Cyflwynwyd gan:Cllr. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r
hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn erbyn
blaenoriaethau Cynllun y Cyngor presennol. Adroddwyd ar y sefyllfa ail gartrefi
a llety gwyliau byr dymor yn y Sir gan nodi fod yr Adran yn arwain ar y gwaith
o baratoi Cyfarwyddyd Erthygl 4 fydd
yn rhoi hawl i awdurdodau cynllunio reoli ail gartrefi. Nodwyd fod y gwaith yma
yn parhau gyda’r bwriad o ddod ag adroddiad ger bron y Cabinet yn y flwyddyn
newydd.
Soniwyd am rai
heriau oedd yn wynebu’r Adran sy’n cynnwys y gwasanaeth cynllunio
a’r heriau staffio oedd yn bodoli, yn benodol o fewn y gwasanaeth gorfodaeth
cynllunio. Adroddwyd bod 740 o geisiadau yn agored ddiwedd
Mehefin sydd bellach wedi lleihau i 586 o geisiadau erbyn diwedd mis Hydref.
Canmolwyd y gwaith aruthrol sydd wedi ei gyflawni gan gydnabod bod heriau yn
parhau i fodoli ond bod yr Adran yn gwneud eu gorau i gwrdd â’r galw ar y
gwasanaeth.
Yn yr un modd
adroddwyd ar y gwaith i glirio’r ôl-groniad yn y maes Pridiannau
Tir
ac i leihau’r cyfartaledd amser i brosesu’r ceisiadau hynny.
Nodwyd bod staff dros dro wedi eu penodi a bod y gwasanaeth yn y broses o
drosglwyddo i system gyfrifiadurol newydd yn y gobaith y gwnaiff hyn gyflymu’r
broses unwaith bydd y system mewn lle.
I gloi
adroddwyd ar lwyddiannau o fewn yr Adran oedd yn cynnwys 90%
o waith o fewn y maes Gwaith Stryd yn cael ei
gyflawni
gan gontractwyr o fewn yr amserlen wreiddiol
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Nodwyd bod y gwaith sy’n cael ei gwblhau
gan
yr Adran yn enfawr a’u bod yn chwarae rhan flaenllaw ym mlaenoriaethau
Cynllun y Cyngor. Credwyd eu bod yn haeddu canmoliaeth am yr hyn a gyflawnir.
·
Mynegwyd balchder bod amser prosesu
ceisiadau Pridiannau
Tir yn lleihau a chydnabuwyd yr hyn roedd yr Adran yn ei wneud i ymdrin â’r
materion. Credwyd ei bod yn amlwg bod yr Adran yn ceisio eu gorau ac yn llwyddo
i daclo’r llwyth gwaith ac awgrymwyd i’r Adran rannu eu hymdrechion a’u
datrysiadau gan y gall hyn newid canfyddiadau.
·
Dymunwyd y gorau i’r Adran tra’n cymryd
drosodd rhai agweddau o wasanaethau Priffyrdd a Bwrdeistrefol.
·
Holiwyd am reolaeth cartrefi modur gan
gwestiynu os oedd yr amserlen a nodwyd yn yr adroddiad yn realistig o ran
capasiti
ac amserlen caniatâd cynllunio.
·
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Cynorthwyol bod heriau yn bodoli er enghraifft adnabod safleoedd priodol,
roedd hyn wedi bod yn her oherwydd cyfyngiadau cynllunio.
Nodwyd
bod y ceisiadau cynllunio i fod i gael eu cyflwyno ar gyfer y safleoedd cyn y
Nadolig sy’n dangos bod yr amserlen wedi llithro.
Cadarnhawyd bod trafodaethau yn parhau o ran yr ochr
gyllido efo Croeso Cymru,
sy’n
cael ei arwain gan yr Adran Economi a Chymuned. Gobeithir
gallu cael penderfyniadau yn fuan iawn ar y ceisiadau cynllunio i allu symud
ymlaen efo’r wedd datblygu.
·
Gofynnwyd am ddiweddariad ar y cynllun
20 milltir yr awr mewn pentrefi. Amlygwyd
bod elfen o ddryswch ymhlith y cyhoedd ynglŷn a pwy sy’n arwain ar y
cynllun.
·
Mewn ymateb nodwyd bod Llywodraeth Cymru
yn awyddus i newid y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i 20 mewn pentrefi.
Credwyd y bydd hyn yn gwella ansawdd yr aer a gwneud pentrefi yn
fwy diogel. Adroddwyd ei fod yn benderfyniad Llywodraeth Cymru a bod
trafodaethau wedi eu cynnal efo Awdurdodau Lleol gyda’r bwriad o’i weithredu
erbyn mis Ebrill 2023. Nodwyd y bydd rhai sefyllfaoedd ble bydd y terfyn
cyflymder yn aros yn 30, bydd ymgynghorwyr yn cael eu penodi i edrych ar yr
eithriadau a bydd ymgynghori yn digwydd efo Cynghorau Cymuned yn fuan iawn.
Adroddwyd bod bwriad i ddiweddaru’r Porth Aelodau efo’r wybodaeth fel bod
Cynghorwyr yn ymwybodol o’r ymgyrch. Bydd hyn yn amserol oherwydd bod angen
codi ymwybyddiaeth o’r cyfnod ymgynghori efo Cynghorau Cymuned. Bydd angen
edrych ar yr eithriadau ond ar y cyfan bydd pob man sydd â therfyn cyflymder o
30 ar hyn o bryd o fewn pentrefi / system goleuadau stryd yn newid i 20 milltir
yr awr yn fuan.
·
Gwnaethpwyd sylw pellach bod
gwrthwynebiad gan sawl Cyngor i’r newid hwn gyda cwestiynau yn codi ynglŷn
â pha mor ymarferol yw’r cynllun. Adroddwyd bod cais wedi
ei wneud i’r Llywodraeth ohirio’r cynllun yn
sgil yr argyfwng ariannol presennol am ei fod yn ymddangos yn brosiect costus.
·
Holwyd am faterion trafnidiaeth
gyhoeddus ac am ddiweddariad ar y trafodaethau
am drefniadau bysus ar draws Gymru. Pryderwyd am ymarferoldeb hyn mewn
lleoliadau gwledig.
·
Mewn ymateb nodwyd bod adroddiad wedi ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau rhai wythnosau yn ôl am y maes
trafnidiaeth gyhoeddus. Nodwyd bod Trafnidiaeth i Gymru a Llywodraeth Cymru yn
rhoi cefnogaeth i Awdurdodau Lleol i edrych ar rwydweithiau a gwella’r rhain.
Cydnabuwyd bod hyn yn heriol mewn ardaloedd gwledig. Adroddwyd bod gwelliannau i’w
gweld mewn rhai gwasanaethau a bod ail ddylunio gwasanaeth wedi arwain at fudd
i gymunedau lleol. Wedi dweud hyn,
nodwyd bod y partneriaethau yn ei chael hi’n anodd cyfarch y costau ychwanegol.
Cyfeiriwyd
at y bysiau trydan sy’n gynllun arloesol â’r
ddarpariaeth i wefru bysiau trydan ym Mhorthmadog. Golyga hyn bod gofyn am
gyfraniad gan y Cyngor tuag at y gwaith yma. Nodwyd bod
gwelliannau i’w gweld yn y ddarpariaeth cludiant cyhoeddus ond bod y gwasanaeth
cludiant yn gorwario dros £300,000 eleni felly bod y sefyllfa yn un anodd wrth
geisio gwella’r ddarpariaeth a chyfrannu at y gwelliant.
Awdur:Dafydd Wyn Williams
Dogfennau ategol: