I
ddiweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau’r Gwasanaeth Ieuenctid.
Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad oedd yn darparu diweddariad ar
ddatblygiadau’r Gwasanaeth Ieuenctid.
b) Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg ystyried sylwadau’r
Pwyllgor am bwysigrwydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan sicrhau y bydd yn derbyn sylw
haeddiannol o dan yr Adran Addysg wedi i’r Gwasanaeth drosglwyddo i’r Adran hon
yn fuan.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan
Reolwr y Gwasanaeth Ieuenctid. Derbyniwyd trosolwg o’r
prif bwyntiau yn ogystal â’r cefndir o ailfodelu’r
Gwasanaeth Ieuenctid yn dilyn penderfyniad
y Cabinet nol yn 2018. Sefydlwyd y model newydd ym mis Medi 2018 ac adroddwyd
bod y Gwasanaeth
wedi bod yn adrodd ar gynnydd yr ail-fodelu a’r perfformiad drwy’r drefn Herio
Perfformiad.
Nodwyd
bod y Gwasanaeth wedi cyflwyno Adroddiad Cynnydd ar flwyddyn gyntaf yr ail
fodelu i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis Ionawr 2020 ond yn fuan wedyn
daeth cyfyngiadau Covid
i rym. Mynegwyd bod gwybodaeth yn yr adroddiad am effaith y pandemig ar yr
ail-fodelu yn ogystal â sefyllfa bresennol y gwasanaeth.
Soniwyd
am strwythur cyfredol y Gwasanaeth Ieuenctid ac ychwanegwyd bod llais pobl
ifanc yn ganolog i’r Gwasanaeth. Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at adborth
pobl ifanc am y Gwasanaeth yn ogystal â beth mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei
wneud i ymateb i’r adborth yma.
Adroddwyd
bod gwybodaeth i’w weld yn yr adroddiad am themâu strategol y Gwasanaeth sydd
yn ffocysu ar Iechyd a Llesiant ar draws yr holl brosiectau, yr Iaith Gymraeg,
cydraddoldeb a chynhwysiad. Amlygwyd y gwaith sy’n digwydd gyda phartneriaid a
sefydliadau trydydd sector i ddiwallu anghenion pobl ifanc. I gloi cyfeiriwyd
at yr heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth yn y dyfodol sydd wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad megis recriwtio ac anghenion cymhleth a dwys pobl ifanc sydd wedi
amlygu eu hunain dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Gwnaethpwyd sylw bod y
clybiau ieuenctid yn cael eu hariannu drwy’r Cynghorau Cymuned a Thref ar
hyn o bryd. Cyfeiriwyd at yr adroddiad sy’n nodi bod y
clybiau sydd mewn bodolaeth ar hyn o bryd yn
llwyddiannus gyda niferoedd uchel yn mynychu. Nodwyd
mai nid clybiau newydd yw’r rhain ond hen glybiau yn ail agor ers 4 mlynedd o
fod wedi cau gan y Cynghorau Cymuned a Thref.
·
Credwyd bod cryfderau
i’r strwythur newydd ond cwestiynwyd os ydyw wedi bod yn fethiant mewn un elfen
o ystyried yr uchod.
·
Mynegwyd bod cysondeb a
sefydlogrwydd yn bwysig i bobl
ifanc a cwestiynwyd os oes lle i’r Cyngor ail edrych ar ei ddarpariaeth. Ychwanegwyd
bod darparu gofod i’r ifanc deimlo’n ddiogel ac yn perthyn
yn bwysig a holwyd beth yw rôl y Cyngor i ddarparu clybiau sefydlog
parhaol yn hytrach na chefnogi Cynghorau Cymunedau a Thref.
·
Croesawyd y prosiectau
sy’n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Ieuenctid gan nodi bod rhai hynod o
lwyddiannus mewn rhai ardaloedd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Gweithwyr
Ieuenctid o fewn y Cyngor sydd yn gwneud gwaith gwych a mynegwyd
gwerthfawrogiad am y gwaith yma.
·
Mynegwyd y byddai’n
braf cael cadw’r model newydd ond dod a’r hen fodel o glybiau yn ôl hefyd er yn
deall bod hyn yn anodd o ran y sefyllfa gyllidebol. Credwyd bod yr ifanc angen
y ddarpariaeth sefydlog o glwb ond yn sicr bod lle i barhau efo’r elfen
prosiectau.
·
Adroddwyd pryder o ran
cysondeb ar draws y Sir gan gyfeirio at ymdrech yn Ne’r Sir i geisio ail
sefydlu clwb a recriwtio ond yn anffodus roedd yr ymdrech yn fethiant,
sy’n golygu nad oes darpariaeth yn Ne’r Sir. Pwysleisiwyd cael cysondeb ar
draws y Sir a gofynnwyd beth yw’r cyswllt efo’r Ysgolion ac os ydyw yn gyson.
·
Cyfeiriwyd at
anawsterau ymgysylltu efo plant a phobl ifanc i ddarganfod beth yn union maent
ei angen. Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at ffigwr o 5,500 o bobl ifanc
wedi cyfranogi; holwyd beth yw trothwy cyfranogi a be sy’n cyfri fel
ymgysylltu. Gofynnwyd hefyd beth yw’r ffigyrau o ran gweithio’n agos efo’r bobl
ifanc i glywed eu barn.
·
Credwyd ei bod yn
annheg bod y Cyngor ddim yn gwneud mwy yn y cymunedau gwledig a phryderwyd bod
y cymunedau hyn yn colli allan. Ategwyd bod angen gwasanaeth yn y cymunedau
gwledig yn enwedig o ystyried bod darpariaethau a mwy o bethau i’w gwneud yn y
trefi pryn bynnag o gymharu â chymunedau gwledig neu bentrefi bach.
·
Cymerwyd y cyfle i
longyfarch Clwb Ieuenctid Llanrug syth yn mynd o nerth i nerth ac yn rywle saff
i bobl ifanc y pentref fynd.
·
Mynegwyd barn bod cau'r
Clybiau Ieuenctid wedi bod yn gam yn ôl er yn cydnabod bod angen newid i’r
cyfeiriad ar y pryd.
·
Holwyd sut mae’r
Gwasanaeth yn ymgynghori efo’r sawl sydd ddim yn mynd i glybiau.
·
Mynegwyd sylw bod y
Rhaglen Wythnosol ddim yn cyfleu'r holl waith sy’n cael ei wneud gan y
Gwasanaeth.
·
Gofynnwyd faint o
glybiau ieuenctid oedd yn agored cyn y newid yn 2018.
·
Mynegwyd pryder yn y
gostyngiad sylweddol o 38 clwb yn 2018 i 9 clwb erbyn dechrau 2023 a
cwestiynwyd os yw’r gallu i gael gafael ar y bobl ifanc wedi ei golli
yn enwedig y rhai sydd ddim yn ymgysylltu llawer efo’r Ysgolion.
·
Cydnabuwyd bod elfennau
gwych a hyblyg i’r drefn newydd.
·
Holiwyd os ydy’n bosib
gofyn i holl bobl ifanc y Sir os ydyn nhw eisiau clwb ieuenctid yn eu hardal.
·
Cwestiynwyd
os oes modd i’r Cyngor gael rhagor o ddylanwad dros ddefnydd
o’r iaith Gymraeg yn y clybiau a’r gweithgareddau
·
Diolchwyd am adroddiad
gwych llawn gwybodaeth.
Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod yr elfen o ehangu’r
ddarpariaeth yn gymunedol yn ddatblygiad positif er mwyn cyrraedd amrediad eang
o bobl ifanc ar draws y cymunedau.
Nodwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn edrych ar brosiectau i gyd fynd efo hyn ac
yn gwrando ar lais pobl ifanc o ran eu hanghenion. Nodwyd
bod yr angen yn amlwg yno yn y gymuned
a bod y cynnydd yn y ffigyrau dros
y ddau chwarter diwethaf yn ategu hyn. Serch hyn pwysleisiwyd y pwysigrwydd
bod y Cyngor yn gallu cynnig gwasanaeth ar wahân er mwyn sicrhau bod pob ardal
drwy Wynedd yn gallu cael mynediad i’r Gwasanaeth Ieuenctid drwy brosiectau ac
mynd i’r afal a’r holl anghenion ar draw y Sir.
·
Er pwrpas eglurder,
cadarnhawyd mai 5 clwb cymunedol sydd yn weithredol ar hyn o bryd ar draws y
Sir gyda 4 arall wedi rhoi eu henwau ymlaen i agor felly gobeithir cael 9 clwb gweithredol
yn y Sir erbyn y Nadolig. Nodwyd bod y ffigwr o 24 yn
yr adroddiad yn cyfeirio at nifer y gweithwyr.
·
Nad oes amser digonol
wedi bod i dreialu os yw’r clybiau statig cymunedol ar y cyd rhwng y Cyngor a’r
Cynghorau Cymuned wedi bod yn llwyddiannus neu beidio; bydd angen rhagor o
amser i asesu. Ychwanegwyd bod angen rhoi mwy o ymdrech ac amser i gefnogi
Cynghorau Cymuned sydd yn ceisio agor clybiau gwirfoddolwyr lleol a’u staffio a
bod y Gwasanaeth Ieuenctid bellach wedi symud adnoddau i alluogi hyn. Adroddwyd
y byddai’n ddefnyddiol derbyn adborth gan y Cynghorau cymuned sydd wedi llwyddo
efo’r clybiau a gan y rhai sydd wedi ceisio ail gydio ond wedi methu.
·
Bod y Cyngor yn treialu
gweithlu gwahanol ar gyfer cefnogi y clybiau fwy cymdeithasol eu natur gan bod
heriau recriwtio yn bodoli felly bod gwaith ar y gweill i geisio mynd i’r afael
a hyn.
·
Bod y Gwasanaeth
Ieuenctid wedi ceisio meddwl am ffyrdd gwahanol o gael darpariaeth i ardaloedd
fel Tywyn e.e. comisiynu sinema gymunedol a’i ariannu dros gyfnod y Nadolig fel
bod ryw fath o ddarpariaeth yno ar gyfer y bobl ifanc.
·
Bod Ysgolion yn
gweithio’n wahanol gan ddibynnu ar lais ac anghenion
y bobl ifanc yn yr Ysgolion. Y gobaith yw bod y gwaith sy’n cael
ei wneud yn yr Ysgolion yn pontio i’r gymuned a bod gwaith pellach yn cael ei
wneud yn y gymuned.
·
Bod cyfranogiad yn
golygu unrhyw un sydd yn ddefnyddio’r gwasanaeth fwy nac unwaith ar draws
amrediad eang o brosiectau o rai ble mae’r gwasanaeth yn ddwys i glybiau
cymunedol a dyddiau hwyl. Gall person ifanc fynychu neu cael mynediad i’r
Gwasanaeth unwaith yn unig e.e. i gael sgwrs yna teimlo eu bod nhw wedi cael
beth yr oeddem nhw ei angen neu gall person ifanc ddychwelyd i amryw o
brosiectau; un ymgysylltiad fyddai’r ddau
achos. Eglurwyd bod y mesuryddion yn wahanol rhwng yr hen fodel a’r model newydd;
mae’r
Gwasanaeth bellach yn ceisio mesur faint o bobl ifanc maent yn ei gyrraedd
ac yn ceisio cyrraedd mwy o bobl ifanc a mesur os ydynt yn cael yr hyn maent yn
ei ddymuno.
·
Bod cludiant yn fwy o
her yn ddiweddar o gymharu â cyn cyfnod y pandemig. Golyga hyn bod rhai
ardaloedd wedi gorfod newid amseroedd o bryd maent yn darparu.
·
Bod y Gwasanaeth eisiau
datblygu’r elfen o ymgysylltu efo pobl ifanc sydd ddim yn mynychu clybiau e.e.
os oes problemau teithio neu dim darpariaeth yn eu cymunedau. Adroddwyd bod y
Gwasanaeth yn mynd at yr Ysgolion am adborth ac efo Bwrdd Llais pobl ifanc sydd
yn llwyddiannus iawn ac yn awyddus i dderbyn mwy o adborth a data ynghylch y
bobl ifanc sydd ddim yn ymgysylltu’n barod. Ychwanegwyd bod y Gwasanaeth yn
gweithio’n agos efo Swyddogion Lles ar gyfer y bobl ifanc sydd ddim yn
ymgysylltu yn yr Ysgol. Nodwyd bod ymgysylltu hefyd yn digwydd tu allan i’r
Ysgol drwy’r clybiau ble gall anghenion amlygu eu hunain yna gall y Gwasanaeth
gysylltu â gweithio efo’r bobl ifanc. Eglurwyd bod yr elfen wirfoddol yn parhau
i fod yn bwysig a chanolog i’r Gwasanaeth Ieuenctid.
·
O ran ymgysylltu,
nodwyd bod y Gwasanaeth yn gwneud defnydd o gyfryngau cymdeithasol a grwpiau WhatsApp
sy’n ffyrdd digidol newydd o ymgysylltu. Ategwyd bod y symudiad hwn i ffyrdd
digidol o gyfathrebu wedi ei yrru gan y bobl ifanc. Golyga
hyn bod y cyswllt yn bodoli’n ddigidol yna mae’r Gwasanaeth yn ceisio eu hannog
i fynychu sesiynau.
·
Bod rhaid gwneud y
gorau o’r adnodd sydd ar gael a ceisio gwneud i’r adnodd hwn fynd mor bell â
sy’n bosib. Rhaid derbyn bod terfyn i’r hyn gall gael ei gyflawni oherwydd
materion cyllidebol.
·
Mai dim ond un cyfrwng
i gyfleu beth mae’r Gwasanaeth yn ei wneud yw’r rhaglen wythnosol ac mae yn
dueddol o bwysleisio ar yr elfen gymdeithasol gyda’r nos yn hytrach na'r
gweithgareddau sy’n cymryd lle rhwng 3:30-6:00yp. Cydnabuwyd bod y rhaglen
wythnosol ddim yn adlewyrchu bob dim sy’n cael ei gynnid. Ychwanegwyd nad
oes rhaid i bobl ifanc ymwneud â’r gwasanaeth felly mae’r galw yn amrywiol a
bod heriau yn bodoli o ran staffio, ariannu a dod o hyd i leoliadau neu
ystafelloedd i’w llogi ar gyfer cynnal gweithgareddau.
·
Pwynt cychwyn cyn mynd
i drefnu unrhyw ddigwyddiad cymunedol fyddai cynnal deialog efo’r bobl ifanc
ynghylch yr hyn maent yn dymuno ei weld yn yr ardal a gallu asesu’r angen.
·
Ar eu niferoedd uchaf, bod
74 o glybiau ieuenctid yn bodoli ar draws y Sir cyn yr ail strwythuro ond eu
bod nhw wedi dirywio yn naturiol mewn
niferoedd erbyn 2018. Cadarnhawyd mai 38 clwb
oedd mewn
gweithrediad erbyn 2018 a hynny oedd y nifer ddaeth i
ben.
·
Na fyddai gofyn
cwestiwn agored wrth yr holl bobl ifanc os ydynt eisiau clwb yn rhoi darlun
realistig. Yn hytrach teimlwyd y byddai’n well gofyn cwestiynau mwy penodol fel
beth yr ydych eisiau neu’n dymuno ei weld. Ychwanegwyd bod llawer o bobl ifanc
eisiau tripiau am eu bod nhw heb gael y cyfleoedd hyn ers cyn Covid.
Yn sgil hyn adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn cynnal llawer o dripiau e.e.
i fowlio neu i siopa. Ategwyd bod y negeseuon gan yr ifanc yn cael eu pasio
ymlaen i’r Gwasanaeth a bod llawer o bwyslais wedi bod ar
gael hwyl ac ar yr elfen gymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf.
·
Bod y ddarpariaeth sy’n
cael ei gynnig gan y Gwasanaeth Ieuenctid bron pob tro drwy gyfrwng y Gymraeg
neu yn sicr yn ddwyieithog. Ategwyd pwysigrwydd rhoi cyfle i’r ifanc
ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffurf fwy anffurfiol tu allan i’r Ysgol. Nodwyd bod y
gwasanaeth yn gweithio’n agos gydag Hunaniaeth a’r Urdd yn ogystal a gweithio’n
agos efo rhai Ysgolion fel Friars
i ddatblygu’r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
O
ran gwaith Iechyd Meddwl adroddwyd ei fod yn un o flaenoriaethau’r Gwasanaeth
Ieuenctid yn enwedig yr ochr llesol a bod llawer o gydweithio yn cael ei wneud
efo asiantaethau
megis CAHMS. Cydnabuwyd bod lefelau iechyd meddwl
wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf. Adroddwyd ar yr ŵyl llesiant
gafodd ei gynnal dechrau’r flwyddyn oedd wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi
derbyn adborth positif. Soniwyd hefyd am y Prosiect Meddwl Ymlaen sydd wedi
derbyn cyllid am 5 mlynedd. Fydd lleisiau pobl ifanc yn rhoi strwythur i’r
prosiect a bydd llawer o gydweithio rhwng amrywiol asiantaethau yn digwydd dros
gyfnod y prosiect.
Cyfeiriwyd
at symudiad buan y Gwasanaeth Ieuenctid i’r Adran Addysg a phryderwyd yn sgil y
cyfyngiadau ariannol a phrysurdeb yr Adran Addysg y byddai’r Gwasanaeth pwysig
hwn yn mynd ar goll yn yr Adran newydd. Dymunwyd nodi wrth yr Aelod Cabinet
Addysg bod angen blaenoriaethu’r Gwasanaeth Ieuenctid gan sicrhau y bydd yn
derbyn sylw haeddiannol o dan yr Adran Addysg. Cytunwyd i ychwanegu hyn i’r
penderfyniad.
Mynegwyd
diolch i’r Gwasanaeth Ieuenctid am yr adroddiad ac i aelodau’r Pwyllgor am eu
cwestiynau.
PENDERFYNIAD
a.
Derbyn yr
adroddiad oedd yn darparu diweddariad ar ddatblygiadau’r
Gwasanaeth
Ieuenctid.
b.
Gofyn i’r
Aelod Cabinet Addysg ystyried sylwadau’r Pwyllgor am
bwysigrwydd
y Gwasanaeth Ieuenctid gan sicrhau y bydd yn derbyn sylw
haeddiannol
o dan yr Adran Addysg wedi i’r Gwasanaeth drosglwyddo i’r
Adran
hon yn fuan.
Dogfennau ategol: