Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Beca Brown

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown 

 

PENDERFYNIAD 

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. 

 

TRAFODAETH  

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan fynegi balchder ym mherfformiad yr Adran a’r gwaith da sy’n digwydd o fewn Ysgolion Gwynedd. Cyfeiriwyd at yr Ysgol newydd fydd yn cael ei hadeiladu yng Nghriccieth er mwyn gwella’r amgylchedd ddysgu a sicrhau’r adnodd gorau i’r disgyblion a’r balchder sy’n bodoli o ganlyniad i’r datblygiad. Eglurwyd bod oedi wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno’r weledigaeth newydd ar gyfer addysg ôl-16 ond bellach fod yr Adran mewn sefyllfa i allu bwrw mlaen efo’r prosiect hwn. Soniwyd am y prosiect Cyflwr ac Addasrwydd oedd wedi profi heriau ar brydiau. Serch hyn adroddwyd bod y buddsoddiad yng nghyflwr ac addasrwydd Ysgol Bethel, Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Cymerau wedi ei gwblhau yn ystod y flwyddyn gyda gwaith yn parhau ar safleoedd Ysgolion eraill ar draws y Sir.  

 

Adroddwyd bod y cyfnod Covid wedi amlygu bregusrwydd plant yn y grŵp oedran 0-5 a 16-24 a bellach bod gagendor lles a chyrhaeddiad yn un o brif flaenoriaethau’r Adran Addysg. Adroddwyd bod anghysondeb ar draws y Sir o ran ystod ac argaeledd gwasanaethau yn y sector blynyddoedd cynnar; bydd grŵp prosiect yn cytuno ar ffrydiau gwaith penodol ac wedi blaenoriaethu cynnal asesiad. 

 

Mynegwyd balchder yn y cwricwlwm newydd i Gymru gan gyfeirio at y sylw cyhoeddus dderbyniodd rhai agweddau o’r cwricwlwm megis y cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb. Cymerwyd y cyfle i fynegi gwerthfawrogiad o broffesiynoldeb, cefnogaeth ac ymrwymiad yr Ysgolion a mynegwyd pob ffydd yn y Penaethiaid a’r athrawon i fedru dehongli a chyfleu'r cod hwn yn addas i oedran a datblygiad pob plentyn. 

 

Cyfeiriwyd at y Gyfundrefn Addysg Drochi sy’n weledigaeth newydd gan nodi bod cefnogaeth y gyfundrefn drochi ar gael i bob Ysgol yn y Sir. Soniwyd am waith cyffrous ac arloesol sydd wedi digwydd yng Ngwynedd fel y cynllun trochi newydd gafodd ei ysgrifennu a’i ddatblygu yng Ngwynedd a fydd yn cael ei rannu yn genedlaethol. Adroddwyd ar y drefn categoreiddio ysgolion ddaeth i rym ym mis Medi 2022 gan nodi y bydd yr Adran Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol sydd yn disgyn i gategori 3 yn y Sir er mwyn sicrhau cynnydd priodol. 

 

I glo mynegwyd diolch i’r Adran Addysg ac yn arbennig i’r athrawon a holl staff yr Ysgolion yng Ngwynedd am eu gwaith diflino mewn cyfnod heriol i sicrhau’r addysg gorau i blant y Sir gan ofalu am eu hiechyd, diogelwch a’u lles a chyflawni ystod anferth o waith. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth 

·                  Dymunwyd longyfarch yr Adran am eu gwaith i uchafu lles plant a phobl ifanc ar draws y Sir. 

·                  Holiwyd am y Gwasanaeth GwE ac os fydd y Cabinet yn debygol o dderbyn adborth o berfformiad GwE. Mynegwyd bod cyfeiriad at GwE yn yr adroddiad ond bod GwE yn rhan o eitem flynyddol yr Adran Addysg yn y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac adroddir ar eu perfformiad yn y Pwyllgor hwnnw. 

·                  Ychwanegwyd bod bwriad dros y 12 mis nesaf i adolygu sut mae GwE wedi gweithredu hyd yma a chynllunio mlaen ynghylch eu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn y flwyddyn nesaf a bydd cyfle i gynnig arweiniad a rhoi sylwadau.  

·                  Cyfeiriwyd at yr arian gafodd ei dderbyn gan y Llywodraeth tuag at y gost o ddarparu cinio ysgol am ddim gan holi os yw’r arian yno wedi bod yn ddigonol i ddigolledu’r Cyngor. Holiwyd hefyd os oes cynnydd wedi bod yn y niferoedd sy’n derbyn cinio ysgol.  

·                  Mewn ymateb nodwyd fod y darlun wedi bod yn un cymysg ar draws y Sir gyda’r galw heb fod mor uchel â’r hyn oedd wedi ei ragweld. Nodwyd bod angen adolygu pam bod y darlun mor amrywiol yn enwedig o ardal i ardal. Nodwyd bod yr arian cyfalaf gafodd ei dderbyn wedi cyfarch anghenion Gwynedd o ran y costau hyd yma. 

·                  Ychwanegwyd bod dwy elfen i’r ariannu sef yr elfen gyfalaf a’r elfen cost o ddarparu'r cinio sydd wedi ei seilio ar gyfradd benodol gan Lywodraeth Cymru.  Adroddwyd nad yw’n bosib darparu'r cinio am y gost yma sy’n mynd i arwain at ddiffyg ariannol. Bydd hyn yn cael ei ystyried mewn bid refeniw o chwarter miliwn fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn y dyfodol agos. 

·                  Yn dilyn cwestiwn am y gyfundrefn drochi nodwyd bod dwy wedd o arian cyfalaf wedi ei dderbyn o 1.1 miliwn yr un. Buddsoddwyd mewn 3 safle efo gwedd gyntaf yr arian gyda 2 allan o’r 3 o’r canolfannau hyn yn y lleoliadau newydd bellach wedi agor. Adroddwyd bod trafferthion wedi bod efo’r drydydd safle yn Nhywyn felly dros dro lleolir y ganolfan iaith ar safle Ysgol Bro Idris fel bod presenoldeb ychwanegol ym Meirionnydd. Gobeithir gallu agor y safle yn Nhywyn erbyn mis Medi. O ran ail wedd yr arian bwriedir cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru erbyn mis Mawrth ar gyfer rhyddhau'r arian yma. 

 

Awdur:Garem Jackson

Dogfennau ategol: