Penderfyniad:
Nodi’r sylwadau a
derbyn y wybodaeth.
Cofnod:
PENDERFYNWYD:
Nodi’r sylwadau a derbyn y wybodaeth.
Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn adrodd ar
ganlyniadau’r holiadur a anfonwyd i’r holl Aelodau ym mis Hydref 2022.
Nodwyd mai rhan gyntaf yr holiadur oedd holi Aelodau am amseriad
cyfarfodydd y Cyngor. Adroddwyd ar y canlyniadau gan nodi bod 42 aelod wedi
ateb yr holiadur yn llawn. Nodwyd bod y canlyniadau yn dangos parodrwydd i
addasu rhywfaint ar rai o gyfarfodydd y Cyngor megis symud amser cychwyn y
Cyngor Llawn o 1:00yp i 1:30yp. Dangosa’r canlyniadau bod awydd i barhau efo
amseru cyfredol y Pwyllgorau Craffu ond bod rhai wedi mynegi awydd i newid
amser y Pwyllgor Cynllunio i gychwyn am 10:00yb. Ychwanegwyd y gall newid o’r
fath greu anawsterau ynghylch cynnal ymweliadau safle.
Adroddwyd y bydd y canlyniadau yn cael eu defnyddio fel sail i’r calendr
cyfarfodydd 2023/24. Cadarnhawyd bod trafodaethau a gwaith pellach i’w wneud
wrth ystyried amser cychwyn y Pwyllgor Cynllunio cyn dod i gasgliad. Adroddwyd
bod yr holiadur wedi amlygu’r angen am doriad amserol mewn Pwyllgorau; nodwyd y
bydd hyn yn derbyn sylw ac yn cael ei drafod gyda Cadeiryddion gwahanol
Bwyllgorau.
Nodwyd bod ail ran yr adroddiad yn cyfeirio
at fodlonrwydd yr Aelodau efo’r tîm Gwasanaethau Democratiaeth a chyfeiriwyd at
y sylwadau sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Adroddwyd bod trydedd rhan yr
adroddiad yn ymdrin â materion cyfathrebu a nod yr uned o gyfleu negeseuon yn
amserol a hwylus i Aelodau. Nodwyd bod y canlyniadau yn foddhaol ar y cyfan.
I gloi nodwyd bod sylwadau wedi eu cyflwyno
megis brolio’r sesiynau anffurfiol Merched sy’n Gynghorwyr gan nodi bod y rhain
yn hybu cydweithio ymhlith Cynghorwyr benywaidd ac yn codi hyder y Cynghorwyr
hyn. Derbyniwyd sylwadau positif ar y rhaglen hyfforddi yn ogystal â sylwadau
ar ddiogelwch Cynghorwyr.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol:
-
Mynegwyd awydd i barhau efo amser
cyfredol y Pwyllgor Cynllunio. Credwyd bod cynnal y Pwyllgorau yn y prynhawn yn
gweithio’n dda ac yn galluogi cynnal ymweliadau safle yn rhwydd ar fore’r
Pwyllgor. Nodwyd y byddai’n fwy costus i’r Cyngor pe bai angen cynnal yr
ymweliadau safle ar ddiwrnod arall.
-
Gwnaethpwyd sylw ar ddiogelwch
Cynghorwyr yn dilyn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ym mis Awst a thybiwyd
os oedd angen ail ystyried trefniadau diogelwch y Cyngor. Adroddwyd bod dau
Gynghorydd wedi derbyn bygythiadau difrifol o ganlyniad i’r cyfarfod dan sylw a
cwestiynwyd a ddylai’r Heddlu fod yn bresennol pan fydd eitemau dadleuol yn
cael eu trafod.
-
Credwyd bod y dirwedd wleidyddol
wedi newid a phryderwyd gweld rhagor o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Nodwyd
hefyd bod cyfrifoldeb ar Gynghorwyr i gymryd sylw o’r hyn maent yn ei gyfleu
a’r iaith sy’n cael ei ddefnyddio.
-
Mynegwyd gwerthfawrogiad bod asesiadau risg bellach yn
cael eu cynnal.
-
Nodwyd ei bod yn rhan o rôl
Cynghorydd i herio er enghraifft aelodau’r Pwyllgorau Craffu a bod cyfrifoldeb
i siarad ar ran eu cynrychiolwyr. Ychwanegwyd ei bod yn bwysig cymryd
ystyriaeth o’r cod ymddygiad wrth herio.
-
Diolchwyd i’r gwasanaeth am eu cymorth.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Ategwyd y bydd ystyriaethau pellach i’w gwneud wrth
ddylunio calendr cyfarfodydd 2023/24 ac mai cam cychwynnol yw adrodd ar
ganlyniadau’r holiadur. Nodwyd y bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r awgrym o
anfon holiadur pellach i aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.
-
Diolchwyd am y sylwadau am ddiogelwch Cynghorwyr a staff
gan adrodd bod camau penodol wedi eu cymryd ers y cyfarfod ym mis Awst.
Adroddwyd bellach bod asesiadau risg yn cael eu cynnal cyn bob Pwyllgor hybrid
er mwyn arbed tarfu ar gyfarfodydd a lleihau’r risg i Aelodau, y cyhoedd a
swyddogion y Cyngor. Ychwanegwyd mai un cam yn unig yw’r asesiadau risg a bod
llawer o waith yn digwydd ar y cyd efo’r uned Iechyd a Diogelwch.
-
Adroddwyd y byddai’n rhesymol i
adrodd ar gynnydd y gweithrediad asesiadau risg ac i’w gynnwys fel eitem i’r
Pwyllgor hwn yn y dyfodol er mwyn i’r Aelodau gael gweld y cynnydd.
Dogfennau ategol: