Adroddiad
Llafar gan Dewi A Morgan, (Pennaeth Cyllid)
Cofnod:
Rhoddwyd cyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid, a gadarnhaodd
bod llawer o’r wybodaeth yn newid yn barhaus, ac na fydd ffigwr Setliad
Ariannol yr Awdurdod ar gael nes 14 Rhagfyr.
Nododd y Pennaeth Cyllid ei bod yn ymddangos y bydd y setliad yn llai
gwael na’r hyn yr oedd wedi ofni, a rhannodd sleidiau gyda’r Fforwm. Cyfeiriodd at faterion fydd yn cael effaith
ar y setliad megis chwyddiant cyffredinol o 10/11%, a bod digartrefedd wedi
cynyddu yn y Sir.
O ran sefyllfa ariannol y flwyddyn gyfredol (2022/23),
cadarnhawyd na fydd grantiau ychwanegol, a disgwylir bydd gorwariant o £7.1
miliwn yn erbyn cyllideb y Cyngor. Gan
na ddisgwylir grantiau ychwanegol eleni, bydd rhaid llenwi’r bwlch trwy
ddefnyddio balansau y Cyngor. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at lythyr oedd
eisoes wedi ei ddanfon at Benaethiaid ynglŷn â’r bwlch ariannol, ond
nodwyd efallai y daw y bwlch i lawr fymryn.
Nodwyd bod ffigyrau cyfrifiad 2021 yn dechrau bwydo
drwodd hefyd, ac mae llygedyn o obaith y bydd y setliad fymryn yn well na’r hyn
oedd wedi ei ragweld. Cadarnhawyd
efallai y bydd posib prynu amser yn 2023/24 ond wrth gwrs mae hyn yn ddibynnol
ar gyhoeddiad y Gweinidog.
Cyfeiriwyd at yr opsiynau i gau’r bwlch, ond mae yna
waith balansio, yn enwedig gan fod y sefyllfa
ariannol wedi newid mor annisgwyl ers dechrau’r flwyddyn ariannol gyfredol.
Cyfeiriwyd at y drefn blaenoriaethu, gan gadarnhau bod y
Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwyr yn edrych ar y cynigion unigol o bob Adran, a
bydd hyn yn cael ei ddilyn gan bob Pennaeth yn mynd gerbron y Tîm
Arweinyddiaeth 19 a 20 Rhagfyr i drafod ymhellach.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at fodelu toriadau o 1% i 6%
ar gyfer ysgolion, ac er y gellir prynu amser, dim ond am gyfnod mae hyn yn
bosib.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at y drefn a ffigyrau
dangosol gyda thoriad fflat ar draws y sectorau i gyd. Nododd bod 6% yn gyfystyr â £4.8 miliwn, ond
pwysleisiwyd mai ffigyrau dangosol ydy y rhain.
Cadarnhawyd yr angen am gyfarfod arall ddiwedd
Ionawr/dechrau Chwefror yn ddibynnol ar
ddyddiaduron.
Pwysleisiwyd mai y rhain yw y ffigyrau gwaethaf.
Diolchodd y Pennaeth Addysg am gyflwyniad da, eglur, gan
nodi bod yn rhaid i bob Adran baratoi, ond nad oedd modd darogan y sefyllfa ar
hyn o bryd.
Agorwyd y cyfarfod i gwestiynau / sylwadau :
Nododd y Cadeirydd mae un peth yw dangos ffigyrau, ond
nid yw y ffigyrau yn dangos sefyllfa fregusrwydd
plant sydd yn dod dros Covid. Nododd y Pennaeth Addysg bod gwaith adfer y
sefyllfa effaith Covid ar blant. Yn ychwanegol, cadarnhaodd y Pennaeth Addysg
ei fod wedi gorfod darlunio ardrawiad ar bobl Gwynedd wrth wneud cynigion i’r
Tîm Arweinyddiaeth. Nododd y Pennaeth
Addysg yr angen i ystyried y toriadau cyffredinol ar draws y tri sector, er bod
y dip demograffeg wedi taro y cynradd ac eto i ddod i’r uwchradd.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod pob cynnig yn cael ei
ystyried, ar draws y Cyngor.
Cododd Cynrychiolydd yr Undeb gwestiwn ynglŷn ag
arian wrth gefn y Cyngor, ynghyd ag unrhyw arian sydd wedi ei glustnodi, gan
holi a yw hwnnw ar y bwrdd hefyd, gan ei bod yn bwysig ystyried hynny.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod reserfau/arian wrth
gefn a bydd modd edrych arnynt i lenwi bylchau a phrynu cymaint o amser a
phosib. Ychwanegodd bod reserfau ar gyfer prosiectau penodol a phenderfyniadau ar
brosiectau wedi eu gwneud ers amser, ond bydd unrhyw dynnu yn ôl yn hollol
dryloyw. Nodwyd mai gwaith ataliol yw y
ffordd i ateb gofynion rhai prosiectau.
Cwestiynodd un Pennaeth Uwchradd, beth bynnag y canran,
mae rhai ysgolion o dan warchodaeth.
Effaith hyn fydd toriadau uwch i rai ysgolion a nododd yr angen i gadw
sefyllfa pob ysgol ar wahân.
Nododd y Cynrychiolydd Undebau ei bryder am y sefyllfa
recriwtio a chadw, ynghyd ai bryder am y negeseuon sydd yn cylchdroi. Nododd yr angen i ddal i fyny yn syth ar ôl Covid, a bod hyn yn amseru gwael iawn. Nodwyd bod tair ffordd amlwg o arbed arian
sef dosbarthiadau mwy, lleihau ar ynni a thorri a staff a chwestiynwyd a yw
ysgolion yn addas i hyn?
Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gynlluniau sydd weithiau
yn cael eu hadnabod i ddod ag arian i mewn, ynghyd â’r Cynllun Rheoli Asedau
a’r Cynllun Buddsoddi i Arbed, sydd dan drafodaeth yn y cylch hwn.
Cwestiynodd un Pennaeth Uwchradd a yw Buddsoddi i Arbed
yn agored i Ysgolion unigol, a nododd y Pennaeth Cyllid y byddai yn gwirio hyn
ac adrodd yn ôl.
Nododd un Pennaeth Cynradd bod arbedion yn anorfod, ond
ei bod yn poeni am y plant, a’r cyfrifoldeb tuag at y staff, sydd yn rhoi
straen ar ysgolion, a’r sgil effaith o golli Penaethiaid ac athrawon.
Gwnaeth y Cadeirydd y sylw, petai ysgol yn derbyn llai o
ddisgyblion, y byddai angen rhoi llai o ddosbarthiadau a bydd hyn yn rhesymoli
ysgolion. Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg
bod y Cyngor wedi gorfod cymryd penderfyniadau anodd a bydd rhaid edrych ar
ddemograffig a chynnig gwerth am arian.
Cwestiynwyd a ydy y cyllid y tu draw i ysgolion yn cael
ei dorri yn yr un modd (e.e. GwE ac ADY), a chadarnhawyd eu bod.
Cadarnhawyd y bydd mwy o eglurder ar gael yn y cyfarfod sydd
i’w drefnu ar gyfer diwedd Ionawr/dechrau Chwefror o ran gwariant yr Awdurdod
ar gyfer 2022/23 ynghyd â’r setliad.
Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg mai rhannu gwybodaeth oedd
pwrpas y cyfarfod ac y bydd y sefyllfa yn fwy aeddfed erbyn
Ionawr/Chwefror. Erfyniodd ar Aelodau y
Fforwm i gymryd y cyfle rhwng nawr a’r cyfarfod nesaf i drafod gyda
cyd-benaethiaid.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a threfnu cyfarfod cyn
gynted â phosib i drafod ymhellach, pan fydd y ffigyrau ar gael.