(adroddiad ar lafar)
Cofnod:
Gosododd y
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gefndir y cyflwyniad ddilynol drwy nodi bod
disgwyliadau uchel o dimau GwE ac yn hyn o beth datblygwyd rhaglen ddatblygu ar
gyfer yr Ymgynghorwyr Her.
Esboniodd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE bod ymarferwyr / penaethiaid
yn rhoi pwyslais ar ddatblygu staff i sicrhau ansawdd a safonau a bod gan GwE
gyfrifoldeb i ddatblygu staff ei hun.
Derbyniwyd
gyflwyniad gan Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE) ac fe nododd bod rol
Ymgynghorwyr Her yn newid er mwyn datblygu a ffurfioli rhaglen a fyddai’n
canolbwyntio ar y safonau cenedlaethol.
Fe ymhelaethodd ar y datblygiadau hyd yma:
·
Datblygu hyfforddi a mentora
·
Rhannu arfer effeithiol a’r gwersi a ddysgwyd
·
Gweithdai yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol
e.e. sut i weithio’n effeithol gyda ysgolion sy’n tangyflawni
·
Hyfforddiant diogelu statudol ar gyfer pob
Ymgynghorydd Her
·
Cyflwyniadau arfer effeithiol gan gydweithwyr o
gonsortia eraill e.e. technegau effeithiol
·
Darparu cyfleoedd i rannu arfer effeithiol rhwng
hybiau ar gyfer Ymgynghorwyr Her sy’n gweithio gyda ysgolion uwchradd categori
coch a melyngoch
·
Hyfforddi’r hyfforddwyr ar gyfer dwy
Ymgynghorydd Her sy’n gweithio gyda’r sector cynradd
·
Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
Ymgynghorwyr Her i’r lefel sy’n ofynnol er mwyn bodloni’r safonau cenedlaethol
·
Gwella ansawdd
·
Fframwaith – sicrhau bod Ymgynghorwyr Her yn
gweithio gyda ysgolion / uwch arweinwyr / llywodreathwyr
·
Sicrhau hunan arfarniad a chynllun gwella cadarn
·
Trefnu cefnogaeth ac ymyrraeth effeithiol
·
Datblygu arweinwyr ysgolion
·
Canolbwyntio ar sanawdd a deilliannau addysgu a
dysgu
·
Cyfarfodydd montrio a gwerthuso gwelliannau
ffurfiol pob tymor
Nodwyd bod y
rhaglen yn ddatblygol ac yn destun peilot ar hyn o bryd gyda’r sector uwchradd a hyderir ehangu’r rhaglen
i’r sector cynradd. Ceisir annog
unigolion o fewn tim GwE i ddatblygu staff ei hunain.
Adroddwyd
ymhellach bod hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg yn ddiweddar am Ymgynghorwyr
Her newydd ac yn dilyn penodiadau fe fyddir yn datblygu rhaglen anwytho iddynt.
Rhoddwyd cyfle
i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe amlygwyd y prif bwyntiau canlynol:
(i)
Nad oedd son am sut fyddai Ymgynghorwyr Her yn
cadw mewn cysylltiad a’r awdurdodau lleol, sydd yn y pen draw, yn gyfrifol am
safonau’r addysgu
Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod cyfarfod i’w gynnal ar 15 Mawrth 2016 ac y
byddai trafodaethau estyngedig bryd hynny ynglyn a’r mater uchod.
(ii)
Ar hyn o bryd bod anghysondebau o safbwynt
ansawdd ac nid yn angenrheidiol yn ymwneud a hyfforddi ond efallai fwy ynglyn a
threfniadaeth.
Mewn ymateb,
eglurwyd bod gan GwE ddyletswyddau penodol sef i ddarparu rhaglen datblygu
ynghyd a rheoli perfformiad yn ogystal a rheoli perfformiad unigolion. Nodwyd y byddai prosesau yn gorfod cydblethu
a chydnabuwyd bod anghysondebau ond bod hyn yn fater i gydweithio arno.
(iii)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a hyfforddi a
chydweithio hefo consortia eraill, esboniodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Safonau
GwE mai’r bwriad ydoedd darparu pecyn cenedlaethol i rannu arbenigedd.
(iv)
Prawf y rhaglenni datblygol fydd sut y gellir
mesur eu heffaith a sut y byddir yn effeithio ar ysgolion unigol, grwpiau
ysgolion, a chanlyniadau arholiadau’r haf.
Mewn ymateb,
cydnabuwyd bod y datblygiadau yn rhai tymor hir ac y byddai’n anodd mesur yr
effaith ar ganlyniadau arholiadau haf eleni.
(v)
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Safonau
GwE bod angen ehangu’r cryfderau ar draws yr ysgolion a hyderir y bydd y
rhaglen uchod yn llwyddo i godi ansawdd ac y gwelir gwelliant mewn
unigolion. Mewn ymateb i ymholiad
pellach ynglyn â methiant Ymgynghorwyr Her i gyflawni yn unol a’r safonau
disgwyliedig, y byddir yn derbyn arweiniad gan yr awdurdod lleytol ynglyn a
threfniadau medrusrwydd.
(vi)
Tueddir i’r ffocws fod ar ysgolion sydd yn y
categori coch / oren ac y dylid sicrhau na ddylid anghofio yr ysgolion hynny
sydd yng nghategoriau gwyrdd a melyn.
Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad.