skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas

Penderfyniad:

 

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

·       Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.

·       Argymhellwyd mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd defnyddio:

-        yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion.

-        yn ail, defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd.

-        yn olaf, defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas 

 

PENDERFYNIAD 

 

·       Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.  

·       Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.  

·       Argymhellwyd mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd defnyddio:  

·       yn gyntaf, Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion. 

·       yn ail, defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd. 

·       yn olaf, defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor. 

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad sy’n manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2022/23 a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd bod rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a Thai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd bod gorwariant sylweddol gan bump o’r chwe Adran sydd yn gorwario, tra bod gweddill Adrannau’r Cyngor yn gweithredu o fewn eu cyllideb.  

 

Nodwyd o ran Covid, er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, mae costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Ychwanegwyd bod hefyd oediad mewn gwireddu arbedion sydd wedi cyfrannu tuag at rai Adrannau yn gorwario. Tynnwyd sylw at y prif feysydd ble mae gwahaniaethau sylweddol.  

 

Rhagwelir gorwariant o dros £2.2 miliwn eleni yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930,000 o arbedion. Amlygwyd eleni bod pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yng Ngwasanaethau Pobl Hŷn tra bod staffio uwchlaw lefel y gyllideb a diffyg incwm yn faterion yng Ngwasanaethau Gofal Cymunedol.  

 

Manylwyd ar y gorwariant o £1.6 miliwn sy’n cael ei ragweld gan yr Adran Addysg sydd o ganlyniad i effaith cost ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion a staff gweinyddol £1,031,000 uwchlaw’r gyllideb eleni. Rhagwelir hefyd bod effaith prisiau trydan uwch ar yr ysgolion am y chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn £614,000. Mynegwyd ei bod yn briodol i ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni o ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig. 

 

Tynnwyd sylw at broblemau gorwariant yn y maes Gwastraff ac Ailgylchu a’r trafferthion mae’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn ei gael i wireddu arbedion gwerth £608,000. Nodwyd hefyd bod Byw’n Iach yn gorwario oherwydd prisiau trydan uwch a gan fod sgil effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar allu Cwmni Byw’n Iach i gynhyrchu incwm. Cyfeiriwyd at y pwysau yn y maes Digartrefedd oherwydd goblygiadau’r ddeddfwriaeth newydd yn ymwneud â Digartrefedd; rhagwelir gorwariant net o £2.7 miliwn eleni o fewn yr Adran Tai ac Eiddo.  

 

Yn Gorfforaethol, nodwyd fod rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 a newid i ddeddfwriaeth trethiant yn ffactor sydd yn cyfrannu at gynnyrch treth ychwanegol. Ar ddiwedd y flwyddyn rhagwelir y bydd yn rhaid gwneud defnydd o gronfeydd wrth gefn Ysgolion a’r Cyngor i gyllido’r bwlch ariannol o £7.4 miliwn sydd yn cael ei ragweld am 2022/23. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd bod y Cyngor mewn dwylo diogel ac yn ymddiried yn llwyr yng ngwaith y tîm Cyllid.  

 

Awdur:Ffion Madog Evans

Dogfennau ategol: