Agenda item

I ofyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am:

·         sylwadau ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

·         sylwadau ar y trefniadau i adolygu uwch gyflogau.

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau’r Pwyllgor ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac ar y trefniadau i adolygu uwch gyflogau.

Cofnod:

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad gan nodi sylwadau’r Pwyllgor ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac ar y trefniadau i adolygu uwch gyflogau.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn argymell i gynyddu cyflog sylfaenol Cynghorwyr i £17,600, sef cynnydd o 4.76%. Gofynnwyd am sylwadau ar gyfer llunio ymateb i ymgynghoriad adroddiad drafft Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol sydd yn amlinellu’r newidiadau a fwriedir ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24. Eglurwyd mai cyfrifoldeb y Panel yw gosod lefelau cyflogau Cynghorwyr Cymru a bod eu rôl yn hollol annibynnol.

 

Ychwanegwyd nad oes rhaid i Aelodau dderbyn y cyflog, mae’r hawl ganddynt i wrthod y cyflog ond rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Adroddwyd mai 18 yw’r uchafswm o uwch gyflogau y gellir eu talu ac mae’r adroddiad yn manylu ar argymhellion a safbwynt y Panel. Cadarnhawyd mai 17 allan o’r 18 uwch gyflog sydd wedi eu neilltuo ar gyfer 2022/23 yn sgil y newidiadau o benodi Aelod Lleyg yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Gofynnwyd i’r Pwyllgor adolygu’r sefyllfa ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod y rhestr o’r uwch gyflogau i’w weld ym mharagraff 17 o’r adroddiad.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cyfeirio at adolygu cyfrifoldebau Cadeiryddion Pwyllgorau felly bydd y tîm Democratiaeth yn ceisio asesu'r pwysau gwaith a’r cyfrifoldebau ar y Cadeiryddion dros y misoedd nesaf. Bydd y canlyniadau yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ym mis Mawrth 2023 er mwyn llunio argymhelliad i gyfarfod blynyddol y Cyngor llawn ym mis Mai.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

-        Mynegwyd sylw bod yr Aelodau wedi derbyn beirniadaeth yn barod am dderbyn rhagor o gyflog.

-        Gwnaethpwyd sylw bod Aelodau yn gallu hawlio ad-daliadau costau gofal i’w cynorthwyo efo gofal plant a bod ganddynt hawl i absenoldeb mamolaeth a chwestiynwyd os oedd yr holl Aelodau yn ymwybodol o hyn.

-        Ategwyd bod hyn hefyd yn wir i ofalwyr sydd â dibynyddion a’i bod yn bwysig hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael.

-        Mynegwyd siomedigaeth nad oedd gwahaniaeth yng nghyflogau Cynghorwyr Tref a Chynghorwyr ardaloedd gwledig. Ychwanegwyd nad oedd angen i Gynghorwyr ardaloedd trefnol ddefnyddio eu ceir na thalu am logi ystafelloedd ar gyfer cynnal cymorthfeydd felly yn arbed llawer o arian o gymharu â Chynghorydd ward gwledig. Credwyd bod y diffyg ystyriaeth i’r costau ychwanegol i Gynghorwyr gwledig yn annheg.

-        Ategwyd mai’r ffordd fwyaf teg o benderfynu pa Gadeiryddion Pwyllgorau sy’n derbyn yr uwch gyflog fydd drwy edrych ar eu rôl yn unigol a’u llwyth gwaith.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau:

-        Nodwyd bod y Gwasanaeth yn parhau i gymryd camau i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael i Aelodau o ran ad-daliadau costau gofal. Cyfeiriwyd at y Llawlyfr Aelodau sy’n cyfeirio at yr hyn sydd ar gael. 

-        Nodwyd bod gwybodaeth yn yr adroddiad llawn gan Banel Annibynnol Cymru ar gydnabyddiaeth ariannol a gall y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith anfon copi o’r adroddiad llawn i Aelodau pe baent yn dymuno.

-        Ychwanegwyd y gall y Gwasanaeth drefnu i nodi’r wybodaeth mewn lleoliad amlycach ar y Mewnrwyd Aelodau.

-        Cadarnhawyd y bydd Swyddogion yn holi Cadeiryddion Pwyllgorau am eu cyfrifoldebau â’r gofynion sydd arnynt fel Cadeirydd Pwyllgor er mwyn derbyn eu sylwadau ar gyfer ystyriaeth bellach yng nghyfarfod mis Mawrth o’r Pwyllgor hwn. 

 

Dogfennau ategol: