Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Huw Rowlands yn cynnig
fel a ganlyn:-
“Cynigiaf
fod
Cyngor
Gwynedd yn
ysgrifennu
at y Llywodraethau
a’r
cwmnïoedd
trên
perthnasol,
gan
fynegi
anfodlonrwydd
am safon
y gwasanaethau
trên
a ddarperir
gan
Avanti West Coast a Thrafnidiaeth
Cymru yng
Ngwynedd,
ac effaith
negyddol
hynny
ar
drigolion
ac economi’r
Sir.”
Penderfyniad:
Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.
Cofnod:
(A) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Huw Rowlands o
dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-
Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.
Gosododd yr aelod
y cyd-destun i’w gynnig gan nodi:-
·
Bod y prisiau a godir am docynnau yn hollol
anghymesur gyda safon y gwasanaeth, gyda threnau’n hwyr, wedi eu canslo, yn
orlawn a budr, a dim gwarant o sedd, er y gall gostio hyd at £100 i deithio un
ffordd o Fangor i Gaerdydd ar rai gwasanaethau.
·
Bod pobl sy’n teithio i’r gwaith yng Ngwynedd, ac
yn ddibynnol ar y gwasanaeth trên i wneud hynny, yn aml yn hwyr i’r gwaith wedi
i drenau gael eu canslo’n ddirybudd, neu’n gorfod sefyll drwy gydol y daith.
·
Bod yna enghreifftiau lu o drenau gorlawn yn mynd i Gaerdydd ar
ddiwrnodau gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol, gyda’r trenau’n llawn yn
gadael Bangor hyd yn oed, a dim ond 2 gerbyd, er gwaetha’r ffaith bod
Trafnidiaeth Cymru yn gwybod am y gemau fisoedd ymlaen llaw.
·
Bod hyn oll yn cael effaith niweidiol ar economi a lles pobl Gwynedd, a
hefyd ar ein delwedd yn rhyngwladol gan ymwelwyr o dramor.
·
Bod £100bn yn cael ei fuddsoddi yn Lloegr er mwyn creu gwasanaeth HS2, a
hynny gydag arian trethdalwyr, gan gynnwys trethdalwyr Cymru, sef arian nad
ydym ni yng Ngwynedd yn cael unrhyw fudd ohono.
·
Bod y gwasanaeth uniongyrchol o Fangor i Lundain wedi’i gwtogi’n
sylweddol ers y cyfnod Covid, a dim dyddiad pendant
pryd y bydd y gwasanaethau yma’n cael eu hail-gychwyn i’w lefel blaenorol, os o
gwbl. Dylid cofio hefyd bod y gwasanaeth
o Fangor i Lundain yn cysylltu prif ddinasoedd Dulyn a Llundain, ac nid trac i
unlle ydyw.
·
Y gwelwyd gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y trenau sy’n rhedeg yn
uniongyrchol o Fangor i Gaerdydd.
·
Pam ddylai trigolion Gwynedd fod yn drigolion eilradd a gorfod newid yn Crewe er mwyn dal trên o Fanceinion
i Lundain?
·
Bod pryder hefyd ynglŷn â safon y gwasanaeth cwsmer a diffyg
argaeledd rhai math o docynnau.
·
Bod y gwasanaeth trên yng Ngwynedd wedi gwaethygu,
nid gwella, dros y blynyddoedd diwethaf, a bod pobl Gwynedd yn haeddu gwell na
derbyn yn ddi-gwestiwn gwasanaeth sydd ymhlith y salaf yn Ewrop.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Nodwyd:-
·
Ei
bod yn bwysig peidio cymharu Avanti West Coast gyda
Rheilffordd y Cambrian a’r llinell rhwng Aberystwyth
ac Amwythig, gan fod y Cambrian yn gwrando ar gwynion
ac wedi buddsoddi’n sylweddol yn y rheilffordd.
·
Bod
angen cyswllt llawer mwy clir a hawdd a rheolaidd i’r byd o Bwllheli.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r cynnig, sef:-
Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.