Agenda item

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

Pa drefniadau a wnaed gan yr Adran Addysg i sefydlu faint yn union o blant Gwynedd sy’n cael addysg drwy gyfrwng y Saesneg?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae’n braf derbyn cwestiynau fel hyn achos mae’n gyfle i mi allu datgan a’ch atgoffa unwaith eto pa mor unigryw ac arloesol ydi ein sefyllfa ni yn y sir yma.  Mae cyd-destun Gwynedd, wrth gwrs, yn wahanol i’r mwyafrif llethol o siroedd Cymru yn yr ystyr bod ein hysgolion ni yn bodoli o fewn cyd-destun sy’n gydnaws â’n nod o sicrhau dwyieithrwydd i bawb.  Mae’r ddwy iaith yn gyfrwng dysgu i wahanol raddau, ac oherwydd hynny, wrth gwrs, mae holl blant Gwynedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n sefyllfa unigryw ac yn glod i weledigaeth Gwynedd ers blynyddoedd lawer erbyn hyn.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

“O ystyried nad oes yna unrhyw ddisgyblion yn astudio o leiaf 3 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy gyfrwng y Gymraeg, oni bai am Gymraeg, yn Ysgol Friars, a bod y sefyllfa rhywbeth yn debyg yn Ysgol Tywyn, a bod yna nifer nid ansylweddol o ddisgyblion mewn ysgolion eraill, Dyffryn Nantlle, er enghraifft, nad ydyn nhw’n astudio o leiaf 3 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy gyfrwng y Gymraeg, a fyddai’n deg dweud bod yna rai cannoedd o blant yn ysgolion uwchradd Gwynedd sy’n gallu osgoi addysg Gymraeg yn gyfan gwbl, ac mae’n debyg mai Saesneg fyddai iaith addysg y rheini?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“O ran osgoi’r Gymraeg, o ystyried bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n mynd y tu hwnt i wersi ac yn digwydd mewn cyfnodau bugeiliol, gwasanaethau, chwaraeon, ac ati, rwy’n meddwl ei bod yn anodd iawn iawn i rywun osgoi’r Gymraeg mewn unrhyw ysgol yng Ngwynedd.

 

Fel y gwyddom i gyd, mae gennym 2 ysgol uwchradd yng Nghategori 3 Trosiannol yn y sir, ac mae yna waith caled yn digwydd yn y fan honno er mwyn gwella’r ddarpariaeth yn yr ysgolion hynny.  Mae yna Swyddog Datblygu’r Gymraeg wedi ei chyflogi yn Ysgol Friars.  Mi fuaswn yn tynnu sylw at y ganran sydd, efallai, y mesurydd mwyaf pendant sydd gennym o ran nifer y plant sy’n medru’r Gymraeg yng Ngwynedd, ac mae 88% o’r plant rhwng 5 ac 15 oed yn medru’r Gymraeg o gymharu â 64% o’r boblogaeth gyffredin, sy’n dangos llwyddiant addysg Gymraeg y sir, ond wrth gwrs, mae angen gweithio hefo’r ysgolion a nodwyd a gweithio ar draws y sector yn gyffredinol.  Dyna pam bod Fforwm Iaith newydd ei sefydlu er mwyn cadw’r CSGA (Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg) ar drac, a dyna pam bod yna Grŵp Tasg a Gorffen yn ymchwilio i mewn i’r ddarpariaeth bresennol ar draws y sector uwchradd i gyd.  Hefyd, dyna pam rydw i’n edrych ymlaen yn arw i weld beth fydd y canfyddiadau a ddaw o’r gwaith ymchwil hynny, ac i weithio hefo fy nghyd-gynghorwyr, y craffwyr a staff ein hysgolion i gyd ar gynyddu beth sy’n ganran ardderchog yn barod.  Wrth gwrs, mae wastad modd ei chynyddu, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio ar hynny hefo pawb sy’n deisyfu'r un peth â ni i gyd, sef i weld mwy o Gymraeg eto ar draws ysgolion Gwynedd.”

 

(2)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“I ba raddau y gellir turio ymhellach i ystadegau cofrestr tai'r Cyngor a sefydlu'r nifer sy'n hanu o Ddwyfor, o Feirion, o Arfon, o'r siroedd sy'n ffinio â Gwynedd, y nifer sy'n siarad Cymraeg a'r nifer a fu mewn ysgol yng Ngwynedd?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Yn ychwanegol i’r hyn a nodwyd yn yr ateb ysgrifenedig, hoffwn nodi mod i’n deall o ble mae’r cwestiwn yn dod.  Mae sawl cynghorydd yn poeni am y diffyg rheolaeth dros bwy sy’n cael ein tai.  Rydw i’n rhannu’r pryderon hynny.  Rydym ni’n byw mewn argyfwng tai ar hyn o bryd.  Mae pobl yn tueddu i weld ein stoc tai fel buddsoddiad neu ‘bolthole’, felly rwy’n cytuno â chi, ond mi fuaswn i’n eich cyfeirio at y Cynllun Gweithredu Tai.  Arwyddair yr adran, fwy neu lai, ydi ‘cartrefu pobl leol yn eu cymunedau’.  Dyna rydym ni’n trio ei wneud, ac un o’r pethau sydd yn y cynllun ydi’r polisi gosod lleol sydd wedi symud y pyst gôl o ran beth sy’n dderbyniol yn ein gwlad.  Rydym ni’n arwain yng Nghymru arno, ac yn rhoi pwyslais ar yr elfen leol.  Rydym ni’n trio cartrefu pobl yn eu cymunedau.  Yn fy marn i, dyna ei holl bwrpas, a dyna pam rydym ni yma.  Mae’r polisi gosod lleol newydd fynd drwy’r pwyllgor craffu, felly fel rwy’n deall, mae’r Cyngor i gyd yn hapus gydag o.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Heb i ni allu turio ymhellach i ystadegau cofrestr tai'r Cyngor, sut mae modd i ni wybod nad darparu ar gyfer mewnlifiad ydym ni, yn hytrach na darparu ar gyfer gwir angen ymysg y boblogaeth gynhennid?

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Polisi gosod lleol ydyw, a rhaid i chi gael cyswllt lleol, fwy neu lai, i gael tŷ yng Ngwynedd bellach.  Wrth gwrs, mae yna achosion lle rydym ni’n trio helpu pobl sy’n dianc oddi wrth sefyllfaoedd o drais yn y cartref, er enghraifft, ond mae 96% neu 98% o’n stoc tai cymdeithasol yn mynd i bobl sy’n lleol yn ôl ein dehongliad neu ein diffiniad ni o ‘lleol’.  Felly rwy’n hyderus nad ydym ni’n gwneud yr hyn rydych chi’n dweud, neu’n awgrymu, bod ni’n gwneud.  Rydym ni yma i gartrefu pobl leol yn eu cymunedau.”

 

(3)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“Rwy’n siŵr bod Arweinydd y Cyngor yn teimlo mor rhwystredig â finnau yn ymateb Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ogystal â Llywodraeth Cymru i ddarparu atebion i drigolion Llanbedr a'r ardal ynglŷn â'r ffordd osgoi a ffordd newydd i'r Maes Awyr.

 

Gai ofyn beth mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ei wneud nawr i geisio lliniaru effaith y traffig ar fywydau trigolion Llanbedr yn ogystal â sicrhau bod y Cyngor yn parhau i ddenu swyddi o safon i'r ardal?”

 

Ateb – Yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Fel y bydd y Cynghorydd yn gwybod, mae’r Cyngor yma wedi bod yn gweithio’n hynod galed i sicrhau fod Llanbedr a’r ardal ehangach yn gallu elwa o swyddi gwerth uchel fyddai’n dod yn sgil datblygiadau yn safle’r maes awyr gerllaw.

 

Mae hynny wrth gwrs yn cynnwys sicrhau ffordd mynediad addas i hwyluso datblygiad, ac ynghlwm â hynny ddatblygu ffordd newydd i ddatrys problemau tagfeydd traffig sylweddol mae pentrefwyr Llanbedr wedi ei ddioddef ers degawdau.

 

Roedd cais Coridor Gwyrdd Ardudwy yn cynnig cyfle gwirioneddol i ddod a budd sylweddol i ardal eang o Feirionnydd. Roedd yn cynnwys mynediad newydd i safle’r maes awyr a fyddai hefyd wedi mynd i’r afael â phroblemau tagfeydd traffig yn Llanbedr.

 

Byddai hefyd wedi bod yn gyfle i hyrwyddo teithio llesol a theithio gwyrdd, gan ei gwneud yn bosib i bobl gerdded a beicio yn ddiogel, gwella mynediad i drafnidiaeth a gosod gwasanaeth gwefru ceir trydanol ar hyd yr A496.

 

Hynod siomedig felly oedd penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ddiweddar i beidio cefnogi cais y Cyngor am arian o gronfa Ffyniant Bro. Mae arna’i ofn ei fod yn tanlinellu diffyg dealltwriaeth o du’r llywodraeth o ddifrifoldeb y sefyllfa.

 

Daw hyn wrth gwrs yn dilyn penderfyniad Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru i wneud tro pedol ar ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru ar gynllun a fyddai wedi sicrhau mynediad i’r maes awyr a ffordd newydd ar gyfer Llanbedr.

 

Er nad ydym wedi llwyddo hyd yma i sicrhau’r cyllid sydd ei angen, rydym yn parhau i geisio datrysiad cadarnhaol fydd yn datgloi potensial economaidd maes awyr Llanbedr, yn datrys problemau tagfeydd traffig lleol, ac yn annog dewisiadau teithio cynaliadwy.

 

Byddwn yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i ystyried sut y gallwn gydweithio yn y tymor-byr i geisio gwella diogelwch a darpariaeth teithio llesol ar hyd yr A496 rhwng Llandecwyn a’r Bermo.

 

Yn wir, er cyhoeddiad siomedig y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn 2021 i beidio cefnogi’r cynllun gwreiddiol, mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn parhau i drafod datrysiadau fydd yn hwyluso mynediad i faes awyr Llanbedr.

 

Proses ar y cyd fydd asesu opsiynau i sicrhau mynediad i’r maes awyr, a bydd ein swyddogion yn parhau i geisio canfod datrysiad gyda gweision sifil Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

 

Rydw i’n llwyr ymwybodol o ddyheadau trigolion yr ardal, ac wrth ddatblygu unrhyw ddatrysiadau, byddaf yn sicrhau cyswllt gyda’r gymuned leol er mwyn sicrhau fod trigolion yr ardal yn ymwybodol o’r ymdrechion sydd yn parhau.

 

Mi allai eich sicrhau chi y bydd yr ymdrechion yma yn parhau nes y ceir datrysiad derbyniol ar gyfer Llanbedr ac ardal ehangach Ardudwy.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gwynfor Owen

 

“A oes yna unrhyw wirionedd yn y sylwadau diweddar gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, bod Cyngor Gwynedd wedi gwrthod trafod gydag ef?”

 

Ateb – Yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Diolch am y cyfle i mi gael gwneud cywiriad cyhoeddus i honiadau di-sail y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters.  Rwyf wedi cael trafodaethau cynnes iawn gyda’r Dirprwy Weinidog, ac mae o wedi gwneud honiadau eithaf difrifol.  Mae gen i dystiolaeth o nifer o gyfarfodydd sydd wedi’u rhaglenni rhwng Trafnidiaeth Cymru, a hefyd rhai o weision sifil Adran Mr Lee Waters.  Felly, rydw i wedi gofyn iddo dynnu ei eiriau yn ôl, ond mae o wedi newid ystyr yr hyn mae’n ddweud trwy ddweud nad oes cynnydd yn y trafodaethau hynny, a byddwn yn meiddio dweud, os nad oes cynnydd, mae hynny oherwydd mai dim ond un ateb sydd yna i Lanbedr, sef cael y mynediad priodol i’r maes awyr, a thrwy hynny cael ffordd osgoi hefyd.  Felly mae yna alwad cyhoeddus gen i heddiw i’r Dirprwy Weinidog dynnu ei eiriau yn ôl, a gallaf roi tystiolaeth glir iddo o’r cyfarfodydd sydd wedi eu cynnal rhwng swyddogion y Llywodraeth a’n swyddogion ni.

 

(4)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

Cyn gofyn y cwestiwn, nododd yr aelod:-

 

·         Bod aelod o’r cyhoedd, Mr Ieuan Wyn, wedi ceisio cyflwyno cwestiwn i’r Cyngor ar ran Cylch yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith a Dyfodol i’r Iaith, ond bod Cyfansoddiad y Cyngor yn aneglur o ran faint o ddiwrnodau ymlaen llaw mae modd gwneud hynny.

·         Bod Adran 4.17 y Cyfansoddiad yn nodi 10 diwrnod clir, a bod y mudiadau iaith wedi dilyn hynny ac wedi cyflwyno’r cwestiwn 12 diwrnod o flaen llaw.

·         Bod y Swyddog Monitro wedi datgan yn y dyddiau diwethaf bod 10 diwrnod clir yn golygu 10 diwrnod gwaith clir, a’i fod ar ddeall fod y Swyddog Monitro yn cydnabod nad yw’r Cyfansoddiad yn glir o ran hyn.

·         Y derbyniodd gais gan Mr Ieuan Wyn iddo ofyn y cwestiwn ar ei ran, ac er ei fod yn barod i wneud hynny, y dymunai gynnig bod y rheolau sefydlog yn cael eu gosod o’r neilltu fel bod modd i Mr Ieuan Wyn, oedd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus, gael gofyn y cwestiwn ei hun.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod y Cyfansoddiad yn eglur o ran y diwrnod clir, a’i fod wedi esbonio hyn mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â bodolaeth amserlen a beth yn union oedd hynny, pan fu iddo ddatgan yn glir bod y cais allan o amser.

·         Nad oedd erioed wedi datgan bod y Cyfansoddiad yn aneglur ar hyn.

·         O ran cynnig bod y rheolau sefydlog yn cael eu gosod o’r neilltu, byddai’n rhaid i’r aelod amlygu pa reol sefydlog y dymunai ei gosod o’r neilltu, ac i ba bwrpas, a byddai’n rhaid i’r Cyngor fod yn glir o ran yr hyn y byddent yn pleidleisio drosto.

 

Nododd yr aelod y dymunai gynnig bod rheol sefydlog 4:17 yn cael ei gosod o’r neilltu.

 

Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog Monitro:-

 

·         Bod rheol sefydlog 4:17 yn rhoi’r hawl i’r cyhoedd ofyn cwestiwn yn y Cyngor os rhoddwyd rhybudd ohono ddim hwyrach na 10 diwrnod clir cyn diwrnod y cyfarfod.

·         Bod y cysyniad o gyfnod rhybudd yn gadarn yn y Cyfansoddiad ac yn cael ei weithredu yn hollol gyson bob tro.  Heb ddilyn y rheol yma, byddai cwestiynau yn gallu cyrraedd ar unrhyw amser, gan greu anhrefn ac annhegwch.

·         Gan mai rheol sefydlog 4:17 sy’n caniatáu i’r cyhoedd ofyn cwestiwn, byddai gosod y rheol honno yn llwyr o’r neilltu yn hepgor yr hawl yma, a gofynnwyd i’r aelod fod yn llawer mwy eglur o ran yr hyn y dymunai ei osod o’r neilltu.

·         Bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno gan yr aelod o fewn y cyfnod priodol ar gyfer derbyn cwestiynau gan aelodau, a bod yr ateb wedi’i gylchredeg eisoes.  Roedd gan yr aelod felly'r hawl i ofyn y cwestiwn, i dderbyn ateb ac i ofyn cwestiwn atodol.

 

Nododd yr aelod ei fod yn parhau o’r farn bod y sefyllfa’n annheg, gan fod y mudiadau iaith wedi cyflwyno’r cwestiwn mewn da bryd, ond nododd ei fod am dynnu ei gais yn ôl, a gofyn y cwestiwn ar eu rhan.

 

“Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Yn ei dogfen, mae Llywodraeth Cymru yn dweud fel hyn: ‘Un o fwriadau’r drefn newydd o gategoreiddio yw annog ysgolion i gynyddu eu darpariaeth Gymraeg ... a hwyluso’r broses i ysgolion symud i’r categori nesaf ... i ysgolion dyfu eu darpariaeth Gymraeg.’ 

 

A ydy’r Cyngor yn credu y dylai disgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd dderbyn llai o addysg cyfrwng Cymraeg na disgyblion ysgolion Cymraeg dynodedig mewn siroedd eraill?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Mae’n ddifyr cael y cyfle i ateb cwestiynau fel hyn achos mae’n gyfle i gymharu ein sefyllfa ni hefo gweddill siroedd Cymru, hyd yn oed y rhai cyfagos, ac os siaradwch chi hefo ymgyrchwyr iaith yn siroedd eraill Cymru, gan gynnwys y sir sy’n ffinio â ni, mi glywch chi mai testun eiddigedd mawr ydi ein sefyllfa ni yng Ngwynedd iddyn nhw.  Mae’r ysgolion Cymraeg rydych chi’n sôn amdanyn nhw yn bodoli mewn cyd-destun polisi cwbl wahanol i Wynedd, lle mae yna ddewis iaith o safbwynt cyfrwng addysg, a meddyliwch fod 80% o addysg Caerdydd yn dal i fod yn Saesneg er gwaethaf y cynnydd cadarnhaol sydd wedi bod mewn addysg Gymraeg yno.  Mi ddylai fod yn destun balchder bod ein sir ni yn cynnig addysg Gymraeg yn ddiwahân i bob plentyn er mwyn sicrhau bod pob un ohonynt yn cael y buddion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd o fod yn medru siarad Cymraeg.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Gareth Tudor Jones

 

“Ar wahanol adegau allweddol yn hanes diweddar ein hiaith, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn arloesi ac yn arwain yn gadarn a hyderus.  Pam felly mai Llywodraeth Cymru, yn hytrach na Chyngor Gwynedd, sy’n galw am gynnydd yn yr addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hysgolion ac yn ein symbylu i weithredu?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy’n gofyn am gynnydd, a dyna pam bod gennym ddarn o waith, mewn Fforwm Iaith, mewn Grŵp Tasg a Gorffen ac fel darn o waith mewnol, er mwyn canfod yn union beth ydi’r ddarpariaeth ymhob un ysgol, oherwydd mae’r darlun o addysg ddwyieithog yn fwy cymhleth nag y byddai rhywun yn meddwl.  Wedyn, heb wybod lle’r ydym ni, ni allwn wybod yn iawn i ble rydym ni’n mynd, ac wrth gwrs, fy nyhead i’n bersonol a’n dyhead ni fel Adran yn ogystal â dyhead y Llywodraeth ydi gweld cynnydd yn yr addysg Gymraeg yng Ngwynedd.

 

I fynd yn ôl at y categori, a mater gweinyddol ydi’r categori mewn gwirionedd - nid ydi o’n effeithio nac yn newid dim ar ein polisi ni a’n polisi iaith addysg arloesol ni yma yng Ngwynedd.  Beth mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ydi gosod canran a chategori sy’n mynd â chymaint o ysgolion a fedran nhw hefo nhw ar hyd y daith o ddwyieithrwydd, ac er nad yw’n ffitio Gwynedd yn berffaith, ac ni fuaswn i’n dadlau hefo hynny o gwbl, nid yw yn effeithio arnom chwaith - rydym ni’n gallu gwneud ein ffordd ein hunain fel rydym ni wedi gwneud ers blynyddoedd.  Ond rwy’n meddwl bod yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn wneud yn rhywbeth y dylem ni fod yn ei gefnogi, oherwydd os ydi addysg Gymraeg yn cynyddu ar draws Cymru mewn siroedd eraill, mewn siroedd sy’n agos atom, dydi hynny ond yn beth da i Wynedd.  Mae beth sydd yn enillion yng Nghymru yn enillion i ni yma yng Ngwynedd, ac mae beth sy’n enillion i ni yng Ngwynedd yn enillion i Gymru, achos mae pobl yn symud o gwmpas ein gwlad a tydi Gwynedd ddim yn byw mewn bybl.  Rydw i’n deall pwrpas y Llywodraeth yn trio mynd â chymaint o ysgolion a fedran nhw hefo nhw ar y daith yma fel bod ni’n gallu gwireddu sefyllfa debyg i Wynedd ar draws Cymru.  Felly ychydig bach o gyd-destun y categori yn hynny o beth.”

 

(5) Cwestiwn Y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Yng Ngwynedd mae oddeutu 3,000 o bobl ar y gofrestr tai, beth mae'r Cyngor yn ei wneud i geisio gwella'r sefyllfa yma?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Tai, y Cynghorydd Craig ab Iago

 

“Rydych chi wedi cael yr ateb ysgrifenedig, ond rydw i eisiau sôn am y pethau positif, y pethau rwy’n sôn amdanynt o hyd.  Rydw i am redeg drwy’r pethau rydw i mor falch ohonyn nhw:-

 

·         Tŷ Gwynedd - sef ein cynllun ni yn y Cynllun Gweithredu Tai.  Rydym ni’n adeiladu tai newydd am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.  Mae gennym ni ddau safle ar hyn o bryd - un ym Morfa Nefyn ac un ym Mangor, a’r bwriad ydi gwneud mwy a mwy.

·         Prynu tai oddi ar y farchnad agored - Rydym ni wedi prynu 8 tŷ preifat oddi ar y farchnad dai yn barod.  Mae yna 5 yn cael eu prosesu ar hyn o bryd, ac eto mae bwriad i wneud llawer mwy.

·         Cynllun lesu tai - sef landlordiaid preifat sydd eisiau lesu tŷ i’r Cyngor i gartrefu pobl ynddo.  Rydym ni’n bwriadu cael 19 y flwyddyn yma.

·         Prif Raglen Tai Cymdeithasol -  Mae tai cymdeithasol yn ateb i’r broblem o 3,000 o bobl ar y gofrestr tai.  Mae 173 wedi’u hadeiladu ers dechrau’r Cynllun Gweithredu Tai, 88 yn cael eu hadeiladu rŵan a 113 yn cael eu clustnodi i’w hadeiladu yn y flwyddyn nesaf.  Yr agwedd yna - beth rydym ni’n gallu gwneud - nawn ni neud o rŵan.  Mi wnawn fuddsoddi’r pres fel rydym ni wedi bod yn gwneud.  Rydym ni fel Cyngor wedi buddsoddi dros £100,000 i mewn i’r Cynllun Gweithredu Tai.

·         Tai gwag – mae 104 ohonyn nhw wedi dod yn ôl i ddefnydd.

 

Nid yw hyn yn mynd i ateb ein problemau ni.  Nid yw’n mynd i ddatrys yr argyfwng tai - mae yna 3,000 ar y gofrestr tai, ac nid oes gennym ni 3,000 o dai wedi’u hadeiladu yma.  Rydym ni’n gwybod beth ydi’r ateb i hyn.  Rydym ni angen mwy o rym gan Lywodraeth Cymru, rydym ni angen mwy o bres gan Lywodraeth Cymru.  Rydym ni angen gwneud hyn rŵan yn fy marn i.  Rydym ni’n bendant angen datrys yr ochr gynllunio achos, waeth beth rydym ni’n wneud hefo tai, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth os nad ydym ni’n datrys yr ochr gynllunio.  Mae’r Llywodraeth yn cydweithio hefo ni i ryw raddau i wneud hynny, ond dydi o ddim digon, ond yn fy marn i, mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn dangos ein bod ni fel Cyngor, ni fel Grŵp Plaid Cymru a ni fel Cabinet Plaid Cymru, o ddifri’ ynglŷn â datrys y broblem, a gwneud beth bynnag y gallwn i’w datrys.  Mae o hefyd yn dangos gwerth y Premiwm Treth Cyngor.  Mae perchnogion yr ail dai yn mynd o fod yn rhan o’r broblem i fod yn rhan o’r datrysiad, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth i’w ddathlu, a dylai’r bobl sy’n talu’r pres fod yn falch o’r ffaith ein bod yn defnyddio eu pres hwy i gartrefu pobl sydd heb dŷ o gwbl.  Mae hefyd yn dangos pa mor weithgar yw ein staff.  Mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn arwain yng Nghymru.  Mae wedi cael ei sgwennu ac yn cael ei weithredu gan ein staff ni yng Nghyngor Gwynedd.  Rydw i mor falch ohonyn nhw.  Maen nhw wedi mewnoli'r hyn rydym ni’n ceisio ei wneud yn wleidyddol, ac yn ei wneud o ddydd i ddydd, felly hoffwn ddiolch iddyn nhw.  Ydi bob dim rydym ni’n wneud yn ateb y broblem?  Nag ydi, ond petai’r Llywodraeth yn rhoi mwy o rym i ni a mwy o bres i ni, byddem ni’n datrys y broblem.”

 

(6)     Cwestiwn Y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“Gwyddom fod pob ysgol uwchradd yng Ngwynedd, oddieithr dwy, yn disgyn i gategori 3 o ran eu darpariaeth Gymraeg, categori a ddiffinnir gan waelodlin o 60% o’r plant fan leiaf yn gwneud o leiaf 70% o’u haddysg trwy’r Gymraeg.

 

Y llynedd, o dan yr hen drefn gategoreiddio, roedd trwch yr ysgolion mewn categori â gwaelodlin uwch, gyda’r plant yn gwneud o leiaf 80% o’u haddysg trwy’r Gymraeg.

I osgoi llithriad amlwg yn y ddarpariaeth Gymraeg, ydi’r Adran Addysg a'r Cabinet yn barod i greu polisi ‘Categori 3-Gwynedd’ er mwyn codi'r waelodlin?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Hoffwn nodi eto nad yw’r drefn gategoreiddio yma, sydd mewn ffordd yn drefn weinyddol yn unig, yn effeithio, nac yn amharu nac yn newid dim ar ein gofynion ni yng Ngwynedd, ac mae hynny wedi’i wneud yn hollol glir i’n hysgolion ni.  Nid yw gwaelodlin Llywodraeth Cymru yn berthnasol i ni yng Ngwynedd oherwydd ein bod ni’n gwneud yn well, ac yn deisyfu gwneud yn well eto.  Felly, newid gweinyddol ydi hwn mewn gwirionedd, yn hytrach na rhyw newid i’n gwaelodlin ni fel sir.  Mae Gwynedd yn gweithredu ei bolisi iaith addysg ei hun.  Felly newid Llywodraeth Cymru, sy’n newid gweinyddol, ac sydd ddim yn mynd i effeithio ar yr hyn rydym ni’n wneud yng Ngwynedd, ydi hyn.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Rhys Tudur

 

“Mae gan y Cyngor bolisi iaith addysg Gwynedd, ond mae hwnnw’n amwys ac ond yn mesur bod plant â medr yn y ddwy iaith.  Nid yw’n mesur faint sy’n gwneud addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, faint sy’n gwbl fedrus, hyderus a rhugl yn yr iaith.  O ystyried mai gosod gwaelodlin, fel sydd mewn categori, fyddai’r cam sicraf at forol nad yw’r ddarpariaeth Gymraeg yn llithro, a’i fod yn unol â’r arwyddair ‘Cadernid Gwynedd’ o safbwynt y Gymraeg, ac o ystyried bod y waelodlin sydd gennym yn y categori wedi disgyn yn sylweddol o un flwyddyn i’r llall, oni fedr yr Aelod Cabinet gytuno bod angen codi’r waelodlin ar gyfer Gwynedd drwy greu polisi categori 3 Gwynedd, a bod hyn yn digwydd, nid ymhen 5 mlynedd, nid mewn blwyddyn, ond ar frys?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Rwy’n cytuno bod rhaid i ni wybod beth yn union ydi’r ddarpariaeth ymhob un ysgol a gwybod yn union ble rydym ni arni er mwyn gwybod lle rydym ni’n mynd, a dyna pam bod yna grŵp yn ymchwilio i mewn i hyn, ac mae’r cynghorydd sy’n gofyn y cwestiwn yn aelod o’r grŵp yma.  Nid wyf yn dymuno rhagfarnu hynny na rhagdybio canfyddiadau’r grŵp yna, nac amharchu’r gwaith y byddwch yn ei wneud er mwyn dod â’r hyn fydd yn ddata hynod ddifyr, rwy’n siŵr, ataf i ac at yr Adran er mwyn i ni benderfynu beth yw’r llwybr ymlaen o’r fan honno.  Felly, nid wyf yn gweld pwrpas gwneud darn o waith a phenderfynu ymlaen llaw cyn i ni gael y canlyniadau, ac mi fyddaf yn edrych ymlaen yn arw at gael gweld beth fydd y canlyniadau hynny ar ôl i’r gwaith gael ei wneud.”

 

(7)     Cwestiwn Y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

“Deallwn fod Adran Rheoli Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd (Adran Amgylchedd / Gwarchod y Cyhoedd) yn nodi arbedion i leihau costau i'r Adran ac yn torri’r gwasanaeth y tu allan i oriau o Ebrill 2023. Mae'r gwasanaeth  tu allan i oriau, wedi'i gwmpasu gan yr Is-adran Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd bob wythnos, ers dros 10 mlynedd.

 

Hoffwn gael gwybod, o dan amodau’r Ddeddf Cyflogaeth, a ellir gwneud hyn heb unrhyw gostau ‘aflonyddwch’ i’r staff dan sylw ac os pe bai unrhyw achosion, h.y. gwenwyn bwyd, iechyd a diogelwch / damweiniau, clefydau iechyd anifeiliaid (ffliw adar / clwy’r traed a’r genau) ac unrhyw les anifeiliaid neu sefyllfa ‘Covid’ debyg, byddai neb i orchuddio gyda'r nos nac ar y penwythnos.  Ni allaf ond cymryd yn ganiataol y byddai'n rhaid i'r Cyfarwyddwyr wedyn fod ar gael ar gyfer hyn?

 

Beth yw’r sefyllfa gyfreithiol?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae hwn yn arbediad sydd wedi cael ei gynnig gan y gwasanaethau ac mae’n un o nifer o arbedion sy’n cael eu cynnig.  Wrth gwrs, mae hwn wedi cael ei gynnig fel un sy’n weddol ddi-boen ar y cyfan, a thrwy hynny rydym ni’n sôn am yr effaith sydd ar bobl Gwynedd.  Rydym ni’n sôn am wariant o £25,000 am ddelio hefo 3 galwad brys mewn blwyddyn, felly rwy’n meddwl y bydd yna doriadau llawer mwy anodd na hwn i’w gwneud yn y dyfodol.  Ond o ran beth sy’n digwydd i’r galwadau hyn, wrth gwrs mae gan y Cyngor drefniadau argyfwng, ac rwy’n siŵr y byddai uwch swyddogion y Cyngor yn dweud wrthych eu bod eisoes yn cael galwadau allan o oriau, a hynny heb gael tâl ychwanegol.”

 

(8)     Cwestiwn Y Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

“Beth sydd ar waith mewn ysgolion o ran codi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o beryglon yr hyn sydd ar lein, a'u dysgu i feddwl yn feirniadol o'r cynnwys sydd ar wefannau cymdeithasol a gofodau ar lein? 

 

Mae'n mynd yn fwyfwy amlwg pa mor beryglus a dylanwadol ydi ambell i ffigwr ar lein (influencers), yn enwedig y rheini sy'n lledaenu hiliaeth ac yn lledaenu casineb tuag at ferched a'r gymuned LHDTC+.

 

Faint mae Cyngor Gwynedd yn cymryd y perygl yma i'n pobl ifanc o ddifrif, a be sy'n cael ei wneud i helpu athrawon i daclo hyn?”

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Roeddwn mor falch o dderbyn y cwestiwn yma oherwydd mae’n faes mor ofnadwy o bwysig, ac fel mam i ferch a mab ifanc, rwy’n gwybod o brofiad beth ydi’r heriau sy’n dod yn sgil negeseuon ‘toxic’, fel gan rai o’r ‘influencers’, fel maen nhw’n cael eu galw, mwyaf poblogaidd.  Mae’r maes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn mynd i’r afael â’r maes yma mewn modd holistaidd ac mae yna adnoddau parod ar gael, e.e. y ddogfen Casineb ar Lein.  Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd yn chwarae rôl bwysig yn hyn oll drwy eu gwaith mewn ysgolion ac mewn clybiau ieuenctid, ac mae’r heddlu hefyd yn cynnig rhaglen o weithgareddau yn yr union faes yma, ac mae’r adnoddau rheini i’w gweld ar hafan SchoolBeat.  Felly, mae yna lawer iawn o waith da yn digwydd, ond mae’n faes newydd i raddau helaeth, ac yn gofyn am weithredu newydd o bosib’.”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Llio Elenid Owen

 

“O ystyried bod hyn yn un o’r peryglon mawr sy’n wynebu ein cymdeithas, oes digon o gydweithrediad a chefnogaeth gan yr heddlu hefo ysgolion i fynd i’r afael gyda hyn?

 

Ateb – Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Beca Brown

 

“Ar fater yr heddlu yn ehangach o bosib’ na’u gwaith yn yr ysgolion yn unig, rydw i wedi meddwl ers cryn amser bod angen gwneud casineb yn erbyn merched yn drosedd casineb, yn enwedig o weld llofruddiaethau o ferched gan ddynion sy’n hysbys yn dilyn y diwylliant ‘Incel’, neu’r ‘Involuntary Celibate’, sef dynion sy’n gweld bai ar ferched am eu helbulon carwriaethol ymhlith pob math o bethau eraill.  Nid yw llofruddiaethau o’r math yna yn cael eu gweld yn drosedd casineb yn erbyn grŵp dan ormes ar hyn o bryd.

 

Ac rwy’n meddwl bod yr hyn mae’r aelod yn sôn amdano hefyd yn disgyn yn dwt i faes Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, a dyma pam yn union, neu un o’r nifer o resymau, pam fy mod mor falch o gael sefyll yn y siambr yma yn ôl ym mis Awst yn cefnogi’r cod addysg newydd yma.  Rwy’n meddwl bod yr elfennau rhywioldeb a rhyw efallai wedi cael sylw anghymesur yn y wasg oherwydd obsesiwn rhyfedd, o bosib’, rhai ymgyrchwyr gyda’r elfennau hynny, ond mae’r elfen cydberthynas yn ofnadwy o bwysig yn y cod yma ac yn mynd at wraidd cwestiwn yr aelod, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cod yma yn grymuso athrawon wrth iddynt fynd i’r afael â heriau a’r math o ddylanwadau ‘toxic’ rydym ni’n weld.

 

A allaf hefyd nodi yn sydyn, ac o bosib’ boddi allan rhai o’r lleisiau mae’r aelod yn cyfeirio atynt, y byddai’n grêt gweld mwy o leisiau o ddylanwad yn rhoi negeseuon positif i bobl ifanc, e.e. os gallaf dynnu sylw at ymgyrch a lansiwyd ddoe gan Prosiect 15 yn gofyn am fideos 15 eiliad sy’n ysbrydoli.  Felly, mae hon yn ymgyrch rwy’n gefnogol iawn iddi, ac nid oes yna unrhyw beth gwell i foddi allan gwenwyn y rhai lleisiau yna a dod â lleisiau newydd cadarnhaol yn eu lle, a byddwn yn annog pawb i rannu’r ymgyrch honno fel ein bod yn gallu llenwi ein gwefannau cymdeithasol hefo negeseuon cadarnhaol, cynhwysol a Chymraeg.”

 

Dogfennau ategol: