gwasanaeth Iechyd a Gofal a’r gwasanaeth
ambiwlans. Nodwyd bod prinder gwlâu yn yr ysbytai ac yn y gymuned yn broblem a
bod problem recriwtio gofalwyr sy’n cyfrannu at y diffygion o allu rhyddhau
cleifion o’r ysbytai. Ychwanegwyd y dylai’r Llywodraeth
roi gwell cefnogaeth, credwyd bod lefel cyflogau gofalwyr ddim yn ddigonol sy’n
fater i’r Llywodraeth.
Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod rôl yr ymatebwyr
cyntaf cymunedol yn hanfodol a chydnabuwyd y gwerth y maent yn ei gynnig.
Ychwanegwyd bod llawer o wirfoddolwyr wedi cael eu colli ers cyfnod y pandemig,
rhagdybiwyd bod y niferoedd wedi haneru ar draws Gogledd Cymru. Mynegwyd dyhead
i gynyddu’r gweithlu gwirfoddol a chyfeiriwyd at ymdrechion diweddar i
fuddsoddi mewn capasiti
ychwanegol i hyfforddi a recriwtio rhagor o wirfoddolwyr.
·
Nad yw’r ambiwlans awyr
yn ran o wasanaeth ambiwlans Cymru. Nodwyd eu bod nhw’n ymateb i
alwadau 999 efo’r gwasanaeth ambiwlans ac nid yn lle’r gwasanaeth ambiwlans. Er
hyn nododd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei fod yn ymwybodol o’r
cynigion yn ymwneud a’r gwasanaeth ambiwlans awyr ac yn gefnogol ohonynt.
Credai y byddai’r cynigion yn sicrhau y bydd mwy o gleifion sydd angen gofal
brys critigol yn cael mynediad gwell at y gwasanaeth felly
bod y cynigion yn ymddangos yn synhwyrol.
·
Bod 73 o staff
ychwanegol wedi eu dyrannu i’r gweithlu
ar
draws Gogledd Cymru yn
ogystal a nifer yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd ac yn barod i gymryd swyddi
ar ôl y Nadolig. Adroddwyd bod twf sylweddol wedi bod yn y gwasanaeth rheng flaen
dros y 2-3 mlynedd diwethaf.
·
Bod fflyd y gwasanaeth
ambiwlans yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio neu wedi ei neilltuo i alwad 80%
o’r amser. O ystyried colledion i’r fflyd fel yr oedi wrth drosglwyddo i’r
ysbytai mae hyn yn egluro pam bod yr amser ymateb i alwadau wedi cynyddu.
Cydnabuwyd fod yr amser aros yn annerbyniol ond bod y gwasanaeth ambiwlans
yn ceisio bod yn effeithlon. Ychwanegwyd bod cydweithrediad
y Gwasanaeth
Iechyd
ac Awdurdodau
Lleol
yn
hanfodol a bod gan yr awdurdodau hyn rôl i’w gyflawni fel rhyddhau cleifion
sy’n feddygol ffit o’r ysbytai. Nodwyd bod yr heriau sy’n bodoli ar draws y
system Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi
arwain at y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans.
·
Eu bod yn ymwybodol o
bwysau yn y maes gofal cymdeithasol i Awdurdodau Lleol ac yn adnabod materion
sydd angen eu datrys ar draws y system. Adroddwyd bod y gwasanaeth ambiwlans yn
ceisio cyd-weithio i wella sefyllfaoedd. Nodwyd o ganlyniad i’r boblogaeth yn
cynyddu ac yn heneiddio bod hyn wedi cyfrannu at y galw ar amryw o wasanaethau
yn ymwneud â’r maes Gofal a Iechyd.
·
Bod gan yr ysbytai rôl
i’w chwarae. Ymhelaethwyd mai cyfrifoldeb y gwasanaeth ambiwlans yw cludo’r
cleifion sydd wir angen mynd i’r adran achosion brys i’r ysbytai felly ni
allant wneud llawer ar yr ochr diffyg capasiti,
staff a lle tu fewn i’r ysbytai. Ychwanegwyd mai cyfrifoldeb y maes iechyd yw
galluogi cleifion i symud yn gynt drwy’r ysbytai ac yna’r Awdurdodau Lleol i
helpu efo’u rhyddhau o’r ysbytai. Nodwyd bod angen gwella’r diffygion yn y
system.
·
Eu bod yn ceisio
gwella’r gwasanaeth yn yr ystafelloedd rheoli galwadau er mwyn osgoi anfon
ambiwlans os nad oes rhaid ac yna yn ceisio gwella’r gofal sydd ar gael yn y
gymuned i osgoi cludo cleifion yn ddi-angen
i’r ysbytai.
·
Bod y gwasanaeth
ambiwlans Cymru yn darparu gwybodaeth, ystadegau ac adborth i ran ddeiliaid
sy’n cynnwys y Llywodraeth yn wythnosol ac yn fisol. Nodwyd eu bod nhw’n
pwysleisio’r niweidion y gellir eu hosgoi o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol ac
yn bod yn gadarn iawn bod angen newid. Ychwanegwyd bod 36% o’r fflyd ar hyn o
bryd yn methu ymateb i alwadau ac ni fyddant yn gallu ymateb oni bai i rywbeth
newid sy’n fater i’r Llywodraeth. Nodwyd bod y
gwasanaeth ambiwlans yn canolbwyntio ar yr hyn sydd o fewn eu gallu ac i
ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael o ran staff ac arian mor effeithlon a sy’n
bosib.
·
Eu bod yn falch bod
gwaith gwych y parafeddygon mewn amgylchiadau anodd yn cael ei gydnabod gan
Gynghorwyr ac yn y gymuned. Ategwyd fod dim bai ar y parafeddygon na’r person
sy’n delio â’r alwad dros y ffôn ond eu bod
nhw’n anffodus yn parhau i dderbyn camdriniaeth llafar
gan rai o’r cyhoedd.
·
Ni allai wneud sylwadau
ar achosion unigol ar amser ymateb y gwasanaeth ambiwlans ond rhoddwyd sicrwydd
bod system y gwasanaeth ambiwlans yn targedu’r cleifion sydd dan fygythiad
bywyd ar unwaith yn gyntaf e.e. ataliad y galon ac yn eu blaenoriaethu dros
alwadau lle nad oes bygythiad uniongyrchol i fywyd e.e. esgyrn wedi torri o
ganlyniad i ddisgyn. Nodwyd nad yw’r rhain yn
benderfyniadau hawdd i’w gwneud ond bod rhaid
iddynt wneud y dewis pan mai dim ond un fflyd sydd ar
gael a dau alwad yn cael ei dderbyn.
·
Cydnabuwyd bod yr amser
aros a’r gwasanaeth sy’n cael ei dderbyn yn y gymuned yn annerbyniol ac yn peri
pryder ond rhoddwyd sicrwydd bod y gwasanaeth ambiwlans yn gwneud popeth o fewn
eu gallu i wella’r ddarpariaeth. Nodwyd bod y sefyllfa yn cael effaith ar forâl
staff ac yn arwain at fwy o salwch ymysg staff sy’n arwain at broblemau pellach
o ran recriwtio a chadw staff. Nodwyd bod gormod o bwysau ar draws y system.
Diolchwyd
i staff y Gwasanaeth Ambiwlans am ateb cwestiynau’r Aelodau a gobeithiwyd y
bydd y sefyllfa yn gwella. I gloi holwyd os fydd y streicio gan nyrsys a’r
gweithwyr ambiwlans yn effeithio ar ardaloedd
gwledig. Cadarnhaodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y bydd gan y
gwasanaeth ambiwlans broblemau sylweddol wrth geisio ymateb i alwadau yn y
gymuned pe bai’r streicio yn mynd yn ei flaen. Diolchodd i’r Aelodau am eu
cwestiynau.
PENDERFYNWYD:
Nid oedd pleidlais gan mai eitem i ddarparu gwybodaeth oedd yr
eitem yma.