Dymchwel
rhan helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r
is-orsaf drydan presennol), newid defnydd y safle i ardal o laswelltir,
allosod goleuadau a darparu gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau i'r maes parcio
presennol ynghyd a thirlunio cysylltiedig.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Kim Jones
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD:
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau isod:-
Nodyn: Bydd yn ofynnol derbyn Trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop (Trwydded EPS) ar gyfer y datblygiad hwn
Cofnod:
Dymchwel rhan
helaeth o'r Ganolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru presennol (ar wahân i'r is-orsaf
drydan presennol), newid defnydd y safle i ardal o laswelltir, allosod
goleuadau a darparu gwefr bwyntiau ar gyfer cerbydau i'r maes parcio presennol
ynghyd a thirlunio cysylltiedig.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr
a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y gohiriwyd y cais hwn ym Mhwyllgor
Mehefin, 2022 er mwyn galluogi’r ymgeisydd
i drafod dyfodol y safle a’r defnyddiau amgen a fyddai’n bosibl oddi
fewn iddo gyda’r Aelod Lleol ynghyd a’r gymuned.
Yn dilyn
trafodaethau helaeth, nid yw’r ymgeisydd bellach yn bwriadu symud ymlaen gyda’r
cynllun gwreiddiol o greu maes parcio newydd ond, yn hytrach newid defnydd y
safle i ardal o laswelltir; creu rhodfa o’r maes parcio presennol er mwyn
gwasanaethu’r is-orsaf drydan; allosod goleuadau a darparu gwefr bwyntiau ar
gyfer cerbydau i'r maes parcio presennol ynghyd a thirlunio cysylltiedig.
Byddai’r
ardal o laswelltir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd a digwyddiadau
cymunedol achlysurol ynghyd a gosod strwythurau dros dro.
Er mwyn
cefnogi’r cais cyflwynwyd y dogfennau diwygiedig canlynol - Datganiad Dylunio a
Mynediad; Strategaeth Draenio; Asesiad Risg Llifogydd; Datganiad Cynllunio
Goleuo Allanol; Adroddiad Ecolegol a Datganiad Coedyddiaeth. Nodir yma nid yw’r
Datganiad Trafnidiaeth wedi cael ei ddiwygio gan nad oes oblygiadau diogelwch
ffyrdd i’r cynllun diwygiedig.
Adroddwyd bod y bwriad yn dderbyniol yn unol ag ail ran o Bolisi ISA 2
o’r CDLL (gyda’r polisi yn cael ei gefnogi gan y ddogfen Canllawiau Cynllunio
Atodol: Newid Defnydd Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymunedol, Safleoedd
Cyflogaeth ac Unedau Manwerthu, 2021) yn datgan bydd y Cyngor yn gwrthsefyll
colled neu newid defnydd cyfleuster cymunedol presennol drwy gydymffurfio gydag
o leiaf un o’r meini prawf perthnasol. Nid oedd gwrthwynebiadau i faterion
gweledol, bioamrywiaeth na llifogydd wedi eu derbyn ac fe roddwyd ystyriaeth lawn
i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ddau gyfnod ymgynghori ac i
ymatebion a dderbyniwyd gan yr ymgynghorwyr statudol.
Ni ystyriwyd fod y bwriad diwygiedig yn groes i bolisïau lleol na
chenedlaethol - yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol.
b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad
·
Yn croesawu’r newid i laswelltir
- modd cynnal digwyddiadau cymunedol
c) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais
PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr
Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod:-
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol â’r manylion diwygiedig a
gyflwynwyd gyda’r cais.
3. Cydymffurfio gydag argymhellion o fewn y
dogfennau Adroddiad Ecolegol a Datganiad Coedyddiaeth diwygiedig.
4. Cydymffurfio gydag argymhellion yr
Asesiad Canlyniadau Llifogydd diwygiedig.
5. Amod ni fydd unrhyw dir yn codi uwchlaw
lefelau presennol y ddaear.
6. Cyflwyno Datganiad Dull Dymchwel i’w
gytuno yn ysgrifenedig gan yr ACLL ac i gynnwys materion fel lefelau sŵn,
oriau gweithio ynghyd a mesurau lliniaru perthnasol.
7. Diogelu asedau Dwr Cymru drwy gyflwyno
Datganiad Dull Asesiad Risg i’w gytuno’n ysgrifenedig gyda’r Awdurdod Cynllunio
Lleol
8. Angen i’r ymgeisydd ymgymryd ag arolwg ffotograffeg o’r adeiladwaith presennol.
9. Angen ymgymryd ag archwiliad desg i
asesu’r risg llygredd dichonol ar y safle.
Nodyn: Bydd
yn ofynnol derbyn Trwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop (Trwydded EPS) ar
gyfer y datblygiad hwn.
Dogfennau ategol: