(a)
I dderbyn, er gwybodaeth,
ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer
Haf i Hydref 2015.
(b)
I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion
canlynol:
(i)
Ysgol Babanod Morfa Nefyn
(ii)
Ysgol Beddgelert
(iii)
Ysgol Hirael
(iv)
Ysgol Llanaelhaearn
(v)
Ysgol Llanelltyd
(vi)
Ysgol y Traeth
(vii)
Ysgol Dyffryn Nantlle
(viii)
Ysgol y Gader
Cofnod:
(a) Tywysodd Clerc CYSAG yr
Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi
crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu
sylw bo 5 ysgol gynradd wedi
eu harolygu gan ESTYN yn ystod
tymor yr Haf 2015. Cyfeiriwyd at ddyfyniadau wedi eu cymryd o adroddiadau
ESTYN o dan y pennawd gofal, cymorth ac arweiniad dangosydd 2.3 o’r Fframwaith Arolygu Cyffredin.
Esboniodd Miss Bethan James ar yr
eirfa a ddefnyddir gan ESTYN yn benodol
o safbwynt addoli ar y cyd a bod yn rhaid bod yn
ofalus ar sut y dehonglir y brawddegau e.e. “llwyddiannus” sy’n golygu da, “priodol” sy’n golygu digonol. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd na ddylid bod yn
rhy feirniadol o ysgolion sydd wedi
derbyn anfoddhaol / digonol am yr elfen
gofal, cymorth ac arweiniad gan ei
fod yn bosibl
i’r dyfarniad fod yn cyfeirio
at elfennau eraill heblaw addoli ar
y cyd a datblygiad ysbrydol a moesol.
(b) Tywyswyd
yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Morfa Nefyn, Beddgelert, Hirael, Llanaelhaearn, Llanelltyd, Y Traeth, a dwy Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a’r Gader gan
gyfeirio at y tri chwestiwn
allweddol sef:
1.
Pa mor dda yw’r
deilliannau mewn Addysg Grefyddol?
2. Pa mor dda yw’r ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol?
3. Pa mor dda yw’r ddarpariaeth ar gyfer addoli
ar y cyd?
Gwerthfawrogwyd yr hunan arfarniadau
gan Aelodau CYSAG a derbyniwyd
eglurhad gan Miss Bethan
James ynglŷn â’r blwch sy’n nodi
safonau medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a meddwl a’i
fod wedi ei gynnwys er
annog ysgolion i wahaniaethu safonau addysg grefyddol a’r medrau ac i fod yn fwy
penodol o’r math o elfennau a gyflwynir yn yr adroddiad.
Tynnwyd sylw at elfennau diddorol a wna rhai ysgolion ac y byddir yn croesawu
ysgolion i fynychu cyfarfodydd CYSAG i’r dyfodol i rannu arferion da gydag Aelodau.
PENDERFYNWYD: (a) Derbyn a nodi cynnwys
yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau.
(b) Cymeradwyo i Miss Bethan James, Ymgynghorydd
Her, wahodd Ysgol i roi cyflwyniad ar unrhyw
elfen o’r hunan arfarniad a fyddai o ddiddordeb i CYSAG.
Dogfennau ategol: