I roi diweddariad o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a
datblygiadau.
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd.
Cofnod:
PENDERFYNWYD:
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd.
Cyflwynwyd trosolwg o’r ddarpariaeth Dysgu a
Datblygu i Aelodau gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau.
Adroddwyd bod dewis o hyfforddiant rhithiol ac wyneb yn wyneb yn cael ei gynnig
er mwyn darparu amrywiaeth i’r Aelodau ond hefyd annog llai o deithio.
Mynegwyd y byddai’r uned Dysgu a Datblygu yn ddiolchgar o dderbyn
sylwadau am y ddarpariaeth er mwyn gallu addasu a gwella i geisio ymateb i
ofynion Aelodau. Nodwyd bod y Rhaglen Datblygu Aelodau Etholedig yn esblygu ac
yn gyfuniad o geisiadau gan Swyddogion y Cyngor ac Aelodau. Anogwyd yr Aelodau
i roi eu barn ar beth y dymunant ei weld ar y Rhaglen.
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol:
-
Mynegwyd bod y cyfnod Cofid wedi newid bywydau a bod y
cynnig o hyfforddiant rhithiol o fantais i lawer am ei fod yn arbed amser
teithio Cynghorwyr ac yn arbed arian i’r Cyngor.
-
Credwyd bod safon yr hyfforddiant yn dda iawn.
-
Mynegwyd safbwynt bod y cyrsiau
neu’r hyfforddiant rhithiol yn anoddach i’w deall a’u cofio o gymharu â’r rhai
sy’n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ble gall Aelodau gyd-drafod a sgwrsio,
credwyd bod y rhain yn fwy effeithiol.
-
Ategwyd y farn uchod gan nodi bod hyfforddiant wyneb yn
wyneb yn fwy diddorol.
-
Nodwyd y byddai'n ddefnyddiol
gweld rhestr o ba hyfforddiant mae Aelodau wedi eu mynychu ac angen eu mynychu,
yn enwedig efo’r hyfforddiant hanfodol.
-
Adroddwyd bod y Cyngor yn arfer
cynnig hyfforddiant ar sut i ddelio efo’r wasg e.e. cyfweliadau teledu neu
radio, a broliwyd yr hyfforddiant hwn. Gofynnwyd a fydd rhywbeth tebyg yn cael
ei gynnig yn y misoedd nesaf.
-
Ategwyd y sylw uchod efo budd derbyn hyfforddiant ar sut
i ddeilio efo’r wasg yn ogystal ag elfen o hyfforddiant ar siarad yn
gyhoeddus.
-
Holiwyd am y drefn o ddarparu adborth ar ôl mynychu
hyfforddiant.
-
Mynegwyd sylw y byddai mwy o hyfforddiant yn ymwneud a
Deddfau a’r ochr gyfreithiol o fudd er mwyn cael gwell eglurder am y materion
hyn.
-
Diolchwyd i’r uned Dysgu a Datblygu am eu gwaith.
Mewn ymateb i’r sylwadau:
-
Mynegwyd ei bod yn bwysig cynnig
amrywiaeth o hyfforddiant rhithiol ac wyneb yn wyneb a bod yr uned yn ceisio
taro’r balans cywir.
-
Nodwyd bod modd gweld rhestr o ba
hyfforddiant mae Aelodau unigol wedi eu mynychu ar y Modiwl Datblygu Staff o
dan Fy Nghofnod Hyfforddi. Gall y Swyddog Datblygu Aelodau anfon e-bost at yr
Aelodau yn esbonio ble i ddod o hyd i’r cofnod hwn.
-
Adroddwyd y gall sesiwn hyfforddi ar ddelio efo’r wasg
gael ei drefnu pe bai’r Aelodau yn dymuno. Ychwanegwyd yn hanesyddol fod yr
hyfforddiant hwn yn cael ei gynnig i Aelodau Cabinet neu Gadeiryddion ond cytunwyd
y dylai gael ei gynnig yn ehangach. Nodwyd bod y sesiynau ar gyfer Aelodau
Cabinet wedi cael eu trefnu at ddechrau 2023; bydd yr uned yn trafod pryd sy’n
amserol i gynnig yr hyfforddiant i weddill yr Aelodau.
-
Cymerwyd y cyfle i gyfeirio at yr
Adolygiad Datblygiad Personol sydd ar gael i bob Aelod ac yn gyfle i gael sgwrs
unigol efo’r uned Dysgu a Datblygu er mwyn adnabod meysydd gwahanol, cyfleoedd
neu flaenoriaethau i’w cynnwys yn eu rhaglen ddatblygu personol.
-
Cadarnhawyd bod ffurflen adborth yn cael ei e-bostio at
Aelodau yn dilyn yr hyfforddiant.
-
Cadarnhawyd bod rhagor o hyfforddiant ar y gweill gan
gynnwys hyfforddiant yn ymwneud â Deddfau. Nodwyd bod yr uned wedi canolbwyntio
ar yr hyfforddiant hanfodol yn bennaf ers yr Etholiadau ym Mai 2022. Bydd
hyfforddiant mwy meddal er enghraifft Darllen Cyflym yn cael eu cynnig yn ystod
y blynyddoedd nesaf.
Dogfennau ategol: