Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown
Ystyried
adroddiad ar yr uchod.
Cofnod:
Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a
chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Adran Addysg ar gyfer 2021-22.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Gan
gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, nodwyd er bod cyfeiriad at “wneud gwaith dilynol yn ystod y flwyddyn
nesaf er mwyn sicrhau fod y drefn [Categoreiddio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg] yn datblygu ac yn gwreiddio er mwyn cyflawni uchelgais Gwynedd
yn y maes hwn” nad oedd uchelgais Gwynedd yn cael ei ddiffinio yng
nghyd-destun y categoreiddio, a bod angen eglurder ar hynny.
·
Eto,
gan gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, nodwyd bod rhai o’r blaenoriaethau ar
gyfer y cyfnod nesaf yn arwynebol, gan eu bod yn cyfeirio at ‘sicrhau’
gwahanol gamau, ond ddim yn egluro sut y byddai’r camau hynny yn cael eu
gweithredu. Mynegwyd pryder ein bod am
weld llithriad pellach yn y nifer sy’n astudio pynciau Cymraeg yng Nghynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA), ac awgrymwyd ein bod mewn sefyllfa
wannach heddiw nag oeddem yn 2016.
·
Mynegwyd
pryder bod y Cyfrifiad yn dangos gostyngiad yn y niferoedd sy’n bathu’r Gymraeg
o oedran cynnar, ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor fod yn trochi’r holl blant sydd
ddim yn ddigon rhugl yn y Gymraeg, yn hytrach na throchi hwyrddyfodiaid yn
unig.
·
Nodwyd
bod dadgofrestru yn broblem fawr, yn enwedig ers y cyfnod Cofid, a holwyd a
fyddai’n bosib’ i’r pwyllgor dderbyn data ar hyn, a chael cyfle i graffu pam
bod pobl ifanc a theuluoedd yn dewis dadgofrestru.
·
Nodwyd
bod yna lawer o gwmnïau tacsis o Ddwyfor yn hebrwng
plant o gwmpas ysgolion Arfon. Deellid
bod yna brinder cwmnïau tacsis yng Ngwynedd, ond o bosib’, bod yna gwmnïau bach
fyddai’n awyddus i dendro, ond angen cefnogaeth o ran deall y broses. Awgrymwyd y gellid edrych ar hyn yn
drawsadrannol gyda’r Adran Economi, fel dull o gefnogi busnesau bach a lleihau
costau ac ôl troed carbon ar yr un pryd.
·
Mynegwyd
pryder bod yr ysgolion arbennig dros eu capasiti’n
barod, gyda Hafod Lon eisoes 10% uwchlaw ei chapasiti,
a gofynnwyd am drafodaeth ar hyn yn fuan iawn, gan y bydd y galw yn parhau i
gynyddu. Awgrymwyd hefyd y dylid edrych
i mewn i’r rhesymau dros y cynnydd yn y galw.
·
Nodwyd
bod adroddiadau blynyddol yn son am y pethau da a
ddim yn son am y pethau problemus a heriol, a’i bod
yn anodd craffu dogfen sy’n tueddu i ganmol yn unig.
·
Nodwyd
bod y tocyn teithio ôl-16 yn syniad gwych, ond ei bod yn bwysig bod y
trafodaethau’n digwydd gyda’r cwmnïau trên a bysus i sicrhau bod y
gwasanaethau’n cyrraedd y sefydliadau addysg ar amser.
·
Gan
gyfeirio at y sylw yn yr adroddiad ynglŷn â phlant yn colli’r gallu i
lefaru i bob pwrpas yn sgil cyfnod y pandemig, nodwyd y pryderid am yr effaith
hirdymor ar y plant yma, a phwysleisiwyd y dylai rhywun fod yn edrych ar yr hyn
mae’r plant wedi'i golli'n gyffredinol oherwydd Cofid.
·
Nodwyd
ei bod yn dorcalonnus gweld rhieni Cymraeg yn siarad Saesneg hefo’u plant, gan fod hyn yn hollol annheg â’r plant, ac yn
torri i lawr ar eu cyfleoedd gwaith yn yr ardal yma yn y dyfodol, a nodwyd y
mawr obeithid bod yr ysgolion yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni i bwysleisio
pwysigrwydd trosglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf.
·
Nodwyd
(ar ran Manon Williams, Cynrychiolydd
Rhieni/Llywodraethwyr Arfon, oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn),
er y dylai penderfyniadau’r Panel sy’n trafod ceisiadau am gynllun datblygu
unigol gael eu rhannu gyda’r rhiant a’r ysgol o fewn pythefnos o ddyddiad y
panel, nad oedd hynny’n digwydd mewn nifer o achosion, a bod rhieni’n disgwyl
am fisoedd am benderfyniad, sy’n achosi pryder mawr iddynt a chur pen mawr i’r
ysgolion.
·
Nodwyd
nad oedd cyfeiriad yn yr adroddiad at brinder cymorthyddion,
na’u pwysigrwydd i’r gyfundrefn addysg yn ei gyfanrwydd.
·
Nodwyd
ei bod yn bleser gallu datgan bod athrawon yn canmol y gefnogaeth a’r cyngor a
dderbynnir gan yr Adran Addysg, a gobeithid mai dyma’r neges yn gyffredinol ar
draws holl ysgolion y sir.
·
Nodwyd,
o ran y trochi, bod prosiect Aber Rwla Anni Llyn yn enghraifft o Wynedd yn arloesi ac yn arwain o
ran dysgu iaith.
·
Croesawyd
y ffaith bod iechyd a lles meddyliol yn cael sylw haeddiannol.
·
Awgrymwyd,
yn sgil derbyn negeseuon cychwynnol ym mis Chwefror, ei bod bellach yn amser
i’r pwyllgor dderbyn diweddariad ar y prosiect Addysg Ôl-16 yn Arfon.
·
Mynegwyd
dymuniad i aelodau’r pwyllgor dderbyn copi o ganfyddiadau’r holiadur i gasglu barn
penaethiaid a chynrychiolaeth o lywodraethwyr pob ysgol uwchradd ym Meirionnydd
ar yr heriau posibl sydd yn eu hwynebu o ran darparu addysg uwchradd o ansawdd
yn yr ardal, a hefyd yr holiadur i ganfod barn dysgwyr, staff, rhieni a
phenaethiaid fydd yn llywio cyfeiriad prosiect Cydweithio Meirionnydd i’r
dyfodol.
·
Nodwyd
bod y Siarter Iaith a’r Strategaeth Iaith yn ddogfennau hynod swmpus a dyheadol, ac nad oes gan y Cyngor berchnogaeth ohonynt
bellach. Gan hynny, holwyd a fyddai’n
bosib’ darparu briff mwy clir ar gyfer yr ysgolion, fel rhyw fath o reolau drws
tân, yn nodi’r gofynion sydd arnynt yn gwbl glir a diamwys.
·
Mynegwyd
pryder bod ymddygiad plant wedi dirywio’n arw ers y pandemig, a bod y straen o
orfod ymdopi â sefyllfaoedd hynod heriol yn arwain at absenoldebau salwch ymysg
y staff, sydd, yn ei dro, yn cynyddu’r galw am athrawon llanw, sy’n costio mwy.
·
Mynegwyd
pryder y bydd problemau recriwtio athrawon yn arwain at ddyblu maint
dosbarthiadau, a fydd, yn ei dro, yn ei gwneud yn fwy anodd cynnal gwersi yn
uniaith Gymraeg.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
Bod
diogelu wedi bod yn flaenoriaeth gan yr Adran yn ystod y cyfnodau clo, pan nad
oedd plant yn mynychu’r ysgolion, a bod yr ysgolion i gyd wedi gwneud gwaith
clodwiw iawn yn cysylltu bron, os nad, yn ddyddiol, gyda’r plant mwyaf
bregus. Cadarnhawyd bod y niferoedd
plant sydd ddim yn mynychu ysgol am ba bynnag reswm ar gynnydd, a bod yna 2
garfan o blant yma, sef y rhai sydd ar gofrestrau ysgolion a’u presenoldeb yn
is nag a ddymunid iddo fod am amrywiol resymau, a hefyd y rhai lle mae rhieni
wedi dewis dysgu eu plant gartref eu hunain.
Nodwyd bod y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad wedi
grymuso’r timau sy’n rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd ddim yn mynychu ysgol yn
ddigon rheolaidd drwy’r Tîm Lles, ac y derbyniwyd grantiau i gryfhau’r
gwasanaeth lles, gyda threfn gadarn ar gyfer ymateb i’r anghenion. Yn amlwg, roedd y tîm yma’n ymateb i
anghenion diogelu, oedd yn fwy niferus, gan eu bod yn delio â mwy o achosion
a’r achosion hynny yn dueddol o fod yn fwy dwys. O ran plant sydd wedi dadgofrestru, roedd
swyddogion yn ymweld â’r cartref, gyda chaniatâd y rhieni, i sicrhau diogelwch
y plentyn, ac roedd yna enghreifftiau o waith arbennig gan athrawon i sicrhau
diogelwch plant. Yn gyffredinol, gyda
mwy o blant adref, roedd y risg o ran diogelu yn uwch, ond roedd y tîm yn
ymdopi oherwydd y newidiadau i’r dulliau o ymateb i’r sefyllfa. Yn amlwg, dymunid gweld mwy o blant yn yr
ysgolion, ond roedd yn heriol i ysgolion gynyddu presenoldeb ar hyn o bryd,
gydag amrywiol ffactorau yn bwydo i mewn i’r her yma. Nodwyd ymhellach y byddai’r Gwasanaeth yn
hapus i ddod â mwy o wybodaeth i’r pwyllgor ynglŷn â’r tîm sy’n cefnogi
teuluoedd sy’n addysgu eu plant gartref, y cynllun gwaith, effaith hynny hyd
yma a’r berthynas sydd wedi’i chreu hefo’r
teuluoedd. Nodwyd hefyd bod y gwasanaeth
wedi cychwyn edrych ar y rhesymau pam bod plant yn dadgofrestru er mwyn ceisio
atal ac adnabod ardaloedd a chategorïau o bobl ifanc sy’n fwy tebygol o
ddadgofrestru.
·
O
ran ymddygiad plant ers y cyfnod clo, bod y data’n dangos ychydig o gynnydd yn
niferoedd y gwaharddiadau, a bod hynny’n dueddiad cenedlaethol yn dilyn
Cofid. Gwelir mai’r plant hynny oedd yn
cael anhawster cydymffurfio â threfn ysgol oedd wedi dadrithio fwyaf o’r
profiad ysgol drwy fod gartref am gyfnodau hir, ac roedd yr ysgolion yn
gweithio’n galed iawn i adennill hyder plant a phobl ifanc i fanteisio ar eu
haddysg. Roedd y sefyllfa’n rhoi straen
ar y Gwasanaeth Cynhwysiad, ond roedd y tim yn
ymdopi’n dda, ar y cyd â’r ysgolion, i fynd i’r afael â hynny.
·
Bod
yr Adran yn edrych ar faes y Gymraeg yn barhaus. Roedd ffigurau’r Cyfrifiad yn dangos bod
canran y siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru yn is na 10 mlynedd yn ôl, ond debyg
bod y gostyngiad yng Ngwynedd yn llai nag mewn siroedd eraill. Er hynny, roedd rhaid annog defnydd
cymdeithasol o’r iaith a’i normaleiddio.
Roedd Gwynedd yn gwneud gwaith da yn y maes, ond petai canfyddiadau’r
data yn dangos bod yna grŵp oedran penodol angen mwy o sylw, byddai’r
Adran yn ail-edrych ar y gweithdrefnau.
·
O
ran uchelgais Gwynedd yng nghyd-destun categoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg, credid bod hyn yn cael ei ddal yn y CSGA, ac o ran unrhyw
lithriad i’r dyfodol, neu sefydlu rhyw fath o gynllun gweithredu yn gyfochrog
â’r datganiad neu’r dyhead, bod llawer o hynny eto yn y CSGA, sydd y tu ôl i’n
dyheadau, neu’n uchelgais. Yn amlwg,
roedd angen bod yn uchelgeisiol yma, ac roedd llawer o’r sylwadau a dderbyniwyd
yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynllun wedi’u hymgorffori. Amlygwyd hefyd bod y Gweinidog dros y Gymraeg
ac Addysg wedi nodi’n ddiweddar pa mor hapus ydoedd gyda’r cynllun ac uchelgais
Gwynedd. Nodwyd ymhellach bod hwn yn
adroddiad sy’n edrych yn ôl hefyd, yn hytrach nag yn amlygu beth yw’r camau
gweithredu rŵan, a phwysleisiwyd yr angen i’r uchelgais gael ei meddiannu
a’i chefnogi gan bawb. Credid bod yr
uchelgais yn bodoli, a chytunid bod angen manylu (er nad yn yr Adroddiad
Blynyddol, o bosib’) ar y camau gweithredu yn sgil y categoreiddio. Pwysleisiwyd yr angen i bob ysgol symud
ymlaen, a waeth pa mor gadarn yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgolion
hynny, rhaid cynllunio ar wella hynny o ran y cwricwlwm, yr agweddau ffurfiol
ac anffurfiol. Nodwyd bod y Cyfrifiad yn
amlygu bod angen edrych ar yr holl ystod oedran sy’n dod dan y system addysg,
ac er bod dipyn o ffocws gan Wynedd ar yr uwchradd ar hyn o bryd, roedd angen
sicrhau bod y cynnydd ar draws y sector i gyd.
·
Y
llwyr gytunid â’r sylw ynglŷn â throchi, a bod gan y Cyngor ddyletswydd i
drochi plant, boed y plant hynny’n hwyr-ddyfodiaid neu beidio. Yng Ngwynedd roedd hynny’n digwydd yn naturiol
gan fod y ddarpariaeth yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod
sylfaen ymhob ysgol, ac eithrio un.
Nodwyd bod gwaith y canolfannau iaith wedi bod yn amhrisiadwy ers
degawdau, ond roedd ail-strwythuro’r gyfundrefn wedi arwain at fwy o
hyblygrwydd a chynnydd mewn capasiti, sy’n golygu y
bydd mwy o drochi yn digwydd yn gynt.
Gwelid ceisiadau niferus yn cyrraedd gan ysgolion ar gyfer plant sydd
wedi bod yn derbyn eu haddysg yng Ngwynedd, ond bod ganddynt addysg fylchog am wahanol resymau, gan gynnwys y cyfnod
Cofid. Nodwyd ymhellach y darparwyd
hyfforddiant ar egwyddorion trochi cynnar llwyddiannus yn y cyfnod sylfaen ar
gyfer athrawon, staff a chymorthyddion, ac y bwriedid
parhau gyda’r ddarpariaeth i hyfforddi ac i gydweithio gydag ysgolion yng
nghyd-destun trochi cynnar, a hefyd yng nghyd-destun trochi hwyr. Cyfeiriwyd hefyd at y cynllun ym Mangor, lle
mae’r awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth gyda 3 ysgol er mwyn ehangu’r
ddarpariaeth. Nodwyd, yn sgil derbyn
grant dros 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru, y byddai athrawes lawn-amser yn cael
ei chyflogi i gefnogi staff yr ysgolion yn nalgylch Bangor i weithio ar
egwyddorion trochi cynnar yn y cyfnod sylfaen.
Byddai hyn yn cyfrannu at ddeilliannau o fewn y CSGA, ac yn cryfhau
cynlluniau a chefnogaeth ac adnoddau o fewn yr ysgolion yma i hyrwyddo’r
Gymraeg fel cyfrwng, ac wrth gwrs y defnydd cymdeithasol.
·
Bod
y broses dendro ar gyfer cludiant ysgolion yn broses agored sy’n rhaid ei
dilyn, ac na ellid ei chyfyngu i ardal benodol.
Roedd yna brinder cwmnïau tacsis mewn rhai ardaloedd, roedd angen y
tacsis i gyd ar yr un pryd ar gyfer y gwaith, ac nid oedd pob un cwmni yn dewis
tendro. O bosib’ y gellid edrych ar y
patrwm, ond roedd yn anochel weithiau bod cytundebau’n cael eu lleoli gyda
chwmni sydd beth amser i ffwrdd.
·
Bod
yr Adran yn llwyr ymwybodol o’r problemau capasiti yn
yr ysgolion arbennig, ac yn gweithio ar ddatrysiadau tymor byr a thymor hwy,
oedd yn mynd i gymryd tipyn o waith cynllunio.
Roedd yr anghenion wedi dwysau hefyd, ac roedd angen cryfhau’r
ddarpariaeth ar gyfer y plant mwy dwys yn y prif lif, yn ogystal ag edrych ar
sut mae’r ysgolion prif lif ac arbennig yn cydweithio gyda rhai plant. Yn hanesyddol, oherwydd cyflwr yr hen Ysgol
Hafod Lon, roedd rhieni wedi bod yn tueddu i ddewis y prif lif i'w plant, er
efallai y byddai rhywun wedi dadlau drwy ddatganiad y dylai’r plant hynny fod
wedi’u lleoli mewn ysgol arbennig. Erbyn
hyn, fodd bynnag, oherwydd yr adnoddau gwych a gynigid
yn yr Ysgol Hafod Lon newydd, roedd yna lai o waith perswadio ac o weithio
drwy’r stigma o riant ddim eisiau lleoli eu plentyn mewn ysgol arbennig. Erbyn heddiw hefyd, roedd yna blant yn byw,
na fyddai wedi byw hefo’u cyflyrau ers talwm, ac er
bod hynny’n rhywbeth i fod yn eithriadol ddiolchgar amdano, roedd hefyd yn
ychwanegu pwysau ar y gyfundrefn.
·
Bod
yna lawer o waith yn mynd rhagddo drwy’r Siarter Iaith Cynradd a’r Strategaeth
Iaith Uwchradd i ddwyn perswâd ar rieni i siarad Cymraeg gyda’u plant, a
hynny’n benodol drwy dynnu sylw at y manteision economaidd i’r plentyn maes o
law.
·
Er
yn derbyn y sylw ynglŷn â phwysigrwydd sicrhau bod gwasanaethau cludiant
yn cyrraedd y sefydliadau addysg ar amser, bod hynny’n ymwneud ag isadeiledd
cludiant y cwmnïau trenau a bysus, a bod llawer o hynny allan o ddwylo’r
awdurdod. Er hynny, roedd trafodaethau
yn digwydd gyda Thrafnidiaeth i Gymru.
·
Y
derbynnid bod yr adroddiad blynyddol yn swnio fel petai’r Adran yn canmol ei
hun, ond blas ydyw yn unig o’r hyn a wnaethpwyd ar draws y flwyddyn, ac roedd
yr holl feysydd yn derbyn sylw drwy’r drefn herio perfformiad, sy’n bwydo i
mewn i adroddiad blynyddol yr Aelod Cabinet.
·
Bod
ymyraethau wedi’u rhoi mewn lle ar gyfer y cohort o
blant sydd wedi colli allan oherwydd Cofid, ac y byddai’r plant yma’n cael eu
mapio drwy gydol eu hoes ysgol er mwyn sicrhau nad oes llithriad ac i wneud yn
siŵr bod y plant yma’n cyrraedd eu llawn botensial.
·
O
ran y panel sy’n trafod ceisiadau am gynllun datblygu unigol, mai un o
ddangosyddion y Gwasanaeth ADY a CH yw sicrhau bod ysgol a rhiant yn derbyn
ymateb priodol o fewn pythefnos o wneud cais am gyfeiriad. Nodwyd bod y dangosydd yn dangos perfformiad
o 100%, ac mai’r unig eithriadau i hyn oedd Mai a Mehefin, lle mae wythnos
Sulgwyn yn golygu wythnos ychwanegol. Yr
unig adegau lle byddai’n cymryd mwy o amser fyddai mewn achos mwy cymhleth,
e.e. cais am leoliad gwahanol neu riant yn gofyn am rywbeth gwahanol i’r ysgol,
neu fod y Panel Cymedroli angen mynd yn ôl at yr ysgol am ragor o wybodaeth i
gefnogi’r cais. Nodwyd hefyd bod yr
ysgolion mewn cyswllt parhaus gyda’r Swyddog Ansawdd ynglŷn â cheisiadau
sydd wedi dod i mewn, neu’n disgwyl gwybodaeth bellach. Cadarnhawyd y byddai’r ymateb hwn yn cael ei
anfon yn ysgrifenedig at Manon Williams yn ei habsenoldeb o’r cyfarfod hwn.
·
Bod
prinder cymorthyddion yn broblem gynyddol ledled
Cymru, ond bod Gwynedd yn arwain y gad yn y maes. Roedd y Pennaeth Addysg yn eistedd ar ddau
gorff cenedlaethol sy’n edrych i mewn i hyn, ac wedi gwyntyllu’r mater hwn ar
ran cyfarwyddwyr addysg Cymru mewn cyfarfod diweddar gyda’r Llywodraeth yn
bresennol. Cydnabyddid nad oedd y
gyfradd gyflog yr uchaf, ond roedd hynny’n ddarostyngedig i drafodaethau ar
lefel genedlaethol ayb. Roedd y cytundebau’n
aml yn rhai amser tymor yn unig, a’r swyddi eu hunain yn 15-20 awr efallai, a
phawb yn rhwydo yn yr un pwll am yr un bobl gyda’r un sgiliau. Gan hynny, roedd yr Aelod Cabinet wedi gofyn
i’r Adran edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno elfennau ychwanegol i’r swydd,
e.e. dyletswyddau yn y sector gofal oedolion, cynlluniau chwarae dros yr haf,
ayb, fel bod y swydd yn ymdebygu fwy i swydd lawn-amser 37 awr a gafael
ariannol arni. O ganlyniad i
drafodaethau’r cyrff cenedlaethol, cafwyd ar ddeall bellach bod y Llywodraeth
yn fodlon edrych i mewn i hyn, ac efallai ariannu peilot.
·
O
ganlyniad i brysurdeb gwleidyddol yr Etholiadau a’r broses o sefydlu Cyngor
newydd, ac ati, nad oedd fawr o’r trafodaethau ynglŷn â phrosiect Addysg
Ôl-16 yn Arfon wedi digwydd ers Chwefror, ond wrth ail-afael yn yr agenda
rŵan, byddai’r Adran yn fwy na bodlon darparu’r sylwadau ynglŷn â’r
canfyddiadau i aelodau’r pwyllgor.
·
Y
byddai’r Adran yn hapus i rannu canlyniadau holiaduron Cydweithio
Meirionnydd. Nodwyd bod recriwtio yn her
ar bob lefel, ac efallai bod angen meddwl yn llai traddodiadol, gan ystyried a
oes modd rhannu adnoddau a chydweithio, yn hytrach na bod pawb yn ceisio
ail-greu’r olwyn.
·
Y
gellid darparu briff ar gyfer yr ysgolion, yn amlygu gofynion y Siarter Iaith
a’r Strategaeth Iaith mewn ffordd glir a diamwys. Roedd y penaethiaid yn gyffredinol yn teimlo
bod angen diwygio cwestiynau’r Siarter Iaith i’w gwneud yn fwy perthnasol i
heddiw, ac er mwyn cael perchnogaeth ohonynt, ac roedd Gwenan Ellis Jones,
Cydlynydd Siarter Iaith, eisoes yn ymgynghori â’r Llywodraeth ar hynny. O ran yr uwchradd, nodwyd bod e-bost eisoes
wedi ei anfon at yr ysgolion i geisio rhoi arweiniad, heb orlethu, ac y byddai
Sian Eirug, Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd, yn gweithio’n uniongyrchol
gyda’r ysgolion ar hyn.
·
O
ran problemau recriwtio a salwch mewn gwahanol rannau o’r sir, megis De
Meirionnydd, bod yr Adran yn cefnogi’r ysgolion hyd eithaf ei gallu i ymdopi.
·
Er
bod yr Adran wedi gobeithio y byddai Canolfan Iaith Tywyn yn barod erbyn Ionawr
2023, nad oedd y ganolfan wedi’i hadeiladu, yn anffodus, oherwydd oedi o ran yr
elfen gynllunio. Edrychwyd ar y
posibilrwydd o leoli’r ganolfan dros dro yn Ysgol Tywyn, ond nid oedd gofod
digonol yno, gan fod nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi cynyddu. Roedd Neuadd Tywyn yn opsiwn arbennig o dda o
ran cyfleusterau, ond roedd yr Adran yn chwilio am leoliad ar dir ysgol, gan
mai’r pennaeth ysgol yw’r rheolwr safle yng nghyd-destun diogelwch. Fel cyfaddawd, derbyniwyd cynnig Pennaeth
Ysgol Bro Idris, Dolgellau i leoli’r ganolfan dros dro am dymor neu ddau yn yr
ysgol honno. Nodwyd bod nifer wedi
cofrestru eisoes ar gyfer mynychu’r Ganolfan Iaith, a mawr obeithid y byddai’r
ganolfan newydd yn Nhywyn yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, os nad
ynghynt.
·
O
ran blaenoriaeth y Gwasanaeth Arlwyo a Glanhau ar gyfer y cyfnod nesaf i
gydweithio gyda’r ysgolion i fynd yn gwbl ddi-arian,
cadarnhawyd y rhoddir ystyriaeth i sefyllfa rhieni heb gyfrif banc.
·
Ar
gais y Prif Weithredwr, bod un o’r Cyfarwyddwyr Corfforaethol wedi cytuno i
gydweithio gyda’r Pennaeth Addysg a Swyddog Addysg Ardal Arfon i edrych ar
draws y Cyngor er mwyn gweld sut orau i gwrdd â’r gorwariant ar y gyllideb
cludiant addysg.
Dogfennau ategol: