Agenda item

Elevenses Distillery Ltd, Neuadd y Faenol, Parc y Faenol, Bangor,

Gwynedd LL57 4BP

 

I ystyried y cais uchod

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Caniatau y cais

 

Cofnod:

Eraill a wahoddwyd:

 

Mr Jake Davies (ymgeisydd)

Mr Simon Bromley (Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru)

           

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Elevenses Distillery Ltd, Neuadd y Faenol, Parc y Faenol, Gwynedd ar gyfer distyllfa fach deuluol. Gwnaed y cais mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth fyw a gwerthiant alcohol ar ac oddi ar yr eiddo.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd na dderbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais ond bod Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd (Cyngor Gwynedd) wedi cynnig amodau / sylwadau. Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn argymell amodau TCC i’w cynnwys ar y drwydded ynghyd a sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant mewn perthynas â holl agweddau’r Ddeddf Trwyddedu. Roedd Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu pryder ynglŷn â diffyg gwybodaeth am amlder cynnal digwyddiadau ac am gynlluniau atal niwsans cyhoeddus.

 

Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi nodi cyfyngiad o 5 digwyddiad y flwyddyn

 

Argymhellwyd i’r Pwyllgor ganiatáu’r cais yn unol â gofynion Deddf Drwyddedu 2003. 

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd:

·         Ei fod yn hapus gydag amodau’r Heddlu a bod rhai eisoes yn weithredol

·         Ei fod yn derbyn sylwadau Adran yr Amgylchedd

·         Bod bwriad trefnu un noson agoriadol ym mis Ebrill 2023 - bydd y noson yn un drwy wahoddiad yn unig i bobl dros 18 oed (teulu a ffrindiau yn bennaf)

·         Bydd toiledau symudol yn cael eu darparu ar gyfer y digwyddiadau

·         Gyda chydweithrediad perchennog y Faenol, bydd modd darparu llefydd parcio digonol ar gyfer y digwyddiadau

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag os caniatáu'r drwydded bydd cyfle i gynnal mwy nag un digwyddiad ac felly angen trefniadau pendant yn eu lle, cadarnhaodd yr ymgeisydd y bydd trefniadau pendant ar gyfer ymwelwyr - toiledau a llefydd parcio digonol.

Ategodd y Rheolwr Trwyddedu bod gohebu clir wedi bod gyda’r ymgeisydd yn ystod y broses o gyflwyno cais a bod y cais yn un safonol. Bydd hawl cynnal hyd at 5 digwyddiad y flwyddyn  mewn adeilad ‘digwyddiadau’ drws nesaf i’r ddistyllfa..

Ymneilltuodd yr ymatebwyr a’r Rheolwr Trwyddedu o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu ynghyd â sylwadau llafar pob parti yn bresennol yn y gwrandawiad.  Ystyriwyd  Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref.

Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais. Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau.

PENDERFYNWYD

·         Caniatáu y cais diwygiedig

·         Ymgorffori'r materion oedd wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y drwydded

·         Ymgorffori fel amodau'r drwydded, yr amodau TCC a argymhellwyd gan Heddlu Gogledd Cymru

 

Rhesymau

 

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i’r sylwadau a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd. Roeddynt yn fodlon bod yr ymgeisydd wedi derbyn cyfarwyddyd a chyngor y ddau sefydliad ac wedi ymateb a gweithredu yn unol â’r argymhellion a gyflwynwyd.

 

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, ac felly caniatawyd y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd wedi cyflwyno sylwadau ysgrifenedig. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: