Agenda item

I dderbyn ac ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies.  

Cofnod:

Cyflwynwyd:                         I aelodau yn ystod y cyfarfod, adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ar weithgareddau yn Harbwr Abermaw. 

 

Darllenodd yr Uwch Swyddog Harbyrau yr adroddiad i’r aelodau a gwnaed cyfeiriad penodol i’r isod: 

 

(a)          Cofrestru Cychod Pŵer

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod am gofrestru’r holl gychod drwy drefniadau gwahanol, adroddwyd fod mwyafrif y cofrestriadau o safleoedd carafanau wedi eu cyfeirio at Swyddfa’r Harbwr Feistr ac roedd yr asesiadau risg yn cael eu cynnal gan yr Harbwr Fesitr a’u hadolygu gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a /neu Uwch Swyddog Harbyrau. Rhoddwyd sicrwydd fod popeth mewn llaw.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(b)          Mordwyo

 

Adroddwyd fod gwaith yn mynd rhagddo gyda’r cymhorthion mordwyo ar ôl yr oedi pan roedd y contractwr lleol i ffwrdd.  Roedd dau fwi newydd yn y broses o gael eu prynu yn ogystal â goleuadau newydd, a sicrhawyd fod y Gwasanaeth Morwrol yn awyddus i gael y cymhorthion mordwyo i’r safon gorau gan eu bod yn flaenoriaeth o ran iechyd a diogelwch.  Dywedodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ei fod yn gobeithio y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau cyn pen y 2/3 wythnos nesaf.  Nodwyd ymhellach fod y bwi bar yn agored i ryferthwy’r tywydd ac roedd y Gwasanaeth Morwrol mewn trafodaethau gyda Hydrosphere i gael math addas. 

 

Gofynnodd cynrychiolydd Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw pam fod y cymhorthion mordwyo wedi eu hamwybyddu am gymaint o amser.  Atebodd yr Uwch Swyddog Harbyrau ers iddo fod yn ei swydd ym mis Chwefror nid oedd yn ymwybodol eu bod wedi eu diystyru.  Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod Grŵp Defnyddwyr yr Harbwr yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn wedi llongyfarch y Gwasanaeth Morwrol am safon y cymhorthion mordwyo. 

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned nad oedd unrhyw ateb hawdd ynglŷn â esgeuluso’r cymhorthion mordwyo, ond roedd yna nifer o ffactorau cysylltiedig.  Roedd Tŷ’r Drindod yn archwilio holl gymhorthion mordwyo’r harbwr ac o ran Harbwr Abermaw roedd gwersi i’w dysgu a hyderir y bydd y rhain yn cael eu cywiro yn y dyfodol agos.

 

O safbwynt y goleuadau ar y bwiau oedd mewn cyflwr gwael, ac yn arbennig dydd Sadwrn diwethaf (10.10.15), dywedodd yr Harbwr Feistr fod y cymhorthion mordwyo wedi dod i’r lan i’w trwsio a chyflwynwyd Rhybudd i Forwyr ynglŷn â hyn (dosbarthwyd copi o’r rhybudd er gwybodaeth yn ystod y cyfarfod).  O ran bwi’r sianel fordwyo, roedd y golau wedi cael ei godi i'r uchafswm ac roedd golau newydd wedi ei archebu i'r bwi bar a sicrhawyd y byddai'r goleuadau mordwyo yn gweithio cyn gynted â phosib.

 

Nodwyd ymhellach fod sianel gyda bwiau da yn arbennig o bwysig yn enwedig i annog mwy o bobl i ymweld â’r Harbwr.

 

Derbyniodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned y sylwadau a wnaed ac erfyniwyd ar aelodau’r  pwyllgor a defnyddwyr i gysylltu â’r Harbwr Feistr os oedd ganddynt unrhyw bryderon am y cymhorthion mordwyo.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(c)  Rhaglen Waith

 

Rhestrodd yr Uwch Swyddog Harbyrau y gwaith oedd ar raglen waith Harbwr Abermaw yn ystod y tri mis nesaf, oedd yn cynnwys yr isod:

 

  • Tynnu bysedd y pontŵn
  • Archwilio a chynnal a chadw y rhan sy'n weddill o'r pontŵn
  • Ysgol y Glwyd
  • Cynnal a chadw ac ail-wampio’r bwiau
  • Glanhau’r lloc
  • Cynnal a chadw’r hysbysfyrddau
  • Cynnal a chadw meinciau
  • Glanhau ac atgyweirio clwyd y morglawdd
  • Cynnal a chadw’r ffensio ar wal yr harbwr
  • Cynnal a chadw’r promenâd
  • Cynnal a chadw rheslau’r dingis

 

Cadarnhaodd yr Harbwr Feistr ei fod wedi ymgymryd â gwaith i risiau'r Fferi.

 

Cafwyd y sylwadau isod gan yr aelodau:

 

(i)            Bydd y rhesel i’r dingis yn welliant mawr

(ii)   O ran y meinciau, nodwyd fod Cyngor Tref Abermaw yn berchen ar, ac yn gyfrifol am rai ohonynt ac y dylid sicrhau pwy oedd yn berchen ar beth.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

(d)  Cyllidebau

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Harbyrau daenlen o’r gyllideb a thywyswyd yr aelodau drwy’r wybodaeth a nodwyd fod tanwariant o £5,946.  I ateb ymholiad am ddibrisiant o £11,900, dywedodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned fod hyn yn ffurf o gyllideb gryno oedd yn cyfeirio at asedau ac adeiladau ar draws holl wasanaethau’r Cyngor ac nid oedd yn effeithio ar gyllideb Harbwr Abermaw.

 

I ateb ymholiad o ran cyllideb o £3,000 ar lyfrau gweinyddol, cadarnhawyd fod hyn yn cyfeirio at y llyfrau log, llyfrau archebu ac ati ond byddai ymholiadau pellach yn cael eu gwneud gan yr Uwch Swyddog Harbyrau am hyn.

 

Oherwydd y ffaith fod dwy daenlen ar wahân i'r gyllideb, gofynnwyd yn garedig mai dim ond un a gyflwynir yn y dyfodol i osgoi penbleth i’r aelodau.

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn taenlen y gyllideb yn amodol i wneud ymholiadau pellach  i gyfeirnod 3250 – llyfrau gweinyddol.

 

                                    (b)       Gofyn i’r Gwasanaeth Morwrol i gyflwyno un daenlen cyllideb yn y dyfodol er mwyn ei gwneud hi’n haws i aelodau gyfeirio ati.

 

(e)       Staff

 

Cadarnhawyd y bydd Dafydd Rhun Thomas wedi ei leoli ym Mhorthmadog tan 31 Rhagfyr 2015 a bydd yn gweithio yn Abermaw, Aberdyfi a Hafan, Pwllheli, fel bo’r angen. 

 

O safbwynt bod Dafydd Rhun Thomas ar ddyletswydd yn Abermaw yn ystod dyddiau gwyliau blynyddol yr Harbwr Feistr, dywedodd yr Uwch Swyddog Harbyrau y byddai'r mater yma yn cael ei gyfeirio i'r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig i wneud penderfyniad.  Cadarnhawyd ymhellach y byddai aelod o staff ar ddyletswydd o’r 1af Ebrill i Hydref yn yr harbwr.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod. 

 

 

(f)        Digwyddiadau

 

Cyfeiriwyd ar y digwyddiadau oedd wedi eu trefnu yn ystod 2015 oedd yn cynnwys:

 

  • Ras y Tri Chopa
  • Digwyddiadau rhwyfo “Paddlesports” Abermaw
  • Digwyddiad “Motorcross” Abermaw
  • Digwyddiadau hyfforddi Clwb Hwylio Abermaw i hwylio dingis

 

Gofynnwyd i’r aelodau os oeddent yn gwybod am unrhyw ddigwyddiadau iddynt adael i’r Uwch Swyddog Harbyrau neu Harbwr Feistr i wybod fel bod modd gwneud trefniadau paratoi o ran asesiadau risg, staff ac ati.  

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod.

 

 

(g)          Cod Diogelwch yr Harbwr – Ymgynghoriad Cenedlaethol

 

Adroddwyd fod dogfen yr Ymgynghoriad Cenedlaethol ar God Diogelwch yr Harbwr mewn ffurf drafft a chytunwyd i anfon copi pdf electronig i bob aelod (gofynnwyd i’r aelodau i ddarparu eu cyfeiriadau e-bost ar restr a ddosbarthwyd yn ystod y cyfarfod).

 

Penderfynwyd:          Bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn anfon copi o God Diogelwch yr Harbwr i bob aelod o'r Pwyllgor Ymgynghorol a ddarparodd gyfeiriad e-bost yn y cyfarfod. 

 

 

 

(h)      Darpariaeth Disel Coch

 

Gofynnodd yr Uwch Swyddog Harbyrau am adborth gan gwsmeriaid os oeddent wedi profi unrhyw wahaniaeth yn ansawdd y disel coch a ddarparwyd.  

 

Awgrymwyd ymhellach y gallai’r Harbwr Feistr efallai anfon neges e-bost i’r holl gwsmeriaid i ofyn am eu barn.

 

Penderfynwyd:          Derbyn a nodi’r uchod. 

 

 

Ffioedd 2016

 

Nodwyd y byddai cynnydd o 1% yn y ffioedd a thaliadau am 2016/17.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y materion a ganlyn:

 

(a)  Mewn ymateb i’r pryder oherwydd colli incwm i’r Harbyrau, dywedodd yr Uwch Reolwr – Economi a Chymuned fod yn rhaid i bob harbwr unigol fod yn gynaliadwy o ran incwm.  Er hynny, roedd yr aelodau yn ymwybodol o’r hinsawdd ariannol ac roedd y Gwasanaeth Morwrol yn ceisio annog ac adfer gweithgareddau ar hyd yr arfordir.  Yr unig harbwr oedd yn gwneud elw oedd Hafan, Pwllheli.

(b)  Roedd aelod o’r farn pe byddai’r Cyngor yn buddsoddi yn yr Harbwr byddai’n golygu newid enfawr i dref Abermaw ac roedd angen denu mwy o gychod i ymweld â’r Harbwr. 

(c)  I ateb yr uchod, dywedodd yr Harbwr Feistr nad oedd y gwasanaeth yn troi unrhyw un i lawr o ran angorfeydd ac aeth ymlaen i esbonio’r drefn gyda chyflwyno angorfeydd oedd yn eiddo i’r Cyngor o’i gymharu ag angorfeydd mewn perchnogaeth breifat.  Er hynny, fel awdurdod roedd gweithdrefnau iechyd a diogelwch yr oedd yn rhaid glynu atynt a’u blaenoriaethu.

(d)  Gofynnwyd a fedrai’r Uwch Swyddog Harbyrau ymchwilio i’r posibilrwydd o lunio cynllun busnes i’w gyflwyno i Benaethiaid Adrannau am angorfeydd ychwanegol.

(e)  Yn ei ateb dywedodd yr Uwch Swyddog Harbyrau fod yr agwedd iechyd a diogelwch yn bwysig ac roedd o’r farn fod angen edrych ar y darlun ehangach yn hytrach na chynyddu’r angorfeydd, a denu mwy o bobl i ddigwyddiadau.

(f)   Pwysleisiwyd fod angen rhoi gwasanaeth blynyddol i angorfeydd yr harbwr.  Oherwydd anghysondebau rhwng angorfeydd oedd yn eiddo i’r Cyngor ac angorfeydd preifat, gofynnwyd i’r Harbwr Feistr lunio cynllun o bob angorfa yn yr Harbwr er mwyn gwella gweithdrefnau iechyd a diogelwch.  Aeth yr Uwch Swyddog Harbyrau ymlaen i ddweud ei fod ef mewn ymgynghoriad gyda’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, yn y broses o edrych ar y prosesau o ran ‘caniatâd i osod’ ble na fedrai neb osod angorfa heb y gwaith papur angenrheidiol a chaniatâd yr Harbwr Feistr.  Roedd hefyd angen archwiliad blynyddol o’r angorfeydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda'r agweddau iechyd a diogelwch ac roedd angen codi ymwybyddiaeth cwsmeriaid ynglŷn â pha ofynion oedd eu hangen. Gofynnodd y Cadeirydd fod adroddiad pellach ar hyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Harbwr ym Mawrth 2016, ynghyd â rhestr o angorfeydd y Cyngor mewn harbyrau eraill yng Ngwynedd er cymhariaeth. 

(g)  I ateb y cwestiwn ynglŷn â fyddai’r Gwasanaeth Harbwr yn cael symud cwch, dywedodd yr Harbwr Feistr y gellid symud cychod pe byddai’r gwaith papur priodol o ran archwiliadau, yswiriant ac ati heb eu cyflwyno. 

 

Penderfynwyd:          (a)        Derbyn a nodi’r uchod. 

 

                                    (b)       Bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn cyflwyno adroddiad cynnydd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn ym Mawrth 2016, fel yr amlinellwyd yn (f) uchod.  

 

Dogfennau ategol: