Cyflwynwyd gan:Cllr. Berwyn Parry Jones
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry Jones.
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
gyfleu gwerthfawrogiad yn y lle cyntaf i’r gweithwyr sydd yn gweithio dan
amgylchiadau anodd a phrysur yn graeanu yn sgil y tywydd oer diweddar a
diolchwyd am eu gwaith. Adroddwyd bod y gwasanaethau Casglu a Thrin Gwastraff
wedi cael eu trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd a bod yr Adran Ymgynghoriaeth
Gwynedd wedi symud i fod yn rhan o’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Dymuna’r
Aelod Cabinet nodi ei werthfawrogiad o waith holl swyddogion yr Adran gan
gydnabod y cyfraniad allweddol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod y cyfnod hwn.
Amlygwyd y bwriad i newid enw’r Adran yn sgil y symudiadau diweddar. Yr enw a
ffafrir yn dilyn ymgynghori â staff yw Adran Priffyrdd, Peirianneg a YGC.
Nodwyd bod cryn dipyn o
waith yn wynebu’r Adran dros y misoedd nesaf sy’n cynnwys adolygiad o’r
Gwasanaeth Glanhau Stryd a hefyd gwaith manwl yn ymwneud â’r gyllideb.
Adroddwyd ar y prosiectau yng Nghynllun presennol y Cyngor sy’n cynnwys y
prosiect Cymunedau Glan a Thaclus, Cryfhau Cyfathrebu ac Ymgysylltu a’r
prosiect Mapio Gwasanaethau. O dan y prosiect hwn bwriedir gosod gwahanol
asedau’r Adran ar fap ble bydd modd i drigolion weld statws yr ased ac adrodd
ar unrhyw ddiffygion e.e. lampau stryd neu finiau halen.
Tynnwyd sylw at y
Strategaeth Fflyd gan gymryd y cyfle i bwysleisio’r penderfyniad a wnaethpwyd
gan y Bwrdd Newid Hinsawdd, sef na ddylai unrhyw Reolwr adnewyddu na gwaredu
unrhyw gerbyd heb drafod yn gyntaf efo’r Rheolwr Fflyd. Esboniwyd bod hyn yn
hanfodol i lwyddiant y Strategaeth Fflyd. Roedd hyn yn sgil canfyddiad bod
gormod o brynu cerbydau wedi digwydd ar sail ad-hoc yn y gorffennol. Credwyd y
bydd y cyfarwyddyd hwn yn cael ei rannu ag Adrannau yn fuan.
Amlygwyd prosiectau eraill
yr adroddwyd arnynt megis y prosiect Fairbourne cyn symud ymlaen i adrodd ar
berfformiad yr Adran gan nodi bodlonrwydd ynglŷn â’r perfformiad.
Cyfeiriwyd at y gwaith o amnewid holl oleuadau stryd y Cyngor i dechnoleg LED
yn ogystal â’r gwaith glanhau strydoedd, cynnal priffyrdd a'r gwasanaeth
toiledau cyhoeddus.
I gloi
soniwyd am waith Ymgynghoriaeth Gwynedd (YGC) sydd yn wasanaeth sy’n dod ag
incwm sylweddol i’r Cyngor ac yn ymgymryd â swyddogaethau statudol yn y maes
dŵr a rheoli llifogydd cyn cyfeirio at sefyllfa ariannol yr Adran.
Mynegwyd bod gorwariant o £600,000 o fewn yr Adran bresennol Priffyrdd a
Bwrdeistrefol yn dilyn trosglwyddo rhai gwasanaethau i’r Adran Amgylchedd ond
bod gwaith ar y gweill i ddeall y rhesymau dros y gorwariant ac i roi mesurau
mewn lle i unioni'r sefyllfa. Adroddwyd bod YGC yn tanwario bron i
£30,000.
Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth
·
Diolchwyd am yr adroddiad a chroesawyd newid enw’r Adran.
·
Mynegwyd ansicrwydd ynglŷn â pha Adran mae rhai cyfrifoldebau ac
agweddau gweithredol y Cyngor yn gorwedd a bod elfen o gymhlethdod yma.
·
Ategwyd gwerthfawrogiad i waith yr Adran yn y tywydd oer diweddar gan
ychwanegu bod angen i yrwyr neu gerddwyr ystyried os yw eu teithiau yn
angenrheidiol gan na all y Cyngor yn anffodus raeanu pob man.
·
Credwyd y dylid cyfleu trefn blaenoriaethu graeanu’r ffyrdd i holl
Aelodau’r Cyngor fel eu bod yn glir bod trefn yn bodoli. Ategwyd bod trefn o
ran graeanu llwybrau dosbarth cyntaf a bod pwysau ar yr Adran i ymateb i bob
lleoliad. Cytunwyd y dylid amlygu’r drefn i Aelodau’r Cyngor drwy efallai
gyfeiriad ym mwletin yr Arweinydd neu nodyn gan y Pennaeth Adran. Soniwyd hefyd
am App Gwynedd sy’n rhestru pa ffyrdd sy’n cael eu graeanu.
·
Mynegwyd bod llawer o newyddion da a calonogol yn ymddangos yn yr
adroddiad. Credwyd bod cynlluniau cadarn a realistig yn eu lle ar gyfer cwrdd
â’r gorwariant at y dyfodol.
·
Cyfeiriwyd at yr incwm sy’n cael ei greu o dan y gwasanaeth Ymgynghoriaeth
Gwynedd gan holi os oedd targed yn bodoli ar gyfer yr elw yma. Cadarnhaodd y
Pennaeth Adran bod targed yn bodoli ond nad yw’r union ffigwr ganddo ar hyn o
bryd. Eglurwyd bod bwriad dod ag adroddiad ger bron y Tîm Arweinyddiaeth ar y
maes YGC yn y flwyddyn newydd a gellir cyfeirio at yr elfen incwm yn yr
adroddiad yno.
·
Holwyd os gellir pylu goleuadau yn enwedig yng nghanol y nos. Nodwyd y
bydd hyn yn cael ei gynnwys yn y cynllun arbedion.
·
Cyfeiriwyd at y pwyntiau gwefru sy’n cael eu gosod ac os oes incwm yn
cael ei dderbyn ohonynt. Cadarnhawyd bod y pwyntiau gwefru sydd mewn meysydd
parcio yn eistedd o dan gyfrifoldeb yr Adran Amgylchedd.
Cymerwyd y cyfle ar ddiwedd
y cyfarfod i ddymuno Nadolig Llawen i drigolion y Sir ac i Gyd-aelodau a
Swyddogion y Cyngor.
Dechreuodd y cyfarfod am
1:00pm a daeth i ben am 2:05pm |
________________________ CADEIRYDD |
Awdur:Steffan Jones
Dogfennau ategol: