Agenda item

I adolygu trefniadau cynnal ymylon ffordd Sirol.

Penderfyniad:

(i)         Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)        Gofyn i’r Adran gyflwyno canlyniadau’r treialon a’r polisi torri gwair newydd i’r Pwyllgor pan yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Ymgynghoriaeth Gwynedd  a Phennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

-      Eglurwyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad ar drefniant torri gwair arfaethedig a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2022.

-      Adroddwyd bod treialon torri a chasglu gwair yn y broses o gael eu cynnal er mwyn hybu anghenion bywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Ymhelaethwyd bod y gwaith o hadu’r ardaloedd yn y treialon wedi ei gwblhau ym mis Hydref a byddai modd gweld os byddent wedi bod yn llwyddiannus neu beidio o fis Ebrill 2023 ymlaen.

-      Datganwyd bod y treialon wedi eu hariannu drwy dderbyn grantiau. Roedd y Cyngor wedi llwyddo i brynu peiriannau torri a chasglu gwair gyda’r arian yma a gellir eu defnyddio yn y dyfodol.

-      Cadarnhawyd byddai’r treialon yn cael eu hyrwyddo o fewn stondin y Cyngor yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan. Rhannwyd bod ymwelwyr yr eisteddfod yn debygol o basio ardaloedd y treialon a gobeithid byddai’r blodau gwyllt wedi tyfu erbyn hynny er mwyn iddynt sylweddoli ar y gwahaniaeth. Gobeithir rhannu neges bositif a chadarnhaol am y treialon i’r cyhoedd a bod y system newydd am arbed arian.

-      Pwysleisiwyd fod iechyd a diogelwch yn ystyriaeth bwysig iawn o fewn y treialon a ni fyddai ystyriaeth i ychwanegu unrhyw ardal i’r treialon os byddai’n amharu’n negyddol ar iechyd a diogelwch.

-      Diolchwyd i’r Adran Amgylchedd am gydweithio mor agos gyda’r Adran Briffyrdd a Bwrdeistrefol ar y treialon hyn.

-      Mynegwyd bod cytundeb newydd gyda’r gwasanaeth torri gwair yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer y tymor tyfu nesaf. Cadarnhawyd fod modd i’w ddiwygio yn dilyn canlyniad y treialon pan fyddai’r polisi newydd wedi cael ei ddatblygu.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol:

 

Gofynnwyd a oedd problemau yn debygol o godi yn deillio o’r ffaith ni fyddai’r  polisi yn barod cyn i’r cytundeb fod yn ei le.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol na fyddai hyn yn broblem gan fod darpariaeth yn cael ei rhoi o fewn y cytundebau er mwyn caniatáu newidiadau o’r fath.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor wedi ystyried adroddiad ar y mater yma yng nghyfarfod 13 Ionawr 2022. Holwyd am yr amserlen o ran mabwysiadu polisi newydd. Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol nad oedd y polisi wedi ei ddatblygu hyd yma oherwydd y tymhorau llawn oedd eu hangen ar gyfer y treialon. Eglurodd bod paratoadau ar gyfer y treialon wedi cael eu gwneud ar ddiwedd y cyfnod tyfu diwethaf. Cadarnhaodd ei fod yn bwysig i’r adran asesu sut roedd y treialon yn mynd yn eu blaen cyn creu polisi. Nododd o ganlyniad byddai modd datblygu’r polisi erbyn Medi/Hydref 2023.

 

 

Yn dilyn yr ymateb, ystyriwyd gwahodd yr Adran yn ôl i gyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Cymunedau tua mis Rhagfyr 2023.

 

Holwyd os byddai trafferthion i’r gwaith yn y dyfodol pe byddai arian grant pellach ddim ar gael.

-      Mewn ymateb i’r ymholiad, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol mai un taliad yn unig oedd y grant ac roedd y Cyngor wedi llwyddo i brynu peiriannau i dorri a chasglu gwair gyda’r arian hwnnw. Eglurodd y byddai’r gwaith yn gallu parhau yn y dyfodol oherwydd bod y peiriannau dal ym meddiant y Cyngor.

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

(i)      Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

(ii)      Gofyn i’r Adran gyflwyno canlyniadau’r treialon a’r polisi torri gwair newydd i’r Pwyllgor pan yn amserol.

 

Dogfennau ategol: