Codi adeilad i'w ddefnyddio fel masnachwr adeiladu (defnydd sui
generis) a strwythurau iard cysylltiedig, mannau llwytho, maes parcio, cynigion
tirlunio ynghyd â gwaith cysylltiedig.
AELOD
LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig
Penderfyniad:
Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda’r
cynlluniau
3. Rhaid gweithredu yn unol ag argymhellion yr
adroddiad ecolegol
4. Amodau Tirlunio
5. Oriau Agor
6. Sicrhau arwyddion
Cymraeg / Dwyieithog
Nodiadau
1.
Dŵr
Cymru
2.
Uned
Draenio Tir
Cofnod:
Codi
adeilad i'w ddefnyddio fel masnachwr adeiladu (defnydd sui generis)
a strwythurau iard gysylltiedig, mannau llwytho, maes parcio, cynigion tirlunio
ynghyd â gwaith cysylltiedig
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi
adeilad i’w ddefnyddio gan fasnachwr adeiladu (defnydd unigryw) ar Safle Busnes
Strategol Rhanbarthol Bryn Cegin sydd
oddeutu 1km i’r de o ffin ddatblygu Canolfan Is Ranbarthol Bangor fel
y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) .
Bydd llawr gwaelod yr
adeilad yn cynnwys man gwerthu, cownter masnach, swyddfa, toiledau, ystafell
staff/ffreutur a warws gyda mynediad i gwsmeriaid trwy fynedfa dan do.
Cyflwynwyd y cais i bwyllgor
oherwydd ei arwynebedd llawr, fe’i ddiffinir fel
datblygiad mawr.
Adroddwyd bod defnydd fel
‘masnachwr adeiladau’ yn ddefnydd unigryw ac nad oedd yn disgyn o dan unrhyw ddosbarth defnydd penodol
ac felly nid oedd y cais yn gwbl unol â pholisi CYF1. Ystyriwyd polisi CYF5
sy’n caniatáu i dir sydd wedi cael ei warchod i ddefnyddiau B1, B2 a B8 mewn
achosion arbennig cael ei rhyddhau i ddefnyddiau amgen. Er bod ‘masnachwr
adeiladu’ yn ddefnydd unigryw, mae hefyd yn ddefnydd priodol y disgwylir i’w
weld ar stad busnes / diwydiannol. Ategwyd bod y safle yn wag gyda digon o
gyfleoedd ar gyfer busnesau B1, B2 a B8 eraill i ddatblygu ar y safle.
Ystyriwyd, oherwydd
pwysigrwydd y cynllun ar gyfer sicrhau datblygiad busnes cychwynnol ar safle o
strategol bwys sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd maith, bod cyfiawnhad
eithriadol dros ganiatáu’r datblygiad arfaethedig ar safle cyflogaeth
ddynodedig yn unol â Pholisi PS13, CYF1 a CYF5 y CDLl
Yng nghyd-destun mwynderau
cyffredinol a phreswyl, cydnabuwyd pryderon a gyflwynwyd gan Wasanaeth Gwarchod
y Cyhoedd ynghylch ymyrraeth sŵn a all ddeillio o’r safle gan achosi niwsans
cyhoeddus i’r trigolion. Mewn ymateb, derbyniwyd eglurhad pellach gan yr
ymgeisydd o natur defnydd y safle. Ategwyd, bod rhaid cydnabod bod y safle yn
un diwydiannol dynodedig ac y gall y lleoliad fod yn un ar gyfer defnydd
diwydiannol llawer mwy dwys a swnllyd. O gadw at yr oriau agor ac wrth ystyried
y sŵn cefndirol o natur brysur y ffyrdd gerllaw ac agosatrwydd stad
ddiwydiannol bresennol Llandygai, ni ystyriwyd y bydd y bwriad yn debygol o
greu effaith niweidiol ychwanegol arwyddocaol. (Nodwyd bod rheoliadau y tu
allan i'r maes cynllunio ar gyfer rheoli sŵn sy'n achosi niwsans cyson i
drigolion lleol).
Yng nghyd-destun materion
trafnidiaeth, ac yn sgil derbyn cynllun safle diwygiedig, nid oedd gan yr Uned Trafnidiaeth
unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun ac y byddai’r datblygiad yn defnyddio
rhwydwaith ffyrdd a ddyluniwyd ar gyfer y stad ddiwydiannol i ymdopi gyda
lefelau trafnidiaeth.
Yng nghyd-destun materion
ieithyddol, ystyriwyd, oherwydd byddai'r datblygiad yn cynnig y cyfle i gadw
swyddi presennol a chreu swyddi newydd addas ar gyfer pobl leol, gan gynnig y
cyfle iddynt aros yn eu cymuned, y gall y datblygiad fod yn gadarnhaol i
sefyllfa’r iaith yn lleol – y cais felly yn gyson gydag amcanion polisi PS 1.
Ni ystyriwyd fod y bwriad yn
groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl
a bod y datblygiad a gynigiwyd yn briodol ar gyfer y
safle ac yn debygol o fod o bwysigrwydd strategol i’r Sir fel man cychwyn ar
gyfer datblygiadau busnes ar y safle. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol
o achosi effeithiau andwyol annerbyniol i drigolion gerllaw na’r gymuned yn
gyffredinol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y
sylwadau canlynol:
·
Bod y cais yn un ar gyfer datblygu plot ar safle Parc Bryn Cegin
ym Mangor trwy godi adeilad i’w ddefnyddio fel masnachwr adeiladu gan gwmni
lleol Huws Gray.
·
Bod y cwmni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf a bellach yn
un o’r cwmnïau masnachwyr adeiladu annibynnol mwyaf ym Mhrydain gyda phencadlys
yn Llangefni
·
Bod ganddynt safle presennol ym Mangor wedi ei lleoli ar Stad
Ddiwydiannol Llandygai ond byddai’r bwriad yn gweld Huws Gray yn adleoli i Barc
Bryn Cegin - y safle presennol yn atal i’r cwmni ehangu gan nad oes digon o le
i ganiatáu hynny
·
Byddai’r uned yn darparu arwynebedd llawr ychwanegol; bydd 3 swydd
llawn amser ychwanegol yn cael eu creu yn ogystal â holl staff presennol (17
ohonynt) yn symud i’r safle newydd.
·
Bod y staff sydd yn gyflogedig ym Mangor gan Huws Gray i gyd yn
bobl leol gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Cymraeg. Disgwylir i’r swyddi
ychwanegol fyddai’n cael eu creu, gael eu llenwi gan bobl leol, gan gynnwys
siaradwyr Cymraeg. Angen sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ar gael yn lleol.
·
Bod safle’r cais, a rhan helaeth o Barc Bryn Cegin, wedi bod yn
wag ers amser er bod caniatâd amlinellol wedi ei roi yn 2005 ar gyfer
datblygu’r Parc; bod hyn yn amlygu nad
oedd galw sylweddol wedi bod am ddefnydd B1, B2 a B8 dros y blynyddoedd, ac oni
bai bod yna rhyw fath o ddatblygiad yn digwydd ar y safle fyddai’n rhoi hwb i
ddatblygiad y Parc, efallai mai gorwedd y wag am flynyddoedd fydd ei stori
eto.
·
Bod asesiad y swyddog yn cadarnhau y gall y bwriad gael ei gefnogi
o ran egwyddor o dan bolisi CYF 5.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar argymhelliad
d) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:
·
Croesawu’r bwriad o ail leoli
·
Cefnogi busnes sydd i ddod a swyddi i’r ardal
PENDERFYNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau
cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda:
1. Amser
2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau
3. Rhaid
gweithredu yn unol ag argymhellion yr adroddiad ecolegol
4.
Amodau Tirlunio
5.
Oriau Agor
6.
Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog
Nodiadau
1.
Dŵr Cymru
2.
Uned Draenio Tir
Dogfennau ategol: