Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
*10.30yb – 11.30yb
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Gwasanaeth adrodd yn ôl ar
ganlyniad y peilot ‘Caffael Arloesol – Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol’,
a hefyd casglu’r data fel sydd wedi ei godi yn ystod y cyfarfod, ac adrodd yn
ôl i’r pwyllgor ymhen y flwyddyn (neu pan fo’n amserol).
Cofnod:
Croesawyd yr
Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod.
Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn dilyn cais yr aelodau i dderbyn diweddariad ar
gynnydd y Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol, sef un o’r prosiectau blaenoriaeth o
fewn Cynllun y Cyngor.
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a
rhoddodd y swyddogion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Er
bod y crynodeb ar ddiwedd yr adroddiad yn nodi bod cynnydd da wedi’i wneud dros
y 5 mlynedd ddiwethaf er mwyn cynyddu’r ganran o wariant y Cyngor sy’n aros yn
lleol, sylwyd bod y ganran ond wedi cynyddu 3% dros y cyfnod, a bod y ffigwr i
lawr o gymharu â 4 blynedd yn ôl, a llynedd.
Nodwyd y deellid y rhwystrau, ond cwestiynwyd llymder yr hunan-arfarnu y
tu ôl i hyn.
·
Y
byddai’n fuddiol pe gellid casglu data ynglŷn â faint o gwmnïau lleol sydd
wedi cyflwyno tendr, ond heb fod yn llwyddiannus, a pha adborth a roddwyd i’r
cwmnïau hynny, gan adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen tua blwyddyn.
·
Ei
bod yn bwysig bod cyrff mawr yn yr ardal, fel Cyngor Gwynedd, yn pwrcasu’n
lleol er mwyn helpu’r economi.
·
Bod
y Preston Model yn hollbwysig, ond na fyddai’n
gweithio’n effeithiol yng Ngwynedd gan ei fod yn fodel trefol.
·
Mai
un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud fel Cyngor yw edrych ar sut i alluogi
cwmnïau bychan i ddod at ei gilydd a gweithio ar y cyd, a byddai unrhyw
fuddsoddiad sy’n mynd i mewn i hynny yn cael ei weld, nid fel cost, ond fel
budd cymdeithasol ynddo’i hyn.
·
Y
dywedir yn aml fod gan Gymru yn ei chyfanrwydd fusnesau bach iawn a busnesau
mawr iawn, ond ddim llawer o fusnesau canolig o ran maint, a’r busnesau canolig
hynny fyddai’n creu’r budd mwyaf i’n cymunedau ni.
·
Ein
bod oll yn siomedig â’r canlyniadau hyd yn hyn, ac eisiau gweld ffyrdd ymlaen.
Ar nodyn technegol, a gan gyfeirio at y
graff ‘Gwariant Lleol Blynyddol’ ar dudalen 19 o’r rhaglen, cwestiynwyd
cywirdeb y ffigur £43m (cyfalaf a refeniw) ar gyfer 2017/18, gan ei fod yn llai
na’r ffigwr £56m (refeniw yn unig).
Cadarnhawyd mewn ymateb bod y ffigwr yn wallus.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
O
safbwynt llymder yr hunan-arfarnu, bod Gwynedd yn un o’r ychydig gynghorau sy’n
mesur y math yma o weithgaredd o ran cadw’r budd yn lleol. Yn y cyflwyniad ar gychwyn yr eitem, roedd son am gyflwyno mesurau eraill, ac roedd hynny’n cyfeirio
at y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn fwy na’r ganran leol o ran
gwariant yn unig. Roedd y ffigwr yna
wedi aros yn eithaf cyson ers nifer o flynyddoedd, ac er bod 1% o newid yn
golygu £1.5m o wariant, roedd yn eithaf statig.
Nodwyd ymhellach ein bod wedi cyrraedd trothwy erbyn hyn a’i bod yn
anodd cynyddu’r ffigwr yn uwch na hynny oherwydd y rhwystrau a’r cyfyngiadau
cyfreithiol eithaf llym sydd arnom ar hyn o bryd. Os mai dyna’r sefyllfa, roeddem yn edrych ar
fethodoleg ychydig bach yn wahanol bellach i fesur buddion eraill y cytundeb i
Wynedd, yn hytrach na’r buddion ariannol yn unig, ac roedd yn brosiect eithaf
arloesol i edrych ar y buddion eraill, o ran cyflogaeth, ayb, fyddai’n gallu
dod yn sgil y cytundeb.
·
Er
bod canran y gwariant lleol yn eithaf cyson, bod cyfanswm y gwariant caffael
wedi cynyddu o £97m yn 2017/18 i £140m yn 2021/22 o ganlyniad i chwyddiant a’r
galw cynyddol am wasanaethau’r Cyngor, yn arbennig ym maes gwasanaethau
cymdeithasol.
·
O
ran cynorthwyo cyflenwyr lleol i allu cystadlu ac ennill contractau,
cydnabyddid bod gwariant cyfalaf yn fwy o broblem na gwariant refeniw, ond gan
fod prosiectau cyfalaf yn brosiectau mwy ar y cyfan, roedd y cwmnïau sy’n cystadlu
ac yn ennill y contractau hynny yn tueddu i fod yn gwmnïau all-sirol. Yn yr achosion hynny, roedd y gwasanaeth yn
ceisio gweithio gyda’r prif gontractwr er mwyn gweld beth yw’r cyfleoedd
is-gontractio sydd ar gael, ac yn gwneud pob ymdrech i hysbysebu’r cyfleoedd
hynny, fel bod busnesau lleol yn gallu ymgeisio i fod yn rhan o’r gadwyn
gyflenwi. Er hynny, roedd rhai o’r
rhwystrau, megis diffyg awydd, arbenigedd ac adnodd i ymgeisio, yn wir am
gyfleoedd is-gontractio hefyd, ac nid oedd cymaint o fusnesau lleol yn cystadlu
ac yn ennill rhai o’r is-gontractau hynny ag y dymunid.
·
Yn
wahanol i’r trefniadau hanesyddol o ran buddion cymdeithasol, bod methodoleg
caffael gwerth cymdeithasol yn cyflwyno elfen sgorio, a bod cwmnïau’n derbyn
cyfres o fesurau fel bod modd iddyn nhw ddewis pa fuddiannau i’w cyflwyno, er y
gallai’r Cyngor hefyd amlygu beth yw ei flaenoriaethau. Nodwyd ymhellach bod y mesurau yn seiliedig
ar amcanion y Ddeddf Llesiant, ac yn cynnwys sbectrwm o ddewisiadau megis creu
swyddi, yr amgylchedd, yr iaith Gymraeg ayb.
·
Y
credid bod yr hyblygrwydd yma’n helpu cwmnïau lleol oherwydd bod cwmni sydd
wedi’i leoli’n lleol yn fwy tebygol o allu cynnig buddiannau, gan fod rhaid i’r
buddiannau hynny ddigwydd o fewn y sir, yn hytrach nag o fewn Cymru neu
Brydain. Byddai tendr yn cael ei
werthuso, yn amlwg ar sail pris a’r gwasanaeth a gynigir, ond gellid hefyd roi
rhwng 10% ac 20% o’r gwerthuso tendr ar sail yr effaith lleol mae’r cwmni’n
gael.
·
Bod
mentrau cymdeithasol yn gyffredinol mewn lle da i gystadlu am dendr ac i gynnig
buddiannau lleol, nid yn unig o ran eu natur a’u ffordd o weithio, ond hefyd o
ran sut rydym yn caffael a rheoliadau caffael.
·
Bod
y Cyngor yn dal i ddilyn yr un rheoliadau caffael ers Brexit. Disgwylid cyflwyno rheolau contractau newydd
ddiwedd 2023, ond ni chredid y byddai’r rheolau hynny’n sylweddol wahanol i’r
rhai presennol, ac eithrio rhai newidiadau technegol, a byddai disgwyl o hyd i
ni gynnal cystadleuaeth agored o fewn Prydain efallai, yn hytrach nag ar draws
Ewrop fel o’r blaen.
·
Bod
disgwyl i gynghorau cymuned ddilyn yr un rheoliadau caffael â’r Cyngor hwn, ond
efallai nad oedd ganddynt yr arbenigedd na’r adnoddau i gynnal yr un prosesau
ag sydd gan y cynghorau sir.
·
Er
bod y peilot Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol wedi cychwyn ers dros
flwyddyn bellach, 3 chyfle yn unig a gafwyd i ymarfer y fethodoleg newydd hyd
yma, ac roedd y gwasanaeth yn awyddus i gynnwys mesur fframwaith fel rhan o hyn
hefyd. Gan hynny, credid ei bod yn gynamserol
i wneud asesiad llawn o’r fethodoleg ar hyn o bryd. Hefyd, roedd y gwasanaeth yn gweithio mewn
gwagle polisi cenedlaethol ynglŷn â hyn, ac yn awyddus i’r Llywodraeth
ddal i fyny â ni a’n goddiweddyd, fel bod modd iddynt osod cyfundrefn bolisi i
ni weithio oddi fewn iddi. Dymunid i’r pwyllgor
gael cyfle i fynd dan groen y fethodoleg a chraffu canlyniadau’r peilot cyn
cymeradwyo unrhyw newid polisi yng Ngwynedd.
Ni ellid rhoi amserlen bendant ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Ni chredid bod 3 peilot yn sail ddigonol ar
gyfer gosod polisi. Roedd angen nifer
sylweddol mwy, ond ni ellid cadarnhau faint yn union ar hyn o bryd, gan fod
hynny’n ddibynnol ar lwyth gwaith y timau caffael a pha gytundebau sy’n addas i
fynd drwy’r fethodoleg.
·
Nad
oedd y swyddogion yn ymwybodol o gynllun gan y Cyngor i swmp brynu tanwydd ar
ran trigolion i’w helpu gyda chostau gwresogi eu tai, ond y byddent yn holi’r
Rheolwr Ynni i weld os oes cynllun yn bodoli, neu fwriad i wneud cynllun o’r
fath.
·
Bod
y gwasanaeth yn edrych ar y Model Preston yn reit
ofalus a bod y fethodoleg buddion cymdeithasol sy’n cael ei datblygu yng
Ngwynedd yn rhannol seiliedig ar y model hynny.
Yn amlwg, roedd gan Preston y fantais o fod yn
gweithio o fewn cyfundrefn gyfreithiol fymryn gwahanol i Gymru, a debyg hefyd
bod yna nifer uwch o gyflenwyr yn yr ardal honno yn gallu cyflenwi.
·
Lle
fo’n bosib’, bod cytundebau yn cael eu torri i lawr i lotiau gwahanol er mwyn
ei gwneud yn haws i gyflenwyr lleol gystadlu ar dir mwy gwastad na phetai’n un cytundeb mawr.
·
Er
y credid bod cadw yn ein hunfan wedi bod yn rhyw elfen o lwyddiant yn yr
amgylchiadau presennol, na ddymunid cyfyngu ein huchelgais gwariant lleol i
60%, a bod angen parhau i edrych ar bob mathau o ffyrdd o hwyluso cwmnïau bach
ledled y sir.
·
Bod
yr adroddiad dan sylw yn son am drefniadau caffael yn
benodol, ond bod yna ymdrech gan y Cyngor cyfan i gefnogi busnesau lleol, yn
arbennig felly yn y maes economi, a bod sut mae cwmnïau bach yn cydweithio ac
yn ffurfio cyfundrefn lle mae modd iddynt gystadlu ar y cyd am dendrau yn
rhywbeth y mae’r Adran Economi yn benodol yn edrych arno.
·
Bod
angen i’r gwasanaeth gydweithio gydag adrannau eraill y Cyngor i adnabod
cyfleoedd i brynu’n lleol, gan hefyd gysylltu â chwmnïau i’w hysbysu o’r
cyfleoedd sydd ar gael.
·
Bod
y dadansoddiad o’r math o fusnesau sy’n bodoli o fewn y sir y cyfeirir ato dan
‘Y Camau Nesaf’ yn yr adroddiad wedi’i gwblhau, ac ar gael ar gyfer yr aelodau.
·
Yr
edrychwyd ar ffurfio consortiau fel rhan o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr ac y
lluniwyd canllawiau ar sut i wneud hyn, a beth yw’r ystyriaethau. Fodd bynnag, gwelwyd nad oedd busnesau’n
awyddus ar y cyfan i ffurfio consortiau, a hynny oherwydd yr elfen o
gystadleuaeth rhyngddynt.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Gwasanaeth
adrodd yn ôl ar ganlyniad y peilot ‘Caffael Arloesol – Methodoleg Caffael
Gwerth Cymdeithasol’, a hefyd casglu’r data fel sydd wedi ei godi yn ystod y
cyfarfod, ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen y flwyddyn (neu pan fo’n amserol).
Dogfennau ategol: