I roi trosolwg i Aelodau o
weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) Gwynedd a Môn, Ionawr 2023
am y cyfnod 2020-21, a'r datblygiadau ar gyfer 2022-23.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd
Meddwl ac Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a
Môn. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:
-
Nodwyd bod yr adroddiad hwn yn manylu ar y cyfnod
2021-22.
-
Eglurwyd bod y
bartneriaeth wedi cael ei sefydlu ar ddyletswydd statudol Awdurdodau Lleol i
weithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu, Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf
a'r Gwasanaeth Tan ac Achub yn unol â Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 a Deddfau
Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006.
-
Esboniwyd bod y bartneriaeth yn edrych ar drosedd
ac anrhefn, camddefnyddio sylweddau a lleihau aildroseddu.
-
Adroddwyd mai
blaenoriaethau’r bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn 2023-24 oedd atal troseddau
ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, mynd i’r afael â throseddau treisgar a
chyfundrefnau difrifol a hefyd i ddiogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal
diogelwch y cyhoedd.
-
Datganwyd bod y
bartneriaeth wedi wynebu heriau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn benodol, y
bartneriaeth wedi colli ei holl grantiau gan eu bod wedi dod i ben neu wedi
symud i lefel rhanbarthol (Gogledd Cymru gyfan). Yn ogystal, golygai
datblygiadau technolegol bod mathau newydd o droseddau bellach wedi cyrraedd
ardal Gwynedd a Môn. Er bod y siroedd hyn yn rhai o’r llefydd mwyaf diogel i
fyw, roedd achosion o Gangiau Trosedd Cyfundrefnol (Organized
Crime Groups) a
llinellau cyffuriau (county lines) yn yr ardal gyda’r bartneriaeth yn ymwybodol
ohonynt.
-
Manylwyd bod siopladradau wedi cynyddu 53.8% yng
Ngwynedd o’i gymharu â 2021/22. Credid bod hyn yn deillio o’r cynnydd
cyffredinol mewn costau byw a disgwylid i’r math yma o droseddu gynyddu yn y
misoedd i ddod.
-
Darparwyd crynodeb o
waith y bartneriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf:
o Cynhaliwyd sesiynau hyfforddiant gan Uned Troseddau Economaidd yr Heddlu
ar gyfer staff Awdurdodau Lleol sy’n gweithio
gyda phobl fregus i dynnu sylw at sgamiau â defnyddwyr gan dwyllwyr
o Cwblhawyd prosiect Strydoedd Mwy Diogel 2 ym Mangor gan osod 42 o
gamerâu cylch cyfyng ychwanegol a mwy o oleuadau yn ardal Hirael/Deiniol o’r
ddinas.
o Cyflwynwyd Grŵp SOC
(Troseddau Cyfundrefnol Difrifol) ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.
o Mynychwyd y grŵp
rhanbarthol yn rheolaidd i ddatblygu Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol yn y
ddau Gyngor.
o Sefydlwyd grŵp VAWG (Trais yn erbyn Menywod a Merched) ym mis
Mawrth. Roedd y bartneriaeth yn mynychu cyfarfodydd yn gyson er mwyn rhoi
mewnbwn i’r gwaith o feithrin hyder rhwng menywod a’r heddlu.
o Datblygwyd Grŵp Cyflawni Atal Rhanbarthol.
o Derbyniodd Cyngor Gwynedd Achrediad Rhuban Gwyn yn dilyn gwaith yr Adran
Cefnogaeth Gorfforaethol.
o Ymgynghorwyd gyda’r
heddlu i archwilio’r posibilrwydd o ymestyn darpariaeth bresennol y Cynllun
Mannau Diogel.
-
Cadarnhawyd bod y
prosiectau hyn oll yn parhau i redeg dros y flwyddyn nesaf a’r bartneriaeth am
barhau i gefnogi holl gyfarfodydd a phrosiectau rhanbarthol. Roedd y
bartneriaeth yn ymwybodol o argyfwng costau byw sy’n effeithio trigolion
Gwynedd a Môn ac edrych i weld sut gall y bartneriaeth leihau lefelau dwyn a
siop ladrata yn y cyfnod nesaf.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:
Gofynnwyd am wybodaeth ychwanegol am
ail-droseddu a sut roedd y bartneriaeth yn ceisio ei leihau.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd a Môn bod ffigyrau troseddu yn cael eu darparu gan yr heddlu.
Nododd bod yr heddlu yn cymharu ffigyrau o’r flwyddyn flaenorol gyda’r flwyddyn
bresennol. Cadarnhawyd bod cydweithio da yn digwydd rhwng y bartneriaeth a’r
heddlu i weld beth yw blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod. Pe byddai cynnydd
mewn ail droseddu, byddai’r bartneriaeth yn delio gyda hyn drwy brosiectau er
mwyn delio gydag anghenion yr heddlu a’r cyhoedd. Yn anffodus, nid oedd modd
adnabod o’r ffigyrau os oedd y rhain yn ail droseddau neu beidio ar hyn o bryd.
Holwyd am wybodaeth bellach ynglŷn â’r
holiadur a luniwyd er mwyn gosod y sylfaen i ddatblygu cynllun y bartneriaeth.
-
Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd yr Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl
bod aelodau’r bartneriaeth yn cyfarfod wyneb yn wyneb cyn Covid-19 er mwyn
trafod y cynllun. Eglurodd bod hyn nawr yn cael ei wneud ar ffurf holiadur syml
a oedd yn chwilio am flaenoriaeth pob aelod o’r bartneriaeth. Ymhelaethodd y
byddai’r bartneriaeth yn trafod blaenoriaethau’r aelodau er mwyn datblygu
cynllun y flwyddyn ganlynol. Roedd hyn wedi bod yn broses llwyddiannus dros y
cyfnod clo ac felly roedd y bartneriaeth wedi parhau i’w ddefnyddio. Teimlir
fod yr holiadur yn caniatáu i’r aelodau rhoi mwy o wybodaeth nag oedd yr hen
drefn gan fod gan aelodau mwy o amser i gysidro eu blaenoriaethau.
Trafodwyd ariannu’r bartneriaeth yn y dyfodol
gan fod grantiau wedi cael eu tynnu oddi ar Wynedd a Môn a bellach o dan
reolaeth Rhanbarth Gogledd Cymru. Gofynnwyd os oedd risg fod yr arian a allai
gael ei ddefnyddio yng Ngwynedd a Môn yn debygol o gael ei wario mewn ardaloedd
mwy trefol y rhanbarth.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol Gwynedd a Môn nad oedd risg i Wynedd a Môn golli’r gyllideb yn gyfan
gwbl. Ymhelaethodd bod rhan o’r gyllideb wedi ei glustnodi ar gyfer Gwynedd a
Môn ac y gallai Gwynedd a Môn wneud cais i’r rhanbarth am gyllideb. Nododd bod
y cydweithio rhwng y bartneriaeth a’r rhanbarth yn glos iawn.
Ystyriwyd sut roedd y bartneriaeth yn delio
gyda’r argyfwng costau byw o ogwydd achosion domestig sydd ddim yn droseddau
gan fod y rhain wedi codi 18.9% o’r flwyddyn flaenorol.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl y byddai
hyn yn ffactor mawr ar gyfer cynllun 2023/24. Nid oedd yn ffactor ar gyfer
2022/23 gan nad oedd yr argyfwng costau byw wedi dechrau. Eglurodd y byddai’r
bartneriaeth yn gweithio yn agos gyda’r trydydd sector i roi cymorth ariannol.
Clodforwyd y bartneriaeth am y Gronfa Leihau Radicaleiddio. Credid ei fod yn broblem fawr i drigolion
Gwynedd a Môn, yn enwedig pobl ifanc yr ardaloedd. Holwyd os oedd yna waith yn
cael ei wneud i gydweithio gydag ysgolion er mwyn taclo’r broblem.
-
Mewn ymateb i’r
ymholiad, nododd Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl bod yr
heddlu yn arwain ar hyn drwy eu Huned Gwrthderfysgaeth. Eglurodd eu bod yn
dysgu am sgiliau gwahanol er mwyn sicrhau fod pobl yn bod yn saff ar lein. Yn
anffodus nid oedd modd gweld faint o lwyddiannus oedd y sesiynau hyn gan ei fod
yn brosiect newydd. Gobeithid cael mesuryddion yn y dyfodol er mwyn gallu gweld
os oedd ffigyrau radicaleiddio wedi lleihau.
Gofynnodd y Cadeirydd os fyddai modd derbyn y
wybodaeth yma pan yr oedd ar gael i’r bartneriaeth.
Diolchwyd am yr adroddiad.
PENDERFYNWYD
Dogfennau ategol: