I dderbyn y
diweddariad o’r camau gweithredu yn unol â gofynion y Ddeddf ac i argymell y
Cynllun Deisebau i’r Cabinet. Hefyd i adnabod 2 neu 3 aelod i gynorthwyo gyda’r
gwaith o ddatblygu protocol ‘Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr’.
Penderfyniad:
a)
Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau ar y Cynllun Deisebau
fydd yn cael ei argymell i’r Cabinet.
b)
Adnabod y Cynghorwyr Dewi Owen, Beca Roberts a Stephen
Churchman fel aelodau i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu protocol ‘Cymorth
a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr’.
Cofnod:
PENDERFYNWYD:
a)
Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau
ar y Cynllun Deisebau fydd yn cael ei argymell i’r Cabinet.
b)
Adnabod y Cynghorwyr Dewi Owen, Beca
Roberts a Stephen Churchman fel aelodau i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu
protocol ‘Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr’.
Cyflwynwyd yr eitem gan
osod cyd-destun y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Eglurwyd
bod yr adroddiad yn cyfeirio at dair elfen o’r Ddeddf ac yn rhoi diweddariad
i’r Pwyllgor ar y camau gweithredu perthnasol a’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd
yma yn unol â gofynion y Ddeddf. Nodwyd bod tîm gweithredol o’r Gwasanaeth
Democratiaeth ac Iaith a’r Gwasanaeth Cyfreithiol wedi ei sefydlu er mwyn
ymgymryd â’r gwaith.
Adroddwyd bod gofyniad yn y
Ddeddf i Awdurdodau Lleol gyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad er mwyn nodi’r
ffyrdd y caiff pobl leol eu hannog i gymryd rhan ym mhrosesau’r Cyngor o wneud
penderfyniadau. Nodwyd bod y tîm gweithredol wedi bod yn datblygu strategaeth
ddrafft a bydd y strategaeth honno yn cael ei datblygu dros amser wrth i
arferion da ddod i’r amlwg. Ychwanegwyd ei bod yn ofynnol cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Strategaeth a bwriedir cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad yn y
fersiwn derfynol o’r strategaeth i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth.
Nodwyd mai gofyniad arall
yn ôl y Ddeddf yw creu a chyhoeddi Cynllun Deisebau. Eglurwyd nad yw hyn yn
rhywbeth newydd i’r Cyngor ond nad oes unrhyw ganllawiau penodol mewn lle ar
hyn o bryd yn amlygu’r camau. Ategwyd bod y Cynllun wedi ei gynnwys yn yr
adroddiad fel atodiad ac yn dilyn derbyn sylwadau’r Pwyllgor heddiw bydd y
Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddiwedd Tachwedd i’w argymell i’w
fabwysiadu gan y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Ychwanegwyd y byddai’r Swyddogion
yn ddiolchgar o dderbyn unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor.
Y gofyniad olaf yw rhoi
sylw i ganllawiau Cymorth a Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorau. Adroddwyd bod y
ddogfen yn nodi y dylai pob Aelod allu cael gafael ar amrywiaeth o wybodaeth a
chyngor; mae’r protocol hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Nodwyd bod
angen adnabod tri Aelod i gynorthwyo gyda’r gwaith yma er mwyn sicrhau mewnbwn
Aelodau.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol:
-
Gofynnwyd am eglurder ynglŷn
â’r posibilrwydd o gyflwyno deiseb bapur yn hytrach na drwy e-bost ac am y
nifer o lofnodwyr ar ddeiseb. Mynegwyd pryder bod deisebau efo llai na 100 o
enwau am gael eu gwrthod a chredwyd y byddai hyn yn cael effaith ar faterion
mewn pentrefi bach. Gofynnwyd i’r geiriad gael ei ail ystyried.
-
Holiwyd am eglurder ynglŷn
â’r pwynt am aelodau o’r cyhoedd yn gallu gofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn a
gofynnwyd os yw hyn yn golygu newid i’r Cyfansoddiad.
-
Cyfeiriwyd at ddau achos ble roedd Aelod wedi holi dau
Bennaeth Adran am wybodaeth; cafwyd ymateb boddhaol gan un Pennaeth ond credwyd
bod yr ymateb yn siomedig gan y Pennaeth arall.
-
Cwestiynwyd pa mor ddefnyddiol
ydi deisebau gan nodi y gall casglu dros 100 o lofnodion fod yn hawdd a phryderwyd
pa bynciau fyddai yn amlygu eu hunain. Credwyd ei bod yn bwysig gallu hidlo’r
deisebau a chael canllawiau cadarn mewn lle ynglŷn â beth sy’n dderbyniol.
-
Croesawyd y Cynllun deisebau fydd yn rhoi eglurhad i’r
cyhoedd o’r broses.
-
Derbyniwyd 3 enw i gynorthwyo gyda’r gwaith Cymorth a
Gwasanaethau Ymchwil i Gynghorwyr.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Diolchwyd am y sylwadau teg ar y Cynllun Deisebau gan
nodi y bydd yr addasiadau perthnasol yn cael eu gwneud er mwyn bod yn fwy
penodol a chlir yn y Cynllun. Cadarnhawyd y bydd disgresiwn gan y Cyngor i
dderbyn deisebau efo llai na 100 o lofnodion ac y byddent yn derbyn ystyriaeth.
-
Cadarnhawyd bod y Cyfansoddiad
eisoes yn cyfeirio at hawl aelodau’r cyhoedd i ofyn cwestiwn yn y Cyngor Llawn
a’r bwriad yw amlygu’r hawl yno ymysg y cyhoedd. Nodwyd bod trefniant penodol
mewn lle sy’n cynnwys derbyn rhag rybudd o’r cwestiwn.
-
Croesawyd y sylwadau ar ymatebion i ymholiadau Aelodau ac
anogwyd yr Aelodau i drafod enghreifftiau unigol efo’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol sydd yn arwain ar y gwaith o edrych ar sut mae’r Cyngor yn ymateb
i ymholiadau Aelodau.
-
Eglurwyd bod gwahanol ffyrdd o ymateb i ddeisebau gan
gynnwys ymateb uniongyrchol gan yr Aelod Cabinet neu drafodaeth yn y Cabinet
neu mewn Pwyllgor Craffu. Ychwanegwyd y bydd y Cynllun yn egluro’r drefn o
gyflwyno deiseb i’r Cyngor gan o bosib nad yw’r cyhoedd yn ymwybodol ar hyn i
bryd am nad oes canllawiau clir.
Dogfennau ategol: