Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd
Cofnod:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau
:
• Bod yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ynghyd a thystysgrif diogelu gyrwyr tacsi. Amlygwyd nad oedd wedi
datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei
ffurflen gais. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y ddedfryd, pam nad oedd wedi
datgan bod ganddo gollfarnau blaenorol ar ei
ffurflen gais a’i amgylchiadau personol. Eglurodd mai 1 mis yn y carchar a wnaeth ac wedyn gwisgo
tag gan mai ei ffrind oedd wedi bygwth
tyst drwy ddefnyddio ei ffôn.
Amlygodd hefyd mai un collfarn / digwyddiad oedd ganddo ac
nid collfarnau / digwyddiadau
fel y nodwyd yn yr adroddiad. Ymddiheurodd am beidio â datgelu'r drosedd ar ei
ffurflen gais gan egluro nad oedd yn
dda iawn am lenwi ffurflenni.
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda
Chyngor Gwynedd.
Wrth gyrraedd
eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi
Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd
Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Cefndir
Yn Awst
2008 dyfarnwyd yr ymgeisydd
yn euog o fygwth tyst neu
reithiwr gyda’r bwriad o rwystro, gwyrdroi neu ymyrryd
a chyfiawnder yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 A.51 (1) lle derbyniodd garchar am 6 mis.
CYMALAU PERTHNASOL Y
POLISI
Ystyriwyd paragraff
2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes
rheidrwydd i berson sydd â chollfarn
am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi
ei fod yn
berson addas a phriodol.
Mae cymal
2.3 o'r polisi yn nodi y gellir ystyried unrhyw gollfarnau troseddol, neu faterion eraill sy'n ymwneud ag addasrwydd a phriodoldeb yr ymgeisydd. Yn hyn
o beth, mae'r drosedd y cafwyd yr ymgeisydd yn euog
ohoni yn drosedd ddifrifol iawn; un a oedd
yn cyfiawnhau dedfryd o 6 mis o garchar.
Mae paragraff
2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn euog
o drosedd(au) neu fod mater
arall/materion eraill i'w (h)ystyried
yng nghyswllt hynny, ni chaiff
y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu treulio
o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Mae paragraff
6.0 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff
6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig
yn dod i
gysylltiad agos gyda'r cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt
cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau
yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff
6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded
fel rheol yn cael ei
wrthod os oes gan yr ymgeisydd
fater i’w ystyried am ymosodiad cyffredin a/neu ddifrod troseddol a /neu drosedd o dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus
1986 sydd yn llai na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais.
CASGLIADAU
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad,
gan fod 14 mlynedd wedi mynd
heibio ers i’r ymgeisydd gael
ei ddyfarnu’n euog, bod y trothwy tair blynedd o dan y Polisi yn amlwg wedi
mynd heibio. Nid oedd unrhyw
gollfarnau blaenorol na chollfarnau dilynol. Er yr eglurhad am y digwyddiad yn 2008, nid oedd yr is-bwyllgor yn hollol
eglur beth oedd yr amgylchiadau ond y bu rhaid
i’r ymgeisydd dderbyn cyfrifoldeb am roi benthyg ei
ffôn i'w ffrind fygwth tyst.
Fodd bynnag, gan fod cyfnod
o amser digonol wedi mynd heibio
ers y drosedd, nid oedd unrhyw
resymau cymhellol dros beidio â dilyn
canllawiau’r polisi yn yr achos yma.
Penderfynodd yr Is-bwyllgor o blaid
caniatáu y cais a bod yr ymgeisydd felly yn berson addas a phriodol i ddal trwydded
gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat
am flwyddyn
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau
yn ffurfiol drwy lythyr i’r
ymgeisydd.