Penderfyniad:
a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y
cyfarfod.
b) Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ar newidiadau
arfaethedig i’r Polisi Gosod Tai yn y flwyddyn newydd er mwyn rhoi cyfle i’r
aelodau roi mewnbwn.
Cofnod:
Derbyniwyd rhagair gan
yr Aelod Cabinet Tai ac Eiddo a gyfeiriodd at y pwyslais cynyddol ar gartrefu
pobl leol yn y Polisi Gosod Tai newydd. Mynegwyd balchder yn y niferoedd o bobl
leol sy’n derbyn eiddo oddi ar y Gofrestr Tai Cyffredin.
Cymerwyd
y cyfle i atgoffa’r Pwyllgor o’r sefyllfa digartrefedd yn y Sir gan nodi bod yr
amser aros am eiddo cymdeithasol yn gallu bod yn flynyddoedd.
Nodwyd bod hyn yn annheg ac yn adlewyrchu’r realiti nad oes digon o dai
cymdeithasol yn y Sir. Adroddwyd ei bod yn cymryd blynyddoedd i gynyddu’r stoc,
ac er bod gwelliannau wedi digwydd yn y maes yma nid oes digon o eiddo ar gael
i gwrdd â’r galw am dai cymdeithasol.
Mynegodd
y Pennaeth Tai ac Eiddo bod yr adroddiad a gyflwynir i’r Pwyllgor yn adroddiad
interim gyda’r bwriad i adrodd yn llawn i’r Pwyllgor nes ymlaen yn y flwyddyn
newydd. Nodwyd bod hyn o ganlyniad
i newidiadau posib sydd ar y gweill o ganlyniad i
newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth gan y Llywodraeth a disgwyliadau ar
Awdurdodau Lleol i fod yn blaenoriaethu agweddau penodol yn y maes
digartrefedd.
Darparwyd
trosolwg o’r cynnydd ers dechrau
gweithredu’r Polisi Gosod Tai newydd ddwy flynedd yn ôl gan yr Arweinydd Tîm
Opsiynau Tai. Eglurwyd fod y drefn newydd o
flaenoriaethu ymgeiswyr yn seiliedig ar osod ceisiadau mewn Band blaenoriaeth,
sydd wedi cymryd lle’r hen system o ddyfarnu pwyntiau i geisiadau. Nodwyd bod y
system yma yn symleiddio’r broses ac yn gyfuniad
o raddfa anghenion yr
ymgeiswyr yn ogystal â chysylltiad efo Gwynedd.
Adroddwyd
bod y tîm Opsiynau Tai yn gweithio’n agos efo’r Cymdeithasau Tai ac yn gosod oddeutu
600-650 o eiddo mewn blwyddyn. Eglurwyd bod y galw yn sylweddol uwch na’r
cyflenwad o dai sy’n dod yn wag. Ychwanegwyd o ganlyniad i newid y Polisi bod
96.5% o osodiadau wedi ei gwneud i’r ceisiadau oedd efo cysylltiad â Gwynedd o
gymharu a 90% cyn gweithredu’r Polisi newydd.
Cyfeiriwyd
at y sialensiau sydd wedi eu profi o ganlyniad i Covid,
costau byw cynyddol a’r cynnydd sylweddol yn niferoedd sy’n wynebu digartrefedd
yn y Sir. Arweiniodd hyn at gynnydd yn y gofrestr gyda dros 3,300 o geisiadau
bellach yn aros am eiddo cymdeithasol. Ategwyd nad yw’r cyflenwad wedi cynyddu mor
gyflym sy’n dangos y glaw am eiddo cymdeithasol.
Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Diolchwyd am yr
adroddiad.
·
Gofynnwyd pa newidiadau
sydd ar y gweill o ganlyniad i newid mewn Polisi’r Llywodraeth ac a fydd y
rhain yn effeithio’r elfen cysylltiad â Gwynedd yn y Polisi.
·
Mynegwyd pryder y bydd
y newid i’r Polisi yn annog pobl i symud fewn i’r ardal ac yna i dderbyn
blaenoriaeth am eu bod nhw’n ddigartref.
·
Holwyd os yw pobl o du
allan i’r Sir yn cyflwyno’n ddigartref yma.
·
Cyfeiriwyd at achosion
ble roedd pobl yng nghategori neu fand 2 ond bod teimlad gan Aelodau y dylen
fod ym mand 1. Croesawyd yr Aelodau i godi materion am unigolion penodol efo’r
Arweinydd Tîm Opsiynau Tai ar ddiwedd y cyfarfod.
·
Pryderwyd am deulu yn
helpu unigolion
sydd yn wynebu digartrefedd a bod yr help hwn mewn gwirionedd yn ei gwneud hi’n
anoddach iddynt gael ei hail gartrefu.
·
Gwnaethpwyd sylw ar y
prinder tai a holwyd os yw’r prinder yma yn golygu mai dim ond gosodiadau o
fand 1 sydd yn digwydd ac nad oes gan geisiadau ym mand 2 lawer o siawns.
·
Soniwyd am y niferoedd
sydd yn byw mewn tai 3 ystafell wely ar ben eu hunain,
holwyd os oes cymhelliant neu rywbeth yn cael ei gynnig i’w hannog i symud er
mwyn rhyddhau’r tai yma i deuluoedd.
·
Holwyd os yw’r
cysylltiad â chymunedau yn parhau i fodoli o fewn y Polisi newydd.
·
Gofynnwyd beth yw incwm
y bobl sydd yn cofrestru ar y gofrestr tai ac os oes trothwy e.e. ar eu
cynilion. Gwnaethpwyd sylw o’r blaen roedd cyfyngiadau incwm a chynilion
yn bodoli a phobl ddim yn cael eu cynnwys ar y gofrestr.
·
Mynegwyd pryder am
ymgeiswyr yn cael cynnig eiddo mewn lleoliadau ble nad ydynt eisiau byw ac yn wynebu
derbyn
cosb ar eu cais os yn gwrthod yr eiddo.
·
Holwyd faint o
deuluoedd sydd mewn llety dros dro yn y Sir. Gofynnwyd
hefyd os yw safleoedd carafanau yn cael eu hystyried yn hytrach na gwestai neu
B&B.
·
Gofynnwyd os yw’r
Cyngor yn ail edrych ar brynu eiddo.
Amlygwyd bod Tai 3-4 llofft yn wag ac ar y farchnad agored ar hyn o bryd a gall
y Cyngor eu prynu a’u defnyddio fel llety dros dro fyddai yn arbed arian yn y
tymor hir.
·
Holwyd ynghylch tai
gwag preifat er enghraifft ail dai ac os oes modd i’r Cyngor helpu i lesu’r tai
hyn neu ddod o hyd i denantiaethau ar eu cyfer.
Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod dim arwydd y bydd y
newidiadau i’r Polisi Gosod Tai o ganlyniad i newid deddfwriaeth yn mynd i gael
effaith ar yr elfen cysylltiad lleol. Adroddwyd ei bod yn debygol y bydd y
newidiadau yn ymwneud a ceisio uchafu’r niferoedd digartref sy’n cael eu cartrefu.
·
Credwyd y bydd newid
ffocws o fewn pa rai o’r categorïau fydd angen cael eu hystyried fel anghenion
brys fydd yn cynnwys digartrefedd ac anghenion eraill e.e. meddygol a lles.
Eglurwyd o bosib bydd angen blaenoriaethu anghenion digartrefedd yn uwch nag anghenion
eraill. Ychwanegwyd bod strategaethau eraill gan y Llywodraeth fel Ail Gartrefu
Cyflym fydd yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i geisio lleihau'r defnydd o
eiddo dros dro fydd yn lleihau costau yn ogystal â phwysau ar wasanaethau
eraill sydd yn cefnogi tenantiaid mewn llety dros dro.
·
Ategwyd mai pobl
Gwynedd yw’r mwyafrif o’r bobl digartref sydd ar y rhestr aros ac bod y
cysylltiad â Gwynedd yn bodoli. Nodwyd bod y niferoedd sy’n cyflwyno’n
ddigartref o du allan i’r Sir yn ofnadwy o isel. Esboniwyd allan
o 3,335 o geisiadau sydd ar y Gofrestr mai 35 sydd yn mand 1B sef efo angen tai
brys ond heb gysylltiad lleol felly mae’r canran yn ofnadwy o isel.
Ymhelaethwyd bod 1,300 o osodiadau wedi eu gwneud o’r Polisi newydd a dim ond
17 o’r rhain oedd wedi dod o fand 1B.
·
Ychwanegwyd bod y
penderfyniad ynglŷn â newid cyfansoddiad y bandiau yn benderfyniad Cyngor
Gwynedd gan mai’r Polisi’r Cyngor ydw. Serch hyn rhaid gweithredu’r Polisi o
fewn canllawiau a rheoliadau’r Llywodraeth. Adroddwyd nad oes unrhyw arwydd
wedi dod gan y Llywodraeth hyd yn hyn ynglŷn â newid yr elfen cysylltiad
lleol o fewn y bandiau.
·
Cadarnhawyd bod cynnal
asesiad digartrefedd o fewn 56 diwrnod yn rhan o fframwaith cyfreithiol ac yn
statudol. Nodwyd bod yr asesiad neu’r cais i fod ar y gofrestr Tai Cyffredin
gan y Tîm Opsiynau Tai ar wahân i’r asesiad digartrefedd. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd bod y Tîm Opsiynau Tai yn derbyn y wybodaeth lawn gan ymgeiswyr i
allu gwneud asesiad yn unol â’r Polisi a rhoi’r flaenoriaeth gywir i’r cais.
Soniwyd am adolygiad mewnol fydd yn digwydd o fewn yr Adran Tai i sicrhau bod
anghenion pobl Gwynedd yn cael eu cyfarch at y dyfodol ac edrych dros wersi
sydd wedi eu dysgu dros y blynyddoedd diwethaf.
·
Adroddwyd bod 16% o’r
gofrestr dai sydd yn cyfateb a dros 500 o geisiadau yn dod o fand 1A. O’r 1,300
sydd wedi derbyn eiddo nodwyd bod 40% ohonynt wedi dod o’r band
yma. Ychwanegwyd bod 45% o’r ceisiadau sydd wedi derbyn eiddo wedi dod o fand 2
sy’n golygu bod gan y ceisiadau ym mans 2 siawns dda o dderbyn eiddo.
·
Ynglŷn a’r pwynt o
dan-feddiannu, eglurwyd bod rôl y Tîm Opsiynau Tai yn anodd o ran annog pobl i
symud i dai llai oherwydd nad oes gan y Cyngor stoc dai.
Ychwanegwyd bod rôl y cymdeithasau tai yn anodd oherwydd bod pobl wedi arwyddo
cytundebau tenantiaeth felly ni ellir gorfodi neb i symud i eiddo llai. Nodwyd
pan mae tan-feddiannu yn digwydd ac angen brys am yr eiddo yno bod y cais yn
mynd i fand 1A. Y cam nesaf sydd hefyd yn anodd yw ceisio dod o hyd i eiddo
llai i’r bobl yma yn enwedig o ystyried prinder
byngalos i’r henoed. Ategwyd bod cyfathrebu a gweithio’n
agos efo’r Cymdeithasu Tai yn hanfodol er mwyn cyfleu beth yw’r anghenion a pa
fath o stoc sydd ei angen mewn gwahanol ardaloedd.
·
Eglurwyd bod y
cysylltiadau cymunedol yn parhau i fodoli o fewn y Polisi newydd a dyma sy’n
penderfynu pa mor uchel fydd cais o fewn band penodol.
·
O ran incwm eglurwyd
bod yr elfen yma yn esblygu yn wythnosol bellach efo’r argyfwng costau byw.
Nodwyd bod y cymdeithasau tai efo statws elusennol ac i fod i gartrefu pobl
sydd ar incwm isel. Yn y gorffennol efallai bod adnabod trothwy pendant yn haws
ond bellach rhaid asesu ar sail anghenion a thrin pob achos yn unigol cyn dod i
gasgliad.
·
Pwysleisiwyd y
pwysigrwydd i ymgeiswyr ddewis ardaloedd ble byddent eisiau byw yn unig ac
ystyried eu dewisiadau yn ofalus oherwydd bod
ceisiadau sy’n gwrthod eiddo mewn lleoliadau o’u dewis yn wynebu cosb gwrthod.
Eglurwyd bod y mater yma yn cael ei gymhlethu pan mae’r ymgeiswyr yn ddigartref
ac mewn eiddo dros dro pan mae disgwyliad iddynt ehangu eu dewisiadau
ardaloedd. Ychwanegwyd fod y Tîm Opsiynau Tai yn ceisio bod yn hyblyg.
·
Cadarnhawyd bod 250 o
bobl mewn llety dros dro yng Ngwynedd ar ffigwr
wedi bod yn cynyddu, sydd yn gost sylweddol i’r Cyngor
o filiynau y flwyddyn. Ychwanegwyd bod
yr Uned Digartrefedd yn cartref pobl mewn carafanau ond bod yr argaeledd yn
broblem a rhwystrau megis trwyddedu a safleoedd yn cau dros y gaeaf sy’n golygu
bod rhaid i ymgeiswyr neu deuluoedd symud fwy nac unwaith.
·
Nodwyd bod yr Adran Dai
ac Eiddo eisoes yn y broses o brynu rhai o hen dai cymdeithasol yn ogystal â
hen adeiladau mawr ar gyfer gwneud fflatiau fydd yn cael eu defnyddio fel llety
dros dro. Ychwanegwyd bod yr Adran yn edrych i ehangu’r gwaith yma.
·
Eglurwyd bod yr Adran
eisoes wedi llythyru 1,500 o dai gweigion yng Ngwynedd ac wedi derbyn 170 o
ymatebion yn cynnig gwerthu’r tai neu yn gofyn am help i drefnu a sefydlu
tenantiaethau ar gyfer yr eiddo. Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio drwy’r
ymatebion ar hyn o bryd.
Diolchwyd
am
yr holl waith sy’n cael ei wneud gan yr Adran a’r
Tîm Opsiynau Tai dan amgylchiadau anodd wrth ystyried
y prinder eiddo cymdeithasol yn y Sir. Diolchwyd yn
ogystal i’r Aelodau am eu cwestiynau.
Amlygwyd
fod y Pennaeth Tai ac Eiddo wedi nodi awydd i ddychwelyd yn y flwyddyn newydd
er mwyn darparu diweddariad pellach i’r Pwyllgor. Bydd y Pennaeth Tai ac Eiddo
yn diweddaru’r Pwyllgor pan fydd y ddeddfwriaeth newydd wedi ei gadarnhau ac ar
ôl derbyn arweiniad pellach gan y Llywodraeth.
PENDERFYNIAD
a) Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.
b) Bydd
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno ar newidiadau arfaethedig i’r
Polisi Gosod Tai yn y flwyddyn newydd er mwyn rhoi cyfle i’r
aelodau roi
mewnbwn.
Dogfennau ategol: