Cymeradwyo cynnig i
godi uchafswm prisiau teithiau tacsis gan ystyried sylwadau yn dilyn
ymgynghoriad cyhoeddus i godi’r uchafswm prisiau
Penderfyniad:
Uchafbris perthnasol
|
Cyfraddau presennol |
Argymhelliad |
|
|
|
Lle mae’r daith yn llai
na milltir |
£3.60 |
Dim
newid |
Lle mae’r daith yn fwy
na milltir, am y filltir gyntaf |
£3.00 |
Dim
newid |
Uchafbris cludo bagiau ychwanegol yn cist y cerbyd |
30c |
50c |
Uchafbris cost ‘valet‘ glanhau proffesiynol |
£45 |
£120 |
Am
logi'r cerbyd rhwng hanner nos a 7:00y.b. unrhyw ddydd neu ar unrhyw amser ar Ŵyl y Banc, heblaw am Ddydd Nadolig a Dydd Calan |
50%
yn ychwanegol ar y gyfradd sylfaennol £4.50 |
60%
yn ychwaegol i’r cyfradd sylfaennol £4.80 |
Cofnod:
a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn
argymell codi uchaf brisiau teithiau cerbydau hacni yn y Sir. Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau rheoleiddio ar yr
Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu
uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r Sir, mae’n ofynnol fod unrhyw gais am
newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi
eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn
ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau
preifat. Mewn cyfarfod ar y 24ain o Hydref, cyflwynwyd argymhellion gan yr
Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau. Penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r
argymhellion hynny ynghyd a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod.
Adroddwyd bod gohebiaeth wedi ei gyflwyno i’r diwydiant tacsi cyn i’r
ymgynghoriad ddechrau yn swyddogol gan roi cyfle i’r diwydiant ystyried y
cynigion. Derbyniwyd pum gwrthwynebiad gyda sylwadau gan gynrychiolaeth o’r
diwydiant - ni dderbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd. Eglurwyd, oherwydd bod
gwrthwynebiadau i’r cynigion wedi ei derbyn bod rhaid ail gyflwyno argymhellion
fel y gall y Pwyllgor roi ystyriaeth ofalus i’r mater cyn dod i benderfyniad
terfynol.
Cyfeiriwyd at y ffactorau hynny sydd wedi effeithio
busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo dros gyfnod covid
19, cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd
ynghyd a chynnydd sylweddol mewn chwyddiant) gan nodi bod rhain yn
ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd pwysigrwydd cloriannu effaith y
sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r diwydiant ac i ddefnyddwyr tacsi.
Ategwyd bod rhaid cynlluniau cymunedol, gyda chefnogaeth grantiau, drwy
gyd-weithio gyda hwb cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth cludiant i ddefnyddwyr
bregus am ddim gan fod prisiau tacsi yn rhy ddrud. Gwelid hyn yn ardal
Penygroes a Bethesda
Er yn derbyn sylwadau’r diwydiant, roedd yr Uned
Trwyddedu yn argymell parhau gyda’r argymhellion gwreiddiol ond yn derbyn y
sylw i ddileu’r cynnig o greu tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini
lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr. Ystyriwyd bod y cynnig yma, yn unol â sylwadau
unfrydol y diwydiant yn agored i’w gamddefnyddio ac nad oedd gwerth iddo.
b)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Bod yr adroddiad yn glir a chytbwys
·
Bod rhaid gwarchod y diwydiant ond ar y llaw arall
ystyried effaith ar y defnyddwyr
·
Croesawu’r ymgynghoriad a pharodrwydd y Pwyllgor i
drafod y sylwadau
·
Anodd cael gwasanaeth yn Nwyfor
– gwasanaeth bysus yn lleihau a chostau tacsis y cynyddu
c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bod y sylwadau
a dderbyniwyd yn adlewyrchu materion trefol a gwledig, nodwyd bod cymysgedd o
sylwadau wedi eu derbyn. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn ag ymatebion
dienw, nodwyd bod enwau a chyfeiriadau personol e-byst yr ymatebwyr wedi eu
dileu fel modd o warchod eu preifatrwydd.
Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi
siwrneiau byr, cadarnhawyd bod costau’r daith yn dechrau o’r amser y bydd y
defnyddiwr yn cael ei godi ac felly yn derbyn bod rhai cwmnïau yn osgoi
teithiau i gasglu cwsmeriaid oherwydd bod y daith yn hir a'r costau cludo yn
annigonol i dalu costau’r daith. Ategwyd bod amodau trwyddedu yn nodi bod rhaid
casglu defnyddwyr os yw wedi ei gytuno dros y ffôn.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chludiant ar
gyfer pobl fregus (gan gyfeirio at y
gwasanaethau cymdeithasol ac apwyntiadau ysbytai), nodwyd nad oedd yr uchaf
symiau hyn yn berthnasol i’r teithiau hynny - teithiau o’r fath wedi eu trefnu
ymlaen llaw drwy gytundeb.
Mewn ymateb i gwestiwn am faint y diwydiant yng
Ngwynedd, nodwyd bod oddeutu 500 o yrwyr tacsi
yn y Sir yn defnyddio oddeutu 400 o gerbydau gydag amrywiaeth o un gyrrwr yn rhedeg un car, cwmnïau bach
gyda 3-5 gyrrwr a thri chwmni ‘mawr’. (dau ym Mangor ac un ym Mhenygroes). Mewn ymateb i sylw bod gyrwyr yn derbyn llai
na’r isafswm cyflog, nodwyd bod hyn yn ddibynnol ar deithiau byr yn unig.
Ategwyd bod nifer yn gwneud cyfuniad o deithiau sydd yn gwneud mwy o arian a
bod rhai o’r cwmnïau gyda chytundebau gyda’r Adran Addysg, Ysbytai a
Gwasanaethau Cymdeithasol sydd yn derbyn costau sydd wedi eu cytuno gyda’r
cwmni ymlaen llaw. Amlygwyd bod y costau hyn wedi cynyddu yn ddiweddar mewn
ymateb i gynnydd mewn costau byw.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer ceir ar
gyfer ceir ar gyfer cadair olwyn, nodwyd, yn unol â gofynion y polisi cyfredol,
bod rhaid i 1 o bob 7 car mewn cwmni fod yn gar addas ar gyfer cadair olwyn. Er
yn anodd gorfodi mwy, amlygwyd bod nifer yn darparu’r gwasanaeth penodol yma
gyda chytundebau gyda’r gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn gerbydau mawr,
addas. Ategwyd y bydd y polisi yn cael ei
adolygu yn 2023.
Mewn ymateb i gynnig am ddarparu ceir trydan a
safleoedd gwefru ceir trydan ar gyfer y diwydiant, nodwyd nad oedd Gwynedd wedi manteisio ar
dreialu cynllun peilot yng Ngwynedd gan nad oedd y gyfundrefn gwefru yn bodoli
ar gyfer darparu gwasanaeth a gorfodi’r diwydiant i’w ddefnyddio. Ategwyd bod
angen gwella’r ddarpariaeth yn gyntaf ac ystyried y rhwystrau sydd i’w goresgyn
cyn annog darpariaeth eang o geir trydan.
Cynigwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r cynnig gan ddileu
gosod tariff gwahanol ar gyfer teithiau mini bws lle mae rhwng 5 ac 8 o
deithwyr.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cynnig i godi'r
uchafswm pris yn unol â'r argymhellion, yn ddarostyngedig i dynnu'n ôl yr
argymhelliad ar gyfer tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini lle mae
rhwng 5 ac 8 o deithwyr.
Dogfennau ategol: