Ystyried adroddiad
ar yr uchod.
Cofnod:
Croesawyd swyddogion GwE i’r cyfarfod a
chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2021-22.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau.
Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:-
·
Nodwyd
ei bod yn amhosib’ craffu adroddiad o’r maint yma, ac nid dyma sut y dylai’r
pwyllgor graffu gwaith GwE.
·
Mynegwyd
pryder ynglŷn ag ymddygiad plant tuag at athrawon, a nodwyd y dylai darpar
athrawon gael eu hyfforddi ar sut i ddelio ag ymddygiad heriol, neu ni fydd
pobl ifanc yn awyddus i ymuno â’r proffesiwn.
·
Ei
bod yn anodd iawn bellach i lywodraethwyr wybod beth yw’r gwaelodlin a mesur
safonau yn sgil y cyfnod Cofid, a chredid bod yna rôl i GwE i’w cefnogi a’u
cynorthwyo i ail-afael yn eu rôl.
Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:-
·
Tra’n
derbyn bod yr adroddiad yn swmpus, bod yna adroddiadau mwy penodol yn cael eu
cyflwyno i’r pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar gais yr aelodau, ond bod yr
Adroddiad Blynyddol yn dwyn y cwbl at ei gilydd mewn un lle. Petai’r aelodau’n dymuno canolbwyntio ar
themâu penodol, neu drafod elfennau mwy penodol mewn gweithdai, byddai GwE yn
fwy na pharod i hwyluso hynny.
·
O
ran cyfarch y risg yng nghyswllt anawsterau recriwtio a chynllunio olyniaeth
uwch arweinwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig rhai cyfrwng Cymraeg, nodwyd
bod llawer o son am effaith y cyfnod Cofid ar
ddisgyblion, ond o bosib’ nad oedd yr effaith ar oedolion wedi’i lawn
sylweddoli. Roedd uwch arweinwyr ar
draws y rhanbarth yn flinedig iawn, ac roedd chwarter y prif athrawon uwchradd
wedi ymddeol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Hefyd, wrth i bennaeth adael, roedd dirprwy
neu berson arall yn camu i mewn i’r rôl, a’r rôl honno wedyn yn wag am
gyfnod. Nodwyd hefyd, yn ystod y cyfnod
clo, y bu’n rhaid i benaethiaid roi elfennau mwy arweinyddol
y gwaith o’r neilltu, a chanolbwyntio ar reoli, diogelu a sicrhau bod pawb yn
saff, ond bellach roedd rhaid iddynt gamu nôl i’r rôl arweinyddol,
neu gamu i mewn i’r rôl honno am y tro cyntaf yn achos penaethiaid mwy
newydd. Hefyd, o ran recriwtio, roedd y
pwll Cymraeg yn llai, roedd y byd addysg yn wynebu’r newidiadau mwyaf ers 40
mlynedd, ac roedd yn gyfnod ariannol dyrys iawn. Yn wyneb hyn oll, cwestiynid a oedd y swyddi arweinyddol yma mor ddeniadol i gymaint o bobl
bellach. O ran gallu dwyieithog staff,
neu allu staff yn y Gymraeg ar draws y rhanbarth, credid bod yna gydbwysedd,
ond o bosib’, wrth sicrhau bod yr arlwy yn gwbl ddwyieithog, bod y Gwasanaeth
yn tynnu o bwll y Gogledd Orllewin i raddau helaeth. Roedd secondiadau tymor byr yn un ffordd o
gwmpas hynny, neu brynu amser pobl i ddiwallu bylchau os oes yna ofynion
cyfrwng penodol yn codi.
·
Bod
y risg o ran cysondeb ac ystod y Daith Ddiwygio yn cyfeirio at gysondeb ar sawl
lefel. Roedd y Gwasanaeth wedi bod yn
gweithio gyda’r Athro Donaldson yn rheolaidd i ddeall
y gofynion a chyfleu’r negeseuon ar draws y rhanbarth. Credid, fodd bynnag, bod y Llywodraeth yn
dueddol o weithio ar ddwy haen, sef y maes polisi, a hefyd yn y maes sy’n
gweithredu’r polisi, ac ar adegau roedd mwy nag un person yn cyfrannu at y dehongli
yma. Gan hynny, roedd rhaid cwestiynu a
oedd y negeseuon yn gyson drwy’r amser ac yn cael eu ymarferoli
ddigon, ac o ran y Gymraeg, a oeddent yn cael eu ymarferoli
ddigon ar gyfer ymarferwyr yn ein hysgolion?
Roedd rhaid canmol pa mor dda roedd y sector gynradd a tua 6 o ysgolion
uwchradd wedi cydio yn y cwricwlwm newydd, ac yn cynnig profiadau lleol,
pwrpasol i’w disgyblion, ac roedd y Gwasanaeth yn gweithio gyda’r ysgolion i
rannu’r ymarferion ymysg ei gilydd fel y gellir gweld beth yw ystod y profiadau
maen nhw’n gallu cynnig, ac roedd y Gwasanaeth yn eu cefnogi hefyd yn y
systemau sy’n dal effaith, ac yn dal cynnydd dysgwyr.
·
Bod
y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor yng nghyswllt
hyfforddiant cychwynnol athrawon. Roedd
yna brinder athrawon mewn rhai meysydd penodol fel mathemateg a ffiseg ers
blynyddoedd, ac roedd angen mwy o drafodaeth ar hyn, gan o bosib’ adnabod y
carfannau o ddarpar athrawon sydd eu hangen, yn hytrach na throi allan gormod
sydd wedi arbenigo yn yr un pwnc. Nodwyd
ymhellach bod delio ag ymddygiad heriol yn rhan o hyfforddiant athrawon, ond y
gellid cyfleu’r neges i’r Brifysgol ynglŷn â phwysigrwydd medru sicrhau
disgyblaeth gadarn mewn dosbarth.
·
Bod
newid rôl yr Ymgynghorwyr Her i Ymgynghorwyr Cefnogi Gwelliant wedi cryfhau’r
berthynas rhwng yr ysgolion a’r gwasanaeth, a bod y gwasanaeth bellach yn
diwallu anghenion ysgolion unigol yn llawer iawn gwell nag yn y gorffennol.
·
O
ran y cynlluniau Carlam, ac yn sgil gwaith gyda’r Brifysgol i adnabod yr
elfennau sy’n cael y mwyaf o effaith, y bu’r Gwasanaeth yn cefnogi ysgolion i
ail-sefydlu beth yw gwaelodlin y disgyblion.
Nodwyd y byddai’r Gwasanaeth yn hapus i ddod ag adroddiad neu roi
cyflwyniad i’r pwyllgor i ateb y cwestiwn penodol. Nodwyd ymhellach yr effeithiwyd ar sgiliau
sylfaenol yn y 18 mis diwethaf, a bod hyn wedi effeithio ar y Gymraeg lle nad
yw’r Gymraeg yn iaith yr aelwyd, a hefyd mewn pocedi mwy difreintiedig. Nodwyd ymhellach bod yna garfannau sy’n dod
at ei gilydd yn yr ysgolion, fwy mewn rhai dosbarthiadau nag eraill, ond
unwaith eto, bod rhaid bod yn benodol iawn o ran y math o gefnogaeth sydd ei
hangen ar y disgyblion a’r athrawon wrth roi’r camau nesaf yn nysgu’r plant yn
eu lle.
·
Petai
yna unrhyw beth penodol sydd ei angen ar lywodraethwyr o safbwynt ail-gydio yn
eu rôl yn dilyn y pandemig, y byddai’r Gwasanaeth yn gwneud yn siŵr bod
yna weithdy neu arweiniad yn cael ei roi iddynt.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau a gofyn i’r Adran Addysg a
GwE gymryd sylw o unrhyw sylwadau a godwyd yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ategol: