Agenda item

I nodi’r adroddiad cynnydd a chymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn a nodir adroddiad cynnydd
  • Cymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf yn ddarostyngedig i ychwanegu’r gair ‘pendant’ i amcan 7 ‘Darparu cyngor perthnasol ac amserol’.

‘... gallai cyngor ‘amgen’ weithiau fod yn fwy rhagweithiol, pendant ac amserol ...’

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol, ynghyd a chais i’r Pwyllgor adolygu a chymeradwyo’r amcanion ar gyfer 2023. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau chwarterol (sy’n cynnwys gradd buddsoddi cyfrifol ar gyfer pob rheolwr), adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn perfformio yn unol â’r amcanion. Eglurwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un prysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu cyngor pellach ar y strategaeth buddsoddi wrth ail strwythuro dyraniad asedau strategol y Gronfa yn dilyn y prisiad. Ategwyd bod hyn wedi bod yn ddarn o waith pwysig a manwl iawn a bu cydweithio da. Adroddwyd hefyd, gyda buddsoddi cyfrifol bellach yn faes blaenllaw, bod Hymans wedi cyd weithio gyda swyddogion y Gronfa i adolygu’r polisi buddsoddi cyfrifol, darparu cyngor ar fuddsoddiadau newydd a darparu ateb i’r ymgynghoriad TCFD.

Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd, bod hyfforddiant amserol ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Er derbyn hefyd bod y ffioedd yn uchel (sydd yn wir hefyd am rai cwmnïau eraill yn y farchnad), amlygwyd dymuniad o dderbyn amcangyfrifad o gost y gwaith sy’n cael ei gytuno arno ymlaen llaw.

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2022. Amlygwyd bod dwy amcan newydd weid eu hychwanegu. Er nad oedd dymuniad i newid ymgynghorwyr buddsoddi’r Gronfa, bod rhaid er hynny herio eu perfformaid a sicrhau nad yw’r berthynas yn rhygyfforddus’. Yn dilyn rhwystredigaeth o sefydlu trefniadau rhagfantoli arain cyfred ac o ganlynaid colli cyfle i fanteisio ar y gyfradd gyfnewid gyda phosibilrwydd o ychwanegu gwerth, ystyriwyd yr angen am anogaeth a chyngor mwy rhagweithiol ac amserol, fel bydd modd ymateb i gyfleoedd heb rwystredigaeth i’r dyfodol.

Ategodd yr Cadeirydd bod y cwmni yn darparu gwasanaeth da ac yn cyfarch yr amcanion sydd yn cael eu gosod gan y Pwyllgor.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a’r angen i gyflymu prosesau, e.e. rhagfantoli arian cyfred, a’r risgiau posibl wrth wneud hynny, nodwyd bod rhwystredigaeth o beidio gweithredu yn gynt ac efallai i’r dyfodol y gall yr ymgynghorwyr buddsoddi dynnu sylw at gyfleoedd posib. Er hynny, amlygodd Cyfarwyddwr y Gronfa bod mabwysiadu’r drefn rhagfantoli arian cyfred yn gam sylweddol i’r Gronfa a bod cymeradwyaeth y Pwyllgor yn hanfodol wrth symud i’r drefn honno. Ategodd bod trothwyon i’r dyfodol bellach wedi eu sefydlu a chytundebau gyda BlackRock yn barod i weithredu o fewn diwrnod os daw cyfle.

 

Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn â’r budd o sefydlu proses ymateb brys, nodwyd, mewn argyfwng, bod y Prif Swyddog Cyllid  a Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn gallu gweithredu hyn, ond mewn argyfwng yn unig. Byddai unrhyw newid mawr angen adroddiad i’r Pwyllgor a chymeradwyaeth cyn gweithredu.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·         Bod adolygu’r amcanion strategol yn aml yn ymarfer da

·         Y byddai  arweiniad mwy pendant yn cael ei werthfawrogi

·         Er wedi colli cyfleoedd, bod proses bellach yn ei le i weithredu yn gynt

·         Bod yr amcanion yn gosod heriau fydd yn ychwanegu gwerth

·         Er cydweithio da, rhaid ceisio osgoi bod yn rhy gyfforddus

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn a nodir adroddiad cynnydd

·         Cymeradwyo amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf fel y’i cyflwynwyd yn Atodiad 1, yn ddarostyngedig i ychwanegu’r gair ‘pendant’ i amcan 7 ‘Darparu cyngor perthnasol ac amserol’ -

‘... gallai cyngor ‘amgen’ weithiau fod yn fwy rhagweithiol, pendant ac amserol ...’

 

Dogfennau ategol: