Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio a Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfyniad:
1.
Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm
gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriad
‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer
cymunedau gwledig’ (Atodiad A – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol –
Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllen ‘Dylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.
2. Cytuno
i'r amserlen a nodir yn yr adroddiad gan gynnwys lansio'n ffurfiol ym mis
Ionawr 2023.
3. Dirprwyo’r
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio i weithredu'r Broses Newid Prosiectau fel y
nodir yn yr adroddiad ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i gwblhau'r
dogfennau sydd eu hangen i gychwyn y broses.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) ac ategodd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) y sylw mai’r dyhead oedd adnabod pecyn
uchelgeisiol iawn o brosiectau y gellir eu cyflawni, yn hytrach na phrosiectau
sy’n cyfarfod â’r lleiafswm gofynnol yn unig.
PENDERFYNIAD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
Mae
gan Gynllun Twf Gogledd Cymru broses rheoli newid yn ei lle
i sicrhau bod newidiadau posib i sgôp y Cynllun
Twf a’r prosiectau
yn cael eu dal, eu hasesu a lle
bo hynny’n berthnasol, eu hystyried gan y Bwrdd.
Mae’r Cytundeb Twf Terfynol yn nodi sefyllfa'r bwrdd mewn perthynas
â phrosiectau amgen posib:
"Rhaid i unrhyw brosiectau newydd neu amgen sydd i'w cyflwyno
am ystyriaeth, ddangos eu bod yn cyflawni yn erbyn yr achos
busnes rhaglen perthnasol ac amcanion yr achos busnes
portffolio. Lle mae'r prosiectau hyn o fewn yr
amlen ariannol gytûn bresennol ar gyfer y bartneriaeth, byddai angen i'r
Bwrdd Uchelgais Economaidd wneud penderfyniad yn eu cylch."
Ym mis Medi 2022, fe wnaeth y Bwrdd gytuno ar
gyfres o egwyddorion er mwyn adnabod prosiectau newydd a phroses tri cham, sef
Cam 1: Sganio’r Gorwel, Cam 2: Creu Rhestr Hir a Rhestr Fer a Cham 3:
Cymeradwyo a Datblygu’r Achosion Busnes.
Gofynnwyd i’r Bwrdd gytuno ar y sgôp a’r
lleiafswm gofynnol ar gyfer y cam sganio’r gorwel.
TRAFODAETH
Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd.
Nodwyd yr
adroddwyd yng nghyfarfod diweddar Cyngor Busnes Gogledd Cymru bod yr £13m o
gyllid y Cynllun Twf nad oedd wedi’i glustnodi ar gael, ond na rannwyd unrhyw
fanylion ynglŷn â’r meini prawf a’r angen am gyllid cyfatebol, ac ati. Yn wyneb hynny, awgrymwyd y dylid cyfleu’r
negeseuon hynny cyn gynted â phosib’ er mwyn rheoli disgwyliadau. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth
Gweithrediadau, yn ddarostyngedig i benderfyniad y Bwrdd ar yr eitem hon, y
byddai’r wybodaeth yn cael ei rhannu rhag blaen gyda rhai o’n rhanddeiliad allweddol, megis y Cyngor Busnes, ac na
fwriedid aros am y lansiad swyddogol ym mis Ionawr
Gan gyfeirio at
Atodiad A i’r adroddiad – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen
Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth, mynegwyd pryder y gallai’r datganiad ‘Rhaid i gynigion gyflawni ar gyfer cymunedau
gwledig’ eithrio prosiectau da yng nghanol trefi. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth
Gweithrediadau:-
·
Bod
y Bwrdd Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth o’r farn bod y rhaglen hon yn arbennig yn un sy’n cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig, ac felly y dylai unrhyw brosiectau amgen gyflawni ar gyfer cymunedau gwledig hefyd.
·
Y
credai fod y Bwrdd Rhaglen hefyd
o’r farn y dylai unrhyw brosiectau
trefol a dderbynnir ym meysydd amaeth,
bwyd neu dwristiaeth allu arddangos sut y byddent o fudd i’r cymunedau
mwy gwledig yn yr ardaloedd hynny.
Nododd y
Cynghorydd Charlie McCoubrey, yr Aelod Arweiniol ar
gyfer y rhaglen hon, nad oedd rhaid i brosiect fod wedi’i leoli mewn ward
wledig er mwyn gallu dod â buddion i’r ward honno, ac y gellid bod yn bragmataidd ynglŷn ag arddangos y buddion, gan weld pa
gynlluniau ddaw i law, a bodloni’r ddau beth.
Nododd y Cadeirydd
y byddai’n bryderus o weld arian a fwriadwyd ar gyfer ardaloedd gwledig yn
llifo i ardal drefol, ond cytunodd fod angen aros i weld pa brosiectau ddaw i
mewn, ac asesu’r prosiectau hynny yn ôl eu gallu i gyfrannu i’r ardaloedd
gwledig.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-
·
Y
credid bod geiriad cyfredol y datganiad yn dal
Gogledd Cymru i gyd, gan fod y rhan
helaethaf o Ogledd Cymru yn
wledig, hyd yn oed y trefi mewn
ardaloedd gwledig.
·
Na
ddymunid gweld yr ardaloedd gwledig
yn cael eu gadael ar ôl, a bod angen sicrhau bod y prosiectau canol tref yn cydweithio â’r ardaloedd gwledig
cyfagos.
·
Nad yw trefi megis Wrecsam,
Rhyl a Llandudno yn wledig, ond
bydd yr ardaloedd
gwledig cyfagos yn dibynnu ar wasanaethau yn y trefi hynny.
·
Bod
yr ardaloedd gwledig wedi colli
allan ar ddatblygiad economaidd yn hanesyddol, a bod angen y math yma o fuddsoddiad yn yr ardaloedd hynny.
·
Y
credid bod y drafodaeth yn mynd i’r cyfeiriad
anghywir. Ni ddylai’r pwyslais fod ar yr ardaloedd
gwledig, nac yn wir ar ganol trefi,
ond yn hytrach dylai’r cynigion gyflawni ar gyfer y rhanbarth yn ei gyfanrwydd.
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd y Cyfarwyddwr Portffolio y byddai’n bosib’ diwygio’r datganiad
i’w wneud yn fwy cynhwysol.
Awgrymwyd y gellid
meddalu’r gair ‘rhaid’ yn y
datganiad, ond gan barhau i gynnwys y geiriad sy’n cyfeirio at roi pwyslais ar ardaloedd
gwledig.
Cynigiwyd ac
eiliwyd y gwelliant a ganlyn i’r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad:-
“Cytuno ar y sgôp a'r lleiafswm
gofynnol fel y nodir yn yr adroddiad
i’r Bwrdd, yn amodol ar ddiwygio’r geiriad ‘Rhaid i gynigion gyflawni
ar gyfer cymunedau gwledig’ (Atodiad A – Gofynion Sylfaenol – Ffit Strategol – Rhaglen Bwyd-Amaeth a Thwristiaeth) i ddarllen ‘Dylai cynigion bwysleisio cyflawni ar gyfer cymunedau gwledig’.”
Pleidleisiwyd ar y
gwelliant, ac fe gariodd.
Nododd y
Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, iddo
bleidleisio yn erbyn y gwelliant ar sail pryder oedd ganddo bod y Bwrdd yn
symud i gyfeiriad gwahanol i’r amcanion a sefydlwyd ar y cychwyn.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai pob prosiect yn derbyn ystyriaeth gyfartal.
Dogfennau ategol: