Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

1.1 Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd.

 

1.2. Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

1.3. Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.

 

1.4. Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

1.5. Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Economi a Chymuned.       

 

PENDERFYNIAD 

 

1.   Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd.  

2.   Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.  

3.   Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.  

4.   Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.  

5.   Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ei gadarnhau a’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Eglurwyd y bydd arian yn cael ei dderbyn i’r rhanbarth fel lwmp swm ac nid i Awdurdodau Lleol yn unigol. O ganlyniad bydd angen corff arweiniol i arwain ar y cynllun yn y rhanbarth.  

 

Nodwyd bod llythyr memorandwm Cyd-ddealltwriaeth eisoes wedi ei dderbyn ac yn cynnig arian hyd at fis Mawrth 2025. Eglurwyd bod cryn dipyn o waith angen ei wneud er mwyn rhoi’r trefniadau yn eu lle. Manylwyd ar rolau Cyngor Gwynedd yn ymwneud â rheoli’r gronfa gan nodi y bydd tair swyddogaeth gan Gyngor Gwynedd sy’n cael eu nodi yn yr adroddiad. Amlinellwyd y gwahaniaeth yn y rôl Sirol a’r rôl ranbarthol gan nodi bod y gwaith Sirol yn cynnwys asesu a chefnogi ceisiadau a’r gwaith rhanbarthol yn ymwneud â phrosiectau traws-sirol a’u hwyluso ynghyd a chyfrifoldebau eraill. 

 

Amlinellwyd y trefniadau a ragwelir ar gyfer y rhanbarth a’r bwriad o sefydlu tîm o 5 o swyddogion ar gyfer ymgymryd â’r gwaith a soniwyd am y costau megis costau cyfreithiol a chyfathrebu. Awgrymwyd trefn o ran strwythur llywodraethu ar yr ochr ranbarthol. Yn ogystal awgrymwyd adnodd i gyflawni’r gwaith yn Sirol a’r bwriad o sefydlu Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd yn ogystal â Phanel fydd yn ystyried argymhellion y Grŵp Ymgynghorol. 

 

Rhedwyd drwy’r camau o ran ymgeisio a gobeithir gallu agor y gronfa a chychwyn derbyn ceisiadau erbyn diwedd Ionawr. Amlygwyd fod yr amserlen yn dynn iawn ar gyfer cyflawni’r gwaith ar ran y rhanbarth a bod sawl proses yn rhedeg yn gyfochrog. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                Gwnaethpwyd ychwanegiad i bwynt 5 o’r argymhelliad. Cytunwyd i ychwanegu “a’r hawl i benodi dirprwy ar y Panel” fel rhan o’r penderfyniad rhag ofn i’r gofyn amlygu yn y dyfodol.  

·                Gwnaethpwyd sylw fod y drefn o arian yn deillio o San Steffan yn ddiffygiol yn enwedig pan disgwylir i Awdurdodau Lleol greu cynlluniau a gwario’r arian mewn cyfnod byr 

·                Mynegwyd rhwystredigaeth fod yr Adran wedi gorfod sefydlu'r holl rwydweithiau mewn cyfnod mor fyr. Amlygwyd fod y broses yn rhwystredig a mynegwyd y byddai’n braf cael defnyddio’r arian i gyfarch blaenoriaethau’r Sir yn hytrach na gorfod dilyn trefn San Steffan. 

·                Ychwanegwyd bod yr arian yn agored i Awdurdodau flaenoriaethu ond oherwydd y cyfyngiadau amser doedd dim amser i drefnu na blaenoriaethu.  

·                Mynegwyd ei bod yn braf gweld Gwynedd yn cymryd rôl arweiniol a diolchwyd i’r Adran am eu parodrwydd i ymgymryd â’r cyfrifoldeb ychwanegol yma. 

·                Eglurwyd y gellir cyflwyno cais neu brosiect ar draws nifer o Awdurdodau Lleol a bydd cydweithio agos yn digwydd efo Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.  

·                Nodwyd bod y symiau ariannol gafodd eu dyrannu rhwng yr Awdurdodau Lleol yn amrywio felly gellir cael sefyllfaoedd ble bydd efallai 4 allan o 6 Sir y Gogledd efo diddordeb mewn ambell brosiect yn hytrach na’r holl ranbarth. Eglurwyd bod y fformiwla i ddyrannu’r arian yn ymwneud â demograffig a chyflwr yr economi yn y Sir yn ogystal â dehongliadau o anghenion y Sir. 

 

Awdur:Sioned E. Williams and Dylan Griffiths

Dogfennau ategol: