MOTOR FUEL LTD, CONVENIENCE STORE,
PORTHMADOG FILLING STATION, PORTHMADOG, LL49 9NG
Ystyried y cais uchod
Cofnod:
MOTOR FUEL LTD, CONVENIENCE STORE, PORTHMADOG
FILLING STATION, PORTHMADOG
Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd
at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr eiddo: Mr Chris Mitchener
(asiant Licesning Solutions
ar ran Motor
Fuel Ltd)
Eraill a fynychwyd: Cynghorydd
Jason Humphreys (Aelod Lleol Dwyrain Porthmadog), Cynghorydd Selwyn Griffiths (
ar ran Cyngor Tref Porthmadog)
Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.
a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr
Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer ‘Convenience
Store’ Porthmadog Filling Station. Amlygwyd bod y cais yn un ar gyfer siop hwylus un
llawr i’w leoli ar flaengwrt
y garej bresennol gyda bwriad o werthu alcohol i’w yfed oddi ar yr eiddo a
darparu lluniaeth hwyr y nos ar yr eiddo. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys
camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan
trwyddedu fel rhan o’r cais.
Yn yr adroddiad cyfeiriwyd at y
wybodaeth gyfreithiol berthnasol: Paragraff 5.21 o’r Canllawiau Diwygiedig
(Mawrth 2015) a gyhoeddwyd dan Adran 182 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 lle nodi’r
bod Adran 176 o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn gwahardd gwerthu neu gyflenwi
alcohol o eiddo a ddefnyddir yn bennaf fel garej, neu yn rhan o eiddo a
ddefnyddir yn bennaf fel garej. Pwysleisiwyd bod eiddo yn cael ei ddefnyddio yn
bennaf fel garej os ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer un neu fwy o’r canlynol
·
Adwerthu petrol
·
Adwerthu Derv
·
Gwerthu cerbydau modur
·
Cynnal a chadw cerbydau modur
Pwysleisiwyd mai mater i’r awdurdod
trwyddedu yw penderfynu, ar sail yr amcanion trwyddedu, a yw’n briodol i’r
eiddo gael trwydded. Tynnwyd sylw at yr atodlen weithredu a’r cynllun a
gyflwynwyd gyda’r cais ynghyd a gwybodaeth ychwanegol.
Yn dilyn cyfnod ymgynghori,
nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd
unrhyw sylwadau ac nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu y cais.
Derbyniwyd dau wrthwynebiad i’r cais gan yr Aelod Lleol a Chyngor Tref Porthmadog.
b) Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
· Rhoddwyd
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
· Gwahoddwyd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
· Rhoddwyd cyfle i’r
ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
· Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei
gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
· Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
· Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr
ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:
·
Y bwriad oedd gwerthu alcohol rhwng 6:00am a
23:00pm – oriau rhesymol
·
Nad oedd unrhyw sylwadau / wrthwynebiad wedi eu
cyflwyno gan yr Heddlu, preswylwyr lleol
neu unrhyw awdurdod cyfrifol arall
·
Nad oedd unrhyw berthynas rhwng yfed a gyrru a
gwerthu alcohol ar flaengwrt garej
·
Nad oedd ‘angen’ yn fater Deddf Trwyddedu
·
Nad oedd tystiolaeth wedi ei gyflwyno gyda’r awgrym
i osod labeli ar boteli alcohol - dim awdurdod cyfrifol wedi ceisio hyn
·
Nad oedd tystiolaeth i brofi y byddai gwerthiant
alcohol o’r siop yn cyfrannu at
drosedd ac anrhefn
·
Nad oedd materion trafnidiaeth yn rhan o’r cais
·
Bod alcohol yn cael ei werthu mewn modd cyfrifol –
y staff yn derbyn hyfforddiant priodol
·
Bydd biniau gwastraff yn cael eu gosod ar y blaengwrt
·
Nad yw’r garej yn bodoli ar werthu tanwydd yn unig
- rhaid buddsoddi mewn siop hwylus
·
Bydd system teledu cylch cyfyng newydd yn cael ei
osod ar y safle - petai y cais yn cael ei ganiatáu, bydd nifer y camerâu yn cynyddu.
·
Ni ellid rhoi ystyriaeth i ‘beth all ddigwydd’ - rhaid ystyried y dystiolaeth gerbron.
Mewn ymateb i gwestiwn nodwyd y bydd y siop
yn cau yn wirfoddol am 23:00pm gydag agoriad gweini
i werthu nwyddau ar ôl hynny.
Bydd hyn yn sicrhau diogelwch
ac yn amddiffyn a gwarchod y staff.
Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Rheolwr
Trwyddedu o ran profi mai defnydd craidd yr eiddo yw'r siop, nododd yr asiant
bod y busnes eisoes wedi cynyddu 10% drwy gyflwyno cynnyrch newydd, gyda bwriad
o fuddsoddiad pellach i wneud i’r safle ymddangos fel safle manwerthu.
ch) Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr
Aelod Lleol y sylwadau canlynol:
·
Y buasai yn gwerthfawrogi cydweithrediad yr eiddo i
gefnogi'r cynllun labeli poteli (fel arwydd o gyfrifoldeb)
·
Awgrym i gysoni oriau gwerthu alcohol gydag eiddo
gerllaw
·
Nad oedd yn derbyn y dadansoddiad o lif
cwsmeriaid a ragwelwyd (dogfen a gyflwynwyd gyda’r cais) gan
nad oedd elfen dymhorol wedi cael ei
hystyried wrth amcanu’r ffigyrau
·
Pryder bod y safle yn agos at ardaloedd
poblogaidd lle mae ymarferion yfed gyda’r nos
– rhagwelwyd y byddai’r garej yn atynfa
·
Pryderon eisoes yn bodoli gyda thraffig - rheswm
arall i ymweld â’r siop yn debygol o uchafu
trafferthion
·
Yn hanesyddol garej
sydd wedi bod ar y safe
– ni ddylid cyfeirio ato fel ‘convenience store’
Mewn ymateb nododd y Rheolwr Trwyddedu nad
oedd yfed alcohol yn weithgaredd trwyddedig ac anodd fuasai tystiolaethu bod yr
alcohol sydd yn cael ei brynu ar y safle yn cael ei yfed mewn mannau gerbron.
d) Yn manteisio ar ei
hawl i siarad, nododd Y Cynghorydd
Selwyn Griffiths ar ran Cyngor Tref
Porthmadog y sylwadau canlynol:
·
Tanwydd yw prif flaenoriaeth y safle – dadleuwyd yn
gryf mai garej gwerthu tanwydd sydd yma ac nid siop
hwylus
·
Siomedig nad oedd ogwydd tymhorol wedi ei ystyried
yn y dadansoddiad o lif cwsmeriaid
·
Angen sicrhau sylwadau cyfreithiol, manwl wrth
ystyried defnydd craidd yr eiddo.
·
Gwerthu alcohol ar y safle yn debygol o ail godi
problemau’r gorffennol
dd) Wrth grynhoi ei
gais, nododd asiant ar ran yr ymgeisydd bod rhaid ystyried y ffeithiau a’r
dystiolaeth sydd yn cael i gyflwyno ar y diwrnod ac os bydd unrhyw
bryderon yn codi neu yn cael eu hamlygu
bydd hawl i adolygu’r drwydded. Petai problemau yn codi, bydd modd cydweithio gyda chefnogaeth y Cyngor Tref a’r
Heddlu. Nodwyd y byddai modd ystyried
labelu poteli am gyfnod byr - eto gyda chefnogaeth y Cyngor Tref a’r Heddlu.
PENDERFYNIAD
Daeth yr Is-bwyllgor i’r penderfyniad yn dilyn
ystyriaeth o’r cais a’r sylwadau hynny oedd yn berthnasol i egwyddorion Deddf
Trwyddedu 2003
• Trosedd ac Anhrefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
ynghŷd ag Arweiniad y Swyddfa Gartref.
Yn gyntaf bu rhaid
i’r Is-bwyllgor benderfynu a oedd yn gyfreithlon i’r fangre
werthu alcohol, gan gofio’r cyfyngiad o dan adran 176
o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 a’r ffaith bod petrol a diesel
yn cael eu gwerthu ar y safle. Yn dilyn ystyried adroddiad masnachu’r ymgeisydd
ynghyd â pharagraffau 5.21 i 5.23 o’r Arweiniad, daeth yr Is-bwyllgor i
gasgliad bod yr eiddo am gael ei ddefnyddio fel garej i ryw raddau ond bydd
hefyd i raddau mwy yn cael ei ddefnyddio fel siop hwylus. O ganlyniad roedd o’r
farn na fydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio yn bennaf
fel garej.
Yn yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon
nad oedd y cais yn tynnu’n groes i adran 176 o’r Ddeddf a’i fod yn gyfreithlon
i’r eiddo werthu alcohol.
Wrth drafod
rhinweddau’r cais, ystyriwyd sylwadau’r ymgeisydd ynghyd â’r
aelod lleol, y Cynghorydd Jason Humphreys parthed atal trosedd ac anhrefn,
diogelwch cyhoeddus ac amddiffyn plant rhag niwed. Yn benodol, cyflwynodd yr
aelod lleol dystiolaeth bod problemau traffig difrifol yn cael eu hachosi gan
foduron yn ciwio am danwydd ar ac o amgylch y safle, oedd yn achosi tagfeydd a
pherygl o ddamweiniau. Awgrymodd yr aelod bod ymestyn yr ystod o wasanaethau ar
y safle yn debygol o waethygu’r problemau hyn.
Tra bo tystiolaeth o’r fath yn ddefnyddiol ac yn
gallu bod yn berthnasol i’r tri amcan a godwyd, mynegwyd siom na dderbyniwyd
tystiolaeth o ddigwyddiadau penodol, gan gynnwys dyddiadau digwyddiadau, beth
ddigwyddodd, beth oedd y canlyniad ac ati. Nid yw hynny yn feirniadaeth o’r
aelod, efallai nad oedd ganddo’r lefel yna o
wybodaeth yn ei feddiant, ond heb y wybodaeth ychwanegol yma, amhosib oedd i’r
Is-bwyllgor fesur yn wrthrychol swm a sylwedd unrhyw broblemau sydd eisioes yn bodoli gyda’r eiddo sydd yn berthnasol i’r
amcanion trwyddedu. O ganlyniad, bychan iawn oedd y pwysau y gellid eu rhoi i’r
sylwadau hyn.
Amlygodd yr
Is-bwyllgor nad oedd yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu’r cais. Petai
problemau o dan yr amcanion trwyddedu, byddai’r Is-bwyllgor wedi disgwyl
sylwadau oddi wrth yr awdurdodau cyfrifol hyn ac wrth ystyried paragraff 9.2
o’r Arweiniad, byddai’r Is-bwyllgor wedi disgwyl sylwadau oddi wrth yr Heddlu
yn enwedig, mewn perthynas ag unrhyw broblemau trosedd ac anhrefn. Awgrymodd y
diffyg hwn nad oedd problemau ynghlwm â’r eiddo.
Bu i’r Is-bwyllgor ddiystyru rhai sylwadau ar y
sail eu bod yn amherthnasol i’r amcanion trwyddedu, gan gynnwys y canlynol:
1. Sylwadau’r aelod lleol
yn gwrthwynebu’r cais yn defnyddio’r disgrifiad “convenience
store” pan nad oedd yr eiddo yn ei dyb ef wedi cael
ei gyfeirio felly o’r blaen. Mater i’r ymgeisydd yw penderfynu sut y disgrifir
yr eiddo. Wrth gwrs, lle mae yna newid yng nghyfeiriad busnes yr eiddo fel sydd
wedi digwydd yn y cais hwn, ni ddylai defnydd o derm newydd i ddisgrifio eiddo
beri syndod.
2. Sylwadau’r aelod lleol yn gofyn am gysondeb
gydag oriau gwerthu alcohol eiddo
gerllaw. Nid cysondeb gydag oriau llefydd eraill yw’r prawf perthnasol o
dan y Ddeddf, ond a yw’r cais yn gydnaws â’r amcanion
trwyddedu?
3. Sylwadau’r Cyngor Tref
yn gwrthwynebu’r cais ar y sail eu bod yn ystyried yn annoeth gwerthu alcohol
lle mae gyrwyr. Gyda pharch, nid yw’r ffaith bod siop yn hawdd i yrwyr ei
gyrraedd yn rheswm digon cryf dros wrthod trwydded
alcohol i’r siop yna. Mae’n ddigon hawdd yn yr oes sydd ohoni i yrrwr fynd i
siop, parcio car yn y maes parcio, a phrynu alcohol. Mae archfarchnadoedd y
dref, gan gynnwys Tesco, yn enghraifft o hyn. Dylai Cyngor Tref Porthmadog
wybod bod mynediad cyfleus i fodurwyr yn rhan bwysig o’r hyn sydd yn gwneud
busnes yn gynaliadwy yn yr oes sydd ohoni.
4. Sylwadau’r Cyngor Tref
nad oes angen safle arall yn y dref i werthu alcohol. Ers 2005 nid yw “angen”
yn berthnasol i geisiadau am drwydded eiddo.
5. Sylwadau’r aelod lleol a’r Cyngor Tref
yn gofyn am amod labelu poteli. Ni welodd yr Is-bwyllgor unrhyw gyfiawnhad i
gyflwyno amodau ychwanegol ar drwydded lle nad oes tystiolaeth o broblem yn y
lle cyntaf sydd yn cyfiawnhau cymryd cam o’r fath. Yn nhyb yr Is-bwyllgor,
rhoi’r drol o flaen y ceffyl yw gosod amod ar eiddo lle nad oes rheswm amau bod
yr amodau gorfodol safonol (e.e. gweithredu Challenge
25) yn ddigonol i daclo unrhyw risg o yfed dan oed.
Yn yr amgylchiadau, ac o bwyso a mesur y
dystiolaeth ddaeth i law, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd problemau
ynghlwm â’r eiddo sydd yn berthnasol i’r amcanion
trwyddedu ac felly dylid rhoi’r drwydded yn unol â’r
cais.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn
ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn
bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i
apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod i dderbyn y llythyr hwnnw.
Dogfennau ategol: