Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.
Penderfyniad:
Nodi a derbyn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr.
(1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr yn rhoi
diweddariad byr i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr am y flwyddyn a ddaw i ben
ar ddiwedd Mawrth 2023.
Codwyd materion o
dan y penawdau isod:-
Angorfeydd
Porthmadog a Chofrestru Cychod
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
fod yr archwiliad tanddwr o’r angorfeydd yn yr harbwr eisoes wedi’i
gynnal. Canfuwyd bod angen newid 20
cadwyn (riser) a gobeithid y byddai’r gwaith yn
cychwyn yn fuan, yn amodol ar ymrwymiadau’r contractwr angorfeydd.
Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
y byddai Gorchymyn Llongau Masnach (Badau Dŵr) 2023 yn dod yn weithredol
ar y 31ain o Fawrth, ac y byddai’n rhoi mwy o bwerau i’r asiantaethau
perthnasol i erlyn perchnogion a mordwywyr am gamddefnydd peryglus o fadau
dŵr. Roedd ganddo gyfarfod gyda’r
Heddlu ar 17 Mawrth i drafod y ffordd ymlaen, a byddai mewn sefyllfa i adrodd
mwy i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned fod diffyg rheolaeth / gorfodaeth dros fadau
dŵr personol wedi bod yn destun cryn bryder dros y blynyddoedd, a bod y
newid yn y ddeddfwriaeth yn gam i’r cyfeiriad cywir. Byddai’r trefniadau a’r rheoliadau yn
datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, a gellid rhannu manylion pellach
gyda’r aelodau maes o law.
Ychwanegodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn arf ychwanegol
i’r Cyngor petai yna ddamwain neu ddigwyddiad yn y dyfodol. Pwysleisiodd hefyd fod gan y Cyngor system
gofrestru effeithiol mewn lle yn barod, felly petai rhywun yn cael ei weld yn
troseddu gyda bad pŵer, roedd yn bwysig nodi’r rhifau cofrestru er mwyn
sicrhau bod modd adnabod yr unigolyn.
Materion Ariannol
Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaeth Morworol esboniad llawn o gyllideb yr
Harbwr 01/4/22 - 31/3/23, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad.
Holwyd pam bod
incwm yr Harbwr bron £10,000 yn is na’r targed.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol:-
·
Nad
oedd pob angorfa wedi ei llenwi, ac roedd yr incwm yn ddibynnol ar brysurdeb yn
ystod y tymor.
·
Nad
oedd tymor 2022 mor brysur â thymor 2021, pan roedd yna gyfyngiad ar deithio
dramor oherwydd Cofid.
·
Yn
gyffredinol, rhagwelid y byddai tua £6,000 o orwariant, ond roedd yna gostau
sylweddol eraill yn debygol o godi yn y mis nesaf, megis pwrcasu cadwyni
angorfeydd a chwblhau gwaith cynnal a chadw ar gwch yr harbwr, felly byddai’r
gorwariant yn debygol o gynyddu rhywfaint erbyn diwedd y mis.
Ychwanegodd y
Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned:-
·
Ei
bod yn debyg bod y gyllideb yn seiliedig ar niferoedd hanesyddol, a gwelwyd
lleihad yn gyffredinol yn nifer y cychod ar draws harbyrau’r
sir.
·
Yn
ogystal ag angorfeydd y Cyngor, bod yna adnoddau ychwanegol wedi’u datblygu yn
Harbwr Porthmadog dros y blynyddoedd, ac yn benodol pontwns
Clwb Hwylio Madog. Roedd rhai o
gwsmeriaid hanesyddol y Cyngor wedi symud i’r ddarpariaeth pontwns,
a bellach yn gwsmeriaid i’r Clwb Hwylio.
Gan hynny, nid oedd y darlun yn adlewyrchiad llawn o’r holl gychod yn yr harbwr.
Ffioedd a
Thaliadau 2023/24
Ymhellach i gynnwys
yr adroddiad ysgrifenedig, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol:-
·
Y
cyflwynwyd adroddiad i’r Uned Gyllid a disgwylid i’r ffioedd angorfeydd a badau
pŵer gael eu cadarnhau yn eithaf buan.
·
Bod
lefel chwyddiant Harbwr Porthmadog yn 8.5%, sy’n golygu bod ein targed incwm
hefyd wedi cynyddu 8.5%.
·
Y
cynigiwyd codi ffioedd Harbwr Porthmadog 6%, a disgwylid i weld a fyddai’r
Aelod Cabinet yn cadarnhau’r ffioedd ai peidio.
Yn amlwg, pe na lwyddid i gyrraedd y targed am y flwyddyn ariannol
nesaf, byddai’n rhaid cwtogi’r gwariant.
·
Y
codwyd rhai ffioedd cysylltiedig â ffioedd lansio a chofrestru cychod. Roedd ffioedd cofrestru beiciau dŵr a
chychod pŵer wedi codi 20%, sef o £50 i £60 am y flwyddyn, ac roedd y ffi
flynyddol am gofrestru a hawlen lansio wedi codi o £150 i £170.
·
Y
cynigiwyd cadw’r ffi lansio ar £20 gan i’r ffi gael ei dyblu o £10 i £20 tua 3
blynedd yn ôl.
·
Y
cynigiwyd cynnydd yn y ffi lansio cychod llai na 10-marchnerth o £30 i £35.
Holwyd sut roedd
ffioedd y Cyngor yn cymharu â ffioedd y pontwns, ac
ati. Mewn ymateb, nododd yr Harbwrfeistr fod ffioedd y pontwns
tua £1,000 yn uwch na ffioedd angorfeydd y Cyngor. Nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
y byddai’n holi’r Clwb Hwylio am yr union ffigwr ac yn gyrru’r wybodaeth ymlaen
i’r aelod.
Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned ei bod yn anodd cymharu angorfeydd a phontwns, gan eu bod yn ddatblygiadau gwahanol iawn i’w
gilydd, a bod y Cyngor yn croesawu’r ffaith bod y Clwb Hwylio wedi llwyddo i
ddatblygu’r cynllun pontwns i uchafu ansawdd a
chyfleusterau o fewn yr Harbwr.
(2) Adroddiad yr Harbwrfeistr
yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod
rhwng Hydref 2022 a Mawrth 2023, gynnwys materion cynnal a chadw.
Codwyd materion o
dan y penawdau isod:-
Materion
Gweithredol
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Harbwrfeistr
nad oedd yr ymarferiad ymateb brys i lygredd olew ar raddfa fawr yn yr Harbwr
wedi costio dim i’r Cyngor. Nododd hefyd
fod y darparwyr cymeradwy wedi dysgu llawer o’r ymarferiad gan fod yr afon yn
llifo’n reit gyflym drwy’r Harbwr.
Gwnaed sylw y
byddai’n fuddiol petai’r aelodau lleol yn cael gwybod ymlaen llaw am
ddigwyddiadau o’r fath yn yr Harbwr yn y dyfodol.
Cynnal a Chadw
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol:-
·
Y
derbyniwyd cais gan Robert Owen (Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol) i roi benthyg
bad dŵr personol i’r Gwasanaeth Morwrol dros yr haf i’w gwneud yn haws
patrolio sianel yr Harbwr a’r llinell lansio ym Morfa Bychan, gan nad yw’r bad
dŵr personol yn ddibynnol ar y llanw fel y cwch patrôl Powercat.
·
Bod
yna rai materion i’w cadarnhau gyda’r Cyngor o safbwynt yswiriant, ac ati, cyn
ymrwymo i hyn, ond y rhagwelid y gallai’r bad dŵr personol fod yn ased
gwerthfawr i’r Gwasanaeth.
·
Ni
ragwelid y byddai’r trefniant mewn lle erbyn y Pasg, ond mawr obeithid y byddai
mewn lle erbyn diwedd mis Mai.
Traeth Morfa
Bychan
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol fod
trwydded wedi’i rhoi bellach ar gyfer cludo’r trawsnewidydd mawr i draeth Morfa
Bychan ac ymlaen ar hyd y ffordd i orsaf bŵer Trawsfynydd. Hefyd, roedd cais wedi’i wneud i Gyfoeth
Naturiol Cymru i osod traciau ar gyfer cludo’r trawsnewidydd ar draws y traeth.
Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned, gan ei bod ychydig yn gynnar yn y tymor o ran
darparu gwybodaeth fanwl ynglŷn â’r trefniadau ar gyfer cludo’r
trawsnewidydd, y bwriedid darparu adroddiad byr i’r aelodau ymhen tua 6 wythnos
yn rhoi diweddariad o’r sefyllfa.
PENDERFYNWYD nodi a
derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: